Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 50

“Sut Mae’r Rhai Sydd Wedi Marw yn Mynd i Godi?”

“Sut Mae’r Rhai Sydd Wedi Marw yn Mynd i Godi?”

“O farwolaeth! Ble mae dy fuddugoliaeth di? O farwolaeth! Ble mae dy bigiad marwol di?”—1 COR. 15:55.

CÂN 141 Gwyrth Bywyd

CIPOLWG a

1-2. Pam dylai pob Cristion gael diddordeb yn yr atgyfodiad nefol?

 MAE’R rhan fwyaf o bobl sy’n gwasanaethu Jehofa heddiw yn gobeithio byw am byth ar y ddaear. Ond mae gweddill y Cristnogion eneiniog yn gobeithio cael eu hatgyfodi i’r nef. Mae gan y rhai eneiniog ddiddordeb mawr yn sut fath o fywyd bydd ganddyn nhw yn y nef, ond beth am y rhai â’r gobaith daearol? Fel cawn ni weld, bydd yr atgyfodiad nefol hefyd yn dod â bendithion i’r rhai sydd â’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear. Felly, pa bynnag obaith sydd gynnon ni—un nefol neu ddaearol—dylen ni fod â diddordeb yn yr atgyfodiad nefol.

2 Ysbrydolodd Duw rai o ddisgyblion Iesu yn y ganrif gyntaf i ysgrifennu am y gobaith nefol. Esboniodd yr apostol Ioan: “Dŷn ni’n blant Duw nawr! Dŷn ni ddim yn gallu dechrau dychmygu sut fyddwn ni yn y byd sydd i ddod! Ond dŷn ni’n gwybod gymaint â hyn: pan fydd Iesu’n dod yn ôl i’r golwg byddwn ni’n debyg iddo.” (1 Ioan 3:2) Felly, dydy Cristnogion eneiniog ddim yn gwybod sut byddan nhw’n edrych ar ôl iddyn nhw gael eu hatgyfodi i’r nef gyda chyrff ysbrydol. Ond, fe fyddan nhw’n llythrennol yn gweld Jehofa pan gân nhw eu gwobr. Dydy’r Beibl ddim yn datgelu pob manylyn am yr atgyfodiad nefol, ond rhoddodd yr apostol Paul rywfaint o wybodaeth amdano. Bydd yr eneiniog gyda Christ pan fydd yn “dinistrio pob gormeswr, awdurdod a grym drygionus,” gan gynnwys y “gelyn olaf,” sef marwolaeth. Yn olaf, bydd Iesu—a’i gyd-reolwyr—yn darostwng ei hun a phopeth arall i Jehofa. (1 Cor. 15:24-28) Dyna iti amser hyfryd bydd hynny! b

3. Yn ôl 1 Corinthiaid 15:30-32, beth roedd cred Paul yn yr atgyfodiad yn ei helpu i’w wneud?

3 Roedd cred Paul yn yr atgyfodiad yn ei helpu i oddef gwahanol dreialon. (Darllen 1 Corinthiaid 15:30-32.) Dywedodd wrth y Corinthiaid: “Dw i’n wynebu marwolaeth bob dydd.” Hefyd ysgrifennodd Paul ei fod wedi “ymladd gyda’r anifeiliaid gwyllt yn Effesus.” Efallai roedd yn sôn am ymladd anifeiliaid go iawn mewn arena yn Effesus. (2 Cor. 1:8; 4:10; 11:23) Neu efallai roedd yn cyfeirio at wrthwynebiad gan yr Iddewon ac eraill a oedd fel “anifeiliaid gwyllt.” (Act. 19:26-34; 1 Cor. 16:9) Beth bynnag oedd yr achos, roedd Paul yn wynebu peryglon difrifol iawn. Ond eto, cadwodd agwedd bositif tuag at y dyfodol.—2 Cor. 4:16-18.

Teulu sy’n byw lle mae ’na gyfyngiadau ar ein gwaith Cristnogol yn dal ati yn eu haddoliad yn hollol sicr fod gan Dduw bethau da mewn golwg ar eu cyfer nhw (Gweler paragraff 4)

 

4. Sut mae gobaith yr atgyfodiad yn cryfhau Cristnogion heddiw? (Gweler y llun ar y clawr.)

4 Rydyn ni’n byw mewn cyfnod peryglus. Mae rhai o’n brodyr wedi cael eu heffeithio gan drosedd. Mae eraill yn byw mewn llefydd lle mae ’na ryfel, a dydyn nhw ddim yn teimlo’n saff. Mae eraill eto mewn gwledydd lle mae’r gwaith pregethu wedi ei gyfyngu neu hyd yn oed ei wahardd, ond maen nhw’n gwasanaethu Jehofa er gwaetha’r ffaith y gallan nhw gael eu carcharu neu eu lladd o ganlyniad. Ond eto, mae’r brodyr a chwiorydd hyn yn dal ati i addoli Jehofa ac yn esiampl wych i ni. Does ganddyn nhw ddim ofn, oherwydd eu bod nhw’n gwybod hyd yn oed petasen nhw’n colli eu bywydau heddiw, mae gan Jehofa rywbeth llawer gwell ar eu cyfer nhw yn y dyfodol.

5. Pa agwedd beryglus allai wanhau ein ffydd yn yr atgyfodiad?

5 Rhybuddiodd Paul ei frodyr ynglŷn ag agwedd beryglus oedd gan rai: “Os nad oes bywyd ar ôl marwolaeth? ‘Gadewch i ni gael parti ac yfed; falle byddwn ni’n marw fory!’” Roedd yr agwedd honno yn bodoli hyd yn oed cyn dyddiau Paul. Efallai roedd yn dyfynnu Eseia 22:13 sy’n cyfeirio at agwedd yr Israeliaid. Yn hytrach na chlosio at Dduw, roedd yn well ganddyn nhw fwynhau eu hunain. Yn y bôn, agwedd yr Israeliaid oedd, “mae bywyd yn fyr, waeth inni fwynhau ein hunain nawr,” agwedd sy’n gyffredin hyd heddiw. Ond, mae’r Beibl yn cofnodi’r canlyniadau drwg a ddaeth i genedl Israel oherwydd yr agwedd anghywir honno.—2 Cron. 36:15-20.

6. Sut dylai gobaith yr atgyfodiad effeithio ar ein dewis o ffrindiau?

6 Yn amlwg, dylai’r ffaith y gall Jehofa atgyfodi’r meirw effeithio ar ein dewis o ffrindiau. Roedd rhaid i’r brodyr yng Nghorinth osgoi treulio amser gyda rhai a oedd yn gwadu’r atgyfodiad. Mae ’na wers i ninnau heddiw: Ni all unrhyw dda ddod o dreulio llawer o amser gyda ffrindiau sydd ond yn ‘byw am y foment.’ Gall cwmni y fath bobl ddifetha agwedd ac arferion da gwir Gristnogion. A’r gwir amdani yw, gall hyn arwain at ffordd o fyw mae Duw yn ei chasáu. Felly, erfyniodd Paul: “Mae’n bryd i chi gallio, a stopio pechu.”—1 Cor. 15:33, 34.

SUT FATH O GORFF?

7. Fel yn 1 Corinthiaid 15:35-38, pa gwestiwn allai rhai fod wedi ei godi ynglŷn â’r atgyfodiad?

7 Darllen 1 Corinthiaid 15:35-38. Gallai rhywun oedd eisiau codi amheuon ynglŷn â’r atgyfodiad fod wedi gofyn: “Sut mae’r rhai sydd wedi marw yn mynd i godi?” Mae’n beth da inni ystyried ateb Paul, gan fod llawer o bobl heddiw â barn bersonol am yr hyn sy’n digwydd ar ôl marwolaeth. Ond, beth mae’r Beibl yn ei ddysgu?

Gan ddefnyddio hedyn a phlanhigyn, dangosodd Paul fod Duw yn gallu rhoi corff addas i’r rhai sy’n cael eu hatgyfodi (Gweler paragraff 8)

8. Pa eglureb all ein helpu i ddeall yr atgyfodiad i fywyd yn y nef?

8 Pan fydd rhywun yn marw, mae ei gorff yn pydru. Ond gall yr Un a greodd y bydysawd o ddim byd atgyfodi’r person hwnnw gan roi corff addas iddo. (Gen. 1:1; 2:7) Defnyddiodd Paul eglureb i ddangos na fyddai Duw angen dod â’r un un corff yn ôl yn fyw. Meddylia am “hedyn bach noeth.” Mae hedyn o wenith sy’n cael ei blannu yn y ddaear yn egino ac yn tyfu i fod yn blanhigyn newydd. Mae’r planhigyn hwnnw yn wahanol iawn i’r hedyn bach. Defnyddiodd Paul y gymhariaeth hon i ddangos fod ein Creawdwr yn gallu rhoi ‘corff newydd, fel mae’n dewis.’

9. Sut fath o gyrff mae 1 Corinthiaid 15:39-41 yn sôn amdanyn nhw?

9 Darllen 1 Corinthiaid 15:39-41. Mae Paul yn sôn am yr holl amrywiaeth sy’n bodoli yn y greadigaeth. Er enghraifft, mae cyrff gwartheg, adar, a physgod i gyd yn wahanol. Soniodd hefyd am yr awyr; gwelwn wahaniaeth rhwng yr haul a’r lleuad. Tynnodd sylw at y ffaith fod “gwahaniaeth rhwng un seren a’r llall.” Mae hyn yn wir, hyd yn oed os na allwn ni weld y gwahaniaeth â’n llygaid noeth, mae ’na sêr mae gwyddonwyr yn eu galw’n gewri coch, corachod gwyn, a sêr melyn fel ein haul. Dywedodd Paul hefyd fod ’na “gyrff nefol a chyrff daearol.” Beth roedd yn ei olygu? Wel, ar y ddaear, mae gynnon ni gyrff o gig a gwaed, ond yn y nef mae ’na gyrff ysbrydol, fel sydd gan yr angylion.

10. Sut fath o gorff fydd gan y rhai sy’n cael eu hatgyfodi i’r nef?

10 Sylwa ar yr hyn a ddywedodd Paul nesaf: “Dyna sut bydd hi pan fydd y rhai sydd wedi marw’n atgyfodi. Mae’r corff sy’n cael ei roi yn y ddaear yn darfod, ond bydd yn codi yn gorff fydd byth yn darfod.” Wrth gwrs, gwyddon ni fod corff dynol yn pydru ar ôl marw, ac yn dychwelyd i’r llwch. (Gen. 3:19) Felly sut mae’n bosib “codi yn gorff fydd byth yn darfod,” neu byth yn pydru? Doedd Paul ddim yn sôn am rywun sy’n cael ei atgyfodi i fywyd ar y ddaear, fel yn achos y rhai a gafodd eu hatgyfodi gan Elias, Eliseus, ac Iesu. Roedd Paul yn cyfeirio at rywun sy’n cael ei atgyfodi â chorff nefol, hynny yw, “corff ysbrydol.”—1 Cor. 15:42-44.

11-12. Pa newid corfforol a brofodd Iesu pan gafodd ei atgyfodi, a sut mae’r eneiniog yn profi rhywbeth tebyg?

11 Tra oedd Iesu ar y ddaear, roedd ganddo gorff dynol. Ond pan gafodd ei atgyfodi, daeth yn “ysbryd sy’n rhoi bywyd i eraill” ac aeth yn ôl i’r nef. Yn yr un modd, byddai Cristnogion eneiniog yn cael eu hatgyfodi i fywyd fel ysbryd yn y nef. Esboniodd Paul: “Yn union fel dŷn ni wedi bod yn debyg i’r dyn o’r ddaear, byddwn ni’n debyg i’r dyn o’r nefoedd.”—1 Cor. 15:45-49.

12 Mae’n bwysig cofio na chafodd Iesu ei atgyfodi gyda chorff dynol. Pan roedd Paul yn tynnu at ddiwedd ei drafodaeth, esboniodd pam gan ddweud, “all cig a gwaed ddim . . . bodoli yn y deyrnas” nefol. (1 Cor. 15:50) Fyddai’r apostolion a rhai eneiniog eraill ddim yn cael eu hatgyfodi i’r nef gyda chyrff o gig a gwaed a all bydru. Pryd bydden nhw’n cael eu hatgyfodi? Pwysleisiodd Paul fod yr atgyfodiad eto i ddod yn hytrach na rhywbeth byddai’n digwydd yn syth ar ôl iddyn nhw farw. Erbyn i Paul ysgrifennu 1 Corinthiaid, roedd rhai disgyblion, fel yr apostol Iago, “bellach wedi marw.” (Act. 12:1, 2) Byddai apostolion eraill a rhai eneiniog yn marw yn hwyrach ymlaen.—1 Cor. 15:6.

BUDDUGOLIAETH DROS FARWOLAETH

13. Beth fyddai’n digwydd yn ystod presenoldeb Iesu?

13 Gwnaeth Iesu a Paul broffwydo am gyfnod arbennig iawn sydd i ddod—presenoldeb Crist. Byddai ei bresenoldeb yn cael ei ddynodi gan ryfeloedd, daeargrynfeydd, afiechydon, a phethau eraill ar raddfa fyd-eang. Rydyn ni wedi gweld y broffwydoliaeth Feiblaidd hon yn cael ei chyflawni ers 1914. Byddai arwydd pwysig arall yn sefyll allan. Dywedodd Iesu y byddai’r newyddion da fod Teyrnas Dduw yn rheoli yn cael ei bregethu “drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.” (Math. 24:3, 7-14) Dywedodd Paul y byddai presenoldeb yr Arglwydd Iesu hefyd yn gyfnod pan fyddai’r eneiniog oedd “eisoes wedi marw” yn cael eu hatgyfodi.—1 Thes. 4:14-16; 1 Cor. 15:23.

14. Beth sy’n digwydd i Gristnogion eneiniog sy’n marw yn ystod presenoldeb Crist?

14 Mae rhai eneiniog sy’n marw yn y dyddiau hyn yn cael eu hatgyfodi ar unwaith i fywyd yn y nef. Mae geiriau Paul yn 1 Corinthiaid 15:51, 52 yn cadarnhau hyn: “Fydd pawb ddim yn marw. Pan fydd yr utgorn olaf yn cael ei ganu byddwn ni i gyd yn cael ein newid—a hynny’n sydyn, mewn chwinciad.” Mae’r geiriau hyn yn cael eu cyflawni nawr! Unwaith i frodyr Crist gael eu hatgyfodi, bydd ganddyn nhw lawenydd mawr; byddan nhw “gyda’r Arglwydd am byth.”—1 Thes. 4:17.

Bydd y rhai sy’n cael eu newid “mewn chwinciad” yn helpu Iesu i ddinistrio’r cenhedloedd (Gweler paragraff 15)

15. Pa waith fydd y rhai sy’n cael eu newid “mewn chwinciad” yn ei wneud?

15 Mae’r Beibl yn dweud wrthon ni pa waith fydd y rhai sy’n cael eu newid “mewn chwinciad” yn ei wneud yn y nef. Mae Iesu’n dweud wrthyn nhw: “Bydd y rhai sy’n ennill y frwydr, ac yn dilyn fy esiampl i i’r diwedd un, yn cael awdurdod dros y cenhedloedd—‘Bydd yn teyrnasu arnyn nhw gyda theyrnwialen haearn; ac yn eu malu’n ddarnau fel malu llestri pridd.’ Bydd ganddyn nhw yr un awdurdod ag a ges i gan fy Nhad.” (Dat. 2:26, 27) Byddan nhw’n dilyn Iesu ac yn bugeilio’r cenhedloedd â theyrnwialen haearn.—Dat. 19:11-15.

16. Sut bydd llawer o bobl yn cael buddugoliaeth dros farwolaeth?

16 Mae’n amlwg felly y bydd yr eneiniog yn cael buddugoliaeth dros farwolaeth. (1 Cor. 15:54-57) Bydd eu hatgyfodiad yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa i allu helpu i gael gwared ar bob drygioni yn ystod rhyfel Armagedon sydd i ddod. Bydd miliynau o Gristnogion eraill, yn ddynion a merched, yn “dod allan o’r gorthrymder mawr” ac yn goroesi i’r byd newydd. (Dat. 7:14, BCND) Bydd y goroeswyr hynny ar y ddaear yn llygad-dystion i fuddugoliaeth arall dros farwolaeth—atgyfodiad biliynau o bobl a fu farw yn y gorffennol. Dychmyga’r llawenydd pan ddaw’r fuddugoliaeth honno! (Act. 24:15) A bydd y rhai sy’n hollol ffyddlon i Jehofa yn ennill y fuddugoliaeth dros farwolaeth. Byddan nhw’n gallu byw am byth.

17. Beth mae 1 Corinthiaid 15:58 yn ein hannog ni i’w wneud?

17 Dylai pob Cristion sy’n fyw heddiw fod yn ddiolchgar am eiriau cysurlon Paul at y Corinthiaid ynglŷn â’r atgyfodiad. Mae gynnon ni bob rheswm i ddangos ein bod ni’n derbyn anogaeth Paul i wneud gymaint ag y gallwn ni yng ‘ngwaith yr Arglwydd.’ (Darllen 1 Corinthiaid 15:58.) Os ydyn ni’n dal ati’n ffyddlon yn y gwaith hwnnw, gallwn edrych ymlaen at fywyd hapus iawn yn y dyfodol. Bydd y dyfodol hwnnw yn llawer gwell nag unrhyw beth y gallwn ni ei ddychmygu. Fe fydd yn bendant yn cadarnhau nad ydy’n gwaith i’r Arglwydd wedi bod yn ofer.

CÂN 140 “Nawr fe Gawn Fyw am Byth!”

a Mae ail hanner 1 Corinthiaid pennod 15 yn cynnwys manylion am yr atgyfodiad, yn enwedig un y Cristnogion eneiniog. Ond, mae’r hyn a ysgrifennodd Paul hefyd o ddiddordeb i’r defaid eraill. Bydd yr erthygl hon yn dangos sut dylai gobaith yr atgyfodiad effeithio ar ein bywydau nawr a rhoi rheswm inni edrych ymlaen at y dyfodol.

b Mae “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y rhifyn hwn yn esbonio sylwadau Paul yn 1 Corinthiaid 15:29.