Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Rho Dy Galon yn Dy Waith!

Rho Dy Galon yn Dy Waith!

SUT rwyt ti’n teimlo pan fyddi di’n cael llythyr calonogol gan ffrind da? Cafodd y disgybl Cristnogol Timotheus lythyr o’r fath gan yr apostol Paul, llythyr rydyn ni’n ei adnabod erbyn hyn fel 2 Timotheus yn y Beibl. Mae’n siŵr roedd Timotheus yn awyddus i fynd i rywle distaw i ddarllen yr hyn oedd gan ei ffrind annwyl i’w ddweud. Efallai meddyliodd Timotheus: ‘Sut mae Paul yn cadw? Oes ganddo unrhyw gyngor imi ar sut i ystyried fy aseiniadau? Ys gwn i os all y llythyr fy helpu i lwyddo yn fy ngweinidogaeth a helpu eraill?’ Fel y cawn weld, cafodd Timotheus atebion i’r cwestiynau hyn a llawer mwy yn y llythyr gwerthfawr hwn. Ond am y tro, byddwn ni’n canolbwyntio ar ambell i ran allweddol o’r cyngor yn y llythyr hwn.

“DW I’N FODLON DIODDE’R CWBL”

Wrth i Timotheus ddarllen geiriau cyntaf y llythyr, teimlodd ar unwaith gymaint roedd Paul yn ei garu. Yn llawn cynhesrwydd, cyfeiriodd Paul ato fel “mab annwyl.” (2 Tim. 1:2) Er bod Timotheus fwy na thebyg yn ei 30au pan dderbyniodd y llythyr hwn, tua 65 OG, roedd eisoes yn henuriad Cristnogol profiadol. Roedd wedi bod yn gweithio gyda Paul ers dros ddegawd, ac wedi dysgu llawer.

Mae’n rhaid fod Timotheus wedi cael ei galonogi o glywed fod Paul yn dal ati’n ffyddlon yn wyneb treialon. Roedd Paul yn garcharor yn Rhufain, ac yn wynebu marwolaeth. (2 Tim. 1:15, 16; 4:6-8) Gallai Timotheus weld dewrder Paul yn ei eiriau: “Dw i’n fodlon diodde’r cwbl.” (2 Tim. 2:8-13) Fel Timotheus, gall y ffaith fod Paul wedi dal ati drwy’r cwbl ein hatgyfnerthu ninnau.

“AILGYNNAU’R FFLAM”

Anogodd Paul Timotheus i ystyried ei aseiniad yng ngwasanaeth Duw yn rhywbeth gwerthfawr iawn. Roedd Paul eisiau i Timotheus “ailgynnau’r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw [iddo].” (2 Tim. 1:6) Defnyddiodd Paul y gair Groeg chaʹri·sma ar gyfer “dawn.” Yn syml, mae’r gair hwnnw yn cyfeirio at ddawn neu rodd sydd am ddim, rhywbeth na ellir ei ennill na’i haeddu. Roedd Timotheus wedi derbyn y rhodd hon pan gafodd ei ddewis i wasanaethu’r gynulleidfa mewn ffordd arbennig.—1 Tim. 4:14.

Beth oedd Paul yn annog Timotheus i’w wneud â’r rhodd hon? Wrth iddo ddarllen yr ymadrodd “ailgynnau’r fflam,” efallai ei fod wedi meddwl am y ffordd mae tân yn gallu troi yn ddim byd ond marwor poeth. Roedd rhaid procio’r marwor hynny i ailgynnau’r fflam ac i gael mwy o wres. Mae un geiriadur yn dweud fod y ferf Roeg (a·na·zo·pu·reʹo) a ddefnyddiodd Paul yn golygu “ailgynnau, adfywio, megino’r fflam,” felly roedd yn golygu bod yn frwdfrydig ac yn selog am ryw waith. I bob pwrpas, roedd Paul yn dweud wrth Timotheus: ‘Rho dy galon yn dy waith!’ Heddiw, mae’n rhaid i ninnau wneud yr un peth—gwneud ein gorau glas yn ein gwasanaeth.

‘CADW’R TRYSOR YN SAFF’

Wrth iddo barhau i ddarllen y llythyr gan ei ffrind annwyl, daeth Timotheus ar draws ymadrodd arall a fyddai’n ei helpu i lwyddo yn ei weinidogaeth. Ysgrifennodd Paul: “Gyda help yr Ysbryd Glân sy’n byw ynon ni, cadw’r trysor sydd wedi ei roi yn dy ofal yn saff.” (2 Tim. 1:14) Beth oedd y trysor hwnnw? Beth oedd rhaid i Timotheus ei gadw’n saff? Yn yr adnod gynt, cyfeiriodd Paul at y “ddysgeidiaeth gywir,” hynny yw, gwirionedd yr Ysgrythurau. (2 Tim. 1:13) Ac yntau’n weinidog Cristnogol, roedd rhaid i Timotheus bregethu y gwir yn y gynulleidfa ac ar y tu allan. (2 Tim. 4:1-5) Hefyd, roedd Timotheus wedi cael ei benodi yn henuriad i fugeilio praidd Duw. (1 Pedr 5:2) Gallai Timotheus gadw ei drysor—sef y gwirionedd roedd i’w bregethu—yn saff drwy ddibynnu ar Air Jehofa a’i ysbryd glân.—2 Tim. 3:14-17.

Heddiw, mae trysor y gwirionedd wedi cael ei roi yn ein gofal ninnau hefyd i’w rannu ag eraill yn y weinidogaeth. (Math. 28:19, 20) Ddylen ni byth anghofio pa mor werthfawr ydy’r trysor hwn, ac felly mae’n rhaid inni ddal ati i weddïo ac astudio Gair Duw yn rheolaidd. (Rhuf. 12:11, 12; 1 Tim. 4:13, 15, 16) Efallai bydd gynnon ni’r aseiniad ychwanegol o wasanaethu yn y weinidogaeth llawn amser neu fel henuriad yn y gynulleidfa. Dylai aseiniad gwerthfawr o’r fath ein gwneud yn ostyngedig, a gwneud inni ddibynnu ar Dduw am ei help. Felly, gallwn ni gadw ein trysor yn saff, drwy ei werthfawrogi a dibynnu ar help Jehofa i ofalu amdano.

RHANNA’R CWBL GYDA DYNION FFYDDLON

Rhan o aseiniad Timotheus oedd hyfforddi eraill i wneud y gwaith yr oedd ef yn ei wneud. Dyna pam anogodd Paul Timotheus: “Dwed di wrth eraill beth glywaist ti fi’n ei ddweud . . . rhanna’r cwbl gyda phobl y gelli di ddibynnu arnyn nhw i ddysgu eraill.” (2 Tim. 2:2) Roedd Paul yn atgoffa Timotheus i rannu’r hyn roedd wedi ei ddysgu gyda brodyr eraill. Mae’n bwysig fod pob arolygwr yn y gynulleidfa Gristnogol heddiw yn ymdrechu i wneud yr un peth. Dydy arolygwr da ddim yn cadw’r hyn mae’n ei wybod am ryw aseiniad iddo’i hun. Yn hytrach, mae’n dysgu eraill fel y byddan nhwthau’n gallu gwneud y gwaith. Dydy ef ddim yn ofni y byddan nhw’n rhagori arno drwy wybod mwy neu drwy wneud y gwaith yn well. Felly, mae’r arolygwr yn dysgu mwy na jest pethau sylfaenol y dasg iddyn nhw. Mae eisiau helpu’r rhai mae’n eu hyfforddi i wneud penderfyniadau doeth a dangos dealltwriaeth, hynny yw, i fod yn Gristion aeddfed. Wedyn, bydd y dynion ffyddlon y mae wedi eu dysgu yn gallu helpu’r gynulleidfa yn fwy byth.

Mae’n siŵr fod Timotheus wedi trysori’r llythyr cynnes a gafodd gan Paul. Mae’n hawdd dychmygu Timotheus yn darllen y cyngor defnyddiol drosodd a throsodd, ac yn meddwl am y ffordd orau y gall ei roi ar waith yn ei aseiniadau.

Rydyn ninnau hefyd eisiau rhoi’r cyngor hwn ar waith. Sut? Gallwn ni ymdrechu i ailgynnau ein dawn, i gadw ein trysor yn saff, ac i ddysgu popeth rydyn ni’n ei wybod i eraill. Drwy wneud hynny, fel dywedodd Paul wrth Timotheus, gallwn ninnau gyflawni “y gwaith mae Duw wedi’i roi i [ni].”—2 Tim. 4:5.