Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ydy Duw yn Gwrando ar Eich Gweddïau?

Ydy Duw yn Gwrando ar Eich Gweddïau?

Pan fyddwch yn gweddïo, ydych chi’n teimlo bod Duw yn gwrando?

BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?

  • Mae Duw yn gwrando. Mae’r Beibl yn addo bod Jehofa “yn agos at y rhai sy’n galw arno; at bawb sy’n ddidwyll pan maen nhw’n galw arno. . . . Mae’n eu clywed nhw’n galw.”—Salm 145:18, 19.

  • Mae Duw yn dymuno i chi weddïo arno. Mae’r Beibl yn estyn gwahoddiad: “Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.”—Philipiaid 4:6.

  • Mae Duw yn eich caru chi. Mae Duw yn gwybod yn iawn am eich pryderon ac mae’n awyddus i’ch helpu. “Rhowch y pethau dych chi’n poeni amdanyn nhw iddo fe,” meddai’r Beibl, “achos mae e’n gofalu amdanoch chi.”—1 Pedr 5:7.