Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Pryd Bydd y Diwedd yn Dod? Beth Ddywedodd Iesu

Pryd Bydd y Diwedd yn Dod? Beth Ddywedodd Iesu

Fel gwnaethon ni ddysgu yn yr erthygl flaenorol, pan mae’r Beibl yn sôn am ddiwedd y byd, dydy hynny ddim yn golygu diwedd y ddaear, na’r ddynoliaeth. Yn hytrach, mae’n golygu diwedd y system ddrwg sydd ohoni, a phawb sy’n ei chefnogi. Ond ydy’r Beibl yn dweud pryd bydd y system hon yn dod i ben?

YSTYRIWCH DDAU BETH DDYWEDODD IESU AM Y DIWEDD:

“Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod y dydd na’r awr.”—MATHEW 25:13.

“Daliwch ati i edrych, arhoswch yn effro, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pryd mae’r amser penodedig.”—MARC 13:33.

Felly, does neb ar y ddaear yn gwybod yn union pryd bydd y system hon yn dod i ben. Er hynny, mae Duw wedi gosod amser penodol—hyd yn oed y “dydd hwnnw a’r awr honno” bydd y diwedd yn dod. (Mathew 24:36) Ydy hyn yn golygu bod ’na ddim ffordd o gwbl o wybod pryd fydd y diwedd yn agos? Nac ydy wir. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion i edrych am sawl digwyddiad a fyddai’n dangos bod y diwedd yn agos.

YR ARWYDD

Byddai’r digwyddiadau hyn yn arwydd “o gyfnod olaf y system hon.” Dywedodd Iesu: “Bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd ’na brinder bwyd a daeargrynfeydd yn un lle ar ôl y llall.” (Mathew 24:3, 7) Dywedodd hefyd y bydd ’na “heintiau” ar raddfa eang. (Luc 21:11) Ydych chi’n gweld y pethau hyn gwnaeth Iesu eu rhagfynegi?

Heddiw, mae pobl yn dioddef yn ofnadwy oherwydd rhyfeloedd, newyn, a daeargrynfeydd, yn ogystal â salwch difrifol. Er enghraifft, yn 2004 gwnaeth daeargryn enfawr yng nghefnfor India achosi tswnami wnaeth ladd tua 225,000 o bobl. Mewn tair blynedd, bu farw 6.9 miliwn o bobl ledled y byd oherwydd y pandemig COVID-19. Dywedodd Iesu y byddai digwyddiadau fel hyn yn dangos bod diwedd y system hon yn agos.

“Y DYDDIAU OLAF”

Mae’r Beibl yn disgrifio’r cyfnod jest cyn y diwedd fel “y dyddiau olaf.” (2 Pedr 3:3, 4) Mae Ail Timotheus 3:1-5 yn dweud y byddai moesau pobl yn dirywio’n sydyn yn y dyddiau olaf. (Gweler y blwch “ Jest Cyn Diwedd y Byd.”) Ydych chi’n gweld pobl sy’n hunanol, yn farus, yn dreisgar, ac yn dangos dim cariad? Mae hyn hefyd yn dystiolaeth o’r ffaith fod diwedd y byd yn agos.

Am faint bydd y dyddiau olaf yn para? Yn ôl y Beibl, dim ond am “ychydig o amser.” Yna, bydd Duw yn dinistrio’r “rhai sy’n dinistrio’r ddaear.”—Datguddiad 11:15-18; 12:12.

MAE PARADWYS DDAEAR AR Y GORWEL!

Mae Duw eisoes wedi penderfynu’r diwrnod a’r awr pan fydd yn dod â’r system ddrygionus hon i ben. (Mathew 24:36) Ond, mae ’na fwy o newyddion da—dydy Duw ddim yn “dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio.” (2 Pedr 3:9) Mae’n rhoi cyfle i bawb ddysgu amdano ac ufuddhau iddo. Pam? Am ei fod eisiau inni oroesi diwedd y byd hwn, a byw yn ei fyd newydd pan fydd y ddaear yn baradwys.

Mae Duw yn sicrhau bod pawb yn gallu dysgu sut gallan nhw fod yn rhan o’r byd newydd o dan reolaeth ei Deyrnas. Dywedodd Iesu y byddai’r newyddion da am Deyrnas Dduw yn cael ei bregethu “drwy’r byd i gyd.” (Mathew 24:14) Mae Tystion Jehofa ledled y byd yn treulio biliynau o oriau yn pregethu i bobl ac yn dysgu gobaith y Beibl iddyn nhw. Dywedodd Iesu y byddai’r gwaith pregethu hwn yn cael ei wneud ar draws y byd cyn i’r diwedd ddod.

Fydd pobl ddim yn llywodraethu am lawer hirach. Ond y newyddion da ydy y gallwch chi oroesi diwedd y byd a bod yn rhan o’r Baradwys ddaear mae Duw wedi ei haddo. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut gallwch chi fyw yn y byd newydd hwnnw.

Mae proffwydoliaeth Iesu am “y dyddiau olaf” yn rhoi gobaith inni