Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 3

Mae’r Dyrfa Fawr o Ddefaid Eraill yn Moli Duw a Christ

Mae’r Dyrfa Fawr o Ddefaid Eraill yn Moli Duw a Christ

“Ein Duw sydd wedi’n hachub ni!—yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd, a’r Oen!”DAT. 7:10.

CÂN 14 Clodfori Brenin Newydd y Ddaear

CIPOLWG *

1. Pa effaith gafodd anerchiad mewn cynhadledd ym 1935 ar un dyn ifanc?

MEWN un teulu o Fyfyrwyr y Beibl, fel roedd Tystion Jehofa yn cael eu galw ers talwm, roedd ’na dri mab a dwy ferch, a chawson nhw eu magu i wasanaethu Jehofa Dduw ac efelychu Iesu Grist. Roedd un o’r meibion yn 18 mlwydd oed pan gafodd ei fedyddio ym 1926. Fel pob Myfyriwr y Beibl bryd hynny, roedd y dyn ifanc diffuant hwn yn cymryd y bara a’r gwin bob blwyddyn yn ystod Swper yr Arglwydd. Ond, newidiodd ei obaith am y dyfodol pan glywodd anerchiad bythgofiadwy oedd yn dwyn y teitl, “Y Dyrfa Fawr.” Cafodd yr anerchiad ei draddodi ym 1935 gan J. F. Rutherford mewn cynhadledd yn Washington, D.C., UDA. Beth gafodd ei ddatgelu yn y gynhadledd honno?

2. Pa wirionedd cyffrous wnaeth y Brawd Rutherford ei ddatgelu yn ei anerchiad?

2 Yn ei anerchiad, esboniodd y Brawd Rutherford pwy fyddai’n rhan o’r “dyrfa fawr” (Beibl Cysegr-lân), neu’r ‘dyrfa enfawr,’ sy’n cael ei chrybwyll yn Datguddiad 7:9. Hyd hynny, roedd Myfyrwyr y Beibl yn meddwl bod y dyrfa fawr yn grŵp o bobl a fyddai’n mynd i’r nefoedd ond a oedd yn llai ffyddlon na’r rhai eneiniog. Defnyddiodd y Brawd Rutherford yr Ysgrythurau i esbonio nad ydy’r dyrfa fawr wedi cael eu dewis i fyw yn y nef, ond yn hytrach, defaid eraill * Crist ydyn nhw a fydd yn goroesi’r gorthrymder mawr, ac yn byw am byth ar y ddaear. (Dat. 7:14) Addawodd Iesu: “Mae gen i ddefaid eraill sydd ddim yn y gorlan yma. Rhaid i mi eu casglu nhw hefyd, a byddan nhw’n gwrando ar fy llais. Yna byddan nhw’n dod yn un praidd, a bydd un bugail.” (Ioan 10:16) Tystion ffyddlon Jehofa yw’r ‘defaid eraill’ hyn sydd â’r gobaith o fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear. (Math. 25:31-33, 46) Gad inni weld sut gwnaeth y fflach hon o oleuni ysbrydol newid bywydau llawer o bobl Jehofa, gan gynnwys y brawd 18 oed hwnnw.—Salm 97:11; Diar. 4:18.

DEALLTWRIAETH NEWYDD YN NEWID MILOEDD O FYWYDAU

3-4. Yn ystod cynhadledd 1935, beth sylweddolodd miloedd am eu gobaith, a pham?

3 Un o rannau mwyaf gwefreiddiol y gynhadledd honno oedd pan ofynnodd y siaradwr i’r gynulleidfa: “A fyddai pawb sydd â’r gobaith o fyw am byth ar y ddaear yn codi ar eu traed os gwelwch yn dda?” Yn ôl un llygad-dyst, safodd dros hanner y gynulleidfa o 20,000 ar eu traed. Yna cyhoeddodd y Brawd Rutherford: “Edrychwch! Y dyrfa fawr!” Cafodd hynny ei ddilyn gan gymeradwyaeth fyddarol. Roedd y rhai a safodd yn sylweddoli nad oedden nhw wedi cael eu dewis i fyw yn y nef. Roedden nhw’n gwybod nad oedden nhw wedi cael eu heneinio gan ysbryd Duw. Ar ddiwrnod nesaf y gynhadledd, cafodd 840 o Dystion newydd eu bedyddio, ac roedd y rhan fwyaf o’r rheini yn ddefaid eraill.

4 Ar ôl yr anerchiad hwnnw, gwnaeth y dyn ifanc a soniwyd amdano ynghynt, yn ogystal â miloedd eraill, stopio cymryd y bara a’r gwin yn ystod Swper yr Arglwydd. Teimlodd llawer yr un fath â brawd gostyngedig a ddywedodd: “Coffadwriaeth 1935 oedd y tro diwethaf wnes i gymryd yr elfennau. Wnes i sylweddoli nad oedd Jehofa wedi defnyddio ei ysbryd glân i roi’r gobaith o fyw yn y nef imi; yn hytrach, roedd gen i’r gobaith o fyw ar y ddaear a chael rhan yn y gwaith o’i gwneud yn baradwys.” (Rhuf. 8:16, 17; 2 Cor. 1:21, 22) Ers hynny, mae’r dyrfa fawr wedi tyfu, ac wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â gweddill * yr eneiniog.

5. Beth mae Jehofa yn ei feddwl am y rhai sydd wedi stopio cymryd elfennau’r Goffadwriaeth?

5 Beth mae Jehofa yn ei feddwl am y rhai a stopiodd gymryd elfennau’r Goffadwriaeth ar ôl 1935? A beth mae’n ei feddwl am Dystion bedyddiedig heddiw sy’n credu y dylen nhw gymryd y bara a’r gwin yn ystod Swper yr Arglwydd ond wedyn yn sylweddoli nad ydyn nhw wir wedi eu heneinio? (1 Cor. 11:28) Mae rhai wedi cymryd yr elfennau am eu bod nhw wedi camddeall eu gobaith. Ond os ydyn nhw’n cyfaddef eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad, yn stopio eu cymryd, ac yn dal ati i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon, fe fydd yn sicr o’u derbyn fel defaid eraill. Er nad ydyn nhw’n cymryd y bara a’r gwin, byddan nhw’n dal yn mynd i’r Goffadwriaeth am eu bod nhw’n gwerthfawrogi’n fawr yr hyn mae Jehofa ac Iesu wedi’i wneud drostyn nhw.

GOBAITH UNIGRYW

6. Beth mae Iesu wedi gorchymyn i’r angylion ei wneud?

6 Am fod y gorthrymder mawr ar y gorwel, bydd hi’n galonogol inni drafod beth arall mae Datguddiad pennod 7 yn ei ddweud am Gristnogion eneiniog a’r dyrfa fawr o ddefaid eraill. Mae Iesu’n gorchymyn yr angylion i barhau i ddal y pedwar gwynt dinistriol yn eu holau. Dydyn nhw ddim i ryddhau’r gwyntoedd hynny ar y ddaear nes bydd pob Cristion eneiniog wedi cael ei selio, hynny yw, wedi cael cymeradwyaeth derfynol Jehofa. (Dat. 7:1-4) Fel gwobr am eu ffyddlondeb, bydd brodyr eneiniog Crist yn dod yn frenhinoedd ac yn offeiriaid gydag ef yn y nefoedd. (Dat. 20:6) Bydd pawb yn nheulu nefol Duw yn awyddus i weld y 144,000 eneiniog yn cael eu gwobr nefol.

Y dyrfa fawr wedi eu gwisgo mewn mentyll gwynion a changhennau palmwydd yn eu dwylo, yn sefyll o flaen gorsedd ddisglair Duw ac o flaen yr Oen (Gweler paragraff 7)

7. Yn ôl Datguddiad 7:9, 10, pwy gwnaeth Ioan ei weld mewn gweledigaeth, a beth roedden nhw’n ei wneud? (Gweler y llun ar y clawr.)

7 Wedi iddo sôn am y 144,000 o frenhinoedd ac offeiriaid, mae Ioan yn gweld rhywbeth cyffrous, tyrfa fawr yn goroesi Armagedon. Yn wahanol i’r grŵp cyntaf, mae’r ail grŵp yn llawer mwy a does dim nifer penodol iddo. (Darllen Datguddiad 7:9, 10.) Maen nhw’n “gwisgo mentyll gwynion,” sy’n dangos eu bod nhw wedi “gwrthod dylanwad y byd” sy’n perthyn i Satan ac wedi aros yn ffyddlon i Dduw a Christ. (Iago 1:27) Maen nhw’n bloeddio eu bod nhw wedi cael eu hachub oherwydd yr hyn mae Jehofa ac Iesu, Oen Duw, wedi ei wneud. Maen nhw hefyd yn dal canghennau palmwydd yn eu dwylo, sy’n dangos eu bod yn hapus i gydnabod Iesu yn Frenin apwyntiedig Jehofa.—Cymhara Ioan 12:12, 13.

8. Beth mae Datguddiad 7:11, 12 yn ei ddweud am deulu nefol Jehofa?

8 Darllen Datguddiad 7:11, 12. Beth oedd yr ymateb yn y nefoedd? Mae Ioan yn gweld teulu nefol Jehofa i gyd yn llawenhau o weld y dyrfa fawr yn ymddangos ac yn moli Duw. Bydd teulu nefol Jehofa wrth eu boddau yn gweld cyflawniad y weledigaeth hon pan fydd y dyrfa fawr yn dod allan o’r gorthrymder mawr yn fyw.

9. Yn ôl Datguddiad 7:13-15, beth mae’r dyrfa fawr yn ei wneud nawr?

9 Darllen Datguddiad 7:13-15. Ysgrifennodd Ioan fod y dyrfa fawr “wedi golchi eu dillad yn lân yng ngwaed yr Oen.” Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw gydwybod lân a’u bod nhw’n gyfiawn yng ngolwg Jehofa. (Esei. 1:18) Maen nhw’n Gristnogion bedyddiedig sydd â ffydd gref yn aberth Iesu a pherthynas dda â Jehofa. (Ioan 3:36; 1 Pedr 3:21) Felly, maen nhw’n gymwys i sefyll o flaen gorsedd Duw a’i “wasanaethu yn ei deml ddydd a nos” yma ar y ddaear. A heddiw, maen nhw’n gweithio’n selog yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith o bregethu am y Deyrnas a gwneud disgyblion, oherwydd Teyrnas Dduw yw’r peth pwysicaf iddyn nhw.—Math. 6:33; 24:14; 28:19, 20.

Aelodau hapus y dyrfa fawr o ddefaid eraill yn dod allan o’r gorthrymder mawr (Gweler paragraff 10)

10. O beth mae’r dyrfa fawr yn hollol sicr, a pha addewid byddan nhw’n gweld yn cael ei gyflawni?

10 Mae’r rhai fydd yn goroesi’r gorthrymder mawr yn hollol sicr y bydd Duw yn parhau i ofalu amdanyn nhw, oherwydd “bydd yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd yn eu cadw nhw’n saff.” Bydd yr addewid mae’r defaid eraill wedi dyheu amdano yn cael ei gyflawni o’r diwedd: “Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Dat. 21:3, 4.

11-12. (a) Yn ôl Datguddiad 7:16, 17, pa fendithion bydd y dyrfa fawr yn eu cael yn y dyfodol? (b) Beth gall y defaid eraill ei wneud yn y Goffadwriaeth, a pham?

11 Darllen Datguddiad 7:16, 17. Ar hyn o bryd, mae rhai o bobl Jehofa yn llwgu oherwydd amgylchiadau economaidd anodd neu o ganlyniad i aflonyddwch sifil a rhyfel. Mae eraill wedi eu carcharu am eu ffydd. Ond, mae’r dyrfa fawr yn hapus iawn o wybod y byddan nhw’n cael digonedd o fwyd llythrennol ac ysbrydol ar ôl iddyn nhw oroesi dinistr y system ddrygionus hon. Pan fydd byd drygionus Satan yn cael ei ddinistrio, bydd y dyrfa fawr yn cael ei hamddiffyn rhag “gwynt poeth” dicter Jehofa a fydd yn cael ei ddefnyddio ganddo yn erbyn y cenhedloedd. Ar ôl diwedd y gorthrymder mawr, bydd Iesu yn arwain y goroeswyr daearol hyn at “ddŵr ffres y bywyd [tragwyddol].” Meddylia: Mae gan y dyrfa fawr obaith unigryw. O’r holl biliynau sydd wedi byw ar y ddaear, efallai na fyddan nhw byth yn marw!—Ioan 11:26.

12 Mae gan y defaid eraill obaith bendigedig, ac maen nhw’n ddiolchgar iawn i Jehofa ac Iesu amdano! Chawson nhw ddim eu dewis i fyw yn y nef, ond maen nhw yr un mor werthfawr i Jehofa â’r eneiniog. Gall aelodau o’r ddau grŵp foli Duw a Christ. Un ffordd maen nhw’n gwneud hynny yw drwy fynd i Swper yr Arglwydd.

MOLA O DY GALON YN Y GOFFADWRIAETH

Mae’r bara a’r gwin sy’n cael eu pasio yn y Goffadwriaeth yn ein hatgoffa bod Iesu wedi marw yn ein lle er mwyn inni gael bywyd (Gweler paragraffau 13-15)

13-14. Pam dylai pawb fynd i Goffadwriaeth marwolaeth Crist?

13 Dros y blynyddoedd diwethaf, mae tua 1 o bob 1,000 sy’n mynd i’r Goffadwriaeth yn cymryd y bara a’r gwin. Does gan y rhan fwyaf o gynulleidfaoedd ddim gyfranogwyr yn bresennol. Mae gan y mwyafrif helaeth sy’n mynd i’r goffadwriaeth y gobaith daearol. Felly pam maen nhw’n mynd i Swper yr Arglwydd? Am yr un rheswm bydd rhywun yn mynd i briodas ffrind. Maen nhw’n mynd am eu bod nhw’n caru’r cwpl sy’n priodi ac eisiau eu cefnogi. Yn yr un modd, mae’r defaid eraill yn mynd i’r Goffadwriaeth am eu bod nhw’n caru Crist a’r eneiniog ac eisiau eu cefnogi. Mae’r defaid eraill hefyd yn mynd er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad am aberth Iesu, aberth sy’n ei gwneud hi’n bosib iddyn nhw fyw am byth ar y ddaear.

14 Rheswm pwysig arall pam mae’r defaid eraill yn mynd i’r Goffadwriaeth ydy er mwyn ufuddhau i orchymyn Iesu. Pan sefydlodd Iesu Swper yr Arglwydd gyda’i apostolion ffyddlon, dywedodd wrthyn nhw: “Gwnewch hyn i gofio amdana i.” (1 Cor. 11:23-26) Felly maen nhw’n parhau i fynychu Swper yr Arglwydd cyhyd â bod ’na rai eneiniog yn dal yn fyw yma ar y ddaear. Ac maen nhw’n gwahodd pawb i fynd i’r Goffadwriaeth gyda nhw.

15. Beth gallwn ni ei wneud i foli Duw a Christ yn y Goffadwriaeth?

15 Yn y Goffadwriaeth mae gynnon ni gyfle i foli Duw a Christ mewn cân a gweddi. Teitl anerchiad eleni yw, “Gwerthfawrogi’r Hyn Mae Duw a Christ Wedi ei Wneud Drosoch Chi!” Bydd yn dyfnhau ein diolchgarwch tuag at Jehofa a Christ. Wrth i’r elfennau gael eu pasio, bydd y rhai ohonon ni sy’n bresennol yn cael ein hatgoffa o’r hyn maen nhw’n ei gynrychioli, sef corff a gwaed Iesu. A byddwn ni’n meddwl am y cariad dangosodd Jehofa tuag aton ni pan adawodd i’w Fab farw er mwyn inni gael bywyd. (Math. 20:28) Bydd pawb sy’n caru ein Tad nefol a’i Fab eisiau bod yno yn y Goffadwriaeth.

DIOLCHA I JEHOFA AM Y GOBAITH Y MAE WEDI EI ROI ITI

16. Ym mha ffyrdd mae’r eneiniog a’r defaid eraill yn debyg?

16 Er bod ’na wahaniaeth rhwng yr eneiniog a’r defaid eraill, mae’r ddau grŵp yr un mor werthfawr i Jehofa, dydy ef ddim yn caru un grŵp yn fwy na’r llall. Wedi’r cwbl, talodd yr un pris, bywyd ei fab annwyl, i brynu’r eneiniog a’r defaid eraill. Y gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp yw’r ffaith fod ganddyn nhw obaith gwahanol. Mae’n rhaid i’r ddau grŵp aros yn ffyddlon i Dduw a Christ. (Salm 31:23) A chofia, gall ysbryd Duw weithredu â’r un grym ar bob un ohonon ni. Mae hyn yn golygu bod Jehofa yn rhoi ei ysbryd glân i bob unigolyn yn ôl yr angen.

17. Beth mae gweddill yr eneiniog yn edrych ymlaen ato?

17 Dydy Cristnogion eneiniog ddim yn cael eu geni â’r gobaith nefol. Mae’n rhaid iddo gael ei blannu yn eu calonnau gan Dduw. Maen nhw’n meddwl am eu gobaith, yn gweddïo amdano, ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael eu gwobr yn y nef. Dydyn nhw ddim yn gwybod sut bydd eu cyrff ysbrydol yn edrych. (Phil. 3:20, 21; 1 Ioan 3:2) Er hynny, maen nhw’n edrych ymlaen at gyfarfod Jehofa, Iesu, yr angylion, a’r eneiniog eraill. Maen nhw’n ysu i ymuno â nhw yn Nheyrnas nef.

18. Beth mae’r defaid eraill yn edrych ymlaen ato?

18 Mae’r defaid eraill yn trysori gobaith sy’n dod yn naturiol i bobl, sef y gobaith o fyw am byth ar y ddaear. (Preg. 3:11) Maen nhw’n edrych ymlaen at y diwrnod pan fyddan nhw’n gallu helpu i droi’r byd i gyd yn baradwys. Maen nhw’n dyheu am y diwrnod pan fyddan nhw’n gallu adeiladu eu tai eu hunain, plannu eu gerddi, a magu eu plant mewn iechyd perffaith. (Esei. 65:21-23) Maen nhw’n edrych ymlaen at deithio’r byd i weld y mynyddoedd, y coedwigoedd, a’r moroedd, ac at astudio’r holl bethau mae Jehofa wedi’u creu. Ond y peth gorau oll yw gwybod y bydd eu perthynas â Jehofa yn mynd o nerth i nerth.

19. Pa gyfle mae’r Goffadwriaeth yn ei roi i bob un ohonon ni, a phryd bydd hi’n cael ei chynnal eleni?

19 Mae Jehofa wedi rhoi gobaith bendigedig i’r dyfodol i bob un o’i weision. (Jer. 29:11) Mae Coffadwriaeth marwolaeth Crist yn rhoi cyfle gwych i bob un ohonon ni foli Duw a Christ am yr hyn maen nhw wedi ei wneud droston ni er mwyn inni gael byw am byth. Heb os, y Goffadwriaeth yw’r achlysur pwysicaf yn y flwyddyn i wir Gristnogion ddod at ei gilydd. Bydd yn cael ei chynnal ar ôl machlud haul ar ddydd Sadwrn, Mawrth 27, 2021. Eleni bydd llawer yn rhydd i fynd i’r achlysur pwysig hwn. Bydd eraill yn bresennol er gwaethaf gwrthwynebiad. Bydd rhai yn wynebu’r her o goffáu’r achlysur hwn yn y carchar. Wrth i Jehofa, Iesu, a rhan nefol teulu Duw wylio, gad i bob cynulleidfa, grŵp, ac unigolyn gael Coffadwriaeth fendigedig!

CÂN 150 Trowch at Dduw am Waredigaeth

^ Par. 5 Mae Mawrth 27, 2021, yn ddiwrnod arbennig i Dystion Jehofa. Y noson honno byddwn ni’n cadw Coffadwriaeth marwolaeth Crist. Bydd y rhan fwyaf o’r bobl yno yn rhan o’r grŵp a alwodd Iesu yn “ddefaid eraill.” Pa wirionedd cyffrous gafodd ei ddatgelu am y grŵp hwnnw ym 1935? Beth sydd gan y defaid eraill i edrych ymlaen ato ar ôl y gorthrymder mawr? A sut gall y defaid eraill foli Duw a Christ pan fyddan nhw’n coffáu marwolaeth Crist?

^ Par. 2 ESBONIADAU: Mae’r defaid eraill yn cynnwys rhai sydd wedi dechrau gwasanaethu Jehofa yn ystod y dyddiau diwethaf. Maen nhw’n dilyn Crist ac yn edrych ymlaen at fyw am byth ar y ddaear. Y dyrfa fawr yw’r defaid eraill a fydd yn fyw pan fydd Crist yn barnu dynolryw yn ystod y gorthrymder mawr, ac a fydd hefyd yn ei oroesi.

^ Par. 4 ESBONIAD: Mae’r gair “gweddill” yn cyfeirio at y Cristnogion eneiniog sy’n dal yn fyw ar y ddaear ac sy’n cymryd y bara a’r gwin yn ystod Swper yr Arglwydd.