Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 2

Gwersi Oddi Wrth y “Disgybl Roedd Iesu’n ei Garu”

Gwersi Oddi Wrth y “Disgybl Roedd Iesu’n ei Garu”

“Gadewch i ni garu’n gilydd, am fod cariad yn dod oddi wrth Dduw.”—1 IOAN 4:7.

CÂN 105 “Cariad Ydy Duw”

CIPOLWG *

1. Sut mae cariad Duw yn gwneud i ti deimlo?

“CARIAD ydy Duw,” ysgrifennodd yr apostol Ioan. (1 Ioan 4:8) Mae’r datganiad syml hwnnw yn ein hatgoffa o wirionedd sylfaenol: Mae Duw, Ffynhonnell bywyd, hefyd yn Ffynhonnell cariad. Mae Jehofa yn ein caru ni! Mae ei gariad yn gwneud inni deimlo’n saff, yn hapus, ac yn fodlon.

2. Yn ôl Mathew 22:37-40, beth yw’r ddau orchymyn pwysicaf, a pham efallai cawn ni drafferth ufuddhau i’r ail un?

2 I Gristnogion, nid mater o ddewis yw dangos cariad. Mae’n orchymyn. (Darllen Mathew 22:37-40.) Pan ddown ni i adnabod Jehofa’n dda, efallai y bydd hi’n hawdd inni ufuddhau i’r gorchymyn cyntaf. Wedi’r cyfan, mae Jehofa’n berffaith; mae’n feddylgar ac yn dyner yn y ffordd mae’n ein trin ni. Ond efallai cawn ni drafferth ufuddhau i’r ail orchymyn. Pam? Oherwydd bod ein brodyr a chwiorydd—sydd ymysg ein cymdogion agosaf—yn amherffaith. Weithiau, byddan nhw’n dweud a gwneud pethau angharedig a difeddwl. Roedd Jehofa’n gwybod y bydden ni’n wynebu’r her hon, felly ysbrydolodd rai o ysgrifenwyr y Beibl i gynnwys cyngor penodol ar pam a sut dylen ni ddangos cariad tuag at ein gilydd. Un o’r ysgrifenwyr hynny oedd Ioan.—1 Ioan 3:11, 12.

3. Beth gwnaeth Ioan ei bwysleisio?

3 Yn yr hyn a ysgrifennodd, pwysleisiodd Ioan fod rhaid i Gristnogion ddangos cariad. Y ffaith amdani yw, mae hanes Iesu yn llyfr Ioan yn defnyddio’r ferf “caru” fwy o weithiau nag Efengylau Mathew, Marc, a Luc gyda’i gilydd. Roedd Ioan tua chant oed pan ysgrifennodd ei Efengyl a’i dri llythyr. Mae’r llyfrau ysbrydoledig hynny yn ein dysgu bod rhaid i bopeth a wnawn ni gael ei gymell gan gariad. (1 Ioan 4:10, 11) Sut bynnag, cymerodd amser i Ioan ddysgu’r wers honno.

4. A oedd Ioan wastad yn dangos cariad tuag at eraill?

4 Pan oedd Ioan yn ddyn ifanc, doedd ef ddim bob amser yn dangos cariad. Er enghraifft, ar un achlysur, roedd Iesu a’i ddisgyblion yn teithio i Jerwsalem drwy Samaria. Gwrthododd trigolion rhyw bentref yn Samaria ddangos lletygarwch iddyn nhw. Beth oedd ymateb Ioan? Gofynnodd i Iesu a gân nhw alw tân i lawr o’r nefoedd i ddinistrio pawb yn y pentref hwnnw! (Luc 9:52-56) Ar achlysur arall, methodd Ioan â dangos cariad tuag at ei gyd-apostolion. Mae’n ymddangos ei fod ef a’i frawd wedi perswadio eu mam i ofyn i Iesu roi safleoedd pwysig iddyn nhw wrth ei ochr yn y Deyrnas. Pan glywodd yr apostolion eraill beth roedd Iago ac Ioan wedi ei wneud, roedden nhw’n gandryll! (Math. 20:20, 21, 24) Ond er i Ioan wneud yr holl gamgymeriadau hyn, roedd Iesu yn ei garu.—Ioan 21:7.

5. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

5 Yn yr erthygl hon byddwn ni’n ystyried esiampl Ioan a rhai o’r pethau ysgrifennodd am gariad. Wrth inni wneud hynny, byddwn ni’n dysgu sut gallwn ni ddangos cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd. Byddwn ni hefyd yn dysgu am ffordd bwysig gall penteulu brofi ei fod yn caru ei deulu.

CARIAD AR WAITH

Profodd Jehofa ei fod yn ein caru ni drwy anfon ei Fab i’r ddaear i farw droston ni (Gweler paragraffau 6-7)

6. Sut mae Jehofa wedi dangos ei fod yn ein caru ni?

6 Yn aml byddwn ni’n meddwl am gariad fel teimlad cynnes sy’n cael ei fynegi gan eiriau caredig. Ond er mwyn i gariad fod yn real, mae’n rhaid ei gefnogi â gweithredoedd. (Cymhara Iago 2:17, 26.) Er enghraifft, mae Jehofa’n ein caru ni. (1 Ioan 4:19) Ac mae’n mynegi ei gariad drwy’r geiriau hyfryd sydd wedi eu cofnodi yn y Beibl. (Salm 25:10, BCND; Rhuf. 8:38, 39) Er hynny, nid geiriau Duw yn unig sy’n ein sicrhau o’i gariad, ond hefyd yr hyn mae’n ei wneud. Ysgrifennodd Ioan: “Dyma sut wnaeth Duw ddangos ei gariad aton ni: anfonodd ei unig Fab i’r byd, er mwyn i ni gael bywyd drwyddo.” (1 Ioan 4:9) Caniataodd Jehofa i’w Fab annwyl ddioddef a marw droston ni. (Ioan 3:16) Gallwn fod yn hollol sicr fod Jehofa yn ein caru.

7. Beth wnaeth Iesu i brofi ei fod yn ein caru ni?

7 Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion ei fod yn eu caru nhw. (Ioan 13:1; 15:15) Profodd gymaint roedd yn eu caru nhw a ninnau, nid yn unig drwy’r hyn a ddywedodd, ond hefyd drwy’r hyn a wnaeth. “Y cariad mwya all unrhyw un ei ddangos,” meddai Iesu, “ydy bod yn fodlon marw dros ei ffrindiau.” (Ioan 15:13) Sut dylai meddwl am yr hyn mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud droston ni effeithio arnon ni?

8. Beth mae 1 Ioan 3:18 yn dweud y dylen ni ei wneud?

8 Rydyn ni’n profi ein bod ni’n caru Jehofa ac Iesu drwy ufuddhau iddyn nhw. (Ioan 14:15; 1 Ioan 5:3) A rhoddodd Iesu orchymyn penodol inni garu ein gilydd. (Ioan 13:34, 35) Mae’n rhaid inni wneud mwy na dweud wrth ein brodyr a chwiorydd ein bod ni’n eu caru nhw; mae’n rhaid inni brofi hynny drwy ein gweithredoedd. (Darllen 1 Ioan 3:18.) Pa bethau penodol gallwn ni eu gwneud i brofi ein bod yn eu caru?

CARA DY FRODYR A CHWIORYDD

9. Beth wnaeth cariad gymell Ioan i’w wneud?

9 Gallai Ioan fod wedi aros gyda’i dad a gwneud arian drwy weithio ym musnes pysgota’r teulu. Ond yn hytrach, defnyddiodd weddill ei fywyd i helpu eraill i ddysgu’r gwir am Jehofa ac Iesu. Doedd y bywyd a ddewisodd Ioan ddim yn un hawdd. Cafodd ei erlid, a thuag at ddiwedd y ganrif gyntaf, pan oedd yn hen ddyn, cafodd ei alltudio. (Act. 3:1; 4:1-3; 5:18; Dat. 1:9) Hyd yn oed tra oedd yn y carchar am bregethu am Iesu, profodd Ioan ei fod yn meddwl am eraill. Er enghraifft, tra oedd ar ynys Patmos, ysgrifennodd lyfr Datguddiad a’i anfon at y cynulleidfaoedd er mwyn iddyn nhw wybod beth “sy’n mynd i ddigwydd yn fuan.” (Dat. 1:1) Yna, mae’n debyg ar ôl iddo gael ei ryddhau o Batmos, ysgrifennodd Ioan ei Efengyl am hanes bywyd a gweinidogaeth Iesu. Hefyd, ysgrifennodd dri llythyr er mwyn annog a chryfhau ei frodyr a chwiorydd. Sut gelli di efelychu bywyd hunanaberthol Ioan?

10. Sut gelli di ddangos dy fod ti’n caru pobl?

10 Gelli di ddangos dy fod ti’n caru pobl drwy’r hyn rwyt ti’n dewis wneud gyda dy fywyd. Mae byd Satan eisiau iti ganolbwyntio dy amser ac egni arnat ti dy hun, gan geisio casglu cyfoeth neu wneud enw iti dy hun. Yn hytrach, mae Cristnogion hunanaberthol ledled y byd yn treulio gymaint o amser ag y gallan nhw yn pregethu’r newyddion da, ac yn helpu pobl i glosio at Jehofa. Mae rhai yn gallu pregethu a dysgu’n llawn amser hyd yn oed.

Dangoswn ein cariad drwy’r hyn a wnawn ni ar gyfer ein brodyr a chwiorydd a’n teulu (Gweler paragraffau 11, 17) *

11. Sut mae llawer o gyhoeddwyr ffyddlon yn profi eu bod yn caru Jehofa a’u brodyr a chwiorydd?

11 Mae llawer o Gristnogion ffyddlon yn gorfod gweithio’n llawn amser er mwyn cynnal eu hunain a’u teuluoedd. Er hynny, mae’r cyhoeddwyr ffyddlon hyn yn cefnogi cyfundrefn Duw unrhyw ffordd y gallan nhw. Er enghraifft, mae rhai yn gallu rhoi cymorth ar ôl trychineb, mae eraill yn gallu gweithio ar brosiectau adeiladu, ac mae gan bawb y cyfle i gyfrannu at y gwaith byd-eang. Maen nhw’n gwneud y pethau hyn am eu bod nhw’n caru Duw a’u cyd-ddyn. Bob wythnos, profwn ein bod yn caru’n brodyr a chwiorydd drwy fynychu’r cyfarfodydd a chymryd rhan ynddyn nhw. Hyd yn oed os ydyn ni wedi blino, rydyn ni’n bresennol yn y cyfarfodydd hynny. Hyd yn oed os ydyn ni’n nerfus, rydyn ni’n ateb. Ac er bod gynnon ni i gyd ein problemau ein hunain, rydyn ni’n calonogi eraill cyn ac ar ôl y cyfarfod. (Heb. 10:24, 25) Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gwaith mae ein brodyr a chwiorydd annwyl yn ei wneud!

12. Ym mha ffordd arall gwnaeth Ioan brofi ei gariad tuag at ei frodyr a chwiorydd?

12 Profodd Ioan ei gariad tuag at ei frodyr a chwiorydd nid yn unig drwy eu canmol ond hefyd drwy roi cyngor iddyn nhw. Er enghraifft, yn ei lythyrau, canmolodd Ioan ei frodyr a chwiorydd am eu ffydd a’u gweithredoedd da, ond hefyd fe roddodd gyngor cryf iddyn nhw ynglŷn â phechod. (1 Ioan 1:8–2: 1, 13, 14) Yn debyg i hyn, mae angen i ninnau ganmol ein brodyr a chwiorydd am y pethau da maen nhw’n eu gwneud. Ond os ydy rhywun yn dechrau datblygu agwedd neu arfer drwg, gallwn ni ddangos cariad drwy ddweud wrtho â thact yr hyn mae angen ei glywed. Mae angen dewrder i roi cyngor i ffrind, ond mae’r Beibl yn dweud bod gwir ffrindiau yn hogi, neu’n cywiro, ei gilydd.—Diar. 27:17.

13. Beth dylen ni osgoi ei wneud?

13 Weithiau, dangoswn ein cariad tuag at ein brodyr a chwiorydd drwy’r hyn dydyn ni ddim yn ei wneud. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn gadael i’r hyn maen nhw’n ei ddweud ypsetio ni’n hawdd. Meddylia am rywbeth a ddigwyddodd tuag at ddiwedd bywyd Iesu ar y ddaear. Dywedodd wrth ei ddisgyblion y bydden nhw’n gorfod bwyta ei gnawd ac yfed ei waed er mwyn cael bywyd. (Ioan 6:53-57) Cynhyrfodd llawer o’i ddisgyblion yn lân wrth glywed hyn a chefnu arno—ond nid ei ffrindiau go iawn, gan gynnwys Ioan. Fe wnaethon nhw lynu’n ffyddlon wrth ei ochr. Doedden nhw ddim yn deall beth ddywedodd Iesu, ac mae’n debyg eu bod nhw wedi synnu ganddo. Ond wnaeth ffrindiau ffyddlon Iesu ddim cymryd bod yr hyn a ddywedodd yn anghywir a chael eu pechu neu eu cynhyrfu ganddo. Yn hytrach, gwnaethon nhw ei drystio gan wybod ei fod yn dweud y gwir. (Ioan 6:60, 66-69) Mae’n bwysig iawn ein bod ni ddim yn ypsetio’n hawdd oherwydd yr hyn mae ein ffrindiau yn ei ddweud. Yn hytrach, byddwn ni’n rhoi cyfle iddyn nhw esbonio unrhyw gamddealltwriaeth.—Diar. 18:13; Preg. 7:9.

14. Pam dylen ni beidio â gadael i gasineb fudlosgi yn ein calonnau?

14 Fe wnaeth Ioan hefyd ein hannog i beidio â chasáu ein brodyr a chwiorydd. Os ydyn ni’n anwybyddu’r cyngor hwnnw, rydyn ni’n gadael ein hunain yn agored i gael ein dylanwadu gan Satan. (1 Ioan 2:11; 3:15) Digwyddodd hyn i rai ar ddiwedd y ganrif gyntaf OG. Roedd Satan yn gwneud cymaint ag y gallai i hyrwyddo casineb ymhlith pobl Dduw a’u gwahanu. Erbyn i Ioan ysgrifennu ei lythyrau, roedd dynion a oedd yn dangos yr un agwedd â Satan wedi sleifio mewn i’r gynulleidfa. Er enghraifft, roedd Diotreffes yn creu rhaniadau difrifol mewn un gynulleidfa. (3 Ioan 9, 10) Roedd yn amharchu henuriaid teithiol oedd yn cynrychioli’r corff llywodraethol. Fe wnaeth ef hyd yn oed geisio taflu allan o’r gynulleidfa y rhai oedd yn rhoi croeso i bobl nad oedd ef yn ei hoffi. Dyna iti beth ofnadwy i’w wneud! Mae Satan yn dal i drio bob sut i rannu a choncro pobl Dduw heddiw. Gad inni beidio byth â gadael i gasineb ein gwahanu.

CARA DY DEULU

Gofynnodd Iesu i Ioan ofalu am anghenion materol ac ysbrydol ei fam. Mae’n rhaid i bennau teuluoedd heddiw ofalu am anghenion eu teulu (Gweler paragraffau 15-16)

15. Beth dylai penteulu ei gofio?

15 Un ffordd bwysig mae’r penteulu yn profi ei fod yn caru ei deulu yw drwy ofalu am eu hanghenion materol. (1 Tim. 5:8) Ond mae’n rhaid iddo gofio, na all pethau materol ddiwallu anghenion ysbrydol ei deulu. (Math. 5:3, Y Ffordd Newydd) Sylwa ar yr esiampl a osododd Iesu ar gyfer pennau teuluoedd. Yn ôl Efengyl Ioan, tra oedd Iesu’n marw ar y pren, roedd yn dal i feddwl am ei deulu. Roedd Ioan yn sefyll gerllaw gyda Mair, mam Iesu. Er ei fod mewn poen ofnadwy, trefnodd Iesu i Ioan ofalu am Mair. (Ioan 19:26, 27) Roedd gan Iesu frodyr a chwiorydd a fyddai wedi gofalu am anghenion materol Mair, ond mae’n ymddangos nad oedd yr un ohonyn nhw eto yn ddisgyblion iddo. Felly roedd Iesu eisiau sicrhau bod Mair yn cael gofal materol ac ysbrydol.

16. Pa gyfrifoldebau oedd gan Ioan?

16 Roedd gan Ioan lawer o gyfrifoldebau. Ac yntau’n apostol, cymerodd y blaen yn y gwaith pregethu. Mae’n bosib ei fod yn briod hefyd, felly byddai wedi gorfod gofalu am ei deulu a’u helpu i gael perthynas dda â Duw. (1 Cor. 9:5) Beth yw’r wers i bennau teuluoedd heddiw?

17. Pam mae hi’n bwysig i benteulu ofalu am anghenion ysbrydol ei deulu?

17 Efallai bod gan frawd sy’n benteulu nifer o gyfrifoldebau pwysig. Er enghraifft, mae’n rhaid iddo weithio’n galed yn ei waith seciwlar er mwyn iddo ddod â chlod i Jehofa. (Eff. 6:5, 6; Titus 2:9, 10) Efallai bod ganddo gyfrifoldebau yn y gynulleidfa, fel bugeilio a chymryd y blaen yn y gwaith pregethu. Ar yr un pryd, mae’n bwysig ei fod yn astudio’r Beibl yn rheolaidd gyda’i wraig a’i blant. Byddan nhw’n hynod o ddiolchgar am ei ymdrechion i’w cadw nhw’n iach yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol.—Eff. 5:28, 29; 6:4.

“AROS YN FY NGHARIAD”

18. O beth roedd Ioan yn sicr?

18 Cafodd Ioan fywyd hir a chyffrous. A hefyd wynebodd bob math o heriau a fyddai wedi gallu gwanhau ei ffydd. Ond roedd ef wastad yn gwneud ei orau i ufuddhau i orchmynion Iesu, gan gynnwys y gorchymyn i garu ei frodyr a chwiorydd. O ganlyniad, roedd Ioan yn sicr fod Jehofa ac Iesu yn ei garu ac y bydden nhw’n rhoi iddo’r nerth i drechu unrhyw dreial. (Ioan 14:15-17; 15:10; 1 Ioan 4:16) Doedd dim byd allai Satan na’i system ei wneud i rwystro Ioan rhag teimlo, mynegi, a dangos cariad.

19. Beth mae 1 Ioan 4:7 yn ein hannog i’w wneud, a pham?

19 Fel Ioan, rydyn ni’n byw mewn byd sy’n cael ei reoli gan Satan, duw ffiaidd y system hon. (1 Ioan 3:1, 10) Er ei fod eisiau inni stopio caru ein brodyr a chwiorydd, fydd ef ddim yn gallu gwneud hynny oni bai ein bod ni’n ei ganiatáu. Gad inni fod yn benderfynol o garu ein brodyr a chwiorydd, i fynegi’r cariad hwnnw drwy’r hyn rydyn ni’n ei ddweud, ac i ddangos y cariad hwnnw drwy’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Wedyn bydd gynnon ni’r llawenydd o fod yn rhan o deulu Jehofa, a bydd bywyd yn wir yn werth ei fyw.—Darllen 1 Ioan 4:7.

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

^ Par. 5 Yn ôl pob tebyg, Ioan yw’r apostol mae’r Beibl yn ei alw y “disgybl roedd Iesu’n ei garu.” (Ioan 21:7) Felly hyd yn oed pan oedd yn ddyn ifanc, mae’n rhaid fod ganddo lawer o rinweddau hyfryd. Flynyddoedd wedyn, cafodd ei ddefnyddio gan Jehofa i ysgrifennu cryn dipyn am gariad. Bydd yr erthygl hon yn trafod rhai o’r pethau a ysgrifennodd Ioan a beth allwn ni ddysgu o’i esiampl.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Penteulu prysur yn rhoi cymorth ar ôl trychineb, yn cefnogi’r gwaith byd-eang gyda’i gyfraniadau, ac yn gwahodd eraill i ymuno gydag ef, ei wraig, a’i blant mewn addoliad teuluol.