HANES BYWYD
Dysgon Ni i Beidio Byth â Dweud Na Wrth Jehofa
YN DILYN teiffŵn, roedd yr afon yn berwi â mwd a cherrig mawr. Roedden ni angen cyrraedd yr ochr arall, ond roedd yr afon wyllt wedi ’sgubo’r bont i ffwrdd. Roedd fy ngŵr Harvey a minnau, a’n cyfieithydd iaith Amis, yn llawn ofn a braidd yn ddiymadferth. Wrth i’r brodyr ar ochr arall yr afon wylio’n bryderus, dechreuon ni groesi. Yn gyntaf, wnaethon ni yrru ein car bach ni ar gefn tryc oedd ychydig yn fwy. Yna, heb raffau na chadwyni i gadw’r car yn ei le, gyrrodd y tryc yn araf deg i’r llif. Roedd hi’n teimlo fel oes; ond llwyddon ni i gyrraedd yr ochr arall yn saff, gan weddïo’n daer ar Jehofa yr holl ffordd. Roedd hynny yn ôl ym 1971. Roedden ni ar arfordir dwyreiniol Taiwan, filoedd o filltiroedd i ffwrdd o’n gwledydd genedigol. Gad imi adrodd ein stori.
DYSGU CARU JEHOFA
Harvey oedd yr hynaf o bedwar brawd. Daeth ei deulu i’r gwir yn Midland Junction, yng ngorllewin Awstralia, yn ystod dirwasgiad y tridegau. Daeth Harvey i garu Jehofa a chafodd ei fedyddio yn 14 oed. Yn fuan iawn dysgodd i beidio â gwrthod aseiniadau theocrataidd. Ar un adeg, pan oedd yn llanc, gwrthododd ddarllen y Tŵr Gwylio yn y cyfarfod, gan feddwl nad oedd yn ddigon da. Ond rhesymodd y brawd oedd yn siarad â Harvey, “Pan fydd rhywun yng nghyfundrefn Jehofa yn gofyn iti wneud rhywbeth, maen nhw’n meddwl dy fod ti’n ddigon da!”—2 Cor. 3:5.
Dysgais i’r gwirionedd yn Lloegr, fel y gwnaeth fy mam a’n chwaer hynaf. Doedd fy nhad ddim yn hoff o’r Tystion ar y cychwyn ond daeth i’r gwir yn y pen draw. Yn erbyn ei ddymuniad, ges i fy medyddio ychydig cyn imi droi’n ddeg oed. Fy nod oedd arloesi ac yna bod yn genhades. Ond doedd fy nhad ddim am adael imi arloesi nes o’n i’n 21. Doeddwn i ddim yn bwriadu disgwyl cymaint â hynny. Felly pan o’n i’n 16, ces i ei ganiatâd i symud i Awstralia i fyw gyda fy chwaer hynaf a oedd
eisoes wedi symud yno. Ac o’r diwedd, pan wnes i droi’n 18, dechreuais arloesi.Yn Awstralia, wnes i gyfarfod Harvey. Roedd y ddau ohonon ni eisiau gwasanaethu Jehofa fel cenhadon. Priodon ni ym 1951. Ar ôl arloesi gyda’n gilydd am ddwy flynedd, cawson ni wahoddiad i fynd ar y gwaith cylch. Roedd ein cylchdaith yng ngorllewin Awstralia yn anferth, felly yn aml bydden ni’n gyrru am filltiroedd maith drwy ardaloedd sych ac anghysbell.
EIN BREUDDWYD YN DOD YN WIR
Ym 1954, cawson ni ein gwahodd i fynd i’r 25ed dosbarth o Gilead. Roedd ein breuddwyd o fod yn genhadon o fewn cyrraedd! Cyrhaeddon ni Efrog Newydd ar long a dechrau cwrs dwys o astudio’r Beibl. Fel rhan o’r cwricwlwm oedd rhaid inni astudio Sbaeneg, a oedd yn anodd i Harvey am ei fod yn methu rholio ei r.
Yn ystod y cwrs, cyhoeddodd yr hyfforddwyr y gallai’r rhai â diddordeb gwasanaethu yn Japan roi eu henwau ymlaen i fynd ar gwrs dysgu Japaneg. Wnaethon ni benderfynu y byddai’n well gynnon ni adael i gyfundrefn Jehofa ddewis ein haseiniad. Yn fuan wedyn, sylwodd Albert Schroeder, un o hyfforddwyr Gilead, ein bod ni heb roi ein henwau i lawr. Dywedodd wrthon ni: “Meddyliwch fwy amdani.” Wedi inni oedi ymhellach, dywedodd y Brawd Schroeder: “Mae’r hyfforddwyr eraill a minnau wedi rhoi eich enwau chi ymlaen drostoch chi. Beth am weld sut hwyl gewch chi efo Japaneg.” Roedd Japaneg yn haws o lawer i Harvey.
Pan gyrhaeddon ni Japan ym 1955, dim ond 500 o gyhoeddwyr oedd yn y wlad i gyd. Roedd Harvey yn 26, a finnau’n 24. Cawson ni ein haseinio i ddinas Kobe, lle buon ni’n gwasanaethu am bedair blynedd. Yna roedden ni wrth ein boddau i gael ein gwahodd yn ôl i’r gwaith cylch, ac mi wnaethon ni wasanaethu yn agos i ddinas Nagoya. Roedd popeth am ein haseiniad yn hyfryd—y brodyr, y bwyd, y golygfeydd. Ond cyn hir, cawson ni gyfle arall i beidio â dweud na wrth Jehofa.
ASEINIAD NEWYDD YN DOD Â HERIAU NEWYDD
Ar ôl tair blynedd yn y gwaith cylch, gofynnodd cangen Japan a fydden ni’n fodlon mynd i Taiwan i bregethu i bobl o’r llwyth Amis. Roedd rhai o’r brodyr Amis wedi troi yn wrthgilwyr, ac roedd y gangen yn Taiwan * Roedden ni wrth ein boddau gyda’r gwaith yn Japan, felly roedd yn benderfyniad anodd. Ond roedd Harvey wedi dysgu i beidio byth â gwrthod aseiniad, felly wnaethon ni gytuno i fynd.
angen brawd oedd yn rhugl yn Japaneg i helpu i ddatrys y sefyllfa.Cyrhaeddon ni ym mis Tachwedd 1962. Roedd ’na 2,271 o gyhoeddwyr yn Taiwan, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw o’r llwyth Amis. Ond yn gyntaf, roedden ni angen dysgu Tsieineeg. Dim ond un llawlyfr oedd gynnon ni ac athrawes oedd ddim yn siarad Saesneg, ond ddaru ni ei dysgu.
Yn fuan ar ôl cyrraedd Taiwan, cafodd Harvey ei aseinio i fod yn was y gangen. Roedd y gangen yn fach, felly roedd Harvey yn gallu gofalu am ei gyfrifoldebau yn y swyddfa a dal i weithio gyda’r brodyr Amis hyd at dair wythnos y mis. Roedd hefyd yn gwasanaethu fel arolygwr rhanbarth o bryd i’w gilydd, a oedd yn cynnwys rhoi anerchiadau mewn cynulliadau. Gallai Harvey fod wedi rhoi’r anerchiadau yn Japaneg, a byddai’r brodyr Amis wedi deall. Ond, roedd y llywodraeth ddim ond yn caniatáu cyfarfodydd crefyddol yn Tsieineeg. Felly wnaeth Harvey, a oedd yn dal i stryffaglu gyda’r iaith, roi’r anerchiadau yn Tsieineeg tra oedd brawd yn eu cyfieithu i Amis.
Roedd Taiwan o dan reolaeth filwrol, felly roedd rhaid i’r brodyr gael trwydded i gynnal cynulliadau. Doedd hynny ddim yn hawdd, ac yn aml roedd yr heddlu’n cymryd eu hamser i’w rhoi nhw. Os nad oedd yr heddlu wedi rhoi trwydded erbyn wythnos y cynulliad, byddai Harvey yn eistedd yng ngorsaf yr heddlu nes bod nhw’n gwneud. Gan fod cael estronwr yn eistedd yn yr orsaf yn codi cywilydd arnyn nhw, roedd y dacteg yn gweithio.
DRINGO MYNYDD AM Y TRO CYNTAF
Yn ystod yr wythnosau oedden ni’n treulio gyda’n brodyr, bydden ni fel arfer yn cerdded am awr neu fwy ar y tro, gan ddringo mynyddoedd a cherdded trwy afonydd. Dw i’n cofio’r tro cyntaf imi ddringo mynydd. Ar ôl brecwast cyflym, wnaethon ni ddal bws am hanner wedi pump yn y bore i ryw bentref pell, ac yna croesi gwely afon llydan, a llafurio i fyny ochr mynydd. Roedd o mor serth roedd traed y brawd o mlaen i ar yr un lefel a’n llygaid.
Y bore hwnnw, roedd Harvey ar y weinidogaeth gyda’r brodyr lleol, tra oeddwn i’n tystiolaethu ar fy mhen fy hun mewn pentref bach lle oedd pobl Japaneg eu hiaith yn byw. Erbyn tua un o’r gloch, o’n i’n teimlo braidd yn benysgafn achos o’n i heb fwyta ers oriau. Pan gwrddais i â Harvey o’r diwedd, doedd ’na ddim brodyr eraill o gwmpas. Roedd Harvey wedi ffeirio ychydig o gylchgronau am dri wy iâr. Dangosodd imi sut i fwyta un drwy wneud twll ym mhob pen a’i sugno. Doedd wy amrwd ddim yn apelio ryw lawer, ond wnes i drio un. Ond pwy oedd am gael y trydydd wy? Y fi gafodd o, am fod Harvey ddim yn teimlo y byddai’n gallu fy
nghario i lawr y mynydd petaswn i’n llewygu o ddiffyg bwyd.BATH GWAHANOL
Ar un penwythnos cynulliad y gylchdaith, ces i brofiad anghyffredin. Roedden ni’n aros yn nhŷ brawd reit wrth ymyl Neuadd y Deyrnas. Gan fod yr Amis yn ystyried ymolchi yn bwysig iawn, paratôdd gwraig arolygwr y gylchdaith fath inni. Roedd Harvey’n brysur, felly gofynnodd i mi fynd yn gyntaf. Roedd ’na dair elfen i’r bath hwn: bwced o ddŵr oer, un arall o ddŵr poeth, a basn gwag. Er mawr syndod i mi, roedd y chwaer wedi eu rhoi nhw y tu allan i’r tŷ, o fewn golwg i’r Neuadd lle roedd ’na frodyr yn paratoi am y cynulliad. Gofynnais am gyrten o ryw fath. A daeth hi’n ôl efo shît o blastig tryloyw! Wnes i ystyried cilio i’r cysgodion y tu ôl i’r tŷ, ond fanno, roedd ’na wyddau yn gwthio eu pennau trwy’r ffens, yn barod i bigo unrhyw un oedd yn meiddio mynd yn rhy agos. Wnes i feddwl i fi fy hun: ‘Mae’r brodyr yn rhy brysur i sylwi mod i’n cael bath. Ac os dw i ddim yn molchi, byddan nhw wedi eu pechu. Wna i jest fynd amdani!’ A dyna wnes i.
LLENYDDIAETH AR GYFER YR AMIS
Sylweddolodd Harvey fod y brodyr Amis yn ei chael hi’n anodd gwneud cynnydd ysbrydol gan fod llawer ohonyn nhw yn methu darllen a doedd ganddyn nhw ddim llenyddiaeth. Gan fod yr iaith Amis yn dechrau cael ei hysgrifennu â llythrennau Rhufeinig, roedd hi’n syniad da i ddysgu’r brodyr i ddarllen eu hiaith eu hunain. Roedd hyn yn dipyn o gamp, ond yn y pen draw roedd y brodyr yn gallu astudio ar eu pennau eu hunain. Daeth llenyddiaeth Amis ar gael yn hwyr yn y 1960au, ac ym 1968, dechreuon nhw gyhoeddi’r Tŵr Gwylio Amis.
Ond, doedd y llywodraeth ddim eisiau inni ddosbarthu llenyddiaeth nad oedd yn Tsieineeg. Felly i osgoi problemau, cafodd y Tŵr Gwylio Amis ei gyhoeddi mewn amryw o ffurfiau. Er enghraifft, am gyfnod, wnaethon ni ddefnyddio argraffiad dwyieithog Mandarin-Amis. Os oedd rhywun yn holi, i bob golwg roedden ni’n dysgu Tsieineeg i’r bobl leol. Ers hynny, mae cyfundrefn Jehofa wedi darparu llawer o lenyddiaeth Amis i helpu’r bobl hyn i ddysgu gwirioneddau’r Beibl.—Act. 10:34, 35.
CYFNOD O BURO
Yn ystod y 1960au a’r 1970au, doedd llawer o frodyr Amis ddim yn byw yn ôl safonau Duw. Gan nad oedden nhw’n deall egwyddorion y Beibl yn llawn, roedd rhai’n byw yn anfoesol, yn meddwi, neu’n defnyddio tybaco a chnau betel. Wnaeth Harvey ymweld â llawer o’r cynulleidfaoedd, gan geisio helpu’r brodyr i ddeall safbwynt Jehofa ar y pethau hyn. Ar un o’r ymweliadau hynny, cawson ni’r profiad wnes i sôn amdano ar ddechrau’r erthygl.
Roedd ’na frodyr gostyngedig a oedd yn barod i newid, ond yn anffodus, doedd llawer ddim mor fodlon, a chwympodd y nifer o gyhoeddwyr yn Taiwan o dros 2,450 i tua 900 o fewn 20 mlynedd. Roedd hyn yn sefyllfa ddigalon iawn. Ond, oedden ni’n gwybod na fyddai Jehofa byth yn bendithio cyfundrefn aflan. (2 Cor. 7:1) Yn y pen draw, roedd y cynulleidfaoedd yn gwasanaethu Jehofa yn y ffordd iawn, a gyda bendith Jehofa, mae gan Taiwan dros 11,000 o gyhoeddwyr heddiw.
O’r 1980au ymlaen, gwelon ni gyflwr ysbrydol y cynulleidfaoedd Amis yn gwella, a gallai Harvey dreulio mwy o amser yn y maes Tsieineeg. Roedd wrth ei fodd yn helpu gwŷr nifer o’r chwiorydd i ddod yn Dystion Jehofa. Dw i’n cofio fo’n dweud pa mor hapus oedd o pan weddïodd un o’r dynion hyn ar Jehofa am y tro cyntaf. Dw innau hefyd yn llawenhau fy mod i wedi gallu helpu llawer o bobl i glosio at Jehofa. Ces i hyd yn oed y llawenydd o wasanaethu yng nghangen Taiwan gyda mab a merch rhywun oeddwn i wedi astudio’r Beibl â nhw.
COLLED DRIST
Erbyn hyn, dw i wedi colli fy mhartner. Ar ôl bron i 59 mlynedd o briodas, bu farw fy annwyl Harvey ar Ionawr 1, 2010, ar ôl brwydro canser. Roedd wedi treulio bron i chwe degawd mewn gwasanaeth llawn amser! Dw i’n dal i’w golli’n ofnadwy. Ond roeddwn i’n hapus iawn i’w gefnogi yn nyddiau cynnar y gwaith mewn dwy wlad hynod o ddiddorol! Wnaethon ni ddysgu siarad—ac yn achos Harvey, ysgrifennu hefyd—ddwy iaith Asiaidd anodd.
Ychydig o flynyddoedd wedyn, am fy mod i’n heneiddio ac angen mwy o help, penderfynodd y Corff Llywodraethol mai’r peth gorau imi fyddai dychwelyd i Awstralia. Y peth cyntaf a ddaeth i fy meddwl oedd, ‘Dw i ddim eisiau gadael Taiwan.’ Ond dysgodd Harvey imi beidio byth â dweud na wrth gyfundrefn Jehofa, a doeddwn i ddim am ddechrau chwaith. Yn hwyrach ymlaen, des i i weld y doethineb y tu ôl i’r penderfyniad.
Heddiw, dw i’n gweithio yng nghangen Awstralasia yn ystod yr wythnos a gyda’r gynulleidfa leol ar y penwythnosau. Ym Methel, dw i’n falch o gael defnyddio fy Japaneg a Tsieineeg i wneud teithiau tywys. Eto, dw i’n edrych ymlaen at yr atgyfodiad mae Jehofa wedi ei addo. Dw i’n gwybod bod Harvey, a ddysgodd i beidio byth â dweud na wrth Jehofa, bellach yn saff yn Ei gof.—Ioan 5:28, 29.
^ Par. 14 Er mai Tsieineeg yw iaith swyddogol Taiwan erbyn hyn, Japaneg oedd yr iaith swyddogol yno am ddegawdau. Felly, roedd Japaneg yn dal i fod yn iaith gyffredin ymhlith y gwahanol grwpiau ethnig yn Taiwan.