Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 7

Deall Penteuluaeth yn y Gynulleidfa

Deall Penteuluaeth yn y Gynulleidfa

“Mae Crist hefyd yn ben yr eglwys; ac ef yw Gwaredwr y corff.”—EFF. 5:23, BCND.

CÂN 137 Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol

CIPOLWG *

1. Beth yw un rheswm pam mae teulu Jehofa’n unedig?

RYDYN ni wrth ein boddau i fod yn rhan o deulu Jehofa. Pam mae’r teulu hwn mor heddychlon ac unedig? Un rheswm yw ein bod ni i gyd yn gwneud ein gorau i barchu trefniant penteuluaeth Jehofa. Y ffaith yw, gorau’n y byd byddwn ni’n deall y trefniant penteuluaeth, y mwyaf unedig y byddwn ni.

2. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod penteuluaeth fel mae’n berthnasol i’r gynulleidfa. Ymhlith pethau eraill, byddwn ni’n ateb y cwestiynau canlynol: Beth yw rôl chwiorydd? Ydy hi’n wir fod pob brawd yn ben ar bob chwaer? Oes gan henuriaid yr un fath o awdurdod dros frodyr a chwiorydd ag sydd gan benteulu dros ei wraig a’i blant? Yn gyntaf, gad inni drafod sut dylen ni ystyried chwiorydd.

SUT DYLEN NI YSTYRIED CHWIORYDD?

3. Sut gallwn ni gryfhau ein gwerthfawrogiad am y gwaith mae ein chwiorydd yn ei wneud?

3 Rydyn ni’n gwerthfawrogi ein chwiorydd sy’n gweithio’n galed i edrych ar ôl eu teuluoedd, i bregethu’r newyddion da, ac i gefnogi’r gynulleidfa. Byddwn ni’n eu gwerthfawrogi nhw’n fwy byth os meddyliwn am y ffordd mae Jehofa ac Iesu yn eu hystyried. Byddwn ni hefyd yn elwa o ystyried y ffordd y gwnaeth yr apostol Paul drin merched.

4. Sut mae’r Beibl yn dangos bod Jehofa yn gwerthfawrogi merched yn ogystal â dynion?

4 Mae’r Beibl yn dangos bod Jehofa yn gwerthfawrogi merched yn ogystal â dynion. Er enghraifft, mae’n datgelu fod Jehofa, yn y ganrif gyntaf, wedi rhoi ysbryd glân i ferched a dynion er mwyn iddyn nhw allu gwneud gwyrthiau, fel siarad mewn ieithoedd gwahanol. (Act. 2:1-4, 15-18) Mae’r ddau wedi cael eu heneinio gan yr ysbryd glân gyda’r gobaith o reoli gyda Christ. (Gal. 3:26-29) Bydd merched yn ogystal â dynion yn cael y wobr o fywyd tragwyddol ar y ddaear. (Dat. 7:9, 10, 13-15) Ac mae dynion a merched wedi cael eu haseinio i bregethu a dysgu’r newyddion da i eraill. (Math. 28:19, 20) Er enghraifft, mae llyfr yr Actau yn sôn am chwaer o’r enw Priscila a aeth ati gyda’i gŵr i helpu i esbonio’r gwirionedd yn fwy manwl i’r dyn addysgedig, Apolos.—Act. 18:24-26.

5. Beth mae Luc 10:38, 39, 42 yn datgelu am agwedd Iesu tuag at ferched?

5 Roedd Iesu yn anrhydeddu ac yn parchu merched. Nid oedd yn efelychu’r Phariseaid a oedd yn edrych i lawr ar ferched ac yn gwrthod siarad â nhw yn gyhoeddus, heb sôn am drafod yr Ysgrythurau â nhw. Yn hytrach, roedd yn cynnwys merched yn y trafodaethau ysbrydol dwfn roedd yn eu cael gyda’i ddisgyblion eraill. * (Darllen Luc 10:38, 39, 42.) Hefyd, caniataodd i ferched fynd gydag ef ar ei deithiau pregethu. (Luc 8:1-3) A rhoddodd Iesu’r fraint iddyn nhw o ddweud wrth yr apostolion ei fod wedi ei atgyfodi.—Ioan 20:16-18.

6. Sut dangosodd yr apostol Paul ei fod yn parchu merched?

6 Gwnaeth yr apostol Paul atgoffa Timotheus i anrhydeddu merched yn benodol. Dywedodd Paul wrtho i drin “gwragedd hŷn fel mamau” ac i ystyried “gwragedd ifanc fel chwiorydd.” (1 Tim. 5:1, 2) Roedd Paul wedi cyfrannu’n fawr at ddatblygiad ysbrydol Timotheus, ond roedd yn cydnabod mai mam a nain Timotheus oedd wedi dysgu’r “ysgrifau sanctaidd” iddo yn gyntaf. (2 Tim. 1:5; 3:14, 15) Enwodd Paul chwiorydd penodol wrth eu cyfarch yn ei lythyr at y Rhufeiniaid. Sylwodd Paul ar yr hyn roedd y chwiorydd yn ei wneud, a diolchodd iddyn nhw am eu gwaith.—Rhuf. 16:1-4, 6, 12; Phil. 4:3.

7. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried nesaf?

7 Fel mae’r paragraffau blaenorol yn ei ddangos, does ’na ddim sail Ysgrythurol dros feddwl bod chwiorydd yn is na brodyr. Mae ein chwiorydd hael a chariadus yn help mawr i’r gynulleidfa, ac mae’r henuriaid yn dibynnu ar eu help i hyrwyddo heddwch ac undod yn y gynulleidfa. Ond mae ’na rai cwestiynau sydd angen eu hateb. Er enghraifft: Pam mae Jehofa yn gofyn i chwiorydd wisgo penwisg weithiau? Gan mai brodyr yn unig sy’n cael eu penodi’n henuriaid a gweision gweinidogaethol, ydy hyn yn golygu bod pob brawd yn ben ar bob chwaer yn y gynulleidfa?

YDY POB BRAWD YN BEN AR BOB CHWAER?

8. Yn ôl Effesiaid 5:23, ydy pob brawd yn ben ar bob chwaer? Esbonia.

8 Yn fyr, nac ydy! Dydy brawd ddim yn ben ar holl chwiorydd y gynulleidfa; Crist yw’r pen. (Darllen Effesiaid 5:23, BCND.) Yn y teulu, mae gan ŵr awdurdod dros ei wraig. Ond dydy mab bedyddiedig ddim yn ben ar ei fam. (Eff. 6:1, 2) Ac yn y gynulleidfa, dim ond rywfaint o awdurdod sydd gan henuriaid dros chwiorydd a brodyr. (1 Thes. 5:12; Heb. 13:17) Mae merched sengl sydd ddim bellach yn byw gyda’u tad a’u mam yn dal i barchu eu rheini a’r henuriaid. Ond, yn union fel dynion y gynulleidfa, dim ond un pen sydd ganddyn nhw, sef Iesu.

Mae’r rhai sengl sydd ddim bellach yn byw gyda’u rheini o dan awdurdod Iesu (Gweler paragraff 8)

9. Pam mae’n rhaid i chwiorydd wisgo penwisg weithiau?

9 Mae’n wir fod Jehofa wedi penodi dynion i gymryd y blaen o ran dysgu ac addoli yn y gynulleidfa, a dydy ef ddim wedi rhoi yr un awdurdod i ferched. (1 Tim. 2:12) Pam? Am yr un rheswm y mae wedi penodi Iesu fel pen y dyn—er mwyn cadw trefn ar ei deulu. Os bydd amgylchiadau yn golygu bod chwaer angen gwneud rhywbeth y byddai brawd yn ei wneud fel arfer, yna mae Jehofa yn gofyn iddi wisgo penwisg. * (1 Cor. 11:4-7) Mae Jehofa yn gofyn hyn gan chwiorydd, nid i’w bychanu, ond i roi ffordd iddyn nhw ddangos parch tuag at egwyddorion penteuluaeth y mae wedi eu sefydlu. Gyda’r ffeithiau hynny mewn golwg, gad inni ateb y cwestiwn: faint o awdurdod sydd gan bennau teuluoedd a henuriaid?

RÔL PENTEULU A HENURIAD

10. Pam gall henuriad deimlo bod angen gwneud rheolau dros y gynulleidfa?

10 Mae’r henuriaid yn caru Crist, a’r ‘defaid’ mae Jehofa ac Iesu wedi eu rhoi yn eu gofal. (Ioan 21:15-17) Gyda’r cymhelliad gorau, gall henuriad feddwl amdano’i hun fel tad i’r rhai yn y gynulleidfa. Efallai bydd yn rhesymu, os oes gan benteulu’r hawl i wneud rheolau i amddiffyn ei deulu, gall henuriad wneud rheolau yn y gobaith y bydd yn amddiffyn defaid Duw. A gall rai brodyr a chwiorydd annog henuriaid i wneud hyn drwy ofyn iddyn nhw wneud penderfyniadau drostyn nhw. Ond oes gan henuriaid yn y gynulleidfa a phennau teuluoedd yr un awdurdod?

Mae henuriaid yn gofalu am anghenion ysbrydol ac emosiynol y gynulleidfa. Mae Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddyn nhw o gadw’r gynulleidfa yn foesol lân (Gweler paragraffau 11-12)

11. Sut mae rôl penteulu a henuriad yn debyg?

11 Awgrymodd Paul fod ’na rywfaint o debygrwydd rhwng rôl penteulu a rôl henuriad. (1 Tim. 3:4, 5) Er enghraifft, mae Jehofa eisiau i aelodau’r teulu ufuddhau i ben y teulu. (Col. 3:20) Ac mae eisiau i’r rhai yn y gynulleidfa ufuddhau i’r henuriaid. Mae Jehofa yn disgwyl i bennau teuluoedd a henuriaid, fel ei gilydd, wneud yn siŵr fod y rhai yn eu gofal yn ysbrydol iach. Maen nhw hefyd yn gofalu am anghenion emosiynol y rhai sydd o dan eu hawdurdod. Ac fel pennau teuluoedd da, mae henuriaid yn sicrhau fod y rhai yn eu gofal yn derbyn cymorth pan fydd angen. (Iago 2:15-17) Ar ben hynny, mae Jehofa yn disgwyl i henuriaid a phennau teuluoedd hyrwyddo ei safonau a pheidio â “mynd y tu hwnt i beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud.”—1 Cor. 4:6.

Mae pob penteulu wedi cael awdurdod gan Jehofa i gymryd y blaen yn ei deulu ei hun. Cyn gwneud penderfyniadau, bydd penteulu cariadus yn trafod gyda’i wraig (Gweler paragraff 13)

12-13. Yn ôl Rhufeiniaid 7:2, sut mae rôl penteulu a rôl henuriad yn wahanol?

12 Ond, mae ’na wahaniaethau mawr rhwng rôl henuriad a rôl penteulu. Er enghraifft, mae Jehofa wedi aseinio henuriaid i weithredu fel barnwyr, ac mae wedi rhoi’r cyfrifoldeb iddyn nhw o ddiarddel pechaduriaid diedifar o’r gynulleidfa.—1 Cor. 5:11-13.

13 Ar y llaw arall, mae Jehofa wedi rhoi rywfaint o awdurdod i bennau teuluoedd nad ydy ef wedi ei roi i henuriaid. Er enghraifft, mae wedi rhoi awdurdod i benteulu wneud rheolau ar gyfer ei deulu a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n eu cadw. (Darllen Rhufeiniaid 7:2.) Er enghraifft, mae gan benteulu’r hawl i benderfynu faint o’r gloch y dylai ei blant ddod adref gyda’r nos. Mae ganddo hefyd yr hawl i ddisgyblu ei blant os nad ydyn nhw’n dilyn y rheol honno. (Eff. 6:1) Wrth gwrs, fe fydd penteulu cariadus yn trafod gyda’i wraig cyn gosod rheolau yn y cartref; wedi’r cwbl, mae’r ddau ohonyn nhw’n “uned.” *Math. 19:6.

PARCHU CRIST FEL PEN Y GYNULLEIDFA

Mae Iesu, o dan awdurdod Jehofa, yn rhoi cyfarwyddyd i’r gynulleidfa Gristnogol (Gweler paragraff 14)

14. (a) Yn ôl Marc 10:45, pam mae’n briodol fod Jehofa wedi penodi Iesu yn ben ar y gynulleidfa? (b) Beth yw rôl y Corff Llywodraethol? (Gweler y blwch  “Rôl y Corff Llywodraethol.”)

14 Drwy gyfrwng y pridwerth, mae Jehofa wedi prynu bywydau pawb yn y gynulleidfa, ac unrhyw un arall a fydd yn rhoi ffydd yn Iesu. (Darllen Marc 10:45; Act. 20:28; 1 Cor. 15:21, 22) Felly, mae’n briodol ei fod wedi apwyntio Iesu, a roddodd ei fywyd yn bridwerth, yn ben ar y gynulleidfa. Fel ein pen, mae gan Iesu’r awdurdod i wneud rheolau ynglŷn â beth dylai pobl, teuluoedd, a’r gynulleidfa gyfan ei wneud. Ac mae ganddo’r hawl i wneud yn siŵr ein bod yn ufuddhau i’r rheolau hynny. (Gal. 6:2) Ond mae Iesu yn gwneud mwy na gosod rheolau yn unig. Mae’n gofalu am bob un ohonon ni ac yn ein caru’n fawr.—Eff. 5:29.

15-16. Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth sylwadau chwaer o’r enw Marley a brawd o’r enw Benjamin?

15 Mae chwiorydd yn dangos eu bod yn parchu Crist drwy ddilyn cyfarwyddyd y dynion y mae ef wedi eu penodi i ofalu amdanyn nhw. Mae llawer o chwiorydd yn cytuno â Marley, chwaer sy’n byw yn yr Unol Daleithiau. Mae hi’n dweud: “Dw i’n trysori fy lle fel gwraig a chwaer yn y gynulleidfa. Dw i angen atgoffa fy hun yn aml i feithrin yr agwedd gywir tuag at drefniant penteuluaeth Jehofa. Ond mae fy ngŵr a’r brodyr yn y gynulleidfa wedi gwneud hynny’n haws imi am eu bod nhw’n fy mharchu, ac yn mynegi eu gwerthfawrogiad am y gwaith dw i’n ei wneud.”

16 Mae brodyr yn dangos eu bod nhw’n deall trefniant penteuluaeth drwy barchu ac anrhydeddu chwiorydd. Dywedodd Benjamin, brawd sy’n byw yn Lloegr: “Dw i wedi dysgu cymaint oddi wrth sylwadau chwiorydd yn y cyfarfodydd, a’u hawgrymiadau am sut i astudio a bod yn fwy effeithiol yn y weinidogaeth. Dw i’n meddwl bod y gwaith maen nhw’n ei wneud yn werthfawr iawn.”

17. Pam dylen ni barchu egwyddor penteuluaeth?

17 Pan fydd pawb yn y gynulleidfa—dynion, merched, pennau teuluoedd, a henuriaid—yn deall ac yn parchu egwyddorion penteuluaeth, bydd ’na heddwch yn y gynulleidfa. Ac yn bwysicach byth, byddwn ni’n dod â chlod i’n Tad nefol cariadus, Jehofa.—Salm 150:6.

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

^ Par. 5 Beth yw rôl chwiorydd yn y gynulleidfa? Ydy pob brawd yn ben ar bob chwaer? Oes gan henuriaid a phennau teuluoedd yr un fath o awdurdod? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod y cwestiynau hyn yng ngoleuni esiamplau a gawn yng Ngair Duw.

^ Par. 5 Gweler paragraff 6 yn yr erthygl “Cefnoga’r Chwiorydd yn y Gynulleidfa,” a gyhoeddwyd yn rhifyn Medi 2020 y Tŵr Gwylio.

^ Par. 13 Am drafodaeth ar bwy ddylai benderfynu ym mha gynulleidfa bydd y teulu yn gwasanaethu ynddi, gweler paragraffau 17-19 yn yr erthygl “Dangosa Barch Tuag at Bawb yng Nghynulleidfa Jehofa,” a gyhoeddwyd yn rhifyn Awst 2020 y Tŵr Gwylio.

^ Par. 59 Am drafodaeth fanwl ar y pwnc, gweler y llyfr Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw,” tt. 209-212.

^ Par. 64 Am drafodaeth lawn ynglŷn â rôl y Corff Llywodraethol, gweler rhifyn Gorffennaf 15, 2013, y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 20-25.