Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 15

Dysgu o Eiriau Olaf Iesu

Dysgu o Eiriau Olaf Iesu

“Fy Mab annwyl i ydy hwn; mae wedi fy mhlesio i’n llwyr. Gwrandwch arno!”—MATH. 17:5.

CÂN 17 ‘Dwi Eisiau Dy Helpu’

CIPOLWG *

1-2. Disgrifia’r amgylchiadau wrth i Iesu ddweud ei eiriau olaf fel dyn.

MAE hi’n Nisan 14, 33 OG. Ar ôl cael ei gyhuddo ar gam a chael ei farnu’n euog o drosedd nad oedd yn euog ohoni, mae Iesu’n cael ei wawdio, ei arteithio, a’i hoelio i’r pren. Ac yntau â hoelion drwy ei ddwylo a’i draed, mae pob anadl, pob gair, yn boenus. Ond mae’n rhaid iddo siarad—mae ganddo bethau pwysig i’w dweud.

2 Gad inni drafod y geiriau a ddywedodd Iesu fel roedd yn marw ar y pren artaith, a’r gwersi gallwn ni eu dysgu ohonyn nhw. Mewn geiriau eraill, gad inni ‘wrando arno.’—Math. 17:5.

“DAD, MADDAU IDDYN NHW”

3. At bwy, mae’n debyg, roedd Iesu’n cyfeirio pan ddywedodd: “Dad, maddau iddyn nhw”?

3 Beth ddywedodd Iesu? Pan oedd Iesu ar y stanc, gweddïodd: “Dad, maddau iddyn nhw.” Maddau i bwy? Cawn awgrym o’i eiriau nesaf: “Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” (Luc 23:33, 34) Mae’n debyg roedd Iesu’n cyfeirio ar y milwyr Rhufeinig a yrrodd yr hoelion drwy ei ddwylo a’i draed. Doedden nhw ddim wir yn gwybod pwy oedd ef. Efallai roedd hefyd yn cyfeirio at rai yn y dorf a fynnodd ei fod yn cael ei ddienyddio, ond a fyddai’n hwyrach yn credu ynddo. (Act. 2:36-38) Doedd Iesu ddim yn haeddu marw. Ond wnaeth ef ddim digio na gwrthod maddau i’r rhai oedd yn ei erlid. (1 Pedr 2:23) Yn hytrach, gofynnodd i Jehofa faddau i’r rhai oedd yn ei ladd.

4. Beth allwn ni ei ddysgu o barodrwydd Iesu i faddau i’w wrthwynebwyr?

4 Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu? Fel Iesu, mae’n rhaid inni fod yn barod i faddau i eraill. (Col. 3:13) Gall rhai, gan gynnwys perthnasau, ein gwrthwynebu am nad ydyn nhw’n deall ein daliadau a’n ffordd o fyw. Efallai byddan nhw’n dweud celwyddau amdanon ni, yn codi cywilydd arnon ni o flaen eraill, yn dinistrio ein llenyddiaeth, neu hyd yn oed yn bygwth ein brifo ni. Yn hytrach na dal dig, gallwn ofyn i Jehofa agor llygaid y rhai sy’n ein gwrthwynebu fel eu bod nhw’n gallu gweld y gwirionedd ryw ddydd. (Math. 5:44, 45) Ar brydiau, efallai byddwn ni’n ei chael hi’n anodd maddau, yn enwedig os ydyn nhw wedi ein trin yn ofnadwy. Ond os byddwn ni’n dal dig, ac yn gadael i chwerwder wreiddio yn ein calonnau, byddwn ni’n brifo’n hunain. Esboniodd un chwaer: “Dw i’n sylweddoli nad ydy maddau i eraill yn golygu fy mod i’n cyfiawnhau beth wnaethon nhw, nac yn caniatáu i eraill gymryd mantais ohono i. Mae jest yn golygu mod i’n dewis peidio â dal dig.” (Salm 37:8) Pan ydyn ni’n dewis maddau, rydyn ni’n dewis peidio â gadael i brofiadau negyddol ein gwneud ni’n chwerw.—Eff. 4:31, 32.

“CEI DI DDOD GYDA MI I BARADWYS”

5. Beth wnaeth Iesu ei addo i un o’r troseddwyr oedd wrth ei ymyl, a pham wnaeth ef yr addewid hwnnw?

5 Beth ddywedodd Iesu? Roedd dau droseddwr yn cael eu dienyddio wrth ymyl Iesu. I ddechrau, roedd y ddau yn ei wawdio. (Math. 27:44) Ond yn hwyrach, newidiodd un ohonyn nhw ei agwedd. Daeth i’r casgliad na wnaeth Iesu “ddim byd o’i le.” (Luc 23:40, 41) Ar ben hynny, dangosodd ei fod yn credu y byddai Iesu’n cael ei atgyfodi ac yn rheoli fel brenin ryw ddydd. Dywedodd wrtho: “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.” (Luc 23:42) Dyna iti ffydd a ddangosodd y dyn hwnnw! Atebodd Iesu: “Wir i ti—cei di ddod gyda mi [nid i’r Deyrnas, ond] i baradwys.” (Luc 23:43) Sylwa fod Iesu wedi gwneud yr addewid hwnnw’n bersonol iawn drwy ddefnyddio’r geiriau “ti” a “mi.” Gan wybod bod ei Dad yn drugarog, rhoddodd Iesu obaith i’r troseddwr hwn oedd ar fin marw.—Salm 103:8.

6. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o eiriau Iesu i’r troseddwr?

6 Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu? Mae Iesu’n adlewyrchu ei Dad yn berffaith. (Heb. 1:3) Mae Jehofa’n awyddus i faddau inni ac i ddangos trugaredd os ydyn ni’n wirioneddol sori am y pethau drwg rydyn ni wedi eu gwneud yn y gorffennol, ac os ydyn ni’n dangos bod gynnon ni ffydd yn aberth pridwerthol Iesu. (1 Ioan 1:7) Efallai bydd rhai yn cael trafferth credu y gallai Jehofa faddau iddyn nhw o gwbl am eu camgymeriadau yn y gorffennol. Os wyt ti’n teimlo fel ’na ar brydiau, ystyria hyn: Ychydig cyn iddo farw, dangosodd Iesu drugaredd tuag at y troseddwr a oedd ond yn dechrau dangos ffydd. Felly meddylia cymaint mwy byddai Jehofa yn dangos trugaredd tuag at ei weision ffyddlon sy’n gwneud eu gorau glas i ufuddhau i’w orchmynion!—Salm 51:1; 1 Ioan 2:1, 2.

“CYMER E FEL MAB I TI . . . GOFALA AMDANI HI FEL PETAI’N FAM I TI”

7. Yn ôl Ioan 19:26, 27, beth ddywedodd Iesu wrth Mair ac Ioan, a pham?

7 Beth ddywedodd Iesu? (Darllen Ioan 19:26, 27.) Roedd Iesu yn poeni am ei fam, a oedd yn weddw mae’n debyg. Hwyrach y gallai ei frodyr a’i chwiorydd ofalu am ei hanghenion materol. Ond pwy allai ofalu am ei hanghenion ysbrydol? Does dim byd yn awgrymu bod ei frodyr yn ddisgyblion iddo eto. Ond, roedd Ioan yn apostol ffyddlon ac yn un o ffrindiau agosaf Iesu. Roedd Iesu’n ystyried y rhai oedd yn addoli Jehofa gydag ef fel ei deulu ysbrydol. (Math. 12:46-50) Felly allan o’i gariad a’i gonsýrn am Mair, gofynnodd i Ioan edrych ar ei hôl, gan wybod y byddai ef yn gofalu am ei hiechyd ysbrydol. Wrth ei fam, dywedodd Iesu: “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti.” Ac wrth Ioan, dywedodd: “Gofala amdani hi fel petai’n fam i ti.” O’r diwrnod hwnnw ymlaen, daeth Ioan fel mab i Mair, a gofalodd amdani fel petai’n fam iddo. Dyna iti gariad a ddangosodd Iesu tuag at y ddynes gariadus a ofalodd amdano’n dyner o’i enedigaeth ac a oedd yn dal wrth ei ymyl pan oedd yn marw!

8. Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu i Mair ac Ioan?

8 Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu? Gall ein cyfeillgarwch â’n brodyr a chwiorydd Cristnogol fod yn gryfach na’n perthynas â’n teulu ein hunain. Efallai bydd ein perthnasau yn ein gwrthwynebu, neu hyd yn oed yn cefnu arnon ni, ond fel addawodd Iesu, drwy lynu at Jehofa a’i gyfundrefn, byddwn ni’n cael “can gwaith” mwy nag ydyn ni wedi ei golli. Bydd llawer yn dod fel mab, merch, mam, neu dad annwyl inni. (Marc 10:29, 30) Sut rwyt ti’n teimlo am fod yn rhan o deulu ysbrydol sydd wedi ei uno gan ffydd a chariad​—cariad tuag at Jehofa ac at ei gilydd?—Col. 3:14; 1 Pedr 2:17.

“FY NUW! PAM WYT TI WEDI TROI DY GEFN ARNA I?”

9. Beth mae geiriau Iesu yn Mathew 27:46 yn ei ddweud wrthon ni?

9 Beth ddywedodd Iesu? Yn fuan cyn iddo farw, gwaeddodd Iesu: “Fy Nuw! fy Nuw! Pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” (Math. 27:46) Dydy’r Beibl ddim yn esbonio pam dywedodd Iesu hyn. Ond ystyria beth mae’r geiriau hynny’n ei ddweud wrthon ni. Am un peth, drwy ddweud y geiriau hynny, roedd Iesu’n cyflawni’r broffwydoliaeth yn Salm 22:1. * Hefyd, roedd y geiriau hynny yn ei gwneud hi’n amlwg nad oedd Jehofa wedi “gosod ffens o’i gwmpas i’w amddiffyn.” (Job 1:10) Roedd Iesu’n deall bod ei Dad wedi caniatáu i’w elynion brofi ei ffydd i’r eithaf—yn fwy nag unrhyw un arall erioed. Ar ben hynny, mae’r geiriau hyn yn cadarnhau nad oedd wedi gwneud unrhyw beth i haeddu cael ei ladd.

10. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o eiriau Iesu i’w Dad?

10 Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu? Un wers gallwn ni ei dysgu yw na ddylen ni ddisgwyl i Jehofa ein hamddiffyn rhag heriau sy’n profi ein ffydd. Fel cafodd Iesu ei brofi i’r eithaf, mae’n rhaid i ninnau hefyd fod yn barod i fod yn ffyddlon hyd farwolaeth os bydd rhaid. (Math. 16:24, 25) Ond gallwn fod yn sicr na fydd Duw yn gadael inni gael ein profi y tu hwnt i’r hyn gallwn ni ei oddef. (1 Cor. 10:13) Gwers arall gallwn ni ei dysgu yw, fel Iesu, efallai y byddwn ni’n dioddef er nad ydyn ni wedi gwneud unrhyw beth o’i le. (1 Pedr 2:19, 20) Mae’r rhai sy’n ein gwrthwynebu yn gwneud hynny, nid am ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le, ond am ein bod ni ddim yn rhan o’r byd, ac am ein bod ni’n tystiolaethu am y gwir. (Ioan 17:14; 1 Pedr 4:15, 16) Roedd Iesu’n deall pam gwnaeth Jehofa ganiatáu iddo ddioddef. Ond mae rhai gweision ffyddlon dan dreial weithiau wedi gofyn pam mae Jehofa wedi caniatáu i rai pethau ddigwydd. (Hab. 1:3) Mae ein Duw trugarog ac amyneddgar yn deall nad oes ganddyn nhw ddiffyg ffydd; maen nhw angen y cysur y gall ef yn unig ei roi.—2 Cor. 1:3, 4.

“DW I’N SYCHEDIG”

11. Pam dywedodd Iesu’r geiriau yn Ioan 19:28?

11 Beth ddywedodd Iesu? (Darllen Ioan 19:28.) Pam dywedodd Iesu: “Dw i’n sychedig”? I “gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud”—hynny yw, y broffwydoliaeth yn Salm 22:15, sy’n dweud: “Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd. Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg.” Hefyd, ar ôl popeth roedd Iesu wedi ei ddioddef, gan gynnwys y boen aruthrol o fod ar y pren, mae’n rhaid ei fod yn sychedig ofnadwy. Roedd angen help arno i dorri ei syched.

12. Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu “dw i’n sychedig”?

12 Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu? Doedd Iesu ddim yn meddwl bod mynegi ei deimladau yn arwydd o wendid; a ddylen ninnau ddim chwaith. Efallai ein bod ni heb arfer gofyn am help gan eraill, neu wedi dewis peidio â gwneud hynny. Ond os daw’r amser pan fydd angen help arnon ni, dylen ni beidio ag oedi i ofyn am help gan eraill. Er enghraifft, os ydyn ni’n hŷn neu’n sâl, efallai bydd rhaid inni ofyn i ffrind roi lifft inni i’r siop neu i’r feddygfa. Os ydyn ni wedi digalonni, efallai bydd rhaid inni ofyn i henuriad neu ffrind aeddfed arall am glust i wrando neu am ‘air caredig’ i godi ein calon. (Diar. 12:25) Gad inni gofio bod ein brodyr a chwiorydd yn ein caru, ac maen nhw eisiau ein “helpu mewn helbul.” (Diar. 17:17) Ond allan nhw ddim darllen ein meddyliau. Efallai na fyddan nhw’n gwybod ein bod ni angen help oni bai ein bod ni’n dweud rhywbeth.

“MAE’R CWBL WEDI EI WNEUD”!

13. Beth wnaeth Iesu ei gyflawni drwy aros yn ffyddlon hyd farwolaeth?

13 Beth ddywedodd Iesu? Tua thri o’r gloch y pnawn ar Nisan 14, gwaeddodd Iesu: “Mae’r cwbl wedi ei wneud”! (Ioan 19:30) Ac yntau ar fin marw, roedd Iesu wedi gwneud popeth oedd Jehofa’n disgwyl iddo ei wneud. Drwy aros yn ffyddlon hyd farwolaeth, gwnaeth Iesu gyflawni sawl peth. Yn gyntaf, profodd bod Satan yn gelwyddgi. Dangosodd Iesu y gallai bod dynol perffaith aros yn hollol ffyddlon er gwaethaf holl ymdrechion Satan. Yn ail, rhoddodd Iesu ei fywyd yn bridwerth. Oherwydd iddo wneud hynny, mae hi’n bosib i bobl amherffaith gael perthynas â Duw a chael gobaith o fyw am byth. Yn drydydd, cefnogodd Iesu sofraniaeth gyfiawn Jehofa a chlirio enw ei Dad o unrhyw warth.

14. Sut dylen ni fod yn benderfynol o fyw bob dydd? Esbonia.

14 Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu? Rhaid inni fod yn benderfynol o gadw’n ffyddlon bob dydd. Ystyria beth ddywedodd y Brawd Maxwell Friend, a wasanaethodd fel hyfforddwr yn Ysgol Feiblaidd Gilead y Watchtower. Mewn cynulliad rhyngwladol, dywedodd y Brawd Maxwell, mewn anerchiad am ffyddlondeb: “Paid â gohirio tan yfory beth gelli di ei wneud neu ei ddweud heddiw. A wyt ti’n siŵr y bydd ’na yfory? Byw bob dydd fel petai dyma dy gyfle olaf i ddangos dy fod ti’n deilwng o fyw am byth.” Gad inni fyw pob dydd fel petai’n gyfle olaf inni gadw ein ffyddlondeb! Yna, hyd yn oed os byddwn ni’n marw, byddwn ni’n gallu dweud, “Jehofa, dw i wedi gwneud fy ngorau glas i aros yn ffyddlon, i brofi Satan yn gelwyddgi, i sancteiddio dy enw, ac i gefnogi dy sofraniaeth!”

“DW I’N RHOI FY YSBRYD YN DY DDWYLO DI”

15. Yn ôl Luc 23:46, beth roedd Iesu’n sicr ohono?

15 Beth ddywedodd Iesu? (Darllen Luc 23:46.) Yn gwbl hyderus, dywedodd Iesu: “Dw i’n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di.” Gwyddai Iesu fod ei ddyfodol yn dibynnu ar Jehofa, ac roedd yn sicr y byddai ei Dad yn ei gofio.

16. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Joshua?

16 Beth gallwn ni ei ddysgu o eiriau Iesu? Bydda’n barod i roi dy fywyd yn nwylo Jehofa. Er mwyn gwneud hynny, “trystia’r ARGLWYDD yn llwyr.” (Diar. 3:5) Ystyria esiampl Joshua, Tyst 15 mlwydd oed â salwch terfynol. Gwrthododd dderbyn triniaethau meddygol a fyddai’n mynd yn erbyn cyfraith Duw. Yn fuan cyn iddo farw, dywedodd wrth ei fam: “Mam, dw i yn nwylo Jehofa. . . . Galla i ddweud hyn wrthot ti, Mam, heb unrhyw amheuaeth: Dw i’n gwybod bydd Jehofa yn bendant yn dod â mi yn ôl yn yr atgyfodiad. Mae o wedi darllen fy nghalon i, ac yn gwybod fy mod i’n wir yn ei garu.” * Byddai’n dda inni i gyd ofyn i ni’n hunain, ‘Petaswn i’n wynebu sefyllfa sy’n rhoi fy mywyd yn y fantol ac yn profi fy ffydd, a fyddwn i’n rhoi fy mywyd yn nwylo Jehofa, yn hollol sicr y bydd yn fy nghofio i?’

17-18. Pa wersi rydyn ni wedi eu dysgu? (Gweler hefyd y blwch “ Beth Rydyn Ni’n ei Ddysgu o Eiriau Olaf Iesu?”)

17 Am wersi pwysig gallwn ni eu dysgu o eiriau olaf Iesu! Cawn ein hatgoffa o’r angen i faddau i eraill ac i fod yn sicr y bydd Jehofa’n maddau i ni. Mae’n fraint cael teulu ysbrydol o frodyr a chwiorydd sy’n barod i’n helpu. Ond pan fyddwn ni angen help, mae’n rhaid inni ofyn amdano. Gwyddwn y bydd Jehofa yn ein helpu i oddef unrhyw dreial a wynebwn. Ac rydyn ni’n gweld pwysigrwydd byw pob dydd fel petai dyna ein cyfle olaf i brofi ein bod ni’n ffyddlon, yn gwbl sicr bod ein bywyd yn ddiogel yn nwylo Jehofa.

18 Yn sicr, mae’r geiriau a ddywedodd Iesu wrth iddo farw ar y stanc yn llawn ystyr! Drwy roi’r gwersi rydyn ni wedi eu dysgu ar waith, byddwn ni’n ufuddhau i eiriau Jehofa ei hun ynglŷn â’i Fab: “Gwrandwch arno!”—Math. 17:5.

CÂN 126 Byddwch Effro, Byddwch yn Wrol!

^ Par. 5 Fel mae Mathew 17:5 yn dweud wrthon ni, mae Jehofa eisiau inni wrando ar ei Fab. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod nifer o’r gwersi gallwn ni eu dysgu o eiriau Iesu pan oedd yn marw ar y pren.

^ Par. 9 Am drafodaeth o’r rhesymau posib pam gwnaeth Iesu ddyfynnu o Salm 22:1, gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y rhifyn hwn.

^ Par. 16 Gweler yr erthygl Joshua’s Faith—A Victory for Children’s Rightsyn rhifyn Ionawr 22, 1995 y Deffrwch! Saesneg.