Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 16

Parha i Werthfawrogi’r Pridwerth

Parha i Werthfawrogi’r Pridwerth

“Des i [Mab y Dyn] . . . i aberthu fy mywyd er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.”—MARC 10:45.

CÂN 18 Gwerthfawrogi’r Pridwerth

CIPOLWG *

1-2. Beth ydy’r pridwerth, a pham rydyn ni ei angen?

PAN bechodd y dyn perffaith, Adda, collodd y cyfle i fyw am byth, nid yn unig iddo ef ei hun, ond hefyd i’w holl ddisgynyddion. Doedd dim esgus dros beth wnaeth Adda. Roedd ei bechod yn fwriadol. Ond beth am ei blant? Chawson nhw ddim rhan ym mhechod Adda. (Rhuf. 5:12, 14) Roedd Adda’n haeddu marw, ond a oedd unrhyw fodd achub ei ddisgynyddion rhag yr un ddedfryd? Oedd! Yn fuan ar ôl i Adda bechu, dangosodd Jehofa fesul tipyn sut byddai’n achub miliynau o ddisgynyddion Adda rhag pechod a marwolaeth. (Gen. 3:15) Ar ei amser penodedig, byddai Jehofa yn anfon ei Fab o’r nef i aberthu ei fywyd “er mwyn talu’r pris i ryddhau llawer o bobl.”—Marc 10:45; Ioan 6:51.

2 Beth ydy’r pridwerth? Yn yr Ysgrythurau Groeg, y pridwerth yw’r pris a dalodd Iesu i brynu’n ôl yr hyn a gollodd Adda. (1 Cor. 15:22) Pam rydyn ni angen y pridwerth? Oherwydd yn ôl y gyfraith, roedd safonau Jehofa ynglŷn â chyfiawnder yn gofyn bywyd am fywyd. (Ex. 21:23, 24) Collodd Adda ei fywyd dynol perffaith. Er mwyn bodloni cyfiawnder Duw, aberthodd Iesu ei fywyd dynol perffaith ei hun. (Rhuf. 5:17) Drwy hynny, mae’n dod yn ‘Dad Bythol’ i bawb sy’n dangos ffydd yn y pridwerth.—Esei. 9:6, BCND; Rhuf. 3:23, 24.

3. Yn ôl Ioan 14:31 ac 15:13, pam roedd Iesu’n fodlon aberthu ei fywyd dynol perffaith?

3 Am fod Iesu yn caru Jehofa a ninnau gymaint, roedd yn barod i aberthu ei fywyd droston ni. (Darllen Ioan 14:31; 15:13.) Wedi ei gymell gan y cariad hwnnw, roedd yn benderfynol o aros yn ffyddlon hyd y diwedd, ac i wneud ewyllys ei Dad. O ganlyniad, bydd pwrpas gwreiddiol Jehofa ar gyfer dynolryw a’r ddaear yn cael ei gyflawni. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam caniataodd Jehofa i Iesu ddioddef cymaint cyn iddo farw. Byddwn ni hefyd yn trafod yn fras esiampl un o ysgrifenwyr y Beibl a oedd yn gwerthfawrogi’r pridwerth yn fawr iawn. Ac yn olaf, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni ddangos ein diolchgarwch am y pridwerth a sut gallwn ni werthfawrogi’r aberth a wnaeth Jehofa ac Iesu droston ni yn fwy.

PAM ROEDD RHAID I IESU DDIODDEF?

Meddylia am yr holl gamdriniaeth roedd rhaid i Iesu oddef er mwyn talu’r pridwerth droston ni! (Gweler paragraff 4)

4. Disgrifia sut bu farw Iesu.

4 Dychmyga ddiwrnod olaf Iesu ar y ddaear. Er ei fod yn gallu galw ar luoedd o angylion i’w amddiffyn, mae’n gadael i filwyr Rhufeinig ei gipio, a’i guro’n ddidrugaredd. (Math. 26:52-54; Ioan 18:3; 19:1) Maen nhw’n defnyddio chwip sy’n rhwygo ei groen yn rhubannau. Wedyn, maen nhw’n ei orfodi i gario trawst ar ei gefn gwaedlyd. Mae Iesu yn dechrau llusgo’r stanc at y man dienyddio, ond yn fuan mae’r milwyr Rhufeinig yn gorfodi dyn oedd yn sefyll gerllaw i’w gario drosto. (Math. 27:32) Pan mae Iesu yn cyrraedd y man lle bydd yn marw, mae’r milwyr yn hoelio ei ddwylo a’i draed i’r stanc. Mae pwysau corff Iesu yn tynnu ar yr hoelion yn ei gnawd. Mae ei ffrindiau’n galaru ac mae ei fam yn wylo, ond mae’r arweinwyr Iddewig yn gwneud hwyl am ei ben. (Luc 23:32-38; Ioan 19:25) Mae un awr arteithiol yn dilyn y llall. Mae ’na straen ofnadwy ar ei galon a’i ysgyfaint, ac mae anadlu yn mynd yn anoddach. Gyda’i anadl olaf, mae’n yngan un weddi fuddugoliaethus olaf. Yna, mae’n plygu ei ben ac yn ildio ei fywyd. (Marc 15:37; Luc 23:46; Ioan 10:17, 18; 19:30) Roedd hi wir yn ffordd araf, boenus, a chywilyddus o farw!

5. I Iesu, beth oedd yn waeth na’r ffordd y cafodd ei ladd?

5 I Iesu, nid y ffordd y cafodd ei ddienyddio oedd rhan waethaf ei brofiad. Roedd yn gofidio mwy am y cyhuddiad oedd yn sail i’w ddienyddiad. Cafodd ei gyhuddo ar gam o fod yn gablwr—rhywun heb barch at Dduw na’i enw. (Math. 26:64-66) Roedd hyd yn oed meddwl am y cyhuddiad yn ei boeni gymaint roedd Iesu’n gobeithio y byddai ei Dad yn ei gadw rhag y fath gywilydd. (Math. 26:38, 39, 42) Pam gwnaeth Jehofa adael i’w Fab annwyl ddioddef a marw? Gad inni ystyried tri rheswm.

6. Pam roedd rhaid i Iesu gael ei grogi ar stanc artaith?

6 Yn gyntaf, roedd rhaid i Iesu gael ei grogi ar bren er mwyn rhyddhau’r Iddewon oddi wrth felltith. (Gal. 3:10, 13) Roedden nhw wedi cytuno i ufuddhau i gyfraith Duw ond wedi syrthio’n brin o’i chadw. Roedden nhw eisoes wedi eu condemnio i farwolaeth am eu bod nhw’n blant i Adda, ond roedd y felltith hon yn ychwanegol i hynny. (Rhuf. 5:12) Yn ôl cyfraith Duw i Israel, os oedd dyn wedi cyflawni pechod a oedd yn haeddu marwolaeth, roedd rhaid iddo gael ei ddienyddio. Wedyn, mewn rhai achosion, byddai’r corff yn cael ei grogi ar bren. * (Deut. 21:22, 23; 27:26) Felly, drwy gael ei grogi ar stanc, agorodd Iesu’r ffordd i’r union genedl wnaeth ei wrthod elwa ar ei aberth.

7. Beth yw ail reswm y caniataodd Duw i’w Fab ddioddef?

7 Ystyria ail reswm y caniataodd Duw i’w Fab ddioddef. Roedd yn hyfforddi Iesu ar gyfer ei rôl fel ein Harchoffeiriad yn y dyfodol. Cafodd Iesu brofiad o ba mor anodd yw hi i ufuddhau i Dduw yn wyneb treialon dwys. Teimlodd o dan gymaint o bwysau, gweddïodd am help “gan alw’n daer ac wylo.” Yn sicr, am ei fod wedi mynd trwy’r fath boen emosiynol, mae Iesu ei hun yn deall ein hanghenion ac “mae’n gallu’n helpu ni pan fyddwn ni’n wynebu temtasiwn.” Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Jehofa am benodi Archoffeiriad trugarog droston ni sy’n “deall yn iawn mor wan ydyn ni”!—Heb. 2:17, 18; 4:14-16; 5:7-10.

8. Beth yw trydydd rheswm y caniataodd Duw i Iesu wynebu treialon mor ddwys?

8 Yn drydydd, caniataodd Jehofa i Iesu ddioddef mor enbyd er mwyn ateb cwestiwn pwysig: A all bodau dynol aros yn ffyddlon i Jehofa dan dreialon dwys? Dim o gwbl, yn ôl Satan! Mae ef yn honni bod pobl yn gwasanaethu Duw am resymau hunanol. Ac mae’n credu nad ydyn nhw’n caru Jehofa, yn union fel Adda. (Job 1:9-11; 2:4, 5) Am fod Jehofa yn sicr y byddai Iesu’n aros yn ffyddlon, caniataodd i’w Fab gael ei brofi i’r eithaf. Cadwodd Iesu ei ffyddlondeb, gan brofi bod Satan yn gelwyddgi.

YSGRIFENNWR BEIBLAIDD A WERTHFAWROGODD Y PRIDWERTH YN FAWR

9. Pa esiampl a osododd yr apostol Ioan inni?

9 Mae ffydd llawer o Gristnogion wedi cael ei chryfhau gan ddysgeidiaeth y pridwerth. Maen nhw wedi dal ati i bregethu er gwaethaf gwrthwynebiad ac wedi mynd trwy bob math o dreialon drwy gydol eu bywydau. Ystyria esiampl yr apostol Ioan. Pregethodd y gwir am Grist a’r pridwerth yn ffyddlon, am dros 60 mlynedd mae’n debyg. Pan oedd yn ei 90au hwyr, roedd yr Ymerodraeth Rufeinig yn ei ystyried yn gymaint o fygythiad, cafodd ei garcharu ar ynys Patmos. Ei drosedd? ‘Cyhoeddi neges Duw a thystiolaethu am Iesu.’ (Dat. 1:9) Am esiampl ragorol o ffydd a dyfalbarhad!

10. Sut mae ysgrifau Ioan yn dangos ei fod yn gwerthfawrogi’r pridwerth?

10 Mae Ioan yn mynegi ei gariad dwfn tuag at Iesu a’i werthfawrogiad am y pridwerth yn ei lyfrau ysbrydoledig. Maen nhw’n cynnwys dros 100 o gyfeiriadau un ai at y pridwerth, neu at y bendithion mae’r pridwerth yn eu galluogi. Er enghraifft, ysgrifennodd Ioan: “Os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda’r Tad sy’n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy’n berffaith gyfiawn a da.” (1 Ioan 2:1, 2) Mae ysgrifau Ioan hefyd yn pwysleisio’r pwysigrwydd o “dystiolaethu ynglŷn â Iesu.” (Dat. 19:10, NWT) Yn amlwg, roedd Ioan yn gwerthfawrogi’r pridwerth yn fawr. Sut gallwn ni ddangos ein bod ninnau hefyd?

SUT GELLI DI DDANGOS DY FOD TI’N DDIOLCHGAR AM Y PRIDWERTH?

Os ydyn ni’n wir yn gwerthfawrogi’r pridwerth, byddwn ni’n gwrthod y temtasiwn i bechu (Gweler paragraff 11) *

11. Beth all ein helpu ni i wrthod temtasiwn?

11 Gwrthoda’r temtasiwn i bechu. Os ydyn ni’n wirioneddol yn gwerthfawrogi’r pridwerth, fyddwn ni ddim yn meddwl: ‘Does dim rhaid imi wneud llawer o ymdrech i wrthod temtasiwn. Mi fedra i bechu, ac yna wna i ofyn am faddeuant.’ Yn hytrach, pan gawn ein temtio i wneud rhywbeth anghywir, byddwn ni’n dweud: ‘Na! Allwn i byth wneud y fath beth ar ôl popeth mae Jehofa ac Iesu wedi ei wneud drosto i.’ Yn unol â hynny, gallwn ni ofyn i Jehofa am nerth gan erfyn arno: ‘Cadwa fi rhag syrthio i demtasiwn.’—Math. 6:13.

12. Sut gallwn ni roi cyngor 1 Ioan 3:16-18 ar waith?

12 Cara dy frodyr a chwiorydd. Pan ddangoswn y fath gariad, rydyn ni hefyd yn dangos gwerthfawrogiad am y pridwerth. Pam? Oherwydd rhoddodd Iesu ei fywyd, nid yn unig droston ni, ond hefyd dros ein brodyr a chwiorydd. Os oedd ef yn fodlon marw drostyn nhw, mae’n amlwg eu bod nhw’n werthfawr iawn yn ei olwg. (Darllen 1 Ioan 3:16-18.) Dangoswn ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn y ffordd rydyn ni’n eu trin nhw. (Eff. 4:29, 31–5:2) Er enghraifft, byddwn ni’n eu helpu nhw pan fyddan nhw’n sâl, neu’n wynebu treialon dwys, gan gynnwys trychinebau naturiol. Ond beth dylen ni ei wneud pan fydd brawd neu chwaer yn y gynulleidfa yn dweud neu’n gwneud rhywbeth sy’n ein pechu ni?

13. Pam dylen ni fod yn faddeugar?

13 A wyt ti’n dueddol o ddal dig yn erbyn cyd-grediniwr? (Lef. 19:18) Os felly, dilyna’r cyngor hwn: “Byddwch yn oddefgar, a maddau i eraill pan dych chi’n meddwl eu bod nhw ar fai. Maddeuwch chi i bobl eraill yn union fel mae’r Arglwydd wedi maddau i chi.” (Col. 3:13) Bob tro rydyn ni’n maddau i frawd neu chwaer, rydyn ni’n profi i’n Tad nefol ein bod ni’n wir yn gwerthfawrogi’r pridwerth. Sut gallwn ni barhau i werthfawrogi’r rhodd hon gan Dduw yn fwy byth?

SUT GELLI DI WERTHFAWROGI’R PRIDWERTH YN FWY BYTH?

14. Beth yw un ffordd y gallwn ni werthfawrogi’r pridwerth yn fwy byth?

14 Diolcha i Jehofa am y pridwerth. “Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig sôn am y pridwerth bob dydd yn fy ngweddïau a diolch i Jehofa amdano,” meddai chwaer 83 mlwydd oed o’r enw Joanna, sy’n byw yn India. Yn dy weddïau personol, meddylia am gamgymeriadau penodol rwyt ti wedi eu gwneud yn ystod y dydd a gofynna i Jehofa faddau iti. Wrth gwrs, os wyt ti wedi pechu’n ddifrifol, bydd angen help yr henuriaid arnat ti hefyd. Byddan nhw’n gwrando arnat ti ac yn rhoi cyngor cariadus o Air Duw. Byddan nhw’n gweddïo gyda ti, gan ofyn i Jehofa dy faddau er mwyn iti gael bod yn ysbrydol iach unwaith eto.—Iago 5:14-16.

15. Pam dylen ni gymryd amser i ddarllen am y pridwerth a myfyrio arno?

15 Myfyria ar y pridwerth. “Bob tro dw i’n darllen am ddioddefaint Iesu,” meddai chwaer 73 mlwydd oed o’r enw Rajamani, “mae fy llygaid yn llenwi â dagrau.” Efallai byddi dithau hefyd yn emosiynol o feddwl am gymaint gwnaeth Mab Duw ddioddef. Y mwyaf y byddi di’n myfyrio ar aberth Iesu, y mwyaf y byddi di’n ei garu ef a’i Dad. Er mwyn dy helpu i fyfyrio ar y pridwerth, beth am wneud y pwnc yn brosiect astudio arbennig?

Gan ddefnyddio pryd syml, dangosodd Iesu i’w ddisgyblion sut i gofio ei aberth (Gweler paragraff 16)

16. Sut gall dysgu eraill am y pridwerth fod o fudd inni? (Gweler y llun ar y clawr.)

16 Dysga eraill am y pridwerth. Bob tro byddwn ni’n dweud wrth eraill am y pridwerth, bydd ein gwerthfawrogiad amdano yn tyfu. Mae gynnon ni adnoddau gwych i’w defnyddio er mwyn dysgu eraill pam roedd rhaid i Iesu farw droston ni. Er enghraifft, gallen ni ddefnyddio gwers 4 y llyfryn Newyddion Da Oddi Wrth Dduw! Teitl y wers honno ydy “Pwy Yw Iesu Grist?” Neu gallen ni gyfeirio at bennod 5 y llyfr Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl? Teitl y bennod honno yw “Y Pridwerth—Rhodd Fwyaf Duw.” A phob blwyddyn, rydyn ni’n gwerthfawrogi’r pridwerth yn fwy drwy fynychu Coffadwriaeth marwolaeth Iesu a thrwy wahodd eraill yn selog i ymuno â ni. Mae dysgu eraill am ei Fab yn bendant yn fraint gan Jehofa!

17. Pam mai’r pridwerth yw rhodd fwyaf Duw i ddynolryw?

17 Heb os, mae gynnon ni reswm da dros feithrin gwerthfawrogiad am y pridwerth a pharhau i wneud hynny. Oherwydd y pridwerth, gallwn gael perthynas agos â Jehofa er ein bod ni’n amherffaith. Oherwydd y pridwerth, bydd gwaith y Diafol yn cael ei ddinistrio’n llwyr. (1 Ioan 3:8) Oherwydd y pridwerth, bydd pwrpas gwreiddiol Jehofa ar gyfer y ddaear yn cael ei gyflawni. Daw’r blaned gyfan yn baradwys. Bydd pawb rwyt ti’n eu cyfarfod yn caru Jehofa ac yn ei wasanaethu. Felly, gad inni edrych am ffyrdd bob dydd i ddangos ein gwerthfawrogiad am y pridwerth—rhodd fwyaf Duw i ddynolryw!

CÂN 20 Rhoist Dy Ffyddlon Fab

^ Par. 5 Pam gwnaeth Iesu ddioddef marwolaeth erchyll? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiwn hwnnw. Bydd hefyd yn ein helpu i werthfawrogi’r pridwerth yn fwy byth.

^ Par. 6 Roedd hi’n arferiad Rhufeinig i hoelio neu glymu troseddwyr i stanc tra oedden nhw’n fyw, a chaniataodd Jehofa i’w Fab gael ei ladd yn y ffordd honno.

^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae pob brawd yn gwrthod temtasiwn—i edrych ar luniau anweddus, i ysmygu tybaco, neu i dderbyn cildwrn.