Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 17

Mae Jehofa yn Dy Drysori Di!

Mae Jehofa yn Dy Drysori Di!

“Mae’r ARGLWYDD wrth ei fodd gyda’i bobl!”—SALM 149:4.

CÂN 108 Cariad Ffyddlon Duw

CIPOLWG *

Mae ein Tad nefol “wrth ei fodd” gyda phob un ohonon ni (Gweler paragraff 1)

1. Beth mae Jehofa yn sylwi yn ei bobl?

MAE Jehofa Dduw “wrth ei fodd gyda’i bobl.” (Salm 149:4) Dyna iti beth hyfryd! Mae Jehofa’n sylwi ar ein rhinweddau da; mae’n gweld ein potensial, ac mae’n ein tynnu ni tuag ato. Os arhoswn yn ffyddlon iddo, bydd ef yn aros yn agos aton ni am byth!—Ioan 6:44.

2. Pam mae rhai yn ei chael hi’n anodd credu bod Jehofa yn eu caru?

2 Efallai bydd rhai yn dweud, ‘Dw i’n gwybod bod Jehofa yn caru ei bobl fel grŵp, ond sut galla i fod yn sicr fod Jehofa yn fy ngharu i’n bersonol?’ Beth allai achosi i rywun ofyn y cwestiwn hwnnw? Dywedodd Oksana * a gafodd blentyndod trist: “O’n i’n hapus iawn pan ges i fy medyddio a dechrau arloesi. Ond 15 mlynedd yn ddiweddarach, ces i fy mhlagio gan atgofion poenus. Des i i’r casgliad fy mod i wedi colli ffafr Jehofa a do’n i ddim yn haeddu ei gariad.” Ac meddai arloeswraig o’r enw Yua a oedd hefyd wedi cael plentyndod anodd: “Wnes i gysegru fy mywyd i Jehofa am fy mod i eisiau ei wneud yn hapus. Ond o’n i’n hollol sicr na fyddai fo byth yn gallu fy ngharu.”

3. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

3 Fel y ddwy chwaer ffyddlon hynny, rwyt ti’n caru Jehofa yn fawr iawn ond efallai yn amau ei fod ef yn dy garu di. Pam rwyt ti angen bod yn hollol sicr ei fod ef yn wir yn dy garu di? A beth all dy helpu i ymdopi pan fydd meddyliau negyddol yn cael gafael arnat ti? Gad inni ystyried yr atebion i’r cwestiynau hyn.

MAE AMAU CARIAD DUW YN BERYGLUS

4. Pam mae hi’n beryglus i amau cariad Jehofa tuag aton ni?

4 Mae cariad yn rym pwerus sy’n ein sbarduno. Os ydyn ni’n hollol sicr o gariad a chefnogaeth Jehofa, cawn ein cymell i’w wasanaethu o’n holl galon er gwaethaf heriau bywyd. Ar y llaw arall, os ydyn ni’n amau cariad Duw, bydd “angen mwy o nerth” arnon ni. (Diar. 24:10) A phan fyddwn ni’n digalonni a cholli ffydd yng nghariad Duw, fydd gynnon ni mo’r nerth i wrthsefyll ymosodiadau Satan.—Eff. 6:16.

5. Pa effaith mae amau cariad Duw wedi ei chael ar rai?

5 Mae rhai Cristnogion yn ein hoes ni wedi gwanhau yn ysbrydol oherwydd amheuon. Dywedodd henuriad o’r enw James: “Er fy mod i’n gwasanaethu yn y Bethel ac yn mwynhau fy ngweinidogaeth mewn cynulleidfa iaith dramor, o’n i’n cwestiynu a oedd Jehofa yn wir yn derbyn fy aberthau. Ar un adeg, wnes i hyd yn oed gwestiynu a oedd Jehofa yn gwrando ar fy ngweddïau.” Dywedodd Eva, sydd hefyd yn gwasanaethu’n llawn amser: “Des i i ddeall bod amau cariad Jehofa yn beryglus am ei fod yn dy anfon i lawr llethr llithrig. Mae hyn yn effeithio ar dy awydd i wneud pethau ysbrydol ac yn tanseilio dy lawenydd yng ngwasanaeth Jehofa.” Mae Michael, arloeswr llawn amser a henuriad yn dweud: “Os nad wyt ti’n credu bod Jehofa yn dy garu di, byddi di’n drifftio i ffwrdd oddi wrtho.”

6. Beth dylen ni ei wneud pan fydd amheuon am gariad Duw yn codi yn ein meddyliau?

6 Mae’r profiadau hyn yn dangos pa mor niweidiol gall meddwl yn negyddol fod i’n ffydd. Ond beth dylen ni ei wneud pan fydd amheuon am gariad Duw yn ffeindio eu ffordd i’n meddyliau? Mae’n rhaid inni eu gwrthod yn syth! Gofynna i Jehofa dy helpu i ddisodli’r hyn sydd yn dy boeni gyda’r “heddwch perffaith mae Duw’n ei roi” a fydd ‘yn gwarchod dy galon a dy feddwl.’ (Salm 139:23; Phil. 4:6, 7) A chofia, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae brodyr a chwiorydd ffyddlon eraill yn brwydro teimladau negyddol hefyd. Roedd hyd yn oed gweision Jehofa yn y gorffennol yn gorfod delio â’r fath heriau. Ystyria beth gallwn ni ddysgu oddi wrth esiampl yr apostol Paul.

YR HYN A DDYSGWN O BROFIAD PAUL

7. Pa broblemau a wynebodd Paul?

7 Wyt ti weithiau’n teimlo bod llawer o gyfrifoldebau yn pwyso’n drwm arnat ti, a dy fod yn methu ymdopi â nhw? Os felly, byddi di’n deall Paul. Roedd yn pryderu, nid am un gynulleidfa yn unig, ond “am yr eglwysi i gyd.” (2 Cor. 11:23-28) Ydy problemau iechyd hirdymor yn dwyn dy lawenydd? Roedd Paul yn “dioddef poenau corfforol,” neu anhwylder o ryw fath, ac roedd yn dymuno’n arw i gael gwared ohono. (2 Cor. 12:7-10) A wyt ti’n digalonni oherwydd dy amherffeithion? Roedd Paul ar brydiau hefyd. Galwodd ei hun yn ddyn digalon oherwydd ei frwydr ddi-baid yn erbyn ei amherffeithion ei hun.—Rhuf. 7:21-24.

8. Beth helpodd Paul i ddelio â’i broblemau?

8 Er bod Paul wedi wynebu’r holl broblemau hyn, daliodd ati i wasanaethu Jehofa. Sut cafodd y nerth i wneud hynny? Er ei fod yn ymwybodol iawn o’i amherffeithion, roedd ganddo ffydd gadarn yn y pridwerth. Roedd yn gyfarwydd ag addewid Iesu y byddai ‘pwy bynnag sy’n credu ynddo yn cael bywyd tragwyddol.’ (Ioan 3:16; Rhuf. 6:23) Roedd Paul yn sicr ymysg y rhai oedd â ffydd yn y pridwerth. Roedd yn gwbl sicr fod Jehofa yn fodlon maddau hyd yn oed i’r rhai sydd wedi pechu’n ddifrifol os ydyn nhw’n edifar.—Salm 86:5.

9. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o eiriau Paul yn Galatiaid 2:20?

9 Roedd gan Paul ffydd yng ngrym cariad Duw am ei fod yn gwybod bod Duw wedi anfon Iesu i farw drosto. (Darllen Galatiaid 2:20.) Sylwa ar y geiriau calonogol ar ddiwedd yr adnod honno. Dywedodd Paul: Mae “Mab Duw . . . wedi fy ngharu i a rhoi ei hun yn aberth yn fy lle i.” Wnaeth Paul ddim cyfyngu ar gariad Duw, a dweud i bob pwrpas, ‘Galla i weld pam byddai Jehofa yn caru fy mrodyr, ond does dim gobaith y bydd yn fy ngharu i.’ Atgoffodd Paul y Rhufeiniaid: Buodd y “Meseia farw droson ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn.” (Rhuf. 5:8) Does dim terfyn ar gariad Duw!

10. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Rhufeiniaid 8:38, 39?

10 Darllen Rhufeiniaid 8:38, 39. Roedd Paul yn gwbl sicr o rym cariad Duw. Ysgrifennodd na fydd unrhyw beth “yn gallu’n gwahanu ni oddi wrth gariad Duw.” Gwyddai Paul sut roedd Jehofa wedi delio’n amyneddgar â chenedl Israel. Gwyddai hefyd sut roedd Jehofa wedi dangos trugaredd tuag ato. Felly mewn geiriau eraill roedd Paul yn dweud, ‘Gan fod Jehofa wedi anfon ei Fab ei hun i farw drosto i, oes gen i unrhyw reswm dros amau ei gariad?’—Rhuf. 8:32.

Beth sy’n cyfri i Dduw yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud nawr ac yn y dyfodol, nid camgymeriadau ein gorffennol (Gweler paragraff 11) *

11. Er bod Paul wedi cyflawni’r fath bechodau sydd yn 1 Timotheus 1:12-15, pam roedd yn sicr fod Duw yn ei garu?

11 Darllen 1 Timotheus 1:12-15. Mae’n rhaid fod Paul wedi cael ei dormentio gan ei orffennol ar adegau. Cyfeiriodd at ei hun fel y pechadur “gwaetha,” a does dim rhyfedd! Cyn iddo ddod i wybod am y gwir, roedd Paul yn erlid y Cristnogion yn ddi-baid yn un ddinas ar ôl y llall, gan roi rhai yn y carchar a phleidleisio dros ddienyddio eraill. (Act. 26:10, 11) Elli di ddychmygu sut byddai Paul wedi teimlo petai’n cyfarfod Cristion ifanc ac yn sylweddoli ei fod wedi pleidleisio dros ladd ei rieni? Roedd Paul yn difaru ei gamgymeriadau, ond gwyddai na allai newid y gorffennol. Credodd fod Crist wedi marw drosto, ac ysgrifennodd yn hyderus: “Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i, drwy dywallt ei haelioni arna i.” (1 Cor. 15:3, 10) Beth yw’r wers i ni? Derbynia fod Crist wedi marw drostot ti ac wedi ei gwneud hi’n bosib iti gael perthynas agos a phersonol â Jehofa. (Act. 3:19) Beth sy’n cyfri i Dduw yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud nawr ac yn y dyfodol, nid camgymeriadau ein gorffennol, p’un a oedden ni’n un o Dystion Jehofa ar y pryd neu beidio.—Esei. 1:18.

12. Sut gall geiriau 1 Ioan 3:19, 20 ein helpu ni os ydyn ni’n teimlo’n ddiwerth a bod neb yn ein caru?

12 Pan fyddi di’n meddwl am Iesu’n marw dros dy bechodau, efallai y byddi di’n meddwl, ‘Dw i ddim yn teimlo fy mod i’n haeddu’r anrheg honno.’ Pam gallet ti deimlo felly? Gall ein calon amherffaith ein twyllo, gan wneud inni deimlo’n ddiwerth a bod neb yn ein caru. (Darllen 1 Ioan 3:19, 20, BCND.) Ar adegau felly, mae’n rhaid inni gofio fod “Duw yn fwy na’n calon.” Mae cariad a maddeuant ein tad nefol yn llawer cryfach nag unrhyw deimladau negyddol a allai fod yn llechu yn ein calonnau. Rydyn ni angen dysgu derbyn y ffordd mae Jehofa’n ein gweld ni. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid inni astudio’i Air yn aml, gweddïo arno’n gyson, a chymdeithasu’n rheolaidd â’i bobl ffyddlon. Pam mae gwneud y pethau hynny mor bwysig?

SUT GALL ASTUDIO’R BEIBL, GWEDDI, A FFRINDIAU FFYDDLON EIN HELPU

13. Sut gall myfyrio ar Air Duw ein helpu ni? (Gweler hefyd y blwch “ Sut Mae Gair Duw yn eu Helpu Nhw.”)

13 Astudia Air Duw bob dydd, a byddi di’n gweld personoliaeth gynnes Jehofa yn gliriach. Byddi di’n deall cymaint mae’n dy garu di. Gall myfyrio ar Air Duw bob dydd dy helpu di i feddwl yn gliriach a bydd yn “cywiro syniadau anghywir” yn dy feddwl a dy galon. (2 Tim. 3:16) Dywedodd henuriad o’r enw Kevin a oedd yn brwydro â theimladau o fod yn ddiwerth: “Mae darllen Salm 103 a myfyrio arni wedi fy helpu i gywiro fy ffordd o feddwl a deall sut mae Jehofa’n teimlo amdana i mewn gwirionedd.” Dywedodd Eva, a soniwyd amdani ynghynt: “Ar ddiwedd y dydd byddaf yn cymryd amser i fyfyrio ar feddyliau Jehofa. Mae hyn yn tawelu fy nghalon ac yn cryfhau fy ffydd.”

14. Sut gall gweddi ein helpu?

14 Gweddïa’n gyson. (1 Thes. 5:17) Er mwyn meithrin cyfeillgarwch cryf â rhywun, mae’n rhaid cyfathrebu’n aml o’r galon. Mae’r un peth yn wir am ein cyfeillgarwch â Jehofa. Pan fyddwn ni’n mynegi ein teimladau, ein meddyliau, a’n pryderon iddo mewn gweddi, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ei drystio ac yn gwybod ei fod yn ein caru. (Salm 94:17-19; 1 Ioan 5:14, 15) Dywedodd Yua, a ddyfynnwyd ynghynt: “Pan fydda i’n gweddïo, bydda i’n ceisio gwneud mwy nag adrodd digwyddiadau’r diwrnod. Bydda i’n agor fy nghalon i Jehofa gan adael iddo wybod yn union sut dw i’n teimlo. Fesul dipyn, dw i wedi dod i weld Jehofa, nid fel rheolwr cwmni mawr, ond fel Tad sy’n caru ei blant yn fawr iawn.”—Gweler y blwch “ A Wyt Ti Wedi ei Ddarllen?

15. Sut mae Jehofa’n dangos diddordeb personol ynon ni?

15 Cymdeithasa â ffrindiau ffyddlon; maen nhw’n anrheg gan Jehofa. (Iago 1:17) Mae ein Tad nefol yn dangos diddordeb personol ynon ni drwy roi teulu ysbrydol o frodyr a chwiorydd inni sy’n dangos cariad “ffyddlon bob amser.” (Diar. 17:17) Yn ei lythyr at y Colosiaid, soniodd Paul am rai Cristnogion oedd wedi ei gefnogi, gan eu galw’n “gysur mawr.” (Col. 4:10, 11) Roedd hyd yn oed Iesu Grist angen cefnogaeth ei ffrindiau—angylion a bodau dynol—ac roedd yn falch iawn o’i chael.—Luc 22:28, 43.

16. Sut gall ffrindiau ffyddlon ein helpu i glosio at Jehofa?

16 A wyt ti’n elwa’n llawn ar rodd Jehofa o ffrindiau ffyddlon? Dydy rhannu ein pryderon â ffrind aeddfed ddim yn arwydd o wendid; gall ein hamddiffyn. Ystyria beth ddywedodd James, a ddyfynnwyd ynghynt: “Mae cyfeillgarwch â Christnogion aeddfed wedi fy helpu’n fawr iawn. Pan fydd meddyliau negyddol yn fy llethu, mae’r ffrindiau annwyl hyn yn gwrando’n amyneddgar ac yn fy atgoffa eu bod nhw’n fy ngharu i. Trwyddyn nhw, dw i’n gweld gymaint mae Jehofa yn fy ngharu ac yn gofalu amdana i.” Mae hi’n hynod o bwysig ein bod ni’n closio at ein brodyr a chwiorydd!

ARHOSA YNG NGHARIAD JEHOFA

17-18. Ar bwy dylen ni wrando, a pham?

17 Mae Satan eisiau inni roi’r gorau i frwydro i wneud yr hyn sy’n iawn. Mae eisiau inni gredu nad ydy Jehofa yn ein caru ni, ac nad ydyn ni’n werth ein hachub. Ond fel rydyn ni wedi ei weld, allai hynny ddim bod ymhellach o’r gwir.

18 Mae Jehofa yn dy garu di. Rwyt ti’n drysor gwerthfawr yn ei olwg ef. Os byddi di’n ufuddhau iddo, byddi di’n “aros yn ei gariad” am byth, fel y mae Iesu. (Ioan 15:10) Felly paid â gwrando ar Satan na dy galon dwyllodrus. Yn hytrach, gwranda ar Jehofa, sy’n gweld y da ym mhob un ohonon ni. Bydda’n hollol sicr ei fod “wrth ei fodd gyda’i bobl,” gan gynnwys ti!

CÂN 141 Gwyrth Bywyd

^ Par. 5 Mae rhai o’n brodyr a chwiorydd yn ei chael hi’n anodd credu y gallai Jehofa eu caru nhw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam gallwn fod yn hollol sicr fod Jehofa yn caru pob un ohonon ni. Byddwn ni hefyd yn edrych ar sut gallwn ni drechu unrhyw amheuon ynglŷn â’i gariad tuag aton ni.

^ Par. 2 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 67 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn y gorffennol, anfonodd Paul lawer o Gristnogion i’r carchar. Unwaith iddo dderbyn beth wnaeth Iesu drosto, newidiodd ei agwedd ac annog ei frodyr Cristnogol. Efallai roedd ef wedi erlid rhai o’u perthnasau.