Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 20

Cadwa Agwedd Bositif Tuag at Dy Weinidogaeth

Cadwa Agwedd Bositif Tuag at Dy Weinidogaeth

“Hau dy had . . . a phaid â gorffwys.”—PREG. 11:6, BCND.

CÂN 70 Chwiliwch am Rai Teilwng

CIPOLWG *

Ar ôl i Iesu fynd i’r nef, mae ei ddisgyblion yn pregethu’n selog yn Jerwsalem a thu hwnt (Gweler paragraff 1)

1. Pa esiampl osododd Iesu i’w ddilynwyr, a sut gwnaethon nhw ymateb? (Gweler y llun ar y clawr.)

CADWODD Iesu agwedd bositif drwy gydol ei weinidogaeth ar y ddaear, ac mae ef eisiau i’w ddilynwyr aros yn bositif am y weinidogaeth hefyd. (Ioan 4:35, 36) Tra oedd Iesu gyda’i ddisgyblion, roedden nhw’n selog yn y gwaith pregethu. (Luc 10:1, 5-11, 17) Ond pan gafodd Iesu ei arestio a’i ladd, collodd y disgyblion eu hawydd i bregethu am gyfnod. (Ioan 16:32) Ar ôl ei atgyfodiad, gwnaeth Iesu eu hannog i ganolbwyntio ar bregethu. Ac ar ôl iddo esgyn i’r nef, gwnaethon nhw bregethu â chymaint o sêl roedd eu gelynion yn cwyno: “Dych chi wedi bod yn dweud wrth bawb yn Jerwsalem amdano!”—Act. 5:28.

2. Sut mae Jehofa wedi bendithio’r gwaith pregethu?

2 Roedd Iesu yn arwain y Cristnogion cynnar wrth iddyn nhw bregethu, a gwnaeth Jehofa eu bendithio â thyfiant. Er enghraifft, ym Mhentecost 33 OG, cafodd tua 3,000 eu bedyddio. (Act. 2:41) A pharhaodd nifer y disgyblion i gynyddu cryn dipyn. (Act. 6:7) Eto, rhagfynegodd Iesu y byddai’r gwaith pregethu yn cael hyd yn oed mwy o lwyddiant yn y dyddiau diwethaf.—Ioan 14:12; Act. 1:8.

3-4. Pam gall pregethu fod yn anodd mewn rhai llefydd, a beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

3 Mae pob un ohonon ni yn ceisio cadw agwedd bositif tuag at y weinidogaeth. Mae’n hawdd gwneud hynny mewn rhai gwledydd. Pam? Oherwydd bod cymaint o bobl eisiau astudiaeth Feiblaidd mae’n rhaid i rai ohonyn nhw ddisgwyl nes bod Tyst ar gael! Ond mewn llefydd eraill, mae cyhoeddwyr yn cael y gwaith pregethu’n fwy o her; prin mae pobl gartref, ac yn aml mae’r rhai sydd gartref yn dangos fawr ddim diddordeb yn y Beibl.

4 Os wyt ti’n byw mewn ardal lle mae’r gwaith pregethu’n heriol, mae’n debyg bydd yr awgrymiadau yn yr erthygl hon yn dy helpu. Byddwn ni’n ystyried beth mae rhai wedi ei wneud i gysylltu â mwy o bobl yn eu gweinidogaeth. A byddwn ni’n trafod pam gallwn ni aros yn bositif p’un a ydy pobl yn gwrando ar ein neges neu beidio.

ARHOSA’N BOSITIF OS YDY POBL YN ANODD EU FFEINDIO

5. Pa heriau mae llawer o Dystion yn eu hwynebu?

5 Mae llawer o Dystion yn ei chael hi’n anoddach cael hyd i bobl yn eu cartrefi. Mae rhai cyhoeddwyr yn byw mewn ardaloedd lle mae ’na lawer o fflatiau â systemau diogelwch, neu gymunedau tu ôl i giatiau wedi eu cloi. Efallai y bydd ’na swyddog diogelwch wrth y drws sy’n rhwystro pobl rhag dod i mewn heb wahoddiad gan rywun sy’n byw yno. Gall cyhoeddwyr eraill fynd o ddrws i ddrws yn hawdd, ond ychydig o bobl sydd gartref. Mae cyhoeddwyr eraill eto yn pregethu mewn mannau gwledig neu anghysbell lle nad oes llawer o bobl yn byw. Efallai bydd y cyhoeddwyr yn teithio’n bell iawn i geisio cael hyd i un person, ac efallai na fydd hwnnw gartref wedi’r cwbl! Os wynebwn heriau fel hyn, mae’n rhaid inni beidio â rhoi’r gorau iddi. Beth gallwn ni ei wneud i ddod dros y fath rwystrau a chael gweinidogaeth ffrwythlon?

6. Sut mae pregethwyr yn debyg i bysgotwyr?

6 Cymharodd Iesu y gwaith pregethu â gwaith pysgotwr. (Marc 1:17) Gall rhai pysgotwyr fynd am ddyddiau heb gael hyd i bysgod. Ond yn hytrach na rhoi’r gorau iddi, maen nhw’n addasu. Maen nhw’n newid yr amser, y lleoliad, neu’r dull o bysgota. Gallwn ninnau wneud newidiadau tebyg yn ein gweinidogaeth. Ystyria’r awgrymiadau canlynol.

Wrth bregethu mewn ardaloedd lle nad oes llawer o bobl gartref fel arfer, ceisia gysylltu â nhw ar adegau gwahanol, mewn llefydd gwahanol, neu â dulliau gwahanol (Gweler paragraffau 7-10) *

7. Pa ganlyniadau gallwn ni eu cael o bregethu ar wahanol adegau?

7 Ceisia gael hyd i bobl ar adeg wahanol. Byddwn ni’n cael hyd i fwy o bobl os ydyn ni’n pregethu pan fyddan nhw’n fwy tebygol o fod gartref. Wedi’r cwbl, mae pawb yn mynd adref rywbryd! Mae llawer o frodyr a chwiorydd yn pregethu yn y prynhawn neu gyda’r nos am eu bod nhw’n dod o hyd i fwy o bobl. Ar ben hynny, efallai bydd deiliaid wedi ymlacio’n fwy ac yn fwy parod i siarad ar yr adegau hynny. Neu gallet ti geisio gwneud yr hyn mae henuriad o’r enw David yn ei wneud. Ar ôl iddo dreulio rywfaint o amser yn pregethu mewn un rhan o’r diriogaeth, bydd ef a’i bartner yn galw’n ôl ar y rhai wnaeth ddim ateb y drws y tro cyntaf. Dywedodd, “Dw i’n synnu cymaint o ddeiliaid sydd gartref pan fyddwn ni’n galw’r ail waith.” *

Wrth bregethu mewn ardaloedd lle nad oes llawer o bobl gartref fel arfer, ceisia gysylltu â nhw ar adegau gwahanol (Gweler paragraffau 7-8)

8. Sut gallwn ni roi Pregethwr 11:6 ar waith yn ein gweinidogaeth?

8 Dylen ni beidio â rhoi’r gorau iddi. Mae ein prif adnod yn ein hatgoffa o’r agwedd y dylen ni ei meithrin. (Darllen Pregethwr 11:6, BCND.) Wnaeth David, a soniwyd amdano gynt, ddim rhoi’r gorau iddi. Yn un tŷ, daeth o hyd i’r deiliad ar ôl ceisio sawl gwaith yn aflwyddiannus. Roedd y dyn eisiau trafod y Beibl a dywedodd, “Dw i wedi byw yma ers tua wyth mlynedd ac erioed wedi cyfarfod un o Dystion Jehofa wrth fy nrws.” Dywedodd David, “Yn fy mhrofiad i, pan gei di rywun gartref o’r diwedd, maen nhw’n aml yn barod i wrando ar ein neges.”

Wrth bregethu mewn ardaloedd lle nad oes llawer o bobl gartref fel arfer, ceisia gysylltu â nhw mewn llefydd gwahanol (Gweler paragraff 9)

9. Sut mae rhai Tystion wedi cysylltu â phobl sy’n anodd eu ffeindio gartref?

9 Tria leoliad gwahanol. Er mwyn cyrraedd pobl sy’n anodd eu ffeindio gartref, mae rhai cyhoeddwyr yn pregethu mewn mannau gwahanol. Er enghraifft, mae gwaith stryd a throlïau llenyddiaeth wedi profi’n ddulliau effeithiol o gyfarfod pobl sy’n byw mewn blociau mawr o fflatiau lle nad ydy rhywun yn cael pregethu o ddrws i ddrws. Mae hyn yn galluogi’r Tystion i siarad wyneb yn wyneb â phobl sy’n byw yn yr adeiladau hynny. Hefyd, mae llawer o gyhoeddwyr wedi darganfod bod pobl yn fwy tebygol o sgwrsio neu dderbyn llenyddiaeth mewn parciau cyhoeddus, marchnadoedd, ac ardaloedd busnes. Dywedodd Floiran, arolygwr cylchdaith ym Molifia: “’Dyn ni’n mynd i’r marchnadoedd a’r busnesau rhwng 1 a 3 y pnawn pan fydd y gwerthwyr yn dueddol o fod yn llai prysur. Fel arfer, ’dyn ni’n cael sgyrsiau da a hyd yn oed yn cychwyn astudiaethau Beiblaidd.”

Wrth bregethu mewn ardaloedd lle nad oes llawer o bobl gartref fel arfer, ceisia gysylltu â nhw â dulliau gwahanol (Gweler paragraff 10)

10. Pa ddulliau gelli di eu defnyddio i gyrraedd pobl?

10 Tria ddull gwahanol. Dyweda dy fod ti wedi trio droeon i sgwrsio â rhywun wyneb yn wyneb. Rwyt ti wedi galw ar wahanol adegau ond yn dal heb gael hyd iddo gartref. Oes ’na ffyrdd eraill o gysylltu â’r unigolyn? Dywedodd Katarína, “Dw i’n ysgrifennu llythyrau personol i’r rhai dw i byth yn ffeindio gartref, gan fynegi’r hyn y byddwn i wedi ei ddweud wrthyn nhw wyneb yn wyneb.” Y pwynt? Ceisia gyrraedd pawb yn dy diriogaeth mewn un ffordd neu’i gilydd wrth iti wneud dy weinidogaeth bersonol.

ARHOSA’N BOSITIF PAN NAD OES GAN BOBL DDIDDORDEB

11. Pam nad oes gan rai pobl ddiddordeb yn ein neges?

11 Does gan rai pobl ddim diddordeb yn ein neges. Dydyn nhw ddim yn gweld yr angen am Dduw na’r Beibl. Dydyn nhw ddim yn credu yn Nuw am eu bod nhw’n gweld gymaint o ddioddefaint yn y byd. Maen nhw’n gwrthod y Beibl am eu bod yn gweld rhagrith yr arweinwyr crefyddol sy’n honni byw yn ôl y llyfr hwnnw. Mae sylw eraill yn cael ei dynnu gan eu gwaith, eu teulu, a’u problemau personol, ac felly maen nhw’n methu gweld sut gall y Beibl eu helpu. Sut gallwn ni gadw ein llawenydd pan na fydd y rhai rydyn ni’n pregethu iddyn nhw yn gweld gwerth ein neges?

12. Sut gall rhoi Philipiaid 2:4 ar waith ein helpu ni yn y weinidogaeth?

12 Dangosa ddiddordeb personol. Mae llawer nad oedd yn talu llawer o sylw i gychwyn wedi ymateb i’r newyddion da unwaith iddyn nhw deimlo bod gan gyhoeddwr ddiddordeb personol go iawn ynddyn nhw. (Darllen Philipiaid 2:4.) Er enghraifft, dywedodd David, a ddyfynnwyd yn gynt, “Os bydd rhywun yn dweud nad oes ganddo ddiddordeb, byddwn ni’n cadw ein Beibl a’n llenyddiaeth a dweud: ‘Ga i ofyn pam ’dych chi’n teimlo felly?’” Gall pobl synhwyro pan fydd gan rywun wir ddiddordeb ynddyn nhw. Efallai byddan nhw’n anghofio beth ddywedon ni, ond mae’n debyg y byddan nhw’n cofio sut roedden ni’n gwneud iddyn nhw deimlo. Hyd yn oed os na fydd y deiliad yn gadael inni siarad, gallwn ni ddangos drwy ein hagwedd a gwên gynnes bod gynnon ni ddiddordeb diffuant ynddyn nhw.

13. Sut gallwn ni addasu ein neges ar gyfer anghenion pob deiliad?

13 Rydyn ni’n dangos diddordeb personol pan fyddwn ni’n addasu ein neges i anghenion a diddordebau’r deiliad. Er enghraifft, oes ’na unrhyw beth sy’n dangos bod plant yn byw yn y tŷ? Efallai bydd gan y rhieni ddiddordeb yng nghyngor y Beibl ynglŷn â magu plant neu sut i gael bywyd teuluol hapusach. Oes ’na sawl clo ar eu drws? Efallai byddwn ni’n penderfynu siarad am drosedd neu’r ofn sy’n gyffredin yn y byd, wedi hynny, efallai bydd y deiliad yn hapus i wybod y bydd ’na ddiwedd i drosedd. Beth bynnag yw’r sefyllfa, ceisia helpu’r rhai sy’n gwrando i weld sut gall cyngor y Beibl eu helpu. Dywedodd Katarína, a soniwyd amdani gynt, “Dw i’n atgoffa fy hun o sut gwnaeth y gwir wella fy mywyd i.” O ganlyniad, mae Katarína yn siarad ag argyhoeddiad, ac mae’n siŵr fod y bobl mae hi’n siarad â nhw yn gallu synhwyro hynny.

14. Yn ôl Diarhebion 27:17, sut gall partneriaid pregethu helpu ei gilydd?

14 Elwa ar gymorth eraill. Yn y ganrif gyntaf, rhannodd Paul ei ddulliau o bregethu a dysgu â Timotheus, ac fe anogodd Timotheus i ddefnyddio’r dulliau hynny i helpu eraill. (1 Cor. 4:17) Fel Timotheus, gallwn ninnau ddysgu oddi wrth rai profiadol yn ein cynulleidfa. (Darllen Diarhebion 27:17.) Ystyria esiampl brawd o’r enw Shawn. Am gyfnod, arloesodd mewn ardal anghysbell lle roedd y rhan fwyaf o bobl yn fodlon â’u crefydd. Sut gwnaeth ef gadw ei lawenydd? “O’n i’n manteisio ar bob cyfle posib i weithio â rhywun,” meddai. “Bydden ni’n defnyddio’r amser teithio rhwng tai i helpu ein gilydd i wella ein sgiliau dysgu. Er enghraifft, bydden ni’n adolygu sut gwnaethon ni ddelio â galwad. Yna bydden ni’n trafod sut gallen ni ymateb yn wahanol petasai’r un sefyllfa yn codi eto.”

15. Pam mae gweddi’n hanfodol yn ein gweinidogaeth?

15 Gweddïa ar Jehofa am help. Gofynna i Jehofa am arweiniad bob tro rwyt ti’n cael rhan yn y weinidogaeth. Heb help ei ysbryd glân grymus, ni fyddai’r un ohonon ni yn gallu cyflawni unrhyw beth. (Salm 127:1; Luc 11:13) Pan fyddi di’n gofyn i Jehofa am help drwy weddi, bydda’n benodol. Er enghraifft, gofynna iddo dy arwain at unrhyw un sydd eisiau dysgu amdano ac sy’n barod i wrando. Yna gweithia’n unol â dy weddi drwy bregethu i bawb rwyt ti’n eu cyfarfod.

16. Pam mae astudiaeth bersonol yn hanfodol er mwyn bod yn effeithiol yn ein gweinidogaeth?

16 Gwna amser ar gyfer astudiaeth bersonol. Mae Gair Duw yn dweud: “Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.” (Rhuf. 12:2) Y mwyaf hyderus ydyn ni ein bod yn gwybod y gwir am Dduw, y mwyaf hyderus y byddwn ni wrth siarad ag eraill yn y weinidogaeth. Dywedodd Katarína, a soniwyd amdani gynt: “Beth amser yn ôl, wnes i sylweddoli mod i angen cryfhau fy ffydd yn rhai o ddysgeidiaethau sylfaenol y Beibl. Felly wnes i astudio’n fanwl y dystiolaeth fod ’na Greawdwr, mai’r Beibl yw Gair Duw, a bod gan Dduw gyfundrefn sy’n ei gynrychioli heddiw.” Dywedodd Katarína fod ei hastudiaeth bersonol wedi cryfhau ei ffydd ac wedi cynyddu ei llawenydd yn y weinidogaeth.

PAM RYDYN NI’N AROS YN BOSITIF YN EIN GWEINIDOGAETH

17. Pam arhosodd Iesu yn bositif yn ei weinidogaeth?

17 Arhosodd Iesu’n bositif a daliodd ati i bregethu er nad oedd rhai eisiau gwrando ar ei neges. Pam? Gwyddai cymaint roedd pobl angen gwybod y gwir, ac roedd eisiau rhoi’r cyfle i gymaint o bobl â phosib dderbyn neges y Deyrnas. Gwyddai hefyd y byddai rhai na ddangosodd ddiddordeb ar y cychwyn yn ymateb yn y pen draw. Ystyria beth ddigwyddodd yn ei deulu ei hun. Drwy gydol gweinidogaeth tair blynedd a hanner Iesu, ddaeth yr un o’i frodyr yn ddisgybl iddo. (Ioan 7:5) Ond eto, ar ôl ei atgyfodiad, fe ddaethon nhw’n Gristnogion.—Act. 1:14.

18. Pam rydyn ni’n dal ati i bregethu?

18 Dydyn ni ddim yn gwybod pwy fydd yn dod yn weision i Jehofa yn y pen draw. Mae rhai pobl yn cymryd hirach nag eraill i ymateb i’n neges. Mae hyd yn oed y rhai sy’n dewis peidio â gwrando arnon ni yn gweld ein hymddygiad da a’n hagwedd bositif, a hwyrach y byddan nhwthau, yn y pen draw, yn “dod i gredu.”—1 Pedr 2:12.

19. Yn ôl 1 Corinthiaid 3:6, 7, beth dylen ni ei gofio?

19 Er mai ni sy’n plannu a dyfrio, mae’n rhaid inni gofio mai Duw sy’n gwneud i’n gwaith lwyddo. (Darllen 1 Corinthiaid 3:6, 7.) Dywedodd Getahun, brawd sy’n gwasanaethu yn Ethiopia: “Am fwy nag 20 mlynedd, y fi oedd yr unig Dyst yn fy ardal i. Ond nawr mae ’na 14 cyhoeddwr yma. Cafodd 13 ohonyn nhw eu bedyddio, gan gynnwys fy ngwraig a thri o blant. Ar gyfartaledd mae 32 o bobl yn y cyfarfodydd.” Mae Getahun yn falch ei fod wedi dal ati i bregethu wrth iddo ddisgwyl yn amyneddgar i Jehofa ddenu pobl ddiffuant i’w gyfundrefn!—Ioan 6:44.

20. Ym mha ffordd rydyn ni fel achubwyr?

20 Mae Jehofa yn ystyried pob unigolyn yn werthfawr. Mae’n rhoi’r fraint inni o gydweithio â’i Fab i gasglu pobl o bob cenedl cyn i ddiwedd y system hon ddod. (Hag. 2:7) Gall ein gwaith pregethu gael ei gymharu â gwaith achub. Ac rydyn ni fel aelodau tîm achub sy’n cael eu hanfon i ryddhau pobl sy’n sownd dan y ddaear mewn pwll glo. Er mai ond ychydig o’r achubwyr ar y tîm sy’n cael hyd i rywun, mae pob un o’r gweithwyr yn gwneud gwaith pwysig. Mae’r un peth yn wir am y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ein gweinidogaeth. Wyddon ni ddim faint o bobl fydd eto’n cael eu hachub o system Satan. Ond gall Jehofa ddefnyddio unrhyw un ohonon ni i’w helpu. Dywedodd Andreas, sy’n byw ym Molifia, “Pan fydda i’n gweld rhywun yn dysgu’r gwir ac yn cael ei fedyddio, dw i’n sylweddoli mai gwaith tîm oedd yn gyfrifol am hyn.” Gad inni gadw’r un agwedd bositif tuag at ein gweinidogaeth. Os gwnawn ni hynny, bydd Jehofa yn ein bendithio ni, a bydd ein gweinidogaeth yn dod â llawenydd mawr inni.

CÂN 66 Cyhoeddwch y Newyddion Da

^ Par. 5 Sut gallwn ni aros yn bositif yn y weinidogaeth hyd yn oed pan fydd llawer o bobl ddim gartref neu ddim eisiau gwrando ar ein neges? Bydd yr erthygl hon yn rhoi awgrymiadau a all ein helpu i gadw agwedd bositif.

^ Par. 7 Dylai cyhoeddwyr ddefnyddio’r gwahanol ddulliau o bregethu sy’n cael eu trafod yn yr erthygl hon mewn ffordd sy’n cydymffurfio â deddfau diogelu data perthnasol.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: (o’r top i’r gwaelod): Mae gŵr a gwraig yn pregethu lle mae’n anodd cael pobl gartref. Mae’r deiliad cyntaf yn ei waith, mae’r ail yn yr ysbyty, ac mae’r trydydd allan yn siopa. Maen nhw’n cyrraedd y deiliad cyntaf drwy alw arno’n hwyrach yn y dydd. Maen nhw’n cyfarfod yr ail drwy bregethu’n gyhoeddus wrth ymyl yr ysbyty. Maen nhw’n cyrraedd y trydydd deiliad drwy roi galwad ffôn iddi.