Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 22

Helpa Dy Fyfyrwyr i Gael eu Bedyddio

Helpa Dy Fyfyrwyr i Gael eu Bedyddio

‘Cael eich bedyddio.’—ACT. 2:38.

CÂN 72 Gwneud Gwirionedd y Deyrnas yn Hysbys

CIPOLWG *

1. Beth dysgodd y dorf y dylen nhw ei wneud?

ROEDD tyrfa fawr o ddynion a merched o wahanol wledydd ac ieithoedd wedi dod at ei gilydd. Digwyddodd rhywbeth rhyfeddol y diwrnod hwnnw. Yn fwyaf sydyn, gallai grŵp o Iddewon cyffredin siarad holl ieithoedd yr ymwelwyr! Er mor syfrdanol oedd hynny, roedd yr hyn oedd yr Iddewon yn ei ddweud wrthyn nhw, a’r hyn ddywedodd yr apostol Pedr wrth bawb, yn fwy rhyfeddol byth. Dysgodd y dorf y gallan nhw gael eu hachub drwy ddangos ffydd yn Iesu Grist. Creodd y neges honno argraff fawr arnyn nhw. Cafodd y bobl eu cyffwrdd gymaint, dyma nhw’n gofyn: “Beth ddylen ni wneud?” Atebodd Pedr: ‘Cael eich bedyddio.’—Act. 2:37, 38.

Brawd, a’i wraig, yn cynnal astudiaeth Feiblaidd gyda dyn ifanc sydd â chopi caled o’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! (Gweler paragraff 2)

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon? (Gweler y llun ar y clawr.)

2 Roedd yr hyn a ddigwyddodd nesaf hefyd yn dipyn o ryfeddod. Cafodd tua 3,000 o unigolion eu bedyddio y diwrnod hwnnw, gan ddod yn ddisgyblion i Grist. Dyma oedd cychwyn y gwaith mawr o wneud disgyblion y gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr ei wneud. Mae’r gwaith hwnnw wedi ymestyn hyd yr 21ain ganrif. Heddiw, allwn ni ddim helpu rhywun i gyrraedd bedydd mewn ychydig o oriau yn unig. Gall gymryd misoedd, blwyddyn, neu fwy i fyfyriwr gyrraedd y nod hwnnw. Mae’n gofyn am ymdrech i helpu rhywun i ddod yn ddisgybl, ac mi wyt ti’n gwybod hynny’n iawn os wyt ti’n astudio’r Beibl gyda rhywun. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth gelli di ei wneud i helpu dy fyfyriwr i ddod yn ddisgybl bedyddiedig.

HELPA DY FYFYRIWR I ROI AR WAITH YR HYN MAE’N EI DDYSGU

3. Yn ôl Mathew 28:19, 20, beth sy’n rhaid i fyfyriwr ei wneud er mwyn cyrraedd bedydd?

3 Cyn cael ei fedyddio, mae’n rhaid i fyfyriwr y Beibl roi ar waith yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu. (Darllen Mathew 28:19, 20.) Pan fydd myfyriwr yn gwneud hynny, mae’n dod fel y “dyn call” yn eglureb Iesu a gloddiodd yn ddwfn i adeiladu ei dŷ ar graig solet. (Math. 7:24, 25; Luc 6:47, 48) Sut gallwn ni helpu myfyriwr i roi’r hyn mae’n ei ddysgu ar waith? Gad inni ystyried tri awgrym.

4. Sut gallwn ni helpu myfyriwr i wneud cynnydd cyson tuag at fedydd? (Gweler hefyd y blwch “ Helpa Dy Fyfyriwr i Osod Amcanion a’u Cyrraedd.”)

4 Helpa dy fyfyriwr i osod amcanion. Pam dylet ti wneud hynny? Ystyria’r eglureb hon: Petaset ti am fynd ar daith hir yn y car, efallai byddet ti’n penderfynu stopio mewn llefydd diddorol ar hyd y ffordd. Drwy wneud hynny, fyddet ti ddim yn poeni gymaint am y pellter. Mewn ffordd debyg, pan fydd myfyriwr yn gosod ac yn cyrraedd amcanion tymor byr, mae’n debyg y bydd yn sylweddoli bod y nod o gael ei fedyddio o fewn ei gyrraedd. Defnyddia’r blwch “Nod” yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! i helpu dy fyfyriwr i wneud cynnydd. Ar ddiwedd pob gwers, trafoda sut mae’r nod yn berthnasol i’r hyn mae dy fyfyriwr newydd ei ddysgu. Os oes gen ti nod gwahanol i awgrymu i dy fyfyriwr, ysgrifenna hwnnw yn y man wedi ei labelu “Nod arall.” Defnyddia’r adran hon o’r astudiaeth i adolygu a thrafod ei amcanion tymor byr a thymor hir.

5. Yn ôl Marc 10:17-22, beth wnaeth Iesu ddweud wrth ddyn cyfoethog ei wneud, a pham?

5 Helpa dy fyfyriwr i wneud newidiadau yn ei fywyd. (Darllen Marc 10:17-22.) Gwyddai Iesu y byddai hi’n anodd i ddyn cyfoethog werthu ei holl eiddo. (Marc 10:23) Ond eto, dywedodd Iesu wrth y dyn i wneud y newid mawr hwn yn ei fywyd. Pam? Oherwydd roedd Iesu’n ei garu. Ar adegau, efallai byddwn ni’n dal yn ôl rhag annog myfyriwr i roi’r hyn mae’n ei ddysgu ar waith am ein bod ni’n teimlo nad yw’n barod i wneud rhyw newid angenrheidiol. Efallai bydd hi’n cymryd amser i bobl roi’r gorau i hen arferion ac i wisgo’r bersonoliaeth newydd. (Col. 3:9, 10) Cynta’n y byd rwyt ti’n trafod y mater yn gwbl agored, cynta’n y byd gall y myfyriwr ddechrau newid. Drwy gael y drafodaeth honno, rwyt ti’n dangos dy fod ti’n ei garu.—Salm 141:5; Diar. 27:17.

6. Pam dylen ni ddefnyddio cwestiynau safbwynt?

6 Mae’n bwysig ein bod ni’n gofyn cwestiynau safbwynt i’n myfyriwr er mwyn cael ei farn ar y pwnc. Bydd hyn yn datgelu beth mae dy fyfyriwr yn ei ddeall ac yn ei gredu. Drwy wneud hyn yn rheolaidd, byddi di’n ei chael hi’n haws trafod pynciau sensitif ag ef yn y dyfodol. Mae’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! yn cynnwys llawer o gwestiynau safbwynt. Er enghraifft, mae gwers 04 yn gofyn: “Sut mae Jehofa yn teimlo pan fyddwch chi’n defnyddio ei enw?” Mae gwers 09 yn gofyn: “Pa bethau hoffech chi weddïo amdanyn nhw?” I gychwyn, efallai bydd dy fyfyriwr angen amser i feddwl sut i ateb cwestiynau safbwynt. Gelli di ei helpu drwy ei hyfforddi i resymu ar adnodau perthnasol yn ogystal â’r lluniau.

7. Sut gallwn ni ddefnyddio profiadau pobl eraill yn effeithiol?

7 Unwaith mae dy fyfyriwr yn deall beth mae angen iddo ei wneud, defnyddia brofiadau pobl eraill i’w annog i wneud hynny. Er enghraifft, os bydd dy fyfyriwr yn ei chael hi’n anodd dod i’r cyfarfodydd, gallet ti ddangos y fideo Gwnaeth Jehofa Ofalu Amdana I o dan “Darganfod Mwy” yng ngwers 14. Mewn llawer o’r gwersi yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! cei di hyd i brofiadau o dan un ai “Cloddio’n Ddyfnach” neu “Darganfod Mwy.” * Bydda’n ofalus i beidio â chymharu dy fyfyriwr â rhywun arall drwy ddweud, “Os ydy ef yn gallu ei wneud, gelli dithau hefyd.” Gad i’r myfyriwr ddod i’r casgliad hwnnw ei hun. Yn hytrach, sonia am bethau penodol a helpodd y person yn y fideo i roi dysgeidiaethau’r Beibl ar waith. Efallai gallet ti dynnu sylw at adnod bwysig neu rywbeth ymarferol a wnaeth y person hwnnw. Pan fydd yn bosib, pwysleisia sut gwnaeth Jehofa ei helpu.

8. Sut gallwn ni helpu ein myfyriwr i ddod i garu Jehofa?

8 Helpa dy fyfyriwr i ddod i garu Jehofa. Sut? Edrycha am gyfleoedd i dynnu sylw at rinweddau Jehofa. Helpa dy fyfyriwr i weld Jehofa fel Duw hapus sy’n cefnogi’r rhai sy’n ei garu. (Heb. 11:6) Dangosa i’r myfyriwr y bydd yn elwa o roi’r wybodaeth ar waith, ac esbonia fod hyn yn adlewyrchiad o gariad Jehofa tuag ato. (Esei. 48:17, 18) Y mwyaf bydd dy fyfyriwr yn cryfhau ei gariad tuag at Jehofa, y mwyaf y bydd eisiau gwneud y newidiadau angenrheidiol.—1 Ioan 5:3.

CYFLWYNA DY FYFYRIWR I DYSTION ERAILL

9. Yn ôl Marc 10:29, 30, beth all helpu rhywun i wneud aberthau er mwyn dod yn ddisgybl bedyddiedig?

9 Er mwyn cyrraedd bedydd, bydd rhaid i fyfyriwr y Beibl aberthu rhai pethau. Fel y dyn cyfoethog a soniwyd amdano gynt, efallai bydd rhaid i rai myfyrwyr aberthu pethau materol. Os nad yw eu swydd yn unol ag egwyddorion y Beibl, efallai bydd rhaid iddyn nhw gael swydd arall. Hwyrach bydd rhai yn gorfod gadael ffrindiau sydd ddim yn caru Jehofa. Efallai bydd aelodau’r teulu sydd ddim yn hoff o Dystion Jehofa yn cefnu arnyn nhw. Gwnaeth Iesu gydnabod y byddai’n anodd i rai wneud y fath aberthau. Ond addawodd na fyddai’r rhai sy’n ei ddilyn yn cael eu siomi. Yn hytrach, byddan nhw’n cael eu gwobrwyo â theulu ysbrydol cariadus. (Darllen Marc 10:29, 30.) Sut gelli di helpu dy fyfyriwr i elwa ar yr anrheg hyfryd hon?

10. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Manuel?

10 Bydda’n ffrind i dy fyfyriwr. Mae’n bwysig dy fod ti’n dangos i dy fyfyriwr dy fod ti’n ei garu. Pam? Sylwa beth ddywedodd Manuel, sy’n byw ym Mecsico. Wrth gofio’r adeg pan oedd ef ei hun yn fyfyriwr y Beibl, dywedodd: “Cyn pob sesiwn astudio, byddai fy athro yn gofyn imi sut o’n i’n cadw. Wnaeth e helpu fi i ymlacio, a gadael imi agor fy nghalon a siarad am bethau eraill hefyd. O’n i’n gallu teimlo ei fod yn fy ngharu.”

11. Sut gallai ein myfyrwyr elwa o dreulio amser gyda ni?

11 Treulia amser gyda dy fyfyrwyr, fel gwnaeth Iesu dreulio amser gyda’i ddilynwyr. (Ioan 3:22) Os ydy dy fyfyriwr yn gwneud newidiadau yn ei fywyd, efallai byddi di mewn sefyllfa i’w wahodd am baned neu am bryd o fwyd neu i wylio un o’r darllediadau misol. Hwyrach bydd dy fyfyriwr yn gwerthfawrogi’r fath wahoddiad yn enwedig yn ystod adegau’r flwyddyn pan fyddai’n arfer dathlu gyda’i deulu. “Dw i’n meddwl wnes i ddysgu gymaint am Jehofa o dreulio amser gyda fy athro â wnes i yn ystod ein hastudiaeth,” meddai Kazibwe, sy’n byw yn Iwganda. “Gwelais gymaint mae Jehofa yn gofalu am ei bobl a pha mor hapus ydyn nhw. Dyna oeddwn i eisiau yn fy mywyd i.”

Wrth iti fynd â gwahanol gyhoeddwyr gyda ti ar astudiaeth Feiblaidd, bydd y myfyriwr yn ei chael hi’n haws mynd i’r cyfarfodydd (Gweler paragraff 12) *

12. Pam dylen ni fynd â gwahanol gyhoeddwyr ar astudiaeth Feiblaidd?

12 Gwahodda wahanol gyhoeddwyr ar yr astudiaeth. Ar adegau, efallai byddwn ni’n teimlo ei bod hi’n haws mynd ar ein pennau’n hunain neu i fynd â’r un cyhoeddwr gyda ni. Er gall hynny fod yn gyfleus, bydd ein myfyriwr y Beibl yn debygol o elwa os byddwn ni, dros amser, yn mynd â gwahanol gyhoeddwyr gyda ni. “Byddai pob cyhoeddwr a ddaeth i fy astudiaeth yn esbonio pethau mewn ffordd unigryw,” meddai Dmitrii, sy’n byw ym Moldofa. “Gwnaeth hynny fy helpu i edrych ar y deunydd o wahanol safbwyntiau. O’n i hefyd yn llai swil pan es i i fy nghyfarfod cyntaf, oherwydd o’n i wedi cyfarfod llawer o’r brodyr a chwiorydd yn barod.”

13. Pam mae’n rhaid inni helpu’n myfyriwr i fynychu’r cyfarfodydd?

13 Helpa dy fyfyriwr i fynychu cyfarfodydd y gynulleidfa. Pam? Oherwydd bod Jehofa’n gorchymyn i’w addolwyr gyfarfod gyda’i gilydd; mae’n rhan o’n haddoliad. (Heb. 10:24, 25) Yn ogystal â hynny, mae ein brodyr a chwiorydd yn deulu ysbrydol inni. Pan fyddwn ni yn y cyfarfodydd gyda nhw, mae fel petasen ni gartref gyda’n gilydd yn mwynhau pryd o fwyd blasus. Pan fyddi di’n helpu dy fyfyriwr i fynychu cyfarfodydd, rwyt ti’n ei helpu i gymryd un o’r camau pwysicaf tuag at fedydd. Ond efallai bydd hynny’n gam anodd iddo ei gymryd. Sut gall y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! helpu dy fyfyriwr i drechu unrhyw heriau mae’n eu hwynebu?

14. Sut gallwn ni annog ein myfyriwr i fynychu cyfarfodydd?

14 Defnyddia wers 10 y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! i dy helpu i annog dy fyfyriwr. Cyn i’r llyfr gael ei ryddhau, cafodd rhai cyhoeddwyr profiadol y cyfle i ddefnyddio’r wers hon gyda’u myfyrwyr. Cawson nhw lwyddiant mawr a dywedon nhw ei bod wedi helpu eu myfyrwyr i fynychu’r cyfarfodydd. Wrth gwrs, paid ag aros tan wers 10 i wahodd dy fyfyriwr i’r cyfarfodydd. Ceisia ei wahodd cyn gynted â phosib a pharha i wneud hynny’n aml. Mae gan wahanol fyfyrwyr wahanol heriau. Felly tala sylw i anghenion dy fyfyriwr, a cheisia feddwl am ffyrdd ymarferol i’w helpu. Paid â digalonni os yw’n cymryd amser cyn iddo ddod i gyfarfod. Bydda’n amyneddgar ond dalia ati i’w wahodd.

HELPA DY FYFYRIWR I DRECHU EI BRYDERON

15. Pa bryderon gallai ein myfyriwr eu cael?

15 Wyt ti’n cofio teimlo ychydig bach yn bryderus am ddod yn un o Dystion Jehofa? Efallai roeddet ti’n teimlo na fyddet ti byth yn gallu pregethu’n gyhoeddus. Neu efallai roeddet ti’n poeni y byddai dy deulu a dy ffrindiau yn dy wrthwynebu. Os felly, gelli di gydymdeimlo â dy fyfyriwr. Gwnaeth Iesu gydnabod bod y fath bryderon yn bosib. Ond, fe anogodd ei ddilynwyr i beidio â gadael i’w pryderon eu stopio rhag gwasanaethu Jehofa. (Math. 10:16, 17, 27, 28) Sut gwnaeth Iesu helpu ei ddilynwyr i drechu eu pryderon? A sut gelli di ddilyn ei esiampl?

16. Sut gallwn ni hyfforddi ein myfyriwr i rannu ei ffydd?

16 Fesul tipyn, hyffordda dy fyfyriwr i rannu ei ffydd. Efallai fod disgyblion Iesu wedi teimlo’n nerfus pan gawson nhw eu hanfon allan i bregethu. Ond gwnaeth Iesu eu helpu drwy ddweud wrthyn nhw lle i bregethu a beth i bregethu amdano. (Math. 10:5-7) Sut gelli di efelychu Iesu? Helpa dy fyfyriwr i weld lle mae’n gallu pregethu. Er enghraifft, gofynna iddo os yw’n gwybod am rywun a allai elwa o ddysgu gwirionedd penodol o’r Beibl. Yna, helpa ef i baratoi beth i’w ddweud drwy ddangos iddo ffordd syml o rannu’r gwirionedd hwnnw. Pan fydd yn briodol, gelli di gael sesiynau ymarfer gan ddefnyddio’r rhannau “Bydd Rhai yn Dweud” a “Bydd Rhai yn Gofyn,” yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! Wrth wneud hynny, canolbwyntia ar hyfforddi dy fyfyriwr i ddefnyddio’r Beibl i roi atebion syml gyda thact.

17. Sut gallwn ni ddefnyddio Mathew 10:19, 20, 29-31 i helpu ein myfyriwr i drystio Jehofa?

17 Helpa dy fyfyriwr i drystio Jehofa. Gwnaeth Iesu sicrhau ei ddisgyblion y byddai Jehofa yn eu helpu am Ei fod yn eu caru nhw. (Darllen Mathew 10:19, 20, 29-31.) Atgoffa dy fyfyriwr y bydd Jehofa yn ei helpu yntau hefyd. Gelli di ei helpu i ddibynnu ar Jehofa drwy weddïo gydag ef am ei amcanion. “Byddai fy athro yn aml yn sôn am fy amcanion yn ei weddïau,” meddai Franciszek, sy’n byw yng Ngwlad Pwyl. “Pan welais sut atebodd Jehofa weddïau fy athro, dechreuais innau weddïo yn fuan wedyn. Teimlais help Jehofa pan oeddwn i angen amser i ffwrdd o fy swydd newydd i fynd i’r cyfarfodydd a’r gynhadledd.”

18. Sut mae Jehofa yn teimlo am y gwaith mae athrawon Cristnogol yn ei wneud?

18 Mae gan Jehofa ddiddordeb mawr yn ein myfyrwyr. Mae’n gwybod yn iawn pa mor galed mae athrawon Cristnogol yn gweithio i helpu pobl i glosio ato, ac mae’n eu caru nhw am hynny. (Esei. 52:7) Hyd yn oed os nad wyt ti’n cynnal astudiaeth Feiblaidd ar hyn o bryd, gelli di helpu myfyrwyr y Beibl i gyrraedd bedydd drwy ymuno â chyhoeddwyr eraill ar eu hastudiaethau.

CÂN 60 Mae Eu Bywydau yn y Fantol

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn trafod sut gwnaeth Iesu helpu pobl i ddod yn ddisgyblion iddo a sut gallwn ni ei efelychu. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni ddefnyddio’r llyfr newydd Mwynhewch Fywyd am Byth! Mae wedi ei ddylunio i helpu ein myfyrwyr y Beibl i gyrraedd bedydd.

^ Par. 7 Mae hi hefyd yn bosib cael hyd i brofiadau eraill (1) ar jw.org o dan Llyfrgell > Cyfres Erthyglau > Mae’r Beibl yn Newid Bywydau, neu (2) yn yr adran gyfryngau ar JW Library® o dan “Cyfweliadau a Phrofiadau.”

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd a’i wraig yn astudio gyda dyn ifanc. Ar adegau eraill, mae gwahanol frodyr yn ymuno â’r astudiaeth.