Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 23

Gyda Jehofa, Fyddi Di Byth ar Dy Ben Dy Hun

Gyda Jehofa, Fyddi Di Byth ar Dy Ben Dy Hun

“Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sy’n galw arno.”—SALM 145:18.

CÂN 28 Dod yn Ffrind i Jehofa

CIPOLWG *

1. Pam gall gweision Jehofa deimlo’n unig ar adegau?

MAE’R rhan fwyaf ohonon ni yn teimlo’n unig ar brydiau. I rai, mae’r teimlad yn pasio’n sydyn. I eraill, mae’n para am gyfnodau hir. Efallai byddwn ni’n teimlo’n unig hyd yn oed yng nghwmni llawer o bobl. Mae rhai yn ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau mewn cynulleidfa newydd. Mae eraill yn dod o deulu agos, ond maen nhw’n teimlo’n unig iawn pan fyddan nhw’n symud yn bell i ffwrdd o’u perthnasau. Mae ’na eraill eto sy’n hiraethu am gwmni anwylyn sydd wedi marw. Ac mae rhai Cristnogion, yn enwedig y rhai sydd wedi dysgu’r gwir yn ddiweddar, yn teimlo’n unig pan fyddan nhw’n cael eu gwrthod neu eu herlid gan deulu neu ffrindiau sydd ddim yn addoli Jehofa.

2. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb?

2 Mae Jehofa yn gwybod popeth amdanon ni ac yn ein deall yn llwyr. Pan fyddwn ni’n teimlo’n unig, mae’n ymwybodol o hynny, ac mae ef eisiau ein helpu. Sut mae Jehofa yn ein helpu? Beth gallwn ni wneud i helpu’n hunain? A sut gallwn ni helpu eraill yn ein cynulleidfa sy’n teimlo’n unig? Gad inni ystyried yr atebion i’r cwestiynau hyn.

MAE JEHOFA YN SYLWI

Anfonodd Jehofa angel i sicrhau Elias nad oedd ef ar ei ben ei hun (Gweler paragraff 3)

3. Sut dangosodd Jehofa gonsýrn am Elias?

3 Mae gan Jehofa ddiddordeb mawr yn lles pob un o’i addolwyr. Mae’n agos at bob un ohonon ni, ac mae’n sylwi pan fydd tristwch neu ddigalondid yn ein llethu. (Salm 145:18, 19) Ystyria gonsýrn Jehofa am ei broffwyd Elias. Roedd y dyn ffyddlon hwnnw yn byw mewn cyfnod anodd yn hanes Israel. Roedd addolwyr Jehofa yn cael eu herlid yn llym, ac roedd Elias yn darged arbennig i elynion pwerus oedd yn gwrthwynebu Duw. (1 Bren. 19:1, 2) Hefyd, roedd Elias yn meddwl mai ef oedd yr unig broffwyd ar ôl yn gwasanaethu Jehofa, a gallai hynny fod wedi ei ddigalonni’n fwy byth. (1 Bren. 19:10) Aeth Duw ati i helpu Elias yn syth. Anfonodd Jehofa angel i sicrhau Ei broffwyd nad oedd ef ar ei ben ei hun, ond bod ’na lawer o Israeliaid ffyddlon eraill yn dal yn Ei wasanaethu!—1 Bren. 19:5, 18.

4. Sut mae Marc 10:29, 30 yn adlewyrchu consýrn Jehofa dros ei weision sydd wedi colli cefnogaeth teulu neu ffrindiau?

4 Mae Jehofa yn deall y bydd rhaid i rai ohonon ni aberthu llawer o bethau er mwyn ei wasanaethu. Gall hynny gynnwys cefnogaeth teulu a ffrindiau sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa. Efallai â mymryn o gonsýrn yn ei lais, gofynnodd yr apostol Pedr i Iesu ar un adeg: “Edrych, dŷn ni wedi gadael y cwbl i dy ddilyn di! Felly beth fyddwn ni’n ei gael?” (Math. 19:27) Sicrhaodd Iesu ei ddisgyblion yn garedig y byddai ganddyn nhw deulu ysbrydol enfawr. (Darllen Marc 10:29, 30.) Ac mae Jehofa, Pen ein teulu ysbrydol, yn addo cefnogi y rhai sydd eisiau ei wasanaethu. (Salm 9:10) Ystyria rai pethau ymarferol y gelli di eu gwneud i dderbyn help Jehofa pan wyt ti’n brwydro teimladau o unigrwydd.

BETH GELLI DI EI WNEUD OS WYT TI’N TEIMLO’N UNIG

5. Pam mae’n beth da i ganolbwyntio ar sut mae Jehofa yn dy helpu di?

5 Canolbwyntia ar sut mae Jehofa yn dy helpu di. (Salm 55:22) Bydd hyn yn dy helpu i weld nad wyt ti ar dy ben dy hun. Mae chwaer sengl o’r enw Carol, * sydd heb unrhyw deulu yn y gwir, yn dweud: “Mae edrych yn ôl a myfyrio ar sut mae Jehofa wedi fy nghynnal trwy dreialon yn fy helpu i deimlo nad ydw i ar ben fy hun. Ac mae hyn yn fy sicrhau y bydd Jehofa wastad yno imi yn y dyfodol.”

6. Sut gall 1 Pedr 5:9, 10 galonogi’r rhai sy’n brwydro teimladau o unigrwydd?

6 Meddylia am sut mae Jehofa yn helpu brodyr a chwiorydd sy’n teimlo’n unig. (Darllen 1 Pedr 5:9, 10.) Hiroshi yw’r unig Dyst yn ei deulu, ac felly mae wedi bod ers blynyddoedd. Mae’n dweud: “Yn y gynulleidfa, mae’n hawdd gweld fod gan bawb broblemau. Mae gwybod ein bod ni i gyd yn gwneud ein gorau glas i wasanaethu Jehofa yn gallu calonogi’r rhai ohonon ni sydd ar ein pennau’n hunain yn y gwir.”

7. Sut mae gweddïo yn dy helpu di?

7 Cadwa rwtîn ysbrydol da. Mae hyn yn cynnwys agor dy galon i Jehofa a dweud wrtho yn union sut rwyt ti’n teimlo. (1 Pedr 5:7) “Un o’r pethau pwysicaf wnaeth fy helpu i ddelio ag unigrwydd oedd gweddïo’n daer ar Jehofa,” meddai Massiel, chwaer ifanc oedd yn teimlo’n bell oddi wrth ei theulu pan wnaeth hi safiad dros y gwir. “Roedd yn Dad go iawn imi, a wnes i weddïo arno bob dydd, lawer o weithiau, gan adael iddo wybod sut o’n i’n teimlo.”

Gall gwrando ar recordiadau sain o’r Beibl a chyhoeddiadau Beiblaidd helpu’r rhai sydd ar eu pennau eu hunain i deimlo’n llai unig (Gweler paragraff 8) *

8. Sut mae darllen Gair Duw a myfyrio arno yn dy helpu di?

8 Darllena Air Duw yn rheolaidd, gan fyfyrio ar hanesion penodol sy’n pwysleisio cariad Jehofa tuag atat ti. Mae Bianca, chwaer sydd wedi gorfod dioddef sylwadau negyddol gan ei theulu, yn esbonio: “Mae darllen a myfyrio ar hanesion o’r Beibl, a hanesion bywyd gweision Jehofa sydd wedi wynebu sefyllfaoedd tebyg, wedi fy helpu yn fawr iawn.” Mae rhai Cristnogion yn dysgu adnodau sy’n arbennig o gysurlon ar eu cof, fel Salm 27:10 ac Eseia 41:10. Mae eraill yn teimlo yn llai unig wrth baratoi ar gyfer y cyfarfodydd neu wrth ddarllen y Beibl os ydyn nhw’n gwrando ar recordiadau sain o’r deunydd.

9. Sut mae mynd i’r cyfarfodydd yn dy helpu di?

9 Gwna bopeth a fedri di i ddod i’r cyfarfodydd yn rheolaidd. Bydd y rhaglen yn dy galonogi, a gelli di hefyd ddod i adnabod dy frodyr a chwiorydd. (Heb. 10:24, 25) Mae Massiel, a ddyfynnwyd ynghynt yn dweud: “Er o’n i’n hynod o swil, wnes i benderfynu mynd i bob cyfarfod ac ateb i fyny. Wnaeth hyn fy helpu i deimlo’n rhan o’r gynulleidfa.”

10. Pam mae hi’n bwysig gwneud ffrindiau â’n brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa?

10 Gwna ffrindiau â dy frodyr a chwiorydd. Chwilia am ffrindiau yn y gynulleidfa y gelli di ddysgu oddi wrthyn nhw, hyd yn oed y rhai sydd o oedran neu gefndir gwahanol iti. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa mai “pobl mewn oed sy’n ddoeth.” (Job 12:12) Gall y rhai hŷn ddysgu llawer oddi wrth y rhai ifanc yn y gynulleidfa hefyd. Roedd Dafydd yn iau o lawer na Jonathan, ond wnaeth hynny ddim eu rhwystro nhw rhag bod yn ffrindiau da. (1 Sam. 18:1) Gwnaeth Dafydd a Jonathan helpu ei gilydd i wasanaethu Jehofa er gwaethaf heriau mawr. (1 Sam. 23:16-18) “Gall ein brodyr a chwiorydd fod fel teulu ysbrydol inni,” meddai Irina, yr unig Dyst yn ei theulu ar hyn o bryd. “Gall Jehofa eu defnyddio nhw i lenwi ein hangen am deulu.”

11. Sut gelli di wneud ffrindiau da?

11 Efallai na fydd gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, yn enwedig os wyt ti’n swil. Mae Ratna, chwaer swil a ddysgodd y gwirionedd er gwaethaf gwrthwynebiad, yn cyfaddef, “Roedd rhaid imi dderbyn y ffaith fy mod i angen help a chefnogaeth fy nheulu ysbrydol.” Mae’n gallu bod yn her rhannu dy deimladau â rhywun arall, ond pan wnei di hynny gall y person hwnnw ddod yn ffrind agos. Mae dy ffrindiau eisiau dy annog a dy gefnogi di, ond eto maen nhw angen gwybod gen ti sut gallan nhw wneud hynny.

12. Sut gall y weinidogaeth dy helpu i wneud ffrindiau da?

12 Un o’r ffyrdd gorau i wneud ffrindiau yw drwy fynd ar y weinidogaeth gyda Christnogion eraill. Dywedodd Carol, a ddyfynnwyd gynt: “Dw i wedi gwneud llawer o ffrindiau da drwy dreulio amser gyda chwiorydd yn y weinidogaeth ac wrth wneud pethau eraill yng ngwasanaeth Jehofa. Mae Jehofa wedi defnyddio’r ffrindiau hyn i fy helpu dros y blynyddoedd.” Mae gwneud ffrindiau â Christnogion ffyddlon yn sicr yn werth yr ymdrech. Mae Jehofa yn defnyddio ffrindiau o’r fath i dy helpu di i frwydro teimladau negyddol, fel unigrwydd.—Diar. 17:17.

HELPA ERAILL I DEIMLO’N RHAN O’N TEULU

13. Pa gyfrifoldeb sydd gan bawb yn y gynulleidfa?

13 Mae gan bawb yn y gynulleidfa gyfrifoldeb i gyfrannu at awyrgylch cariadus a heddychlon lle does neb yn teimlo eu bod nhw ar eu pennau eu hunain yn llwyr. (Ioan 13:35) Gall yr hyn rydyn ni’n ei wneud neu ei ddweud wneud byd o wahaniaeth! Sylwa beth ddywedodd un chwaer: “Pan ddysgais i’r gwir, daeth y gynulleidfa yn deulu imi. Fyddwn i ddim wedi gallu dod yn un o Dystion Jehofa heb eu cefnogaeth.” Beth gelli di ei wneud i helpu’r rhai sydd ar eu pennau eu hunain yn y gwir i deimlo eu bod nhw’n rhan o’r gynulleidfa?

14. Sut gelli di wneud ffrindiau â rhai newydd?

14 Cymera’r cam cyntaf i wneud ffrindiau â rhai newydd. Gallwn ni ddechrau drwy roi croeso cynnes i’r rhai newydd yn y gynulleidfa. (Rhuf. 15:7) Ond, mae eisiau mwy na chyfarchiad cyfeillgar yn unig. Rydyn ni eisiau bod yn ffrindiau da yn y pen draw. Felly bydda’n garedig a chymera ddiddordeb go iawn ynddyn nhw. Gan barchu eu preifatrwydd, ceisia ddeall y problemau maen nhw’n eu hwynebu. Efallai y bydd rhai yn ei chael hi’n anodd mynegi eu teimladau, felly bydda’n ofalus i beidio â rhoi pwysau arnyn nhw i siarad. Yn hytrach, helpa nhw’n garedig i agor eu calonnau drwy eu holi â thact ac yna gwrando’n amyneddgar ar eu hatebion. Er enghraifft, gallet ti ofyn sut daethon nhw i’r gwir.

15. Sut gall Cristnogion aeddfed helpu eraill yn y gynulleidfa?

15 Bydd pawb yn y gynulleidfa yn tyfu’n ysbrydol pan fydd Cristnogion aeddfed, yn enwedig henuriaid, yn dangos diddordeb ynddyn nhw. Dywedodd Melissa, a gafodd ei magu yn y gwir gan ei mam: “Alla i ddim dweud cymaint dw i’n gwerthfawrogi’r brodyr sydd wedi bod yn dadau ysbrydol imi dros y blynyddoedd. Pryd bynnag dw i angen siarad, mae gen i rywun sy’n barod i wrando.” Dywedodd Mauricio, brawd ifanc oedd yn teimlo ar goll pan wnaeth y brawd a astudiodd gydag ef adael y gwir: “Mi wnaeth diddordeb personol yr henuriaid fyd o wahaniaeth. Oedden nhw’n siarad â fi yn aml. Oedden nhw’n gweithio gyda fi yn y weinidogaeth, yn rhannu trysorau o’u hastudiaeth bersonol, ac roedden ni hyd yn oed yn chwarae gwahanol gemau.” Aeth Melissa a Mauricio yn eu blaenau i wasanaethu’n llawn amser.

A oes ’na rywun yn dy gynulleidfa fyddai’n gwerthfawrogi dy garedigrwydd a dy gwmni? (Gweler paragraffau 16-19) *

16-17. Ym mha ffyrdd ymarferol gallwn ni helpu eraill?

16 Helpa mewn ffyrdd ymarferol. (Gal. 6:10) “Yn aml y cwbl sydd ei eisiau yw gweithred caredig ar yr adeg iawn,” meddai Leo, sy’n gwasanaethu fel cenhadwr mewn gwlad sy’n bell oddi wrth ei deulu. “Dw i’n cofio un diwrnod ges i ddamwain car. Erbyn imi gyrraedd adre o’n i wedi cynhyrfu’n lân. Ond dyma gwpl yn fy ngwahodd i draw am swper. Dw i ddim yn cofio beth gawson ni i fwyta, ond mi ydw i’n cofio eu bod nhw wedi gwrando’n garedig arna i. Ac yn y pen draw, o’n i’n teimlo’n llawer gwell!”

17 Rydyn ni i gyd yn mwynhau cynulliadau a chynadleddau, yn rhannol am ein bod ni’n gallu treulio amser gydag eraill, a sgwrsio am y rhaglen gyda’n gilydd. Ond, dywedodd Carol, a ddyfynnwyd ynghynt, “Mae cynulliadau a chynadleddau yn arbennig o anodd imi.” Pam? “Er fy mod i ynghanol cannoedd neu filoedd o frodyr a chwiorydd,” meddai, “maen nhw’n aml yn aros neu’n eistedd gyda’u teuluoedd. Mae hyn yn cryfhau’r teimlad fy mod i ar ben fy hun.” Mae eraill yn ei chael hi’n anodd mynd i gynhadledd neu gynulliad am y tro cyntaf ar ôl colli cymar. Wyt ti’n adnabod rhywun sy’n wynebu heriau tebyg? Beth am ei wahodd i ddod i’r cynulliad nesaf gyda dy deulu?

18. Sut gallwn ni roi 2 Corinthiaid 6:11-13 ar waith wrth ddangos lletygarwch?

18 Treulia amser gydag eraill. Ceisia dreulio amser gyda gwahanol brodyr a chwiorydd, yn enwedig rhai sy’n unig. Paid â dal dy gariad yn ôl oddi wrth rai felly. (Darllen 2 Corinthiaid 6:11-13.) “Oedden ni wrth ein boddau i gael ein gwahodd i dŷ ffrindiau neu i fynd ar daith gyda nhw,” meddai Melissa a ddyfynnwyd yn gynt. Oes ’na rywun yn dy gynulleidfa di allet ti ddangos lletygarwch iddyn nhw?

19. Pryd gall treulio amser gyda brodyr a chwiorydd fod o gymorth mawr?

19 Efallai bydd ’na adegau pan fydd ein brodyr a chwiorydd yn ddiolchgar dros ben am ein cwmni. Bydd rhai yn ei chael hi’n anodd bod o gwmpas perthnasau sydd ddim yn y gwir yn ystod gwyliau crefyddol. Hwyrach bod eraill yn teimlo poen profedigaeth yn fwy ar rai dyddiau penodol, fel eu pen-blwydd priodas. Pan ydyn ni’n cynnig treulio amser gyda brodyr a chwiorydd sy’n wynebu’r fath heriau, rydyn ni’n dangos ein cariad a’n consýrn drostyn nhw.—Phil. 2:20.

20. Sut gall geiriau Iesu ym Mathew 12:48-50 ein helpu pan fyddwn ni’n teimlo’n unig?

20 Mae ’na lawer o resymau pam gall Cristion deimlo’n unig ar brydiau. Ond eto, ddylen ni byth anghofio bod Jehofa yn gwybod yn iawn sut rydyn ni’n teimlo. Mae’n rhoi inni’r hyn sydd ei angen arnon ni, yn aml drwy gyfrwng ein brodyr a’n chwiorydd. (Darllen Mathew 12:48-50.) Ac rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni’n gwerthfawrogi’r gynulleidfa pan wnawn ni ein gorau i gefnogi ein teulu ysbrydol. Ni waeth sut rydyn ni’n teimlo, fyddwn ni byth ar ein pennau ein hunain achos mae Jehofa wastad gyda ni!

CÂN 46 Diolchwn i Ti, Jehofa

^ Par. 5 Wyt ti’n teimlo weithiau dy fod ti’n brwydro unigrwydd? Os felly, gelli di fod yn sicr fod Jehofa yn gwybod yn union sut rwyt ti’n teimlo, a’i fod eisiau rhoi’r cymorth sydd ei angen arnat ti. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod beth gelli di ei wneud i ddelio â theimladau o unigrwydd. Byddwn ni hefyd yn dysgu sut gelli di galonogi cyd-gredinwyr sy’n teimlo’n unig.

^ Par. 5 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 60 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd sydd wedi colli ei wraig yn elwa ar wrando ar recordiadau sain o’r Beibl a’n cyhoeddiadau.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd a’i ferch yn ymweld â brawd hŷn yn y gynulleidfa ac yn dangos caredigrwydd ato.