Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 26

Elli Di Helpu yn y Gwaith o Wneud Disgyblion?

Elli Di Helpu yn y Gwaith o Wneud Disgyblion?

“Mae Duw . . . yn creu’r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy’n ei blesio.”—PHIL. 2:13.

CÂN 64 Cydweithio yn Llawen yn y Cynhaeaf

CIPOLWG *

1. Beth mae Jehofa wedi ei wneud ar dy gyfer di?

SUT dest ti’n un o Dystion Jehofa? Yn gyntaf, mi glywaist ti’r “newyddion da”—efallai gan dy rieni, cyd-weithiwr, ffrind yn yr ysgol, neu pan alwodd y Tystion ar dy dŷ wrth bregethu. (Marc 13:10) Yna, treuliodd rhywun lawer o amser ac ymdrech yn cynnal astudiaeth Feiblaidd gyda ti. Yn ystod yr astudiaeth honno, dest ti i garu Jehofa a dysgu bod yntau yn dy garu di. Gwnaeth Jehofa dy ddenu di at y gwir, a bellach, fel disgybl i Iesu Grist, mae gen ti’r gobaith o fyw am byth. (Ioan 6:44) Rwyt ti’n sicr yn ddiolchgar i Jehofa Ei fod wedi cymell rhywun i ddysgu’r gwir iti, a’i fod wedi dy dderbyn yn un o’i weision.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Nawr ein bod ni’n gwybod y gwir, mae gynnon ni’r fraint o helpu eraill i ymuno â ni ar y ffordd i fywyd. Hwyrach ein bod ni’n ddigon cyfforddus â’r gwaith o bregethu o ddrws i ddrws, ond yn cael trafferth cynnig astudiaethau Beiblaidd a’u cynnal. Ai dyna sut rwyt ti’n teimlo? Os felly, efallai bydd rhai o’r awgrymiadau yn yr erthygl hon yn dy helpu. Byddwn ni’n trafod beth sy’n ein cymell ni i helpu yn y gwaith o wneud disgyblion. Hefyd byddwn ni’n trafod sut gallwn ni drechu heriau a allai ein dal ni’n ôl rhag cynnal astudiaeth Feiblaidd. Yn gyntaf, gad inni ystyried pam dylen ni bregethu i bobl a’u dysgu nhw hefyd.

RHODDODD IESU GOMISIWN INNI BREGETHU A DYSGU

3. Pam rydyn ni’n pregethu?

3 Pan oedd Iesu ar y ddaear, rhoddodd gomisiwn deublyg i’w ddilynwyr. Yn gyntaf, dywedodd wrthyn nhw i bregethu newyddion da’r Deyrnas, gan ddangos iddyn nhw sut i fynd ati. (Math. 10:7; Luc 8:1) Er enghraifft, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion beth i’w wneud pan fyddai pobl yn derbyn neges y Deyrnas a phan fyddan nhw’n ei gwrthod. (Luc 9:2-5) Hefyd, rhagfynegodd pa mor eang fyddai’r gwaith pregethu’n mynd, gan ddweud y byddai ei ddilynwyr yn rhoi tystiolaeth “drwy’r byd i gyd.” (Math. 24:14; Act. 1:8) Ni waeth sut byddai pobl yn ymateb i’r gwaith pregethu, gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion ddweud wrth bobl am Deyrnas Dduw a beth byddai hi’n ei gyflawni.

4. Yn ôl Mathew 28:18-20, beth sy’n rhaid inni ei wneud yn ogystal â phregethu am y Deyrnas?

4 Beth oedd ail ran y comisiwn a roddodd Iesu? Dywedodd wrth ei ddilynwyr i ddysgu pobl i ufuddhau i’w holl orchmynion. Mae rhai pobl yn dweud bod gorchymyn Iesu i bregethu a dysgu yn berthnasol i’r ganrif gyntaf yn unig. Ond a yw hynny’n wir? Nac ydy, dangosodd Iesu y byddai’r gwaith hanfodol hwn yn parhau hyd heddiw, “nes bydd diwedd y byd wedi dod.” (Darllen Mathew 28:18-20.) Mae’n debyg rhoddodd Iesu’r comisiwn hwnnw pan ymddangosodd i fwy na 500 o’i ddisgyblion. (1 Cor. 15:6) Ac yn y datguddiad a roddodd i Ioan, dangosodd Iesu yn glir bod disgwyl i’w holl ddisgyblion helpu eraill i ddysgu am Jehofa.—Dat. 22:17.

5. Pa gymhariaeth gwnaeth Paul ei defnyddio yn 1 Corinthiaid 3:6-9 i ddangos y cysylltiad rhwng pregethu a dysgu?

5 Cymharodd yr apostol Paul y gwaith o wneud disgyblion â thyfu cnwd, gan ddangos bod rhaid inni wneud mwy na phlannu hadau. Atgoffodd y Corinthiaid: “Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i’w ddyfrio . . . Chi ydy’r maes mae Duw wedi’i roi i ni weithio ynddo.” (Darllen 1 Corinthiaid 3:6-9.) Fel gweithwyr ym ‘maes Duw,’ nid yn unig ydyn ni’n plannu hadau, rydyn ni’n eu dyfrio nhw hefyd ac yn cadw llygad ar eu cynnydd. (Ioan 4:35) Ond eto, rydyn ni’n cydnabod mai Duw sy’n gwneud i’r had dyfu.

6. Beth mae’n gwaith fel athrawon yn ei gynnwys?

6 Rydyn ni’n edrych am y rhai sydd â’r “agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol.” (Act 13:48, NWT) I helpu’r unigolion hynny i ddod yn ddisgyblion, mae’n rhaid inni eu helpu i (1) deall yr hyn maen nhw’n ei ddysgu o’r Beibl, (2) ei dderbyn, a (3) ei roi ar waith. (Ioan 17:3; Col. 2:6, 7; 1 Thes. 2:13) Gall pawb yn y gynulleidfa helpu myfyrwyr y Beibl drwy ddangos cariad atyn nhw a rhoi croeso cynnes iddyn nhw pan ddôn nhw i’r cyfarfodydd. (Ioan 13:35) Efallai bydd rhaid i’r un sy’n cynnal yr astudiaeth dreulio llawer o amser ac egni yn helpu myfyriwr i chwalu daliadau ac arferion sydd yn gadarn fel “cestyll.” (2 Cor. 10:4, 5) Gall gymryd misoedd lawer i dywys unigolyn drwy’r camau hyn er mwyn iddo, yn y pen draw, fod yn gymwys i’w fedyddio. Ond mae hi’n sicr yn werth yr ymdrech.

MAE CARIAD YN EIN CYMELL I WNEUD DISGYBLION

7. Beth sy’n ein cymell i gael rhan yn y gwaith pregethu a gwneud disgyblion?

7 Pam rydyn ni’n pregethu i bobl ac yn gwneud disgyblion? Yn gyntaf, am ein bod ni’n caru Jehofa. Pan wyt ti’n gwneud dy orau i ufuddhau i’r gorchymyn i bregethu a gwneud disgyblion, rwyt ti’n dangos dy fod ti’n caru Duw. (1 Ioan 5:3) Meddylia am hyn: Mae dy gariad at Jehofa eisoes wedi dy gymell di i bregethu o dŷ i dŷ. Oedd hi’n hawdd ufuddhau i’r gorchymyn hwnnw? Nac oedd mae’n debyg. Pan est ti at y drws cyntaf un yn dy waith pregethu, oeddet ti’n nerfus? Mae’n siŵr dy fod ti! Ond roeddet ti’n gwybod mai dyma’r gwaith oedd Iesu eisiau iti ei wneud, ac mi wnest ti ufuddhau i’r gorchymyn. Ac ar ôl iti bregethu am beth amser, mae’n debyg ei fod wedi dod yn haws. Ond beth am gynnal astudiaeth Feiblaidd? Ydy hyd yn oed meddwl am hynny yn dy wneud ti’n nerfus? Efallai. Ond, pan fyddi di’n gofyn i Jehofa dy helpu i ddod dros dy nerfusrwydd a magu plwc i gynnig astudiaeth Feiblaidd, gall Jehofa dy helpu i gryfhau dy awydd i wneud disgyblion.

8. Yn ôl Marc 6:34, beth arall all ein cymell i ddysgu eraill?

8 Yn ail, mae ein cariad tuag at ein cymdogion yn ein cymell i ddysgu’r gwir iddyn nhw. Ar un achlysur, roedd Iesu a’i ddisgyblion wedi blino’n lân ar ôl gweithio’n galed yn pregethu. Roedden nhw angen rhywle i orffwys, ond daeth tyrfa fawr o hyd iddyn nhw. Roedd Iesu’n teimlo dros y bobl, a dechreuodd ddysgu “llawer o bethau” iddyn nhw. (Darllen Marc 6:34.) Gweithiodd yn galed ar yr achlysur hwnnw er ei fod wedi blino. Pam? Rhoddodd Iesu ei hun yn esgidiau pobl y dorf. Gwelodd gymaint roedden nhw’n dioddef—gymaint roedden nhw angen gobaith—ac roedd eisiau eu helpu nhw. Mae pobl heddiw yn yr un cyflwr. Paid â chael dy gamarwain os yw’n ymddangos eu bod nhw’n hapus ac yn fodlon â’r bywyd sydd ganddyn nhw. Maen nhw fel defaid ar goll, heb fugail i’w tywys. Dywedodd yr apostol Paul fod pobl fel hyn heb Dduw a heb obaith. (Eff. 2:12) Maen nhw ar y “ffordd sy’n arwain i ddinistr”! (Math. 7:13) Pan ystyriwn gymaint mae pobl yn ein tiriogaeth angen adnabod Duw, bydd cariad a thosturi yn ein cymell i’w helpu. A’r ffordd orau y gallwn ni eu helpu yw drwy gynnig astudio’r Beibl gyda nhw.

9. Yn ôl Philipiaid 2:13, sut gall Jehofa dy helpu di?

9 Hwyrach dy fod ti’n dal yn ôl rhag cynnig astudiaeth Feiblaidd am dy fod yn gwybod y bydd angen iti neilltuo llawer o amser i baratoi a chynnal yr astudiaeth. Os dyna sut rwyt ti’n teimlo, dyweda wrth Jehofa. Gofynna am help i feithrin yr awydd i ffeindio rhywun a fydd eisiau astudio’r Beibl. (Darllen Philipiaid 2:13.) Rhoddodd yr apostol Ioan sicrwydd inni y bydd Duw yn ateb gweddïau sy’n unol â’i ewyllys. (1 Ioan 5:14, 15) Felly gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa yn dy helpu i feithrin yr awydd i gael rhan yn y gwaith o wneud disgyblion.

TRECHU HERIAU ERAILL

10-11. Beth all wneud inni ddal yn ôl rhag cynnal astudiaeth Feiblaidd?

10 Gwyddon ni fod dysgu eraill yn bwysig, ond gall fod yn anodd inni wneud gymaint ag y bydden ni’n ei hoffi yn y gwaith o wneud disgyblion. Gad inni ystyried rhai o’r heriau a sut gallwn ni eu trechu.

11 Efallai bydd ein hamgylchiadau yn cyfyngu arnon ni. Er enghraifft, mae rhai cyhoeddwyr yn hŷn neu â iechyd gwael. Ydy hynny’n disgrifio dy sefyllfa di? Os felly, ystyria un o’r gwersi a ddysgon ni o’r pandemig COVID-19. Rydyn ni wedi dysgu ein bod ni’n gallu cynnal astudiaethau Beiblaidd dros y ffôn neu ar ddyfeisiau electronig eraill! Efallai byddi di’n gallu dechrau a chynnal astudiaeth heb adael dy gartref. Ac mae ’na fantais arall hefyd. Mae rhai eisiau astudio’r Beibl, ond dydyn nhw ddim ar gael yn ystod yr adegau mae’r brodyr yn arfer neilltuo ar gyfer pregethu. Ond efallai eu bod nhw ar gael yn gynnar yn y bore neu’n hwyr yn y nos. A fyddet ti’n gallu astudio’r Beibl gyda rhywun yn ystod yr adegau hynny? Mi ddysgodd Iesu Nicodemus gyda’r nos, dyna pryd oedd hi’n well gan Nicodemus.—Ioan 3:1, 2.

12. Beth sy’n rhoi hyder inni y gallwn ni fod yn athrawon effeithiol?

12 Efallai ein bod ni’n meddwl bod cynnal astudiaeth Feiblaidd y tu hwnt i’n gallu. Hwyrach ein bod ni’n teimlo bod angen mwy o wybodaeth arnon ni neu mwy o brofiad fel athro cyn astudio gyda rhywun. Os mai dyna sut rwyt ti’n teimlo, ystyria dri pheth all roi hwb i dy hyder. Yn gyntaf, mae Jehofa yn dy ystyried yn gymwys i ddysgu eraill. (2 Cor. 3:5) Yn ail, mae Iesu, sydd “wedi cael awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear,” wedi rhoi awdurdod iti ddysgu eraill. (Math. 28:18) Ac yn drydydd, mi elli di ddibynnu ar eraill i dy helpu. Dibynnodd Iesu ar beth gwnaeth ei Dad ddysgu iddo ei ddweud, a gelli dithau hefyd. (Ioan 8:28; 12:49) Ar ben hynny, gelli di ofyn i arolygwr dy grŵp gweinidogaeth, arloeswr, neu gyhoeddwr profiadol i dy helpu i gychwyn astudiaeth Feiblaidd a’i chynnal. Un ffordd y gallet ti ennill hyder yw drwy ymuno ar astudiaeth Feiblaidd sydd yn cael ei chynnal gan un o’r cyhoeddwyr hyn.

13. Pam rydyn ni angen bod yn barod i addasu?

13 Efallai byddwn ni’n ei chael hi’n anodd addasu i ddulliau ac adnoddau newydd. Mae’r ffordd rydyn ni’n cynnal astudiaethau Beiblaidd wedi newid erbyn hyn. Mae astudiaeth sy’n defnyddio ein prif gyhoeddiad astudio, Mwynhewch Fywyd am Byth!, angen cael ei pharatoi a’i chynnal mewn ffordd wahanol i’r hyn wnaethon ni yn y gorffennol. Rydyn ni’n darllen llai o baragraffau ac yn cael mwy o sgwrs â’r myfyriwr. Wrth ddysgu, rydyn ni’n defnyddio mwy o fideos ac adnoddau electronig fel JW Library®. Os nad wyt ti’n gwybod sut i ddefnyddio’r adnoddau hyn, siarada â rhywun fydd yn gallu dangos iti sut i’w defnyddio. Mae’n rhaid cyfaddef, unwaith inni ddod i arfer â gwneud rhywbeth un ffordd, dydy hi ddim yn hawdd addasu i ffordd newydd. Ond gyda help Jehofa, a help eraill, mi fyddi di yn ei chael yn haws addasu a bydd astudio gyda phobl yn dod yn fwy pleserus nag erioed. Fel dywedodd un arloeswr, mae’r dull hwn o astudio yn “bleser i’r myfyriwr ac i’r athro.”

14. Beth dylen ni gofio wrth weithio mewn tiriogaeth anodd, a sut mae 1 Corinthiaid 3:6, 7 yn ein calonogi?

14 Hwyrach ein bod ni’n byw mewn tiriogaeth lle mae hi’n anodd dechrau astudiaethau Beiblaidd. Does gan rai ddim diddordeb yn ein neges ac mae eraill yn ei gwrthwynebu hyd yn oed. Beth gall ein helpu i gadw agwedd bositif mewn tiriogaeth o’r fath? Cofia gall amgylchiadau pobl newid yn gyflym yn y byd cythryblus hwn, gall y rhai oedd heb ddiddordeb ar un adeg ddod yn ymwybodol o’u hangen ysbrydol. (Math. 5:3, Y Ffordd Newydd) Mae rhai oedd wastad yn gwrthod ein llenyddiaeth yn y gorffennol bellach wedi derbyn astudiaeth Feiblaidd. Gwyddon ni hefyd mai Jehofa yw Meistr y Cynhaeaf. (Math. 9:38) Mae ef eisiau inni ddal ati i blannu a dyfrio, ond ef yw’r Un sy’n gyfrifol am y tyfiant. (1 Cor. 3:6, 7) Hyd yn oed os nad ydyn ni’n gallu cynnal astudiaeth Feiblaidd ar hyn o bryd, cawn ein calonogi’n fawr o gofio bod Jehofa’n gwobrwyo ymdrech yn hytrach na chanlyniadau! *

PROFA’R LLAWENYDD O WNEUD DISGYBLION

Edrycha gymaint mae ein gwaith pregethu a dysgu yn gallu helpu rhywun (Gweler paragraffau 15-17) *

15. Sut mae Jehofa’n teimlo pan fydd rhywun yn derbyn astudiaeth Feiblaidd ac yn rhoi’r hyn mae’n ei ddysgu ar waith?

15 Mae Jehofa’n llawenhau pan fydd person yn derbyn gwirionedd y Beibl ac yn rhannu’r gwirionedd hwnnw ag eraill. (Diar. 23:15, 16) Mae’n rhaid bod Jehofa wrth ei fodd i weld beth sy’n digwydd heddiw! Er enghraifft, er gwaetha’r pandemig byd-eang yn ystod blwyddyn wasanaeth 2020, cafodd 7,705,765 o astudiaethau Beiblaidd eu cynnal, gan helpu 241,994 o bobl i gysegru eu hunain i Jehofa a chael eu bedyddio. Bydd y disgyblion newydd hyn, yn eu tro, yn cynnal astudiaethau Beiblaidd a gwneud hyd yn oed mwy o ddisgyblion. (Luc 6:40) Does dim dwywaith amdani, rydyn ni’n gwneud Jehofa’n hapus wrth gael rhan yn y gwaith o wneud disgyblion.

16. Beth fyddai’n nod da i’w osod?

16 Mae gwneud disgyblion yn waith caled, ond gyda help Jehofa gallwn ni gael rhan yn y gwaith o ddysgu rhai newydd i garu ein Tad nefol. A allen ni osod nod o ddechrau a chynnal o leiaf un astudiaeth Feiblaidd? Efallai cawn ein synnu o weld beth fydd yn digwydd os cymerwn bob cyfle addas i ofyn i’r rhai rydyn ni’n eu cyfarfod i astudio gyda ni. Gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa yn bendithio ein hymdrechion.

17. Sut byddwn ni’n teimlo os byddwn ni’n llwyddo i gynnal astudiaeth Feiblaidd?

17 Mae pregethu a dysgu’r gwir i eraill yn fraint enfawr! Mae’r gwaith hwn yn ein gwneud yn wirioneddol hapus. Gwnaeth yr apostol Paul, a helpodd lawer yn Thesalonica i ddod yn ddisgyblion, fynegi ei deimladau fel hyn: “Chi sy’n rhoi gobaith i ni! Chi sy’n ein gwneud ni mor hapus! Chi ydy’r goron fyddwn ni mor falch ohoni pan safwn ni o flaen ein Harglwydd Iesu ar ôl iddo ddod yn ôl! Ie, chi! Chi ydy’n diléit ni! Dŷn ni mor falch ohonoch chi!” (1 Thes. 2:19, 20; Act. 17:1-4) Mae llawer heddiw wedi teimlo’r un fath. Mae chwaer o’r enw Stéphanie sydd, gyda’i gŵr, wedi helpu llawer o bobl i gyrraedd bedydd yn dweud, “Does ’na ddim byd yn fy ngwneud yn hapusach na helpu eraill i gysegru eu hunain i Jehofa.”

CÂN 57 Pregethu i Bob Math o Bobl

^ Par. 5 Mae Jehofa wedi rhoi inni’r fraint, nid yn unig o bregethu i eraill, ond hefyd o’u dysgu i gadw holl orchmynion Iesu. Beth sy’n ein cymell ni i ddysgu eraill? Pa heriau rydyn ni’n eu hwynebu wrth bregethu a gwneud disgyblion? A sut gallwn ni oresgyn yr heriau hynny? Bydd yr erthygl hon yn ateb y cwestiynau hyn.

^ Par. 14 Am drafodaeth ynglŷn â’n rhan ni wrth wneud disgyblion, gweler yr erthygl “Fel Cynulleidfa, Helpwch Fyfyrwyr y Beibl i Gyrraedd Bedydd,” a gyhoeddwyd yn rhifyn Mawrth 2021 o’r Tŵr Gwylio.

^ Par. 53 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gall astudiaeth Feiblaidd helpu rhywun i wneud newidiadau yn ei fywyd: Ar y cychwyn mae dyn yn teimlo bod ei fywyd yn ddibwrpas, a dydy ef ddim yn adnabod Jehofa. Yna mae’r Tystion yn ei gyfarfod yn y gwaith pregethu, ac mae’n derbyn astudiaeth Feiblaidd. Mae’r hyn mae’n ei ddysgu yn ei arwain at ymgysegriad a bedydd. Ymhen amser, mae yntau yn helpu eraill i ddod yn ddisgyblion. Yn y pen draw, maen nhw i gyd yn mwynhau bywyd ym Mharadwys.