Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 27

Efelycha Ddyfalbarhad Jehofa

Efelycha Ddyfalbarhad Jehofa

“Wrth sefyll yn gadarn y cewch chi fywyd.”—LUC 21:19.

CÂN 114 Byddwch yn Amyneddgar

CIPOLWG *

1-2. Sut mae geiriau Jehofa yn Eseia 65:16, 17 yn ein hannog i beidio â rhoi’r gorau iddi?

“DALIWCH ATI!” oedd thema gyffrous cynhadledd ranbarthol 2017. Dangosodd y rhaglen sut i ddal ati er gwaethaf ein treialon. Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers hynny, a dyma ni yn dal i oddef bywyd yn y byd drygionus hwn.

2 Pa dreialon wyt ti wedi gorfod ymdopi â nhw yn ddiweddar? Wyt ti wedi colli aelod o’r teulu neu ffrind annwyl? Oes gen ti salwch difrifol? Ydy henaint yn gwneud bywyd yn anodd iti? Ydy trychineb naturiol, trais, neu erledigaeth wedi effeithio arnat ti? Neu wyt ti’n dioddef oherwydd effeithiau haint, fel y pandemig COVID-19? Rydyn ni’n dyheu am y diwrnod pan fydd yr holl broblemau hyn wedi mynd, wedi hen ddiflannu o’r cof, a fyddan nhw byth yn digwydd eto!—Darllen Eseia 65:16, 17.

3. Beth sy’n rhaid inni ei wneud nawr, a pham?

3 Mae bywyd yn y system hon yn anodd, ac mae’n bosib y byddwn ni’n wynebu heriau anoddach byth yn y dyfodol. (Math. 24:21) Felly, mae’n rhaid inni ddal ati i ddysgu sut i ddyfalbarhau. Pam? Am fod Iesu wedi dweud: “Wrth sefyll yn gadarn y cewch chi fywyd.” (Luc 21:19) Byddwn ni’n ei chael hi’n haws dyfalbarhau os byddwn ni’n meddwl am sut mae eraill yn llwyddo i ymdopi yn ystod treialon tebyg i’n rhai ni.

4. Pam gallwn ni ddweud mai Jehofa yw’r esiampl orau o ddangos dyfalbarhad?

4 Pwy yw’r esiampl orau o ddangos dyfalbarhad? Jehofa Dduw. Ydy’r ateb hwnnw yn dy synnu? Efallai. Ond, o feddwl am y peth, mae’n gwneud synnwyr. Mae’r byd o dan reolaeth y Diafol, ac mae’n llawn problemau. Mae gan Jehofa’r pŵer i gael gwared â’r problemau hynny ar unrhyw adeg, ond mae’n disgwyl am yr adeg iawn i wneud hynny. (Rhuf. 9:22) Yn y cyfamser, mae ein Duw yn dyfalbarhau nes daw’r amser hwnnw. Gad inni ystyried naw peth mae Jehofa wedi dewis eu goddef.

BETH MAE JEHOFA WEDI DEWIS EI ODDEF?

5. Sut mae enw Duw wedi cael ei bardduo, a sut rwyt ti’n teimlo am hynny?

5 Ei enw yn cael ei bardduo. Mae Jehofa’n caru ei enw, ac mae’n dymuno i bawb barchu’r enw hwnnw. (Esei. 42:8) Ond mae ei enw da wedi cael ei sarhau am tua chwe mileniwm. (Salm 74:10, 18, 23) Dechreuodd hyn yng ngardd Eden pan wnaeth y Diafol (sy’n golygu “Enllibiwr”) gyhuddo Duw o amddifadu Adda ac Efa o rywbeth oedden nhw ei angen er mwyn bod yn hapus. (Gen. 3:1-5) Byth oddi ar hynny, mae Jehofa wedi cael ei gyhuddo ar gam o beidio â rhoi’r hyn mae bodau dynol ei angen. Roedd Iesu’n pryderu am fod enw ei Dad yn cael ei amharchu. Am y rheswm hwnnw, dysgodd ei ddisgyblion i weddïo: “Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu.”—Math. 6:9.

6. Pam mae Jehofa wedi caniatáu i ddigonedd o amser fynd heibio cyn setlo mater ei sofraniaeth?

6 Gwrthwynebiad i’w sofraniaeth. Dim ond Jehofa sydd â’r hawl i deyrnasu dros y nefoedd a’r ddaear, a’i ffordd ef o reoli yw’r ffordd orau oll. (Dat. 4:11) Ond mae’r Diafol wedi ceisio camarwain angylion a bodau dynol i feddwl nad oes gan Dduw’r hawl hwnnw. Doedd hi ddim yn bosib profi dros nos mai Jehofa sydd â’r hawl i reoli, ac mai ef yw’r rheolwr gorau. Yn ei ddoethineb, mae Jehofa wedi rhoi digonedd o amser i bobl weld eu bod nhw’n sicr o fethu os ydyn nhw’n trio rheoli eu hunain heb wrando ar y Creawdwr. (Jer. 10:23) Oherwydd amynedd Duw, bydd y mater yn cael ei setlo unwaith ac am byth. Bydd pawb yn gwybod mai ffordd Jehofa o reoli yw’r gorau, ac mai dim ond ei Deyrnas ef fydd yn gallu dod â gwir heddwch a diogelwch i’r ddaear.

7. Pwy sydd wedi gwrthryfela yn erbyn Jehofa, a beth fydd ei ymateb?

7 Gwrthryfel rhai o’i blant. Creodd Jehofa ei blant nefol a dynol yn berffaith. Ond yna trodd yr angel gwrthryfelgar Satan (sy’n golygu “Gwrthwynebwr”) yn erbyn Jehofa a pherswadio Adda ac Efa i wneud yr un peth. Ymunodd angylion a bodau dynol eraill yn y gwrthryfel hwnnw. (Jwd. 6) Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth hyd yn oed aelodau cenedl Israel, y bobl roedd Duw wedi eu dewis, droi yn ei erbyn a dechrau addoli gau dduwiau. (Esei. 63:8, 10) Teimlodd Jehofa ei fod wedi cael ei fradychu. Ond eto, mae wedi dyfalbarhau, a bydd yn parhau i wneud hynny nes daw’r amser i gael gwared â’r holl wrthwynebwyr. Bydd hynny’n dod â rhyddhad i’w bobl ffyddlon, sydd hefyd yn goddef pethau cas yn yr hen system hon!

8-9. Pa gelwyddau sy’n cael eu dweud am Jehofa, a sut rydyn ni’n ymateb?

8 Celwyddau di-baid y Diafol. Gwnaeth Satan gyhuddo Job a gweision ffyddlon eraill Jehofa o addoli Duw am resymau hunanol yn unig. (Job 1:8-11; 2:3-5) Mae’r Diafol wedi dal ati i gyhuddo bodau dynol hyd heddiw. (Dat. 12:10) Gallwn ninnau wneud ein rhan i brofi nad oes unrhyw wirionedd yng nghelwyddau Satan drwy oddef ein treialon ac aros yn ffyddlon i Jehofa allan o gariad tuag ato. Fel yn achos Job, byddwn ni’n cael ein bendithio am ein dyfalbarhad.—Iago 5:11.

9 Mae Satan yn defnyddio arweinwyr gau grefydd i ddweud bod Jehofa yn greulon ac yn gyfrifol am ddioddefaint dyn. Mae rhai hyd yn oed yn dweud pan fydd plant yn marw, mai Duw wnaeth eu cymryd nhw am ei fod angen mwy o angylion yn y nef. Am beth cableddus i’w ddweud! Ond rydyn ni’n gwybod yn well. Pan fyddwn ni’n cael ein taro’n ddifrifol wael, neu’n colli anwylyn, fyddwn ni byth yn rhoi’r bai ar ein Duw. I’r gwrthwyneb, mae gynnon ni ffydd y bydd Duw ryw ddydd yn iacháu’r sâl ac yn atgyfodi’r meirw. Gallwn ni ddweud wrth bawb sy’n fodlon gwrando pa mor gariadus ydy Jehofa Dduw. Yna fe fydd yn gallu rhoi ateb i’r un sy’n ei wawdio.—Diar. 27:11.

10. Beth mae Salm 22:23, 24 yn ei ddatgelu am Jehofa?

10 Gweld dioddefaint ei weision gwerthfawr. Mae Jehofa yn Dduw tosturiol. Mae’n gas ganddo ein gweld ni’n dioddef, boed hynny oherwydd erledigaeth, salwch, neu ein hamherffeithion ein hunain. (Darllen Salm 22:23, 24.) Mae Jehofa yn teimlo ein poen i’r byw; mae eisiau cael gwared arni, a dyna’n union fydd ef yn ei wneud. (Cymhara Exodus 3:7, 8; Eseia 63:9.) Fe ddaw’r diwrnod pan fydd yn “sychu pob deigryn [o’n llygaid ni]. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Dat. 21:4.

11. Sut mae Jehofa’n teimlo am ei weision ffyddlon sydd wedi marw?

11 Hiraeth am ei ffrindiau sydd wedi marw. Sut mae Jehofa yn teimlo am ddynion a merched ffyddlon sydd wedi marw? Mae’n dyheu am eu gweld nhw eto! (Job 14:15) Elli di ddychmygu gymaint mae Jehofa yn colli ei ffrind Abraham? (Iago 2:23) Neu Moses, yr un roedd yn arfer “siarad wyneb yn wyneb” ag ef? (Ex. 33:11) A meddylia gymaint mae’n edrych ymlaen at glywed Dafydd a’r salmwyr eraill yn canu eu caneuon hyfryd o fawl! (Salm 104:33) Er bod y rhain wedi huno, dydy Jehofa ddim wedi anghofio amdanyn nhw. (Esei. 49:15) Mae’n cofio pob manylyn o’u personoliaeth. Mewn ffordd, “maen nhw i gyd yn fyw iddo fe!” (Luc 20:38) Un diwrnod, fe fydd yn dod â nhw’n ôl yn fyw, ac fe fydd unwaith eto yn gwrando ar eu gweddïau taer ac yn derbyn eu haddoliad. Os wyt ti wedi colli anwylyn, gall cofio hyn dy gysuro.

12. Beth sy’n arbennig o boenus i Jehofa ei weld yn ystod y dyddiau olaf hyn?

12 Gweld pobl ddrygionus yn brifo eraill. Pan ddechreuodd y gwrthryfel yn Eden, gwyddai Jehofa y byddai pethau’n mynd yn waeth cyn iddyn nhw wella. Mae’n gas gan Jehofa y drygioni, yr anghyfiawnder, a’r trais sydd yn y byd heddiw. Mae ef wastad wedi teimlo dros y rhai mwyaf bregus, fel y gwan a’r diamddiffyn, y plant amddifad a’r gweddwon. (Sech. 7:9, 10) Mae Jehofa yn brifo yn fwy byth o weld ei weision ffyddlon yn cael eu herlid a’u carcharu. Gelli di fod yn sicr fod Jehofa yn caru pob un ohonon ni sy’n dyfalbarhau gydag ef.

13. Pa fath o ymddygiad afiach mae Duw’n ei weld ymysg dynolryw, a beth bydd yn ei wneud amdano?

13 Bodau dynol yn dod yn fwy anfoesol yn rhywiol. Cafodd pobl eu creu yn nelw Duw, ond mae Satan wrth ei fodd yn achosi iddyn nhw wneud pethau anfoesol. Pan welodd Duw “bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg” yn adeg Noa, roedd “yn sori ei fod e wedi creu’r ddynoliaeth. Roedd wedi ei frifo.” (Gen. 6:5, 6, 11) Ydy pethau wedi gwella ers hynny? Naddo wir! Mae’r Diafol yn sicr yn hapus o weld pa mor gyffredin ydy anfoesoldeb rhywiol o bob math, gan gynnwys gweithredoedd anfoesol rhwng dynion a merched a rhwng pobl o’r un rhyw! (Eff. 4:18, 19) Mae’n hapusach byth pan fydd yn llwyddo i gael un o bobl Jehofa i bechu’n ddifrifol. Pan fydd amynedd Jehofa yn rhedeg allan, bydd yn dangos cymaint mae’n casáu pob math o ymddygiad anfoesol.

14. Beth mae dyn yn ei wneud i greadigaeth Duw ar y ddaear?

14 Pobl yn difetha ei greadigaeth. Mae dyn yn arglwyddiaethu ar ei gyd-ddyn er niwed iddo. Ar ben hynny, mae pobl yn cam-drin y ddaear a’r anifeiliaid y rhoddodd Jehofa yn eu gofal. (Preg. 8:9; Gen. 1:28) Mae rhai arbenigwyr yn rhybuddio y gallai miliwn o rywogaethau * ddiflannu’n llwyr yn y blynyddoedd nesaf oherwydd gweithredoedd dynolryw. Does dim syndod felly bod pobl yn poeni am fyd natur! Mae’n dda gwybod bod Jehofa wedi addo ei fod am “ddinistrio’n llwyr y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear” ac yna troi’r blaned gyfan yn baradwys.—Dat. 11:18; Esei. 35:1.

BETH RYDYN NI’N EI DDYSGU O DDYFALBARHAD JEHOFA

15-16. Beth ddylai ein cymell i ddyfalbarhau gyda Jehofa? Eglura.

15 Meddylia am yr holl broblemau trist mae ein Tad nefol wedi bod yn eu goddef ers miloedd o flynyddoedd. (Gweler y blwch “ Beth Mae Jehofa’n ei Oddef.”) Gallai Jehofa gael gwared ar yr hen system ddrygionus hon ar unrhyw adeg. Ond mae ei amynedd wedi bod yn fendith inni! Gallen ni feddwl amdani fel hyn. Dyweda fod dyn a’i wraig yn clywed bod gan eu babi yn y groth broblemau corfforol difrifol. Fydd y plentyn byth yn cael bywyd hawdd a bydd yn marw cyn ei amser. Er hynny i gyd, bydd y rhieni yn croesawu genedigaeth y plentyn, er gwaetha’r gost. Oherwydd eu bod nhw’n caru eu plentyn, byddan nhw’n goddef unrhyw anawsterau er mwyn rhoi’r bywyd gorau posib iddo.

16 Mewn ffordd debyg, mae holl ddisgynyddion Adda ac Efa yn amherffaith pan gân nhw eu geni. Ond eto, mae Jehofa’n eu caru nhw ac yn gofalu amdanyn nhw. (1 Ioan 4:19) Ac yn wahanol i’r rhieni dynol yn yr eglureb, gall Jehofa wneud rhywbeth am y sefyllfa. Mae wedi gosod dyddiad pan fydd yn dad-wneud yr holl broblemau sy’n plagio dynolryw. (Math. 24:36) Oni ddylai cariad Jehofa ein cymell ninnau i ddyfalbarhau tra bo rhaid?

17. Sut mae’r disgrifiad o Iesu yn Hebreaid 12:2, 3 yn ein hannog ni i ddyfalbarhau?

17 Mae Jehofa wedi gosod esiampl berffaith o ddyfalbarhad. Llwyddodd Iesu i efelychu dyfalbarhad ei Dad. Tra oedd ar y ddaear, gwnaeth Iesu oddef gwrthwynebiad, cywilydd, a stanc artaith droston ni. (Darllen Hebreaid 12:2, 3.) Heb os, gwnaeth esiampl Jehofa o ddyfalbarhad roi’r nerth i Iesu allu dyfalbarhau. Gall ein cryfhau ninnau hefyd.

18. Sut mae 2 Pedr 3:9 yn ein helpu i ddeall beth mae amynedd Jehofa yn ei gyflawni?

18 Darllen 2 Pedr 3:9. Mae Jehofa’n gwybod yr adeg orau i ddod â’r byd drygionus hwn i ben. Mae ei amynedd wedi rhoi cyfle i lawer o bobl ddod i’w adnabod, a bellach mae tyrfa fawr o filiynau yn ei addoli. Mae pob un ohonyn nhw yn falch bod Jehofa wedi dyfalbarhau yn ddigon hir iddyn nhw gael eu geni, dysgu i’w garu, a chysegru eu hunain iddo. Bydd hi’n amlwg bod Jehofa wedi gwneud y peth iawn wrth ddewis bod yn amyneddgar pan fydd yn gwobrwyo’r miliynau sydd wedi dyfalbarhau hyd y diwedd!

19. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud, a beth fydd ein gwobr?

19 Rydyn ni’n dysgu oddi wrth Jehofa sut i ddyfalbarhau’n llawen. Er gwaethaf yr holl boen calon a dioddefaint mae Satan wedi ei achosi, “Duw hapus” ydy Jehofa o hyd. (1 Tim. 1:11, NWT) Gallwn ninnau hefyd aros yn llawen wrth inni ddisgwyl yn amyneddgar nes bod Jehofa yn sancteiddio ei enw, yn profi ei hawl i reoli, yn cael gwared ar ddrygioni, ac yn dod â’n problemau presennol i ben. Gad inni fod yn benderfynol o ddal ati a chael cysur o wybod bod ein Tad nefol yn dyfalbarhau hefyd. Drwy wneud hynny, bydd y geiriau hyn yn wir i bob un ohonon ni: “Mae’r rhai sy’n dal ati yn wyneb treialon yn cael eu bendithio gan Dduw. Ar ôl mynd drwy’r prawf byddan nhw’n cael eu coroni â’r bywyd mae Duw wedi ei addo i’r rhai sy’n ei garu.”—Iago 1:12.

CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd

^ Par. 5 Mae gan bob un ohonon ni broblemau o ryw fath. Ar hyn o bryd, fedrwn ni ddim datrys bob un ohonyn nhw, yr unig beth allwn ni ei wneud ydy eu goddef a dyfalbarhau. Ond dydyn ni ddim ar ein pennau’n hunain. Mae Jehofa ei hun yn goddef llawer o bethau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod naw ohonyn nhw. Byddwn ni hefyd yn gweld pa bethau da sydd wedi digwydd oherwydd dyfalbarhad Jehofa a beth gallwn ni ei ddysgu o’i esiampl.

^ Par. 14 Ni ddylai’r term “rhywogaeth” gael ei ddrysu â’r term “math” yn y Beibl, sy’n cyfeirio at grŵp eang o bethau byw.