Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 28

Paid â Bod yn Gystadleuol—Hyrwydda Heddwch

Paid â Bod yn Gystadleuol—Hyrwydda Heddwch

“Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.”—GAL. 5:26.

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod

CIPOLWG *

1. Pa effaith gall ysbryd cystadleuol gael ar bobl?

YN Y byd heddiw, mae llawer o bobl yn hunanol ac yn dangos ysbryd cystadleuol. Efallai bydd dyn busnes yn sathru ar eraill i fod yn fwy llwyddiannus na’i gystadleuwyr. Efallai bydd athletwr yn anafu chwaraewr ar y tîm arall yn fwriadol er mwyn ennill y gêm. Efallai bydd myfyriwr yn cystadlu am le mewn prifysgol adnabyddus ac yn twyllo yn yr arholiadau mynediad. Fel Cristnogion, rydyn ni’n deall bod y fath ymddygiad yn anghywir; mae’n rhan o’r “natur bechadurus.” (Gal. 5:19-21) Ond, ydy hi’n bosib fod rhai brodyr a chwiorydd yn dangos agwedd gystadleuol yn y gynulleidfa heb iddyn nhw hyd yn oed sylweddoli? Mae hynny’n gwestiwn pwysig oherwydd gall ysbryd cystadleuol amharu ar undod ein brawdoliaeth.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod agweddau negyddol a all wneud inni gystadlu â’n brodyr. Byddwn ni hefyd yn trafod esiamplau dynion a merched ffyddlon yn adeg y Beibl wnaeth lwyddo i beidio ag ildio i ysbryd cystadleuol. Yn gyntaf, gad inni ystyried ein cymhellion.

YSTYRIA DY GYMHELLION

3. Pa gwestiynau dylen ni ofyn i ni’n hunain?

3 O bryd i’w gilydd, mae hi’n syniad da i ystyried ein cymhellion. Gallwn ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i ond yn teimlo’n dda pan dw i’n meddwl fy mod i’n well na rhywun arall? Ydw i’n gweithio’n galed yn y gynulleidfa am fy mod i eisiau bod yn well na phawb, neu o leiaf yn well na rhywun penodol? Neu ydw i’n gweithio’n galed er mwyn rhoi fy ngorau i Jehofa?’ Pam dylen ni ofyn y cwestiynau hynny? Sylwa beth mae Gair Dduw yn ei ddweud.

4. O ystyried Galatiaid 6:3, 4, pam dylen ni beidio â chymharu ein hunain ag eraill?

4 Mae’r Beibl yn ein hannog i beidio â chymharu ein hunain ag eraill. (Darllen Galatiaid 6:3, 4.) Pam? Ar un llaw, os ydyn ni’n meddwl ein bod ni’n well na’n brawd, gallwn ni droi’n falch. Ar y llaw arall, os ydyn ni wastad yn meddwl bod ein brodyr yn gwneud yn well na ni, mae’n debyg y byddwn ni’n digalonni. Naill ffordd neu’r llall, fyddwn ni ddim yn meddwl yn glir. (Rhuf. 12:3) Dywedodd chwaer o’r enw Katerina, * sy’n byw yng Ngwlad Groeg: “O’n i’n arfer cymharu fy hun ag eraill, gan feddwl eu bod nhw’n ddelach, yn fwy effeithiol yn y weinidogaeth, ac yn well am wneud ffrindiau. O ganlyniad, o’n i’n teimlo’n dda i ddim.” Mae’n rhaid inni gofio bod Jehofa wedi ein denu ni ato, nid am ein bod ni’n ddel, yn boblogaidd, neu’n mynegi ein hunain yn dda, ond am ein bod ni’n barod i’w garu ef a gwrando ar ei Fab.—Ioan 6:44; 1 Cor. 1:26-31.

5. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad y Brawd Hyun?

5 Cwestiwn arall gallen ni ei ofyn i ni’n hunain yw, ‘Oes gen i enw da am gadw heddwch, neu ydw i’n aml yn ffraeo ag eraill?’ Ystyria brofiad brawd o’r enw Hyun, sy’n byw yn Ne Corea. Ar un adeg roedd yn ystyried y rhai oedd â chyfrifoldebau yn y gynulleidfa fel cystadleuwyr iddo. Dywedodd, “O’n i braidd yn feirniadol o’r brodyr hyn, ac o’n i’n anghytuno â nhw yn aml.” Beth oedd y canlyniad? Mae’n cyfaddef: “Wnaeth fy agwedd achosi rhaniadau yn y gynulleidfa.” Gwnaeth rhai o ffrindiau Hyun ei helpu i weld bod ganddo broblem. Newidiodd Hyun ei agwedd, a heddiw mae’n henuriad da iawn. Os ydyn ni’n gweld bod gynnon ni dueddiad i fod yn gystadleuol yn hytrach na hyrwyddo heddwch, mae’n rhaid inni wneud rhywbeth amdano’n syth.

PAID Â BOD YN HUNANBWYSIG NAC YN GENFIGENNUS

6. Yn ôl Galatiaid 5:26, pa agweddau annymunol sy’n cyfrannu at ysbryd cystadleuol?

6 Darllen Galatiaid 5:26. Pa agweddau annymunol sy’n gallu arwain at ysbryd cystadleuol? Bod yn hunanbwysig yw un ohonyn nhw. Mae rhywun hunanbwysig yn falch ac yn hunanol. Un arall ydy cenfigen. Nid yn unig y mae person cenfigennus eisiau’r hyn sydd gan rywun arall, ond mae hefyd eisiau cymryd yr hyn sydd gan y llall oddi wrtho. Yn y bôn, mae cenfigen yn fath o gasineb. Yn sicr, rydyn ni eisiau osgoi agweddau drwg o’r fath fel y pla!

7. Sut gallen ni egluro’r niwed sy’n cael ei achosi gan hunanbwysigrwydd a chenfigen?

7 Gallen ni gymharu hunanbwysigrwydd a chenfigen â baw mân sy’n llygru tanwydd awyren. Efallai bydd yr awyren yn gallu codi i’r awyr, ond gall y baw mân flocio’r pibellau tanwydd gan achosi i’r awyren golli pŵer a chrashio. Mewn ffordd debyg, efallai bydd rhywun yn gwasanaethu Jehofa am sbel. Ond os mai hunanbwysigrwydd a chenfigen sy’n ei gymell, bydd yn crashio. (Diar. 16:18) Bydd yn stopio gwasanaethu Jehofa ac yn brifo ei hun ac eraill. Sut felly gallwn ni osgoi bod yn hunanbwysig ac yn genfigennus?

8. Sut gallwn ni frwydro yn erbyn hunanbwysigrwydd?

8 Gallwn frwydro yn erbyn hunanbwysigrwydd drwy gofio cyngor yr apostol Paul i’r Philipiaid: “Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi’ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill.” (Phil. 2:3) Os ydyn ni’n ystyried eraill yn well na ni, fyddwn ni ddim yn cystadlu â’r rhai sydd â gwell ddoniau a galluoedd na ni. Yn hytrach, byddwn ni’n hapus drostyn nhw. Mae hynny’n wir yn enwedig os ydyn nhw’n defnyddio eu galluoedd i ddod â chlod i Jehofa. Yn yr un modd, os bydd ein brodyr a chwiorydd medrus yn dilyn cyngor Paul, byddan nhwthau’n canolbwyntio ar ein rhinweddau da ni. O ganlyniad, byddwn ni i gyd yn hyrwyddo heddwch ac undod yn y gynulleidfa.

9. Sut gallwn ni reoli ein tuedd i genfigennu?

9 Gallwn ni reoli ein tuedd i genfigennu drwy feithrin gwyleidd-dra, hynny yw, drwy fod yn ymwybodol o’n cyfyngiadau. Os ydyn ni’n wylaidd, fyddwn ni ddim yn trio profi ein bod yn fwy talentog neu’n fwy galluog na phawb arall. Yn hytrach, byddwn ni’n ceisio dysgu oddi wrth y rhai sy’n fwy galluog na ni. Er enghraifft, dyweda fod brawd yn y gynulleidfa yn rhoi anerchiadau cyhoeddus gwych. Gallen ni ofyn iddo sut mae’n mynd ati i baratoi ei anerchiadau. Os ydy chwaer yn gogyddes dda, gallen ni ofyn iddi am awgrymiadau a fydd yn ein helpu i goginio’n well. Ac os bydd Cristion ifanc yn ei chael hi’n anodd gwneud ffrindiau, byddai’n syniad da iddo ofyn am gyngor gan rywun sy’n gwneud ffrindiau’n hawdd. Fel hyn gallwn ni osgoi cenfigen a gwella ein sgiliau ein hunain.

DYSGA ODDI WRTH ESIAMPLAU O’R BEIBL

Am ei fod yn ostyngedig, llwyddodd Gideon i gadw heddwch â dynion Effraim (Gweler paragraffau 10-12)

10. Pa her wynebodd Gideon?

10 Meddylia am yr hyn a ddigwyddodd rhwng Gideon, oedd o lwyth Manasse, a’r dynion o lwyth Effraim. Gyda chefnogaeth Jehofa, cafodd Gideon a’i 300 o ddynion fuddugoliaeth ryfeddol. Gallai hynny fod wedi eu gwneud nhw’n falch. Gwnaeth dynion Effraim gwrdd â Gideon, nid er mwyn ei ganmol, ond er mwyn ffraeo ag ef. Mae’n ymddangos eu bod nhw wedi digio am nad oedd Gideon wedi eu gwahodd i ymuno yn y frwydr yn erbyn gelynion Duw i gychwyn. Roedden nhw’n poeni gymaint am anrhydedd eu llwyth, wnaethon nhw ddim edrych ar y darlun cyfan, sef bod Gideon newydd helpu i anrhydeddu enw Jehofa ac amddiffyn Ei bobl.—Barn. 8:1.

11. Sut gwnaeth Gideon ymateb i ddynion Effraim?

11 Yn gwbl ostyngedig, dywedodd Gideon wrth ddynion Effraim: “Dw i wedi gwneud dim o’i gymharu â chi.” Yna rhoddodd enghraifft benodol o sut roedd Jehofa wedi eu bendithio nhw. O ganlyniad, roedd y dynion yn “teimlo’n well tuag ato.” (Barn. 8:2, 3) Roedd Gideon yn barod i fod yn ostyngedig er mwyn cadw heddwch ymhlith pobl Dduw.

12. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Gideon a dynion Effraim?

12 Beth gallwn ni ei ddysgu o’r hanesyn hwn? Mae esiampl dynion Effraim yn ein dysgu y dylen ni ganolbwyntio’n fwy ar anrhydeddu Jehofa yn hytrach nac ar anrhydeddu ein hunain. A gall pennau teuluoedd a henuriaid ddysgu gwers oddi wrth Gideon. Os ydyn ni wedi ypsetio rhywun, dylen ni geisio gweld pethau o’i ochr ef. Gallwn ni hefyd ganmol y person hwnnw am rywbeth mae ef wedi ei wneud yn dda. Bydd hynny’n gofyn am ostyngeiddrwydd ar ein rhan ni, yn enwedig os yw’n amlwg fod y person arall ar fai. Ond mae heddwch yn llawer pwysicach na phrofi mai ni sy’n iawn.

Am ei bod hi wedi trystio Jehofa i’w helpu hi, gwnaeth Hanna adennill ei heddwch mewnol (Gweler paragraffau 13-14)

13. Pa her wynebodd Hanna, a sut gwnaeth hi ei threchu?

13 Meddylia hefyd am esiampl Hanna. Roedd hi’n briod i Lefiad o’r enw Elcana, oedd yn ei charu hi’n fawr iawn. Ond roedd gan Elcana wraig arall o’r enw Penina. Roedd Elcana yn caru Hanna yn fwy na Penina; ond, “roedd plant gan Penina ond ddim gan Hanna.” Oherwydd hyn roedd Penina yn “herian Hanna yn arw a’i phryfocio.” Sut roedd Hanna’n teimlo am hynny? Mi wnaeth hi ypsetio’n lân! Roedd hi’n “crio ac yn gwrthod bwyta.” (1 Sam. 1:2, 6, 7) Ond does ’na ddim sôn yn y Beibl ei bod hi wedi ceisio dial ar Penina. Yn hytrach agorodd ei chalon i Jehofa gan drystio y byddai’n ei helpu. A wnaeth agwedd Penina newid tuag at Hanna? Dydy’r Beibl ddim yn dweud. Ond gwyddon ni fod Hanna yn dawelach ei meddwl. Roedd hi’n “edrych yn llawer hapusach.”—1 Sam. 1:10, 18.

14. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl Hanna?

14 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Hanna? Os ydy rhywun yn ceisio cystadlu â ti mewn rhyw ffordd, cofia fod gen ti reolaeth dros y sefyllfa. Does dim rhaid iti gael dy dynnu mewn i’r gystadleuaeth. Yn lle talu’r pwyth yn ôl, ceisia wneud heddwch â’r person hwnnw. (Rhuf. 12:17-21) Hyd yn oed os nad ydy ef yn newid ei agwedd, byddi di’n dawel dy feddwl ac yn hapus.

Am eu bod nhw’n sylweddoli mai Jehofa oedd yn bendithio’r gwaith, doedd Apolos a Paul ddim yn cystadlu yn erbyn ei gilydd (Gweler paragraffau 15-18)

15. Sut roedd Apolos a Paul yn debyg?

15 Yn olaf, ystyria beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl y disgybl Apolos a’r apostol Paul. Roedd y ddau yn adnabod yr Ysgrythurau yn arbennig o dda. Roedd y ddau yn athrawon rhagorol ac adnabyddus. Ac roedd y ddau wedi helpu i wneud llawer o ddisgyblion. Ond doedd yr un ohonyn nhw’n teimlo ei fod yn cystadlu yn erbyn y llall.

16. Sut byddet ti’n disgrifio Apolos?

16 Roedd Apolos “yn dod yn wreiddiol o Alecsandria,” dinas oedd yn enwog am ei haddysg yn y ganrif gyntaf. Roedd yn un gwych am siarad, ac yn “hyddysg iawn yn yr ysgrifau sanctaidd.” (Act. 18:24) Tra oedd Apolos yng Nghorinth, gwnaeth rhai yn y gynulleidfa ei gwneud hi’n amlwg eu bod yn ei ffafrio ef dros frodyr eraill, gan gynnwys Paul. (1 Cor. 1:12, 13) A wnaeth Apolos gytuno â’r agwedd honno? Mae’n anodd ei ddychmygu’n gwneud hynny. Mewn gwirionedd, peth amser ar ôl i Apolos adael Corinth, gwnaeth Paul ei annog i ddychwelyd yno. (1 Cor. 16:12) Fyddai Paul byth wedi gwneud hynny petasai’n teimlo bod Apolos yn creu rhaniadau yn y gynulleidfa. Yn amlwg, defnyddiodd Apolos ei ddoniau mewn ffordd dda—i bregethu’r newyddion da ac i gryfhau ei frodyr. Gallwn hefyd fod yn sicr fod Apolos yn ddyn gostyngedig. Er enghraifft, does ’na ddim sôn ei fod wedi cael ei bechu pan wnaeth Acwila a Priscila “esbonio ffordd Duw iddo yn fwy manwl.”—Act. 18:24-28.

17. Sut gwnaeth Paul hyrwyddo heddwch?

17 Roedd Paul yn gwybod bod Apolos yn gwneud gwaith da. Ond doedd Paul ddim yn teimlo ei fod yn cael ei herio ganddo. O ddarllen geiriau Paul at y Corinthiaid, mae’n amlwg ei fod yn ddyn gostyngedig, gwylaidd, a rhesymol. Doedd ef ddim yn hoff o glywed pobl yn dweud, “Dw i’n dilyn Paul.” Yn hytrach, roedd yn cyfeirio’r holl sylw at Jehofa Dduw ac Iesu Grist.—1 Cor. 3:3-6.

18. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiamplau Apolos a Paul yn 1 Corinthiaid 4:6, 7?

18 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiamplau Apolos a Paul? Efallai ein bod ni’n gweithio’n galed i Jehofa, ac efallai y byddwn ni’n helpu llawer i gyrraedd bedydd. Ond rydyn ni’n deall fod hyn ond yn bosib am fod Jehofa yn ein helpu ni. Rydyn ni’n dysgu gwers arall o esiamplau Apolos a Paul—y mwyaf o gyfrifoldebau sydd gynnon ni yn y gynulleidfa, y mwyaf o gyfle sydd gynnon ni i hyrwyddo heddwch. Rydyn ni mor ddiolchgar pan fydd brodyr apwyntiedig yn hyrwyddo heddwch ac undod drwy seilio eu cyngor ar Air Duw, a thrwy dynnu sylw at ein hesiampl, Iesu Grist, yn hytrach na nhw eu hunain!—Darllen 1 Corinthiaid 4:6, 7.

19. Beth gall pob un ohonon ni ei wneud? (Gweler hefyd y blwch “ Paid â Bod yn Gystadleuol.”)

19 Mae pob un ohonon ni wedi cael rhyw fath o ddawn neu sgìl gan Dduw. Gallwn ni ddefnyddio’r rhoddion hynny i “wasanaethu pobl eraill.” (1 Pedr 4:10) Efallai byddwn ni’n teimlo nad ydy’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn bwysig iawn. Ond mae’r pethau bach rydyn ni’n eu gwneud i hyrwyddo heddwch yn debyg i’r pwythau bach sy’n dal dilledyn at ei gilydd. Gad inni weithio’n galed i gael gwared yn llwyr ar unrhyw agwedd gystadleuol sy’n llechu tu mewn inni. Gad inni fod yn benderfynol o wneud popeth allwn ni i hyrwyddo heddwch ac undod yn y gynulleidfa.—Eff. 4:3.

CÂN 80 Profwch Flas a Gwelwch mai Da Ydy Duw

^ Par. 5 Fel craciau bach sy’n gwanhau llestr clai, gall ysbryd cystadleuol wanhau cynulleidfa. Os nad yw’r gynulleidfa yn gryf ac yn unedig, fydd hi ddim yn lle heddychlon i addoli Duw. Bydd yr erthygl hon yn trafod pam dylen ni osgoi meithrin agwedd gystadleuol a beth gallwn ni ei wneud i hyrwyddo heddwch yn y gynulleidfa.

^ Par. 4 Newidiwyd yr enwau.