Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 29

Bydda’n Hapus â’r Hyn Rwyt Ti’n Gallu ei Wneud!

Bydda’n Hapus â’r Hyn Rwyt Ti’n Gallu ei Wneud!

“Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi’i wneud heb orfod cymharu’ch hunain â phobl eraill o hyd.”—GAL. 6:4.

CÂN 34 Rhodio Mewn Uniondeb

CIPOLWG *

1. Pam dydy Jehofa ddim yn ein cymharu ni ag eraill?

MAE Jehofa wrth ei fodd ag amrywiaeth. Mae hyn yn amlwg yn ei greadigaethau rhyfeddol, gan gynnwys dynolryw. Mae pob un ohonon ni’n unigryw, felly dydy Jehofa byth yn dy gymharu di ag eraill. Mae’n darllen dy galon, ac yn gwybod yn union sut berson wyt ti. (1 Sam. 16:7) Mae hefyd yn ystyried dy gryfderau, dy wendidau, a dy gefndir. Dydy ef ddim yn gofyn iti wneud mwy nag y gelli di. Mae’n rhaid inni weld ein hunain fel mae Jehofa yn ein gweld ni. Yna, bydd gynnon ni agwedd gytbwys tuag aton ni’n hunain, hynny yw, fyddwn ni ddim yn meddwl gormod ohonon ni’n hunain nac yn rhoi ein hunain i lawr chwaith.—Rhuf. 12:3.

2. Pam nad ydy hi’n beth da i gymharu ein hunain ag eraill?

2 Wrth gwrs, gallwn ni ddysgu oddi wrth esiamplau da eraill. Er enghraifft, brawd neu chwaer sy’n un dda am bregethu. (Heb. 13:7) Efallai wedyn byddwn ni’n gallu gwella ein sgiliau pregethu ein hunain. (Phil. 3:17) Ond, mae ’na wahaniaeth rhwng efelychu esiampl dda rhywun a chymharu dy hun â’r person hwnnw. Gallai cymhariaeth o’r fath wneud iti deimlo’n genfigennus, yn ddigalon, neu hyd yn oed yn ddiwerth. Fel y dysgon ni yn yr erthygl ddiwethaf, byddai cystadlu ag eraill yn y gynulleidfa yn niweidio ein perthynas â Jehofa. Felly mae Jehofa, yn ei gariad, yn ein hannog: “Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi’i wneud heb orfod cymharu’ch hunain â phobl eraill o hyd.”—Gal. 6:4.

3. Pa gynnydd ysbrydol personol sy’n dy wneud di’n hapus?

3 Mae Jehofa eisiau iti lawenhau yn dy gynnydd ysbrydol dy hun. Er enghraifft, os wyt ti wedi cael dy fedyddio, dylet ti fod wedi gwirioni am dy fod ti wedi cyrraedd y nod hwnnw! Ti wnaeth benderfynu gwneud hynny ar sail dy gariad di tuag at Dduw. Meddylia am y cynnydd rwyt ti wedi ei wneud ers hynny. Er enghraifft, wyt ti’n gwerthfawrogi darllen y Beibl a’i astudio yn fwy nag yr oeddet ti? Ydy dy weddïau wedi dod yn fwy personol ac ystyrlon dros amser? (Salm 141:2) Wyt ti bellach yn fwy sgyrsiol ar y weinidogaeth ac yn defnyddio’r bocs tŵls yn well? Ac os oes gen ti deulu, ydy Jehofa wedi dy helpu di i fod yn ŵr, gwraig, neu riant gwell? Gelli di fod yn hapus ac yn fodlon â’r holl gynnydd rwyt ti wedi ei wneud.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Gallwn ni helpu eraill i lawenhau yn eu cynnydd ysbrydol eu hunain. Gallwn ni hefyd eu helpu nhw i beidio â chymharu eu hunain ag eraill. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut gall rhieni helpu eu plant, sut gall gŵr a gwraig helpu ei gilydd, a sut gall henuriaid ac eraill yn y gynulleidfa helpu eu brodyr a chwiorydd. Yn olaf, byddwn ni’n trafod rhai egwyddorion Beiblaidd a all ein helpu ni i osod amcanion rhesymol yn ôl ein galluoedd a’n hamgylchiadau ein hunain.

BETH GALL RHIENI A CHYPLAU PRIOD EI WNEUD

Rieni, dangoswch i bob un o’ch plant eich bod chi’n gwerthfawrogi popeth da maen nhw’n ei wneud (Gweler paragraffau 5-6) *

5. Yn ôl Effesiaid 6:4, beth dylai rhieni ei osgoi?

5 Dylai rhieni fod yn ofalus i beidio â chymharu un plentyn ag un arall, neu ddisgwyl i blentyn wneud mwy nag y mae’n gallu ei wneud. Os bydd rhieni yn gwneud hynny, byddan nhw ond yn digalonni eu plant. (Darllen Effesiaid 6:4.) Dywedodd chwaer o’r enw Sachiko *: “Roedd fy athrawon yn disgwyl imi wneud yn well na fy ffrindiau ysgol. Ar ben hynny, roedd fy mam eisiau imi wneud yn dda yn yr ysgol er mwyn imi allu rhoi tystiolaeth dda i fy athro a fy nhad nad oedd yn Dyst. Roedd hi eisiau imi gael marciau llawn yn fy arholiadau, ond oedd hynny’n amhosib imi. Er mod i wedi gadael ysgol ers blynyddoedd, dw i’n dal i feddwl weithiau, a ydy fy ngorau yn ddigon da i Jehofa.”

6. Beth gall rhieni ei ddysgu o Salm 131:1, 2?

6 Mae ’na wers werthfawr iawn i rieni yn Salm 131:1, 2. (Darllen.) Dywedodd y Brenin Dafydd nad oedd yn “chwilio am enwogrwydd,” nac yn ceisio gwneud pethau oedd y tu hwnt i’w allu. Arhosodd yn “dawel a diddig” am ei fod yn ostyngedig ac yn wylaidd. Beth gall rhieni ei ddysgu o eiriau Dafydd? Gall rhieni fod yn ostyngedig ac yn wylaidd drwy beidio â disgwyl gormod ohonyn nhw eu hunain na gan eu plant. Gall rhieni helpu eu plentyn i deimlo’n werthfawr drwy gydnabod ei gryfderau a’i wendidau wrth ei helpu i osod amcanion rhesymol. Mae chwaer o’r enw Marina yn dweud: “Doedd Mam byth yn fy nghymharu â fy mrodyr, na phlant eraill chwaith. Wnaeth hi fy nysgu bod gan bawb alluoedd gwahanol, a bod pob un ohonon ni’n werthfawr i Jehofa. Diolch iddi hi, yn anaml iawn bydda i’n cymharu fy hun ag eraill.”

7-8. Sut gall gŵr anrhydeddu ei wraig?

7 Mae rhaid i ŵr Cristnogol anrhydeddu ei wraig. (1 Pedr 3:7) Mae anrhydedd yn cynnwys rhoi sylw a pharch i eraill. Er enghraifft, mae gŵr yn anrhydeddu ei wraig drwy roi urddas iddi. Dydy ef ddim yn disgwyl iddi wneud mwy nag y mae hi’n gallu. Ac yn bendant, dydy ef ddim yn ei chymharu hi â merched eraill. Sut byddai gwraig yn teimlo petai ei gŵr yn gwneud hynny? Mae gan chwaer o’r enw Rosa ŵr sydd ddim yn y gwir, a bydd ef yn aml yn ei chymharu hi â merched eraill. Mae ei eiriau cas wedi gwneud mwy na thanseilio hunanhyder Rosa. Dywedodd hi, “Dw i angen cael fy atgoffa trwy’r amser fod Jehofa yn fy ngwerthfawrogi.” I’r gwrthwyneb, mae gŵr Cristnogol yn anrhydeddu ei wraig. Mae’n gwybod bod hynny yn cael effaith dda ar ei berthynas â hi, a’i berthynas â Jehofa. *

8 Mae gŵr sy’n anrhydeddu ei wraig yn ei chanmol, ac yn dweud wrthi ei fod yn ei charu, a’i bod hi’n werthfawr. (Diar. 31:28) Dyna sut mae gŵr Katerina, a soniwyd amdani yn yr erthygl gynt, wedi ei helpu pan oedd hi’n teimlo’n ddiwerth. Yn blentyn, cafodd hi ei bychanu gan ei mam, a oedd wastad yn ei chymharu â genethod eraill, gan gynnwys ei ffrindiau. O ganlyniad, dechreuodd Katerina fesur ei gwerth drwy gymharu ei hun ag eraill—hyd yn oed ar ôl iddi ddod i’r gwir! Ond, mae ei gŵr Cristnogol wedi ei helpu hi i frwydro yn erbyn y tueddiad hwnnw ac i feddwl amdani hi ei hun mewn ffordd bositif. Mae hi’n dweud: “Mae e’n fy ngharu, yn fy nghanmol am y pethau da dw i’n eu gwneud, ac yn gweddïo amdana i. Mae e hefyd yn fy atgoffa o rinweddau bendigedig Jehofa ac yn fy helpu i gywiro fy ffordd negyddol o feddwl.”

BETH GALL HENURIAID CARIADUS AC ERAILL EI WNEUD

9-10. Sut gwnaeth henuriaid cariadus helpu un chwaer i beidio â chymharu ei hun ag eraill?

9 Sut gall henuriaid helpu’r rhai sy’n cymharu eu hunain ag eraill? Ystyria brofiad chwaer o’r enw Hanuni. Chafodd hi ddim llawer o ganmoliaeth pan oedd hi’n blentyn. Mae hi’n dweud: “O’n i’n swil ac yn teimlo bod y plant eraill i gyd yn well na fi. Alla i ddim cofio cyfnod pan oeddwn i ddim yn cymharu fy hun ag eraill.” Roedd Hanuni yn dal i wneud hynny hyd yn oed ar ôl iddi ddod i’r gwir. O ganlyniad, doedd hi ddim yn teimlo’n rhan werthfawr o’r gynulleidfa. Ond erbyn hyn, mae hi’n arloeswraig hapus. Beth wnaeth ei helpu hi i newid ei hagwedd?

10 Dywedodd Hanuni bod henuriaid caredig wedi bod yn help mawr. Dywedon nhw ei bod hi’n rhan werthfawr o’r gynulleidfa a gwnaethon nhw ei chanmol hi am ei hesiampl dda. Aeth hi ymlaen i ddweud: “Ambell waith, gofynnodd yr henuriaid imi annog chwiorydd oedd angen help. Gwnaeth y gwaith yma wneud imi deimlo’n werthfawr. Dw i’n cofio henuriaid caredig yn diolch imi am annog rhai o’r chwiorydd ifanc. Yna, wnaethon nhw ddarllen 1 Thesaloniaid 1:2, 3 imi. Wnaeth hynny gyffwrdd fy nghalon! Diolch i’r bugeiliaid da hynny, dw i bellach yn trysori fy rôl yng nghyfundrefn Jehofa.”

11. Sut gallwn ni helpu’r “rhai gostyngedig sydd wedi’u sathru,” fel sy’n cael ei ddisgrifio yn Eseia 57:15?

11 Darllen Eseia 57:15. Mae Jehofa yn caru’r “rhai gostyngedig sydd wedi’u sathru” yn fawr. Gall pob un ohonon ni, nid jest yr henuriaid, helpu i annog y brodyr a chwiorydd annwyl hyn. Un ffordd gallwn ni eu hannog nhw yw drwy ddangos diddordeb diffuant ynddyn nhw. Mae Jehofa eisiau i ni ddangos iddyn nhw gymaint mae ef yn caru ei ddefaid annwyl. (Diar. 19:17) Gallwn ni hefyd helpu ein brodyr a chwiorydd drwy fod yn ostyngedig ac yn wylaidd. Fyddwn ni ddim eisiau tynnu sylw aton ni’n hunain, oherwydd dydyn ni ddim eisiau i eraill fod yn genfigennus ohonon ni. Yn hytrach, rydyn ni eisiau i bopeth rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei wneud fod yn galonogol i’n brodyr.—1 Pedr 4:10, 11.

Roedd disgyblion Iesu yn hoff o’i gwmni oherwydd doedd ef ddim yn ymddwyn fel petai’n well na nhw. Roedd yn mwynhau treulio amser gyda’i ffrindiau (Gweler erthygl paragraff 12)

12. Pam oedd pobl gyffredin yn cael eu denu at Iesu? (Gweler y llun ar y clawr.)

12 Gallwn ddysgu llawer ynglŷn â sut i drin eraill drwy ystyried sut gwnaeth Iesu drin ei ddilynwyr. Ef oedd y dyn mwyaf galluog a fuodd erioed. Ond eto, roedd yn “addfwyn ac yn ostyngedig.” (Math. 11:28-30) Wnaeth ef erioed frolio am ba mor glyfar oedd ef. Dysgodd eraill drwy ddefnyddio iaith syml ac eglurebau apelgar a oedd yn cyffwrdd calonnau pobl ostyngedig. (Luc 10:21) Yn wahanol i’r arweinwyr crefyddol balch, wnaeth Iesu erioed wneud i eraill deimlo eu bod nhw ddim yn werthfawr yng ngolwg Duw. (Ioan 6:37) Yn hytrach, dangosodd barch at bobl gyffredin.

13. Sut cafodd caredigrwydd a chariad Iesu eu hadlewyrchu yn y ffordd roedd yn delio â’i ddisgyblion?

13 Roedd caredigrwydd a chariad Iesu yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd roedd yn delio â’i ddisgyblion. Gwyddai fod ganddyn nhw wahanol alluoedd ac amgylchiadau. Felly, doedd pawb ddim yn gallu ysgwyddo’r un cyfrifoldebau; nac yn gallu gwneud cymaint â’i gilydd yn y weinidogaeth. Eto, roedd yn gwerthfawrogi bod pawb wedi gwneud eu gorau. Mae agwedd gytbwys Iesu yn dod drosodd yn y ddameg am y talentau. Yn yr eglureb honno, rhoddodd y meistr waith i bob gwas “yn ôl ei allu.” Enillodd un o’r gweision gweithgar hynny fwy na’r llall. Ond, gwnaeth y meistr ganmol y ddau â’r un geiriau: “Da iawn ti! . . . Rwyt ti’n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti!”—Math. 25:14-23.

14. Sut gallwn ni efelychu’r ffordd gwnaeth Iesu drin eraill?

14 Mae Iesu yn garedig ac yn gariadus yn y ffordd mae’n delio â ni. Mae’n gwybod bod ein galluoedd a’n hamgylchiadau yn amrywio, ac mae wrth ei fodd pan fyddwn ni’n gwneud ein gorau. Dylen ninnau efelychu Iesu yn hyn o beth. Fyddwn ni byth eisiau codi cywilydd ar frawd neu chwaer, na gwneud iddo deimlo ei fod yn ddiwerth am ei fod yn methu gwneud gymaint ag eraill. Yn hytrach, gad inni edrych am gyfleoedd i ganmol ein brodyr a chwiorydd am wneud eu gorau i wasanaethu Jehofa.

GOSODA AMCANION RHESYMOL

Llawenha wrth osod a chyrraedd amcanion rhesymol (Gweler paragraffau 15-16) *

15-16. Sut gwnaeth un chwaer elwa o osod amcanion ysbrydol iddi hi ei hun?

15 Mae amcanion ysbrydol yn rhoi cyfeiriad a phwrpas i’n bywyd. Ond mae’n allweddol ein bod ni’n gosod amcanion yn ôl ein galluoedd a’n hamgylchiadau ni, nid rhai pobl eraill. Petasen ni’n gwneud hynny, bydden ni ond yn cael siom, neu’n digalonni. (Luc 14:28) Ystyria esiampl arloeswraig o’r enw Midori.

16 Doedd tad Midori ddim yn Dyst, ac roedd yn ei bychanu hi drwy ddweud bod ei brawd a’i chwaer, a’i ffrindiau ysgol yn well na hi. “O’n i’n teimlo’n dda i ddim,” meddai Midori. Ond wrth iddi fynd yn hŷn, wnaeth hi ddechrau magu hunanhyder. Dywedodd, “Wnes i ddarllen y Beibl bob dydd er mwyn tawelu fy nghalon a theimlo bod Jehofa yn fy ngharu i.” Ar ben hynny, gwnaeth hi osod amcanion rhesymol iddi hi ei hun, a gweddïo’n benodol am help i gyrraedd yr amcanion hynny. O ganlyniad, roedd Midori yn gallu llawenhau yn ei chynnydd ysbrydol ei hun.

GWNA DI DY ORAU I JEHOFA

17. Sut gallwn ni “feithrin ffordd newydd o feddwl,” a gyda pha ganlyniadau?

17 Efallai na fydd teimladau a meddyliau negyddol yn diflannu dros nos. Dyna pam mae Jehofa yn ein hannog i “feithrin ffordd newydd o feddwl.” (Eff. 4:23, 24) Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid inni weddïo, astudio Gair Duw, a myfyrio arno. Dalia ati i wneud y pethau hyn, a thro at Jehofa am nerth. Bydd ei ysbryd glân yn dy helpu di i drechu unrhyw dueddiad i gymharu dy hun ag eraill. Bydd Jehofa hefyd yn dy helpu di i weld os wyt ti’n dechrau magu balchder neu genfigen yn dy galon, ac yn dy helpu di i’w dadwreiddio nhw’n sydyn.

18. Sut mae 2 Cronicl 6:29, 30 yn dy gysuro?

18 Darllen 2 Cronicl 6:29, 30. Mae Jehofa yn gwybod yn iawn beth sydd yn ein calonnau. Mae hefyd yn gwybod ein trafferthion—ein brwydr yn erbyn ysbryd y byd ac yn erbyn ein hamherffeithion ein hunain. Wrth i Jehofa weld pa mor galed rydyn ni’n brwydro yn erbyn y pethau hyn, mae’n ein caru ni’n fwy byth.

19. Sut mae Jehofa’n egluro’r ffordd mae’n teimlo amdanon ni?

19 I egluro’r ffordd mae’n teimlo amdanon ni, mae Jehofa’n defnyddio’r cariad sydd rhwng mam a’i baban. (Esei. 49:15) Ystyria esiampl mam o’r enw Rachel. Dywedodd: “Cafodd fy merch Stephanie ei geni’n rhy fuan. Pan welais i hi am y tro cyntaf, roedd hi mor fychan ac yn hollol ddiymadferth. Ond, gwnaeth yr ysbyty ganiatáu imi ei dal hi yn fy mreichiau bob dydd yn ystod y mis cyntaf tra oedd hi’n cael gofal dwys. Gwnaeth yr eiliadau tyner hynny ein helpu ni i greu perthynas agos. Bellach, mae hi’n chwe mlwydd oed ac yn llai nag eraill ei hoed. Ond, dw i’n ei charu hi gymaint am ei bod hi wedi brwydro mor galed i fyw, ac wedi dod â llawenydd mawr i mywyd i!” Am gysur i wybod bod gan Jehofa y fath gariad dwfn tuag aton ni pan mae’n ein gweld ni’n brwydro i’w wasanaethu â’n holl galon!

20. Pam gall gweision Jehofa lawenhau?

20 Fel un o weision Jehofa, rwyt ti’n aelod gwerthfawr a hollol unigryw o’i deulu. Wnaeth Jehofa ddim dy ddenu di ato am dy fod ti’n well na phobl eraill. Gwnaeth ef dy ddenu am ei fod wedi edrych ar dy galon a gweld person gwylaidd sy’n barod i ddysgu; rhywun byddai’n gallu ei fowldio. (Salm 25:9) Gelli di fod yn sicr ei fod yn hapus pan wyt ti’n gwneud dy orau i’w wasanaethu. Mae dy ddyfalbarhad a dy ffyddlondeb yn dystiolaeth i’r ffaith fod gen ti ‘galon agored ddidwyll.’ (Luc 8:15) Felly, gwna di dy orau i Jehofa. Yna bydd gen ti reswm da dros fod yn hapus am dy gynnydd dy hun.

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

^ Par. 5 Dydy Jehofa ddim yn ein cymharu ni ag eraill. Ond eto, dyna’n union mae rhai ohonon ni’n dueddol o’i wneud, gan ddechrau teimlo nad ydyn ni’n ddigon da. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam nad ydy hi’n beth da i gymharu ein hunain ag eraill. Byddwn ni hefyd yn dysgu sut gallwn ni helpu aelodau’n teulu a’r rhai yn y gynulleidfa i weld eu hunain drwy lygaid Jehofa.

^ Par. 5 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 7 Er ein bod ni’n trafod gwŷr yma, mae llawer o’r egwyddorion hefyd yn berthnasol i wragedd.

^ Par. 58 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod addoliad teuluol, mae’r rhieni yn dangos eu bod nhw wrth eu boddau â beth mae pob plentyn wedi ei greu i roi yn arch Noa.

^ Par. 62 DISGRIFIAD O’R LLUN: Rhiant sengl â mab ifanc yn trefnu amserlen er mwyn arloesi’n gynorthwyol, ac mae hi’n hapus am ei bod hi wedi cyrraedd ei nod.