Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 32

Cryfha Dy Ffydd yn y Creawdwr

Cryfha Dy Ffydd yn y Creawdwr

“Ffydd ydy’r . . . dystiolaeth sicr o realiti beth dŷn ni ddim eto’n ei weld.”—HEB. 11:1.

CÂN 11 Mae’r Greadigaeth yn Moli Duw

CIPOLWG *

1. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu am ein Creawdwr?

OS CEST ti dy fagu fel un o Dystion Jehofa, mae’n debyg dy fod ti wedi dysgu am Jehofa ers oeddet ti’n ddim o beth. Wnest ti ddysgu mai ef yw’r Creawdwr, bod ganddo bersonoliaeth ddeniadol, a bod ganddo bwrpas cariadus ar gyfer y ddynoliaeth.—Gen. 1:1; Act. 17:24-27.

2. Sut mae rhai pobl yn ystyried y rhai sy’n credu mewn Creawdwr?

2 Mae ’na lawer o bobl sydd ddim yn credu bod Duw yn bodoli, heb sôn am gredu mai ef yw’r Creawdwr. Yn hytrach, maen nhw’n credu bod bywyd wedi cychwyn drwy hap a damwain, ac wedyn wedi esblygu’n araf deg o organebau syml i greaduriaid mwy cymhleth. Mae rhai o’r unigolion hyn wedi cael addysg dda iawn. Efallai byddan nhw’n honni bod gwyddoniaeth wedi gwrthbrofi’r Beibl, a bod pobl sydd â ffydd yn y Creawdwr yn wirion, yn wan, neu’n naïf.

3. Pam mae hi’n bwysig i gryfhau dy ffydd dy hun?

3 A fydd barn pobl ddylanwadol yn gwneud inni amau nad Jehofa yw ein Creawdwr cariadus? Mae hynny’n dibynnu’n fawr ar pam rydyn ni’n credu mai Jehofa yw’r Creawdwr. Ydyn ni’n credu am mai dyna mae rhywun wedi dweud wrthon ni am ei gredu? Neu am ein bod ni wedi astudio’r dystiolaeth droston ni’n hunain? (1 Cor. 3:12-15) Ni waeth pa mor hir rydyn ni wedi bod yn un o Dystion Jehofa, mae’n rhaid inni i gyd barhau i gryfhau ein ffydd. Drwy wneud hynny, chawn ni ddim ein camarwain gan rai sydd yn gwrth-ddweud beth sydd yn y Beibl ac yn rhannu “syniadau sy’n ddim byd ond nonsens gwag.” (Col. 2:8; Heb. 11:6) I’n helpu ni, bydd yr erthygl hon yn trafod (1) pam dydy llawer ddim yn credu mewn Creawdwr, (2) sut gelli di adeiladu dy ffydd yn Jehofa, dy Greawdwr, a (3) sut gelli di gadw’r ffydd honno yn gryf.

PAM DYDY LLAWER DDIM YN CREDU MEWN CREAWDWR

4. Yn ôl Hebreaid 11:1, ar beth mae ffydd go iawn wedi ei seilio?

4 Mae rhai pobl yn meddwl bod cael ffydd yn golygu credu yn rhywbeth heb dystiolaeth. Ond yn ôl y Beibl, dydy hynny ddim yn ffydd go iawn. (Darllen Hebreaid 11:1.) Sylwa fod ffydd mewn realiti anweledig fel Jehofa, Iesu, a’r Deyrnas nefol, yn seiliedig ar dystiolaeth sicr. (Heb. 11:3) Dywedodd un Tyst sy’n fiocemegwr: “Dydy ein ffydd ddim yn ddall nac yn anwybyddu ffeithiau gwyddoniaeth.”

5. Pam mae llawer o bobl yn credu bod bywyd wedi cychwyn heb Greawdwr?

5 Ond mae’r cwestiwn yn codi, ‘Os oes ’na gymaint o dystiolaeth gadarn bod ’na Greawdwr, pam mae llawer o bobl yn credu fel arall?’ Yn ddigon syml, dydy rhai pobl heb astudio’r dystiolaeth drostyn nhw eu hunain. Mae Robert, sydd bellach yn un o Dystion Jehofa, yn dweud: “Gan fod ’na ddim sôn o gwbl am greadigaeth yn yr ysgol, o’n i’n cymryd bod o ddim yn wir. Dim ond pan o’n i yn fy ugeiniau wnes i siarad efo Tystion Jehofa a dysgu bod y Beibl yn rhoi rheswm da inni gredu bod ’na Greawdwr.” *—Gweler y blwch “ Apêl i Rieni.”

6. Pam dydy rhai ddim yn credu bod ’na Greawdwr?

6 Dydy rhai ddim yn credu mewn Creawdwr am eu bod nhw’n dweud eu bod nhw’n credu dim ond yn yr hyn maen nhw’n gallu ei weld. Wrth gwrs, maen nhw’n gwneud eithriadau am bethau anweledig fel disgyrchiant, sydd, wedi’r cwbl, yn realiti. Mae’r math o ffydd sy’n cael ei sôn amdani yn y Beibl hefyd wedi ei seilio ar dystiolaeth o realiti ‘dyn ni ddim yn ei weld.’ (Heb. 11:1) Mae’n cymryd amser ac ymdrech i astudio’r dystiolaeth droston ni ein hunain, a does gan lawer o bobl mo’r awydd i wneud hynny. Efallai bydd rhywun sydd ddim yn astudio’r dystiolaeth drosto’i hun yn dod i’r casgliad nad oes ’na Dduw.

7. Ydy pob person addysgedig yn gwadu bod Duw wedi creu’r bydysawd? Esbonia.

7 Ar ôl astudio’r dystiolaeth, mae rhai gwyddonwyr wedi dod yn hollol sicr fod Duw wedi creu’r bydysawd. * Fel Robert, a soniwyd amdano gynt, efallai bod rhai jest wedi cymryd bod ’na ddim Creawdwr oherwydd bod y greadigaeth erioed wedi cael ei dysgu yn y brifysgol. Ond mae llawer o wyddonwyr wedi dod i adnabod Jehofa a’i garu. Fel gwnaeth y gwyddonwyr hynny, mae’n rhaid i bob un ohonon ni gryfhau ein ffydd yn Nuw, ni waeth pa fath o addysg ’dyn ni wedi ei chael. Ni all neb arall wneud hynny droston ni.

SUT I GRYFHAU DY FFYDD YN Y CREAWDWR

8-9. (a) Pa gwestiwn byddwn ni’n ei ystyried nawr? (b) Sut byddi di’n elwa o astudio’r greadigaeth?

8 Sut gelli di gryfhau dy ffydd di yn y Creawdwr? Gad inni ystyried pedair ffordd.

9Astudia’r greadigaeth. Gelli di adeiladu dy ffydd yn y Creawdwr drwy edrych yn fanwl ar anifeiliaid, planhigion, a sêr. (Salm 19:1; Esei. 40:26) Y mwyaf byddi di’n astudio pethau felly, y mwyaf sicr y byddi di mai Jehofa ydy’r Creawdwr. Mae ein cyhoeddiadau yn aml yn cynnwys erthyglau sy’n esbonio gwahanol agweddau ar y greadigaeth. Paid â phoeni os nad wyt ti’n deall popeth yn yr erthyglau hynny. Dysga beth fedri di ohonyn nhw. A phaid ag anghofio ail-wylio’r fideos hyfryd am greadigaeth, a gafodd eu dangos yn ein cynadleddau rhanbarthol yn y blynyddoedd diweddar, ac sydd bellach ar gael ar ein gwefan, jw.org!

10. Rho esiampl o sut mae’r greadigaeth yn profi bod ’na Greawdwr. (Rhufeiniaid 1:20)

10 Wrth edrych ar y greadigaeth o dy gwmpas, tala sylw manwl i beth mae’r ffeithiau yn ei ddatgelu am ein Creawdwr. (Darllen Rhufeiniaid 1:20.) Er enghraifft, efallai dy fod ti’n gwybod bod ein haul yn rhoi gwres sy’n cynnal bywyd, ond hefyd yn rhyddhau egni niweidiol ar ffurf pelydrau uwchfioled. Rydyn ni fodau dynol angen cael ein hamddiffyn rhag y pelydrau hynny. Ac mi ydyn ni! Sut? Mae ’na haen o nwy osôn o gwmpas y ddaear sy’n ein hamddiffyn ni rhag y pelydrau niweidiol hyn. Wrth i’r pelydrau uwchfioled o’r haul fynd yn gryfach, mae mwy o osôn yn ffurfio. Onid wyt ti’n cytuno bod rhaid i rywun fod y tu ôl i’r broses hon, a bod rhaid iddo fod yn Greawdwr cariadus a chlyfar?

11. Lle gelli di gael hyd i ffeithiau fydd yn cryfhau dy ffydd mewn Creawdwr? (Gweler y blwch “ Rhai Adnoddau i Gryfhau Dy Fydd.”)

11 Gelli di gael hyd i lawer o ffeithiau am y greadigaeth a fydd yn cryfhau dy ffydd drwy edrych yn y Llawlyfr Cyhoeddiadau a thrwy wneud ymchwil ar jw.org. Beth am gychwyn gyda’r erthyglau a’r fideos o’r gyfres “Wedi ei Ddylunio?” Mae’r rhain yn fyr ac yn cyflwyno ambell i ffaith ryfeddol am anifeiliaid a phlanhigion. Maen nhw hefyd yn cynnwys enghreifftiau o sut mae gwyddonwyr wedi ceisio copïo beth maen nhw’n ei weld ym myd natur.

12. Wrth astudio’r Beibl, beth yw rhai pethau dylen ni dalu sylw iddyn nhw?

12Astudia’r Beibl. Doedd y biocemegwr wnaethon ni sôn amdano gynt ddim yn credu mewn Creawdwr i gychwyn. Ond daeth i gredu ymhen amser. Dywedodd: “Doedd fy ffydd ddim wedi ei seilio ar ffeithiau gwyddonol yn unig. Roedd hefyd wedi ei seilio ar beth ddysgais i o astudio’r Beibl yn ofalus.” Efallai dy fod ti eisoes yn adnabod y Beibl yn dda. Ond er mwyn cryfhau dy ffydd yn dy Greawdwr, mae’n rhaid iti barhau i astudio Gair Duw. (Jos. 1:8; Salm 119:97) Sylwa pa mor fanwl mae’r Beibl yn disgrifio digwyddiadau hanesyddol. Tala sylw i’w broffwydoliaethau a’r harmoni rhwng ei dudalennau. Gall gwneud hynny gryfhau dy ffydd bod Creawdwr cariadus a doeth wedi ein creu ni, a’i fod wedi ysbrydoli’r Beibl. *2 Tim. 3:14; 2 Pedr 1:21.

13. Beth yw un esiampl o’r doethineb yng Ngair Duw?

13 Wrth astudio Gair Duw, sylwa pa mor ddefnyddiol yw ei gyngor. Er enghraifft, gwnaeth y Beibl rybuddio bell yn ôl bod cariad tuag at arian yn niweidiol, ac yn “achosi pob math o loes a galar.” (1 Tim. 6:9, 10; Diar. 28:20; Math. 6:24) Ydy’r rhybudd hwnnw’n dal yn berthnasol heddiw? Mae’r llyfr The Narcissism Epidemic yn dweud: “Ar gyfartaledd, mae pobl sy’n caru pethau materol yn llai hapus ac yn fwy tebygol o ddioddef iselder. Mae hyd yn oed yr awydd i gael mwy o arian yn achosi iechyd meddwl gwael a phroblemau iechyd corfforol.” Felly, mae rhybudd y Beibl am garu arian yn gyngor hynod o dda! Elli di feddwl am gyngor arall o’r Beibl sydd wedi dy helpu di? Y mwyaf byddwn ni’n gwerthfawrogi cyngor y Beibl, y mwyaf byddwn ni’n gweld bod ein Creawdwr cariadus yn gwybod beth sydd orau inni, a byddwn ni wastad yn dibynnu ar ei ddoethineb. (Iago 1:5) O ganlyniad, bydd ein bywyd yn hapusach.—Esei. 48:17, 18.

14. Beth bydd astudio’r Beibl yn ei ddatgelu am Jehofa?

14Astudia’r Beibl gyda’r nod o ddod i adnabod Jehofa yn well. (Ioan 17:3) Wrth iti astudio’r Ysgrythurau, bydd personoliaeth Jehofa a’i rinweddau yn dechrau dod yn glir—rhinweddau sy’n cael eu hadlewyrchu yn y greadigaeth. Mae’r rhinweddau hyn yn amlwg yn perthyn i Berson go iawn; dydyn nhw ddim yn rhywbeth mae rhywun wedi eu dychmygu. (Ex. 34:6, 7; Salm 145:8, 9) Wrth iti ddod i adnabod Jehofa yn well ac yn well, bydd dy ffydd ynddo yn cynyddu, bydd dy gariad tuag ato yn tyfu, a bydd dy berthynas ag ef yn cryfhau.

15. Sut byddi di ar dy ennill o rannu dy ffydd?

15Rhanna dy ffydd yn Nuw ag eraill. Wrth iti wneud hynny, bydd dy ffydd dy hun yn cael ei hatgyfnerthu. Ond beth os ydy rhywun rwyt ti’n tystiolaethu iddo yn codi cwestiwn am fodolaeth Duw, a dwyt ti ddim yn siŵr sut i ateb? Ceisia gael hyd i ateb Ysgrythurol i’r cwestiwn yn un o’n cyhoeddiadau, ac yna rhanna hynny â’r unigolyn. (1 Pedr 3:15b) Gallet ti hefyd ofyn i Dyst profiadol am help. P’un a ydy’r unigolyn yn derbyn atebion o’r Beibl neu ddim, byddi di ar dy ennill am dy fod ti wedi gwneud yr ymchwil. Bydd yn cryfhau dy ffydd. Ac o ganlyniad, fyddi di ddim yn cael dy gamarwain gan bobl sy’n ymddangos yn ddoeth ac yn glyfar ac sy’n dweud bod ’na ddim Creawdwr.

CADWA DY FFYDD YN GRYF!

16. Beth all ddigwydd os nad ydyn ni’n parhau i adeiladu ar ein ffydd?

16 Ni waeth pa mor hir ’dyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa, mae’n rhaid inni barhau i adeiladu ar ein ffydd ynddo. Pam? Oherwydd gall ein ffydd wanhau os nad ydyn ni’n ofalus. Cofia, mae ffydd wedi ei seilio ar realiti anweledig. Mae’n ddigon hawdd anghofio beth ’dyn ni ddim yn gallu ei weld. Dyna pam gwnaeth Paul sôn am ddiffyg ffydd fel “y pechod sy’n denu’n sylw ni mor hawdd.” (Heb. 12:1) Sut, felly, gallwn ni osgoi’r fagl honno?—2 Thes. 1:3.

17. Pa help sydd ei angen arnon ni er mwyn cadw ein ffydd yn gryf?

17 Yn gyntaf, erfynia ar Jehofa am ei ysbryd glân, a gwna hynny’n aml. Pam? Am fod ffydd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd. (Gal. 5:22, 23) Allwn ni ddim cryfhau ein ffydd yn ein Creawdwr heb help ei ysbryd glân. Os ydyn ni’n parhau i ofyn i Jehofa am ei ysbryd, bydd yn sicr o’i roi inni. (Luc 11:13) Gallwn ni hyd yn oed weddïo: “Cryfha ein ffydd.”—Luc 17:5, BCND.

18. Yn ôl Salm 1:2, 3, pa fraint gallwn ni ei mwynhau?

18 Ar ben hynny, astudia Air Duw yn bersonol yn rheolaidd. (Darllen Salm 1:2, 3.) Pan gafodd y salm honno ei hysgrifennu, doedd gan y rhan fwyaf o Israeliaid ddim copi cyfan o Gyfraith Duw. Er hynny, roedd copïau ar gael i’r brenhinoedd a’r offeiriaid, felly bob saith mlynedd, roedden nhw’n trefnu i’r “dynion, merched a phlant,” yn ogystal â’r rhai oedd wedi mewnfudo i Israel wrando ar ddarlleniad o Gyfraith Duw. (Deut. 31:10-12) Yn nyddiau Iesu, dim ond ychydig o bobl oedd yn berchen ar gopi o’r Ysgrythurau, ac roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn cael eu cadw yn y synagogau. Ar y llaw arall, mae Gair Duw ar gael i’r rhan fwyaf o bobl heddiw, yn rhannol neu’n llawn. Mae hynny’n fraint go iawn. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi braint o’r fath?

19. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i gadw ein ffydd yn gryf?

19 Gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r fraint o gael Gair Duw drwy ei ddarllen yn rheolaidd. Fedrwn ni ddim fforddio gadael astudiaeth bersonol nes inni deimlo bod gynnon ni’r amser. Drwy lynu at rwtîn o astudio, gallwn ni gadw ein ffydd yn gryf.

20. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud?

20 Yn wahanol i’r rhai yn y byd “sy’n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar,” mae gynnon ni ffydd gadarn sydd wedi ei seilio ar Air Duw. (Math. 11:25, 26) Am ein bod ni wedi astudio’r Beibl, rydyn ni’n gwybod pam mae amgylchiadau ar y ddaear yn gwaethygu, a beth mae Jehofa yn mynd i’w wneud am y mater. Felly, gad inni fod yn benderfynol o gryfhau ein ffydd, a helpu gymaint o bobl â phosib i gael ffydd yn ein Creawdwr. (1 Tim. 2:3, 4) A gad inni edrych ymlaen at y dyfodol pan fydd pawb ar y ddaear yn moli Jehofa fel mae Datguddiad 4:11 yn ei ddweud: “Ein Harglwydd a’n Duw! Rwyt ti’n deilwng o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth. Ti greodd bob peth.”

CÂN 2 Jehofa Yw Dy Enw

^ Par. 5 Mae’r Beibl yn dweud yn glir mai Jehofa Dduw yw’r Creawdwr. Ond dydy llawer o bobl ddim yn credu hynny. Maen nhw’n mynnu bod bywyd wedi cychwyn ar ei ben ei hun. Ond fydd eu honiadau ddim yn gwneud inni amau os byddwn ni’n gweithio’n galed i gryfhau ein ffydd yn Nuw a’r Beibl. Bydd yr erthygl hon yn esbonio sut gallwn ni wneud hynny.

^ Par. 5 Mewn llawer o ysgolion, dydy athrawon ddim hyd yn oed yn trafod y posibilrwydd bod ’na Greawdwr. Maen nhw’n teimlo y byddai gwneud hynny yn amharu ar ryddid crefyddol y myfyrwyr.

^ Par. 7 Mae sylwadau gan dros 60 o bobl addysgedig, gan gynnwys gwyddonwyr sy’n credu yn y greadigaeth, ar gael yn y Watch Tower Publications Index Saesneg diweddaraf. O dan y pwnc “Science,” edrycha am y pennawd “scientists expressing belief in creation.” Mae rhai o’r sylwadau hyn hefyd ar gael ar jw.org, o dan y pwnc “Gwyddoniaeth a’r Beibl.”

^ Par. 12 Er enghraifft, gweler yr erthygl “Ydy’r Beibl yn Cytuno â Gwyddoniaeth?” o dan “Gwyddoniaeth a’r Beibl” ar jw.org a’r erthygl “Proffwydoliaethau Sydd Wedi Dod yn Wir” yn ail rifyn y Tŵr Gwylio, 2018.