Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 33

Cael Llawenydd o’r Breintiau Sydd Gen Ti

Cael Llawenydd o’r Breintiau Sydd Gen Ti

“Mae bod yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi yn well na breuddwydio am gael mwy.”—PREG. 6:9.

CÂN 111 Rhesymau Dros Ein Llawenydd

CIPOLWG *

1. Sut mae llawer yn ceisio gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa?

 MAE gynnon ni gryn dipyn o waith i’w wneud wrth i’r system hon ddirwyn i ben. (Math. 24:14; Luc 10:2; 1 Pedr 5:2) Rydyn ni i gyd eisiau gwneud cymaint ag y gallwn ni yng ngwasanaeth Jehofa. Mae llawer yn ehangu eu gweinidogaeth. Mae rhai yn gobeithio gwasanaethu fel arloeswyr. Mae eraill yn gobeithio gwasanaethu yn y Bethel, neu gael rhan ar brosiectau adeiladu theocrataidd. Ac mae llawer o frodyr yn gweithio tuag at y nod o fod yn was gweinidogaethol neu’n henuriad. (1 Tim. 3:1, 8) Mae’n rhaid bod Jehofa wrth ei fodd i weld bod ei bobl mor barod i’w wasanaethu!—Salm 110:3; Esei. 6:8.

2. Sut gallwn ni deimlo os nad ydyn ni’n cyrraedd rhai o’n hamcanion ysbrydol?

2 Gallen ni ddigalonni os oes ’na amser hir wedi mynd heibio, a ninnau dal heb gyrraedd ein hamcanion ysbrydol. Neu efallai byddwn ni’n digalonni os oes ’na rai breintiau sydd y tu hwnt i’n cyrraedd oherwydd oed neu amgylchiadau eraill. (Diar. 13:12) Mae hynny’n wir yn achos Melissa. * Byddai hi wrth ei bodd yn gwasanaethu yn y Bethel neu’n mynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, ond mae hi’n dweud: “Dw i’n rhy hen yn ôl y gofynion. I mi, dim ond breuddwydion ydy’r breintiau hynny bellach, ac ar adegau, dw i’n teimlo’n ddigalon.”

3. Pa gamau efallai bydd rhaid i rai eu cymryd er mwyn bod yn gymwys ar gyfer breintiau penodol?

3 Efallai bydd rhaid i rai iach ac ifanc aeddfedu, a dangos rhinweddau penodol cyn iddyn nhw fod yn gymwys i dderbyn mwy o gyfrifoldebau. Ar un llaw, efallai eu bod nhw’n glyfar, yn frwdfrydig, ac yn gallu gwneud penderfyniadau’n sydyn; ond ar y llaw eraill, efallai bydd rhaid iddyn nhw ddysgu bod yn fwy amyneddgar, yn drylwyr, ac yn barchus. Os wyt ti’n gwneud ymdrech arbennig i feithrin y rhinweddau rwyt ti eu hangen, efallai cei di fraint pan dwyt ti ddim yn ei disgwyl. Ystyria brofiad Nick. Pan oedd yn 20 oed, roedd yn siomedig iawn am na chafodd ei apwyntio fel gwas gweinidogaethol. Dywedodd, “O’n i’n teimlo mae’n rhaid bod ’na rhywbeth yn bod arna i.” Ond, wnaeth Nick ddim rhoi’r ffidil yn y to. Cymerodd fantais lawn o’r breintiau roedd ganddo yn barod. Erbyn heddiw, mae’n gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Cangen.

4. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

4 Wyt ti’n ddigalon am nad wyt ti wedi cyrraedd rhyw nod ysbrydol penodol eto? Os felly, dyweda wrth Jehofa sut rwyt ti’n teimlo. (Salm 37:5-7) Hefyd, gofynna i frodyr aeddfed am awgrymiadau am sut gelli di wella yn dy wasanaeth i Dduw, ac yna tria dy orau i roi eu cyngor ar waith. O wneud hynny, mae’n ddigon tebyg byddi di’n cael y fraint honno, neu’n cyrraedd dy nod. Ond fel yn achos Melissa, efallai nad ydy hi’n bosib ar hyn o bryd iti wneud yr hyn byddet ti’n hoffi ei wneud yng ngwasanaeth Jehofa. Beth wedyn? Sut gelli di gadw dy lawenydd? Er mwyn ateb y cwestiwn hwnnw, bydd yr erthygl hon yn trafod (1) lle i gael hyd i lawenydd, (2) sut i gael mwy o lawenydd, a (3) y math o amcanion gelli di eu gosod er mwyn ychwanegu at dy lawenydd.

LLE I GAEL HYD I LAWENYDD

5. Er mwyn bod yn llawen, ar beth dylen ni ganolbwyntio? (Pregethwr 6:9a)

5 Yn ôl Pregethwr 6:9a, gallwn gael hyd i lawenydd os ydyn ni’n edrych amdano yn y lle iawn. (Darllen.) Mae rhywun sy’n mwynhau’r hyn sydd ganddyn nhw yn fodlon â’i amgylchiadau presennol. Ar y llaw arall, mae rhywun sy’n “breuddwydio am gael mwy” wastad yn mynd ar ôl rhywbeth sydd y tu hwnt i’w gyrraedd. Felly beth yw’r wers i ni? I gael hyd i lawenydd, mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd gynnon ni, ac ar amcanion realistig.

6. Pa ddameg byddwn ni’n ei hystyried nawr, a beth byddwn ni’n ei ddysgu ohoni?

6 Ydy hi wir yn bosib bod yn fodlon â’r hyn sydd gen ti’n barod? Wedi’r cwbl, wrth i amser fynd heibio, mae hi’n ddigon naturiol inni chwilio am heriau newydd. Ond eto mae hi’n bosib. Gallwn ni fwynhau’r hyn sydd gynnon ni, yn hytrach na dim ond setlo amdano. Sut gallwn ni wneud hynny? Er mwyn ffeindio allan, gad inni ystyried dameg Iesu am y talentau yn Mathew 25:14-30. Byddwn ni’n dysgu sut gallwn ni gael llawenydd o’r bendithion sydd gynnon ni’n barod, a hefyd, sut i’w gynyddu.

SUT I GAEL FWY O LAWENYDD

7. Yn gryno, beth ddigwyddodd yn nameg Iesu am y talentau?

7 Yn y ddameg, roedd dyn ar fin mynd ar daith. Cyn gadael, galwodd ei weision ato a rhoi talentau i bob un ohonyn nhw i fasnachu. * Roedd y dyn yn gwybod bod gan ei weision wahanol alluoedd, felly, rhoddodd bum talent i un gwas, dwy i un arall, ac un i’r trydydd gwas. Gweithiodd y ddau was cyntaf yn galed i wneud mwy o arian i’w meistr, ond wnaeth y trydydd gwas wneud dim â’r arian a gafodd, felly cafodd ei ddiswyddo gan ei feistr.

8. Pa reswm oedd gan y gwas cyntaf yn y ddameg dros fod yn llawen?

8 Mae’n rhaid fod y gwas cyntaf wedi gwirioni bod y meistr wedi rhoi pum talent yn ei ofal. Roedd hynny’n swm mawr o arian, ac roedd yn dangos cymaint roedd y meistr yn ei drystio! Ond beth am yr ail was? Gallai fod wedi digalonni am nad oedd wedi cael gymaint o dalentau â’r gwas cyntaf. Ond sut gwnaeth ef ymateb?

Pa wersi gallwn ni eu dysgu oddi wrth yr ail was yn eglureb Iesu? (1) Cafodd ddwy dalent oddi wrth ei feistr (2) Gweithiodd yn galed er mwyn ennill mwy o arian i’w feistr (3) Mi wnaeth ef ddyblu talentau ei feistr (Gweler paragraffau 9-11)

9. Beth wnaeth Iesu ddim ei ddweud am yr ail was? (Mathew 25:22, 23)

9 Darllen Mathew 25:22, 23. Wnaeth Iesu ddim dweud fod yr ail was wedi ypsetio na dal dig am ei fod ond wedi cael dwy dalent. A wnaeth Iesu ddim dweud ei fod wedi cwyno chwaith gan ddweud: ‘Ai dyma’r oll dw i’n gael? Dw i’n gweithio’r un mor galed â’r gwas a gafodd bum talent! Os dydy fy meistr ddim yn fy ngwerthfawrogi, waeth imi gladdu’r ddwy dalent ’ma a gwneud fel dw i eisiau.’

10. Beth wnaeth yr ail was â’i dalentau?

10 Fel y gwas cyntaf, gwnaeth yr ail was gymryd ei gyfrifoldeb o ddifri a gweithio’n galed i’w feistr. O ganlyniad, gwnaeth ef ddyblu’r talentau oedd ganddo. Cafodd ei waith caled ei wobrwyo. Gwnaeth ei feistr ei ganmol a rhoi hyd yn oed mwy o gyfrifoldeb iddo!

11. Sut gallwn ni gael mwy o lawenydd?

11 Mewn ffordd debyg, gallwn ni gael mwy o lawenydd drwy wneud ein gorau mewn unrhyw aseiniad rydyn ni’n ei gael yng ngwasanaeth Jehofa. Mae’n rhaid inni “ymroi yn llwyr” i’r gwaith pregethu, a chael rhan lawn yng ngweithgareddau’r gynulleidfa. (Act. 18:5 BCND; Heb. 10:24, 25) Dos i’r cyfarfodydd yn barod i roi atebion calonogol ar y deunydd sy’n cael ei astudio. Cymera unrhyw aseiniad gei di yn y cyfarfod canol wythnos o ddifri. Os ydy rhywun yn gofyn iti helpu gyda rhyw dasg yn y gynulleidfa, bydda’n brydlon ac yn ddibynadwy. Paid â thrin unrhyw aseiniad gei di fel petai hi ddim yn bwysig, neu ddim yn werth dy amser. Ceisia wella dy sgiliau. (Diar. 22:29) Y mwyaf rwyt ti’n ymroi i dy aseiniadau a gweithgareddau ysbrydol, y cyflymaf byddi di’n cynyddu, a byddi di’n hapusach o lawer. (Gal. 6:4) Byddi di hefyd yn ei chael hi’n haws llawenhau gydag eraill pan fyddan nhw’n cael braint byddet ti wedi hoffi ei chael.—Rhuf. 12:15; Gal. 5:26.

12. Beth helpodd Melissa a Nick i gael mwy o lawenydd?

12 Wyt ti’n cofio Melissa, y chwaer oedd eisiau gwasanaethu yn y Bethel neu fynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas? Er nad oedd hynny’n bosib iddi, mae hi’n dweud: “Dw i’n canolbwyntio’n llwyr ar fy arloesi ac yn cael rhan ym mhob dull o’r gwaith pregethu, ac mae hynny wedi dod â llawenydd mawr imi.” A sut gwnaeth Nick ymdopi â’r siom o beidio â chael ei benodi fel gwas gweinidogaethol? “Wnes i ganolbwyntio ar yr hyn o’n i’n gallu wneud, fel y gwaith pregethu a rhoi atebion calonogol yn y cyfarfodydd. Wnes i hefyd lenwi cais ar gyfer gwasanaethu yn y Bethel, a ges i fy nerbyn y flwyddyn wedyn.”

13. Beth fydd yn digwydd os wyt ti’n gwneud dy orau yn dy aseiniad presennol? (Pregethwr 2:24)

13 Os wyt ti’n gwneud dy orau yn dy aseiniad presennol, a fyddi di’n cael mwy o gyfrifoldebau yn y dyfodol? Gall hynny ddigwydd fel yn achos Nick. Ond os ddim, byddi di, fel Melissa, yn gallu cael mwy o lawenydd, a byddi di’n cael boddhad mawr o’r hyn rwyt ti’n gallu ei wneud yn barod. (Darllen Pregethwr 2:24.) Ar ben hynny, byddi di’n cael llawenydd mawr o wybod dy fod ti’n plesio ein meistr Iesu Grist.

AMCANION SY’N YCHWANEGU AT EIN LLAWENYDD

14. Beth dylen ni ei gofio am amcanion ysbrydol?

14 Ydy canolbwyntio ar ein haseiniadau presennol yn golygu y dylen ni beidio ag edrych am ffyrdd i ehangu ein gwasanaeth i Jehofa? Ddim o gwbl! Dylen ni osod amcanion ysbrydol a fydd yn ein helpu i wella ein sgiliau yn y weinidogaeth ac i fod yn fwy defnyddiol i’n brodyr a chwiorydd. Byddwn ni’n llwyddo o fod yn ddoeth ac yn wylaidd a chanolbwyntio ar wasanaethu eraill yn hytrach nag arnon ni’n hunain.—Diar. 11:2; Act. 20:35.

15. Beth yw rhai amcanion a all roi mwy o lawenydd iti?

15 Pa amcanion gallet ti eu gosod i ti dy hun? Gofynna i Jehofa dy helpu di i weld pa amcanion sydd o fewn dy gyrraedd. (Diar. 16:3; Iago 1:5) A allet ti anelu at un o’r amcanion sydd ym  mharagraff cyntaf yr erthygl hon, sef arloesi’n llawn amser neu’n gynorthwyol, gwasanaethu yn y Bethel, neu gael rhan ar brosiectau adeiladu theocrataidd? Neu efallai dy fod ti mewn sefyllfa i ddysgu iaith newydd neu i fynd a phregethu i bobl mewn gwlad arall. Gelli di ddysgu mwy am yr amcanion hyn drwy ddarllen pennod 10 y llyfr Organized to Do Jehovah’s Will, a thrwy siarad â’r henuriaid yn dy gynulleidfa. * Wrth iti weithio tuag at y fath amcanion, bydd dy gynnydd di’n amlwg, a byddi di’n cael mwy o lawenydd.

16. Beth gelli di ei wneud os wyt ti’n methu cyrraedd rhyw nod penodol ar hyn o bryd?

16 Ond beth os wyt ti’n methu cyrraedd yr amcanion hynny ar hyn o bryd? Ceisia gael hyd i nod arall sy’n realistig i ti. Ystyria’r posibiliadau canlynol.

Pa nod gelli di ei gyrraedd? (Gweler paragraff 17) *

17. Yn ôl 1 Timotheus 4:13, 15, sut gall brawd weithio tuag at fod yn athro gwell?

17 Darllen 1 Timotheus 4:13, 15. Os wyt ti’n frawd bedyddiedig, efallai gallet ti weithio ar wella dy sgiliau siarad a dysgu. Pam? Oherwydd drwy wneud dy ddarllen, siarad, a dysgu yn “flaenoriaeth,” byddi di’n gallu helpu’r rhai sy’n gwrando arnat ti yn well. Ceisia osod y nod o astudio pob gwers yn y llyfryn Ymroi i Ddarllen a Dysgu, a’u rhoi nhw ar waith. Astudia un wers ar y tro, a’i hymarfer gartref cyn ei rhoi ar waith yn dy anerchiadau. Gofynna am awgrymiadau oddi wrth y cynghorwr cynorthwyol neu henuriaid eraill sy’n “gweithio’n galed yn pregethu a dysgu.” * (1 Tim. 5:17) Canolbwyntia nid yn unig ar ddeall y wers, ond hefyd ar helpu dy wrandawyr i gryfhau eu ffydd, neu eu hysgogi nhw i roi rhywbeth ar waith. Drwy wneud hynny, byddi di’n cael mwy o lawenydd, a byddan nhwthau hefyd.

Pa nod gelli di ei gyrraedd? (Gweler paragraff 18) *

18. Beth all ein helpu ni i gyrraedd amcanion yn ein gweinidogaeth?

18 Mae pob un ohonon ni wedi cael ein haseinio i bregethu a gwneud disgyblion. (Math. 28:19, 20; Rhuf. 10:14) A fyddet ti’n hoffi hogi dy sgiliau yn y gwaith hollbwysig hwn? Gosoda amcanion penodol wrth iti astudio’r llyfryn Darllen a Dysgu a rhoi’r hyn rwyt ti’n ei ddysgu ohono ar waith. Gelli di gael mwy o awgrymiadau ymarferol o Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd a’r fideos sgyrsiau enghreifftiol sy’n cael eu dangos yn ystod y cyfarfod canol wythnos. Tria wahanol syniadau i ffeindio allan beth sy’n gweithio orau i ti. Drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn, byddi di’n siŵr o brofi’r llawenydd o ddod yn athro Cristnogol medrus.—2 Tim. 4:5.

Pa nod gelli di ei gyrraedd? (Gweler paragraff 19) *

19. Sut gelli di feithrin rhinweddau Cristnogol?

19 Wrth ystyried pa amcanion i’w gosod i ti dy hun, paid ag anghofio un o’r rhai pwysicaf, sef meithrin rhinweddau Cristnogol. (Gal. 5:22, 23; Col. 3:12; 2 Pedr 1:5-8) Sut gallet ti fynd ati? Dyweda er enghraifft, dy fod ti eisiau meithrin ffydd gryfach. Gallet ti ddarllen erthyglau yn ein cyhoeddiadau sy’n rhoi awgrymiadau ymarferol ar sut i gryfhau dy ffydd. Yn bendant, byddi di’n elwa o wylio rhannau o JW Broadcasting® sy’n dangos ffydd ragorol brodyr a chwiorydd wrth iddyn nhw ddelio â gwahanol dreialon. Yna, ystyria sut gelli di efelychu eu ffydd yn dy fywyd dy hun.

20. Sut gallwn ni ychwanegu at ein llawenydd a lleihau siom?

20 Mae’n debyg bod pob un ohonon ni eisiau gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa nag y gallwn ni ar hyn o bryd. Ym myd newydd Duw, byddwn ni’n gallu ei wasanaethu’n llawn. Yn y cyfamser, drwy fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael inni, byddwn ni’n cael mwy o lawenydd ac yn lleihau unrhyw siom. Yn bwysicach byth, byddwn ni’n dod â chlod ac anrhydedd i Jehofa, ein “Duw hapus.” (1 Tim. 1:11, NWT) Felly gad inni gael llawenydd o’r breintiau sydd gynnon ni!

CÂN 82 ‘Disgleiriwch Eich Golau’

^ Par. 5 Rydyn ni’n caru Jehofa’n fawr iawn, ac rydyn ni eisiau gwneud popeth allwn ni yn ei wasanaeth. Dyna pam mae llawer ohonon ni eisiau gwneud mwy yn y weinidogaeth neu yn y gynulleidfa. Ond beth os na allwn ni gyrraedd rhai amcanion, hyd yn oed os ydyn ni’n trio ein gorau glas? Sut gallwn ni gadw’n brysur ac aros yn llawen? Cawn hyd i ateb yn eglureb Iesu am y talentau.

^ Par. 2 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 7 ESBONIAD: Roedd talent yn cyfateb i tua 20 mlynedd o gyflog i weithiwr cyffredin.

^ Par. 15 Mae brodyr bedyddiedig yn cael eu hannog i weithio tuag at fod yn gymwys i fod yn was gweinidogaethol neu’n henuriad. Am drafodaeth o’r cymwysterau, gweler penodau 5 a 6 y llyfr Organized to Do Jehovah’s Will.

^ Par. 17 ESBONIAD: Mae’r cynghorwr cynorthwyol yn henuriad sydd wedi ei aseinio i roi cyngor preifat, yn ôl yr angen, i henuriaid a gweision gweinidogaethol ynglŷn ag unrhyw aseiniadau siarad cân nhw yn y gynulleidfa.

^ Par. 64 DISGRIFIAD O’R LLUN: Er mwyn cyrraedd ei nod o fod yn athro gwell, mae brawd yn gwneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau.

^ Par. 66 DISGRIFIAD O’R LLUN: O dystiolaethu’n anffurfiol, mae chwaer yn rhoi cerdyn cyswllt i’r ferch wnaeth weini arni.

^ Par. 68 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gyda’r nod o ddangos mwy o rinweddau Cristnogol, mae chwaer yn rhoi anrheg i chwaer arall fel syrpréis.