Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 35

Trysora Ein Brodyr a Chwiorydd Hŷn

Trysora Ein Brodyr a Chwiorydd Hŷn

“Mae gwallt gwyn fel coron hardd.”—DIAR. 16:31.

CÂN 138 Prydferthwch Hwyrddydd Oes

CIPOLWG *

1-2. (a) Yn ôl Diarhebion 16:31, sut dylen ni ystyried ein brodyr a chwiorydd hŷn? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hateb yn yr erthygl hon?

MAE ’na barc yn Arkansas, UDA, lle gallwch chi weld diemwntau ar hyd y llawr. Ond, mae’r diemwntau hynny yn eu ffurf naturiol, heb eu torri. O ganlyniad, efallai bydd llawer sy’n eu gweld ddim yn sylweddoli eu gwerth ac yn cerdded heibio nhw.

2 Mae ein brodyr a chwiorydd hŷn fel y diemwntau hynny; maen nhw’n drysorau gwerthfawr. Mae Gair Duw yn cymharu eu gwallt gwyn â choron. (Darllen Diarhebion 16:31; 20:29) Ond, gall fod yn ddigon hawdd peidio â sylwi ar y trysorau hyn. Mae rhai ifanc sy’n gweld gwerth rhai hŷn ar eu hennill, ac yn cael rhywbeth mwy gwerthfawr na chyfoeth. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ateb tri chwestiwn: Pam mae Jehofa yn ystyried ei weision ffyddlon hŷn fel trysorau? Pa rôl bwysig sydd gan Jehofa yn ei gyfundrefn ar eu cyfer nhw? Sut gallwn ni elwa’n llawn o’u hesiampl?

PAM MAE JEHOFA YN GWELD EIN BRODYR A CHWIORYDD HŶN FEL TRYSORAU

Mae brodyr a chwiorydd hŷn yn werthfawr i Jehofa ac i’w bobl (Gweler paragraff 3)

3. Yn ôl Salm 92:12-15, pam mae ein brodyr a chwiorydd hŷn yn werthfawr i Jehofa?

3 Mae’r rhai hŷn yn werthfawr i Jehofa Dduw. Mae ef yn gwybod yn union sut fath o bobl ydyn nhw, ac yn gwerthfawrogi eu rhinweddau hyfryd. Mae’n falch o weld y rhai hŷn yn siarad â’r rhai ifanc ac yn rhannu’r doethineb maen nhw wedi ei gasglu dros flynyddoedd o wasanaeth ffyddlon. (Job 12:12; Diar. 1:1-4) Mae Jehofa hefyd yn trysori eu dyfalbarhad. (Mal. 3:16) Dydy bywyd heb fod yn hawdd iddyn nhw, ond mae eu ffydd yn Jehofa wedi aros yn gadarn drwy’r cwbl. Mae eu gobaith ar gyfer y dyfodol yn gryfach na phan ddysgon nhw’r gwir. Ac mae Jehofa yn eu caru nhw am eu bod nhw’n dal i sôn am ei enw, hyd yn oed “pan fyddan nhw’n hen.”—Darllen Salm 92:12-15.

4. Beth all galonogi ein brodyr a chwiorydd hŷn?

4 Os wyt ti wedi heneiddio, bydda’n sicr o’r ffaith fod Jehofa yn cofio’r gwaith rwyt ti wedi ei wneud yn y gorffennol. (Heb. 6:10) Rwyt ti wedi cefnogi’r gwaith pregethu yn selog, ac mae hynny’n plesio ein Tad nefol. Rwyt ti wedi goddef treialon—gan gynnwys rhai wnaeth dorri dy galon. Rwyt ti wedi dilyn safonau cyfiawn y Beibl a’u hamddiffyn, wedi ysgwyddo cyfrifoldebau mawr, ac wedi hyfforddi eraill. Rwyt ti wedi gwneud dy orau glas i addasu i’r holl newidiadau mae cyfundrefn Jehofa wedi eu gwneud. Rwyt ti wedi cefnogi a chalonogi eraill wrth iddyn nhw bregethu’n llawn amser. Mae Jehofa Dduw yn dy garu di’n fawr iawn oherwydd dy ffyddlondeb. Mae’n addo na fydd ef “byth yn siomi’r rhai sy’n ffyddlon iddo.” (Salm 37:28) Mae ef hefyd yn addo: “Bydda i’n dal i’ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi’n wyn!” (Esei. 46:4) Felly, paid byth â dod i’r casgliad dy fod ti ddim yn werthfawr i gyfundrefn Jehofa bellach oherwydd dy fod ti’n hŷn. Does dim dwywaith amdani—rwyt ti’n werthfawr iawn!

MAE’R RHAI HŶN YN RHAN BWYSIG O GYFUNDREFN JEHOFA

5. Beth dylai rhai hŷn gadw mewn cof?

5 Mae gan rai hŷn lawer i’w gynnig. Er efallai nad ydyn nhw mor gryf ag yr oedden nhw, maen nhw wedi casglu cryn dipyn o brofiad dros y blynyddoedd. Gall Jehofa barhau i’w defnyddio nhw mewn llawer o ffyrdd, fel cawn weld o’r esiamplau canlynol o’r gorffennol a’r presennol.

6-7. Rho enghreifftiau o’r Beibl o rai hŷn gafodd eu bendithio am eu gwasanaeth ffyddlon.

6 Mae ’na enghreifftiau gwych yn y Beibl o rai hŷn wnaeth ddal ati i wasanaethu Jehofa hyd yn oed pan oedden nhw’n hen. Er enghraifft, roedd Moses tua 80 mlwydd oed pan wnaeth ef ddechrau gwasanaethu fel proffwyd i Jehofa ac arwain cenedl Israel. Mae’n debyg roedd Daniel yn ei 90au, ac roedd Jehofa yn dal i’w ddefnyddio fel proffwyd. Ac roedd yr apostol Ioan hefyd yn ei 90au mae’n debyg, pan gafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu llyfr Datguddiad.

7 Mae ’na lawer o rai ffyddlon eraill oedd ddim mor adnabyddus, ac efallai bod dim llawer o bobl wedi sylwi arnyn nhw. Er hynny, gwnaeth Jehofa sylwi arnyn nhw, a’u gwobrwyo nhw am eu ffyddlondeb. Er enghraifft, dydy’r Beibl ddim yn sôn llawer am y “dyn da a duwiol,” Simeon, ond roedd Jehofa yn gwybod pwy oedd ef, a rhoddodd y fraint iddo o weld y baban Iesu ac o broffwydo am y plentyn a’i fam. (Luc 2:22, 25-35) Meddylia hefyd am y broffwydes weddw, Anna. Roedd hi’n 84 mlwydd oed, ond roedd hi’n mynd i’r deml “ddydd a nos.” Cafodd hi ei gwobrwyo am “fynychu’r cyfarfodydd” pan gafodd hithau hefyd weld y baban Iesu. Yn sicr, roedd Simeon ac Anna yn werthfawr i Jehofa.—Luc 2:36-38.

Mae’r Chwaer Lois, sydd bellach yn ei 80au, yn dal i wasanaethu’n ffyddlon (Gweler paragraff 8)

8-9. Pa gyfraniad mae gweddwon yn dal i’w wneud?

8 Heddiw, mae’r rhai hŷn yn gosod esiampl wych i’r rhai ifanc. Ystyria brofiad y Chwaer Lois Didur. Dim ond 21 mlwydd oed oedd hi pan wnaeth hi ddechrau gwasanaethu fel arloeswraig arbennig yng Nghanada. Ar ôl hynny, treuliodd hi a’i gŵr, John, nifer o flynyddoedd yn y gwaith cylch. Yn hwyrach ymlaen, gwnaethon nhw wasanaethu ym Methel Canada am dros 20 mlynedd. Pan oedd Lois yn 58, cafodd hi a John eu gwahodd i wasanaethu yn Wcráin. Beth bydden nhw’n ei wneud? A fydden nhw’n dod i’r casgliad eu bod nhw’n rhy hen i wasanaethu mewn gwlad arall? Gwnaethon nhw dderbyn yr aseiniad, a chafodd John ei benodi i wasanaethu ar Bwyllgor y Gangen yno. Ar ôl i John farw 7 mlynedd wedyn, penderfynodd Lois aros yn ei haseiniad. Bellach mae Lois yn 81 ac yn dal i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon fel rhan o deulu Bethel Wcráin sy’n ei charu hi’n fawr iawn.

9 Efallai dydy gweddwon fel Lois ddim yn cael gymaint o sylw ag oedden nhw pan oedd eu gŵr yn fyw. Ond yn sicr, dydy bod yn weddw ddim yn golygu eu bod nhw’n llai gwerthfawr. Mae Jehofa wir yn gwerthfawrogi chwiorydd wnaeth gefnogi eu gŵr am flynyddoedd ac sy’n dal i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon. (1 Tim. 5:3) Ar ben hynny, maen nhw’n calonogi’r rhai ifanc yn fawr iawn.

10. Pa esiampl wych osododd Tony?

10 Mae’r holl frodyr a chwiorydd sy’n byw mewn cartrefi gofal hefyd yn drysorau. Er enghraifft, mae brawd o’r enw Tony bellach yn byw mewn cartref o’r fath. Cafodd ei fedyddio ym Mhensylfania, UDA, ym mis Awst 1942, pan oedd yn 20 oed. Yn fuan wedyn, cafodd ei alw i’r fyddin, ond am ei fod wedi gwrthod mynd, cafodd ei garcharu am ddwy flynedd a hanner. Gwnaeth ef a’i wraig, Hilda, fagu dau o blant yn y gwir. Dros y blynyddoedd, gwasanaethodd Tony fel cydlynydd mewn tair cynulleidfa, a hefyd fel arolygwr cynulliad cylchdaith. Roedd yn ymweld â charchar ac yn cynnal cyfarfodydd ac astudiaethau Beiblaidd yno. Ac yntau’n 98, dydy Tony ddim yn barod i arafu. Mae’n dal i wneud ei orau i wasanaethu Jehofa gyda’i frodyr a chwiorydd yn ei gynulleidfa!

11. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trysori’r rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal?

11 Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r rhai hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal? Gall yr henuriaid eu cynnwys nhw yng ngweithgareddau’r gynulleidfa bryd bynnag mae hynny’n bosib. Gallwn ni roi sylw iddyn nhw’n bersonol drwy fynd i’w gweld nhw, neu drwy eu gwahodd nhw i alwad fideo. Rydyn ni eisiau rhoi sylw arbennig i’r rhai hŷn sy’n byw mewn cartref gofal yn bell o’u cynulleidfa. Os nad ydyn ni’n ofalus, bydden ni’n gallu anghofio am y rhai hŷn yma. Efallai bod rhai ohonyn nhw yn ei chael hi’n anodd siarad amdanyn nhw eu hunain, neu’n meddwl bod hynny’n amhriodol. Ond byddwn ni’n cael ein calonogi’n fawr os ydyn ni’n cymryd amser i’w holi nhw am eu profiadau, a gwrando wrth iddyn nhw sôn am yr holl lawenydd maen nhw wedi ei gael wrth wasanaethu Jehofa.

12. Beth gallwn ni ei ddarganfod yn ein cynulleidfa ein hunain?

12 Efallai byddwn ni’n synnu o wybod bod ’na rai hŷn yn ein cynulleidfa ni sy’n esiamplau gwych o ffyddlondeb. Gwnaeth chwaer o’r enw Harriette wasanaethu Jehofa’n ffyddlon am ddegawdau yn ei chynulleidfa hi yn New Jersey, UDA. Yna, gwnaeth hi symud i ffwrdd i fyw gyda’i merch. Gwnaeth y brodyr yn ei chynulleidfa newydd gymryd yr amser i ddod i’w hadnabod, a gwnaethon nhw ddarganfod trysor. Roedd hi’n eu calonogi gyda straeon o’r weinidogaeth yn y 1920au pan oedd hi’n newydd yn y gwir. Bryd hynny, roedd hi wastad yn mynd â brwsh dannedd gyda hi ar y weinidogaeth—rhag ofn iddi gael ei harestio. A dyna ddigwyddodd. Cafodd hi ei charcharu am wythnos ddwywaith ym 1933. Doedd ei gŵr ddim yn Dyst, ond roedd yn ei chefnogi. Tra oedd hi yn y carchar, roedd ef yn gofalu am y plant. Mae rhai hŷn a ffyddlon, fel Harriette, yn sicr yn haeddu cael eu trysori!

13. Beth rydyn ni wedi dysgu am werth rhai hŷn yng nghyfundrefn Jehofa?

13 Mae gan ein brodyr a chwiorydd hŷn rôl bwysig yng nghyfundrefn Jehofa. Maen nhw wedi gweld bod Jehofa wedi bendithio ei gyfundrefn a nhwthau mewn llawer o ffyrdd. Maen nhw wedi dysgu gwersi pwysig o’u camgymeriadau. Meddylia amdanyn nhw fel “ffynnon o ddoethineb,” a dysga oddi wrth eu profiad. (Diar. 18:4) Os byddi di’n cymryd yr amser i ddod i’w hadnabod nhw, bydd dy ffydd yn cael ei chryfhau, a byddi di’n dysgu cryn dipyn!

ELWA’N LLAWN O ESIAMPL Y RHAI HŶN

Yn union fel gwnaeth Eliseus elwa o fod gydag Elias, gall brodyr a chwiorydd elwa o wrando ar brofiadau y rhai sydd wedi gwasanaethu Jehofa am flynyddoedd (Gweler paragraffau 14-15)

14. Beth mae Deuteronomium 32:7 yn annog y rhai ifanc i’w wneud?

14 Siarada â’r rhai hŷn. (Darllen Deuteronomium 32:7.) Efallai bod eu golwg yn dirywio, eu bod nhw’n cerdded yn araf, a’u lleisiau’n wan, ond maen nhw’n ifanc ar y tu mewn, ac maen nhw wedi gwneud “enw da” gyda Jehofa. (Preg. 7:1) Cofia pam mae Jehofa’n eu trysori nhw. Dalia ati i’w parchu nhw. Bydda fel Eliseus. Gwnaeth ef fynnu aros yn agos at Elias ar eu diwrnod diwethaf gyda’i gilydd. Dair gwaith dywedodd Eliseus: “Wna i ddim dy adael di.”—2 Bren. 2:2, 4, 6.

15. Pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn i’r rhai hŷn?

15 Dangosa ddiddordeb go iawn yn y rhai hŷn drwy eu holi nhw’n garedig. (Diar. 1:5; 20:5; 1 Tim. 5:1, 2) Gofynna gwestiynau fel: “Pan oeddet ti’n fengach, sut oeddet ti’n gwybod dy fod ti wedi ffeindio’r gwir?” “Sut mae dy brofiadau wedi dy helpu di i glosio at Jehofa?” “Beth fyddet ti’n dweud ydy’r gyfrinach i aros yn hapus yng ngwasanaeth Jehofa?” (1 Tim. 6:6-8) Yna, gwranda wrth iddyn nhw adrodd eu hanes.

16. Sut gall y rhai hŷn a’r rhai ifanc elwa o sgwrsio gyda’i gilydd?

16 Pan fydd rhywun hŷn yn sgwrsio â rhywun ifanc, bydd y ddau yn elwa. (Rhuf. 1:12) Os wyt ti’n ifanc, byddi di’n fwy sicr byth bod Jehofa yn gofalu am ei weision ffyddlon, a bydd yr un hŷn yn teimlo dy gariad ato. Bydd yn mwynhau dweud wrthot ti sut mae Jehofa wedi ei fendithio.

17. Pam gallwn ni ddweud bod y rhai hŷn ffyddlon yn dod yn fwy prydferth wrth i’r blynyddoedd fynd heibio?

17 Mae harddwch allanol yn pylu dros amser, ond mae’r rhai sy’n ffyddlon i Jehofa yn dod yn fwy prydferth iddo bob blwyddyn. (1 Thes. 1:2, 3) Pam mae hynny’n wir? Oherwydd dros y blynyddoedd, maen nhw wedi gadael i ysbryd Duw eu hyfforddi a’u helpu i feithrin rhinweddau hyfryd. Y mwyaf rydyn ni’n dod i adnabod ein brodyr a chwiorydd hŷn, yn eu parchu nhw, ac yn dysgu oddi wrthyn nhw, y mwyaf byddwn ni’n eu gweld nhw fel trysorau gwerthfawr!

18. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

18 Mae’r gynulleidfa yn cryfhau, nid yn unig pan fydd y rhai ifanc yn trysori’r rhai hŷn, ond hefyd pan fydd y rhai hŷn yn gwerthfawrogi’r rhai ifanc. Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut gall y rhai hŷn ddangos eu bod nhw’n trysori’r rhai ifanc yn y gynulleidfa.

CÂN 144 Canolbwyntiwch ar y Wobr!

^ Par. 5 Mae ein brodyr a chwiorydd hŷn yn drysorau gwerthfawr. Bydd yr erthygl hon yn ein hannog i’w caru a’u parchu yn fwy byth, ac yn trafod sut gallwn ni elwa’n llawn o’u doethineb a’u profiad. Bydd hefyd yn sicrhau’r rhai hŷn eu bod nhw’n rhan bwysig o gyfundrefn Duw.