Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 36

Gwerthfawroga Nerth y Rhai Ifanc

Gwerthfawroga Nerth y Rhai Ifanc

“Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc.”—DIAR. 20:29.

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

CIPOLWG *

1. Pa nod ymarferol gallwn ni ei osod i ni’n hunain wrth inni fynd yn hŷn?

WRTH inni fynd yn hŷn, efallai byddwn ni’n poeni na fyddwn ni mor ddefnyddiol i Jehofa ag yr oedden ni. Er nad ydyn ni mor gryf ag oedden ni pan oedden ni’n ifanc, gallwn ni ddefnyddio’r doethineb a’r profiad rydyn ni wedi eu casglu i helpu’r rhai ifanc i gyrraedd eu llawn botensial, ac ysgwyddo cyfrifoldebau newydd. Dywedodd un brawd sydd wedi bod yn henuriad am flynyddoedd, “Pan wnes i ddechrau teimlo’n oed, o’n i’n falch o gael brodyr ifanc o gwmpas oedd yn gallu gwneud y gwaith.”

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Gwnaeth yr erthygl flaenorol drafod sut mae’r rhai ifanc yn elwa o fod yn ffrind i’r rhai hŷn. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld sut gall rhinweddau fel gostyngeiddrwydd, gwyleidd-dra, diolchgarwch, a haelioni helpu’r rhai hŷn i gydweithio â’r rhai ifanc, a sut bydd pawb yn y gynulleidfa yn elwa o hynny.

BYDDA’N OSTYNGEDIG

3. Yn ôl Philipiaid 2:3, 4, beth ydy gostyngeiddrwydd, a sut gall hynny helpu Cristion?

3 Mae’n rhaid i’r rhai hŷn fod yn ostyngedig os ydyn nhw eisiau helpu’r rhai ifanc. Mae rhywun gostyngedig yn ystyried eraill yn well nag ef ei hun. (Darllen Philipiaid 2:3, 4.) Mae’r rhai hŷn sy’n dangos y rhinwedd hon yn sylweddoli bod ’na fwy nag un ffordd Ysgrythurol o wneud pethau weithiau. Felly, dydyn nhw ddim yn disgwyl i bawb arall wneud pethau fel roedden nhw yn y gorffennol. (Preg. 7:10) Er bod ganddyn nhw lawer o brofiad gwerthfawr i’w rannu â’r rhai ifanc, maen nhw’n sylweddoli bod y byd yn newid, ac efallai bydd rhaid iddyn nhw ddysgu i wneud pethau mewn ffordd newydd.—1 Cor. 7:31.

Mae’r rhai hŷn yn rhannu eu profiad ag eraill yn hael (Gweler paragraffau 4-5) *

4. Sut mae arolygwyr cylchdaith yn dangos agwedd debyg i’r Lefiaid?

4 Wrth i amser fynd heibio, mae’r rhai hŷn gostyngedig yn sylweddoli bod nhw ddim yn gallu gwneud gymaint ag yr oedden nhw. Meddylia am arolygwyr cylchdaith er enghraifft. Pan fyddan nhw’n cyrraedd 70 mlwydd oed, maen nhw’n cael aseiniad newydd. Gall hynny fod yn her. Roedden nhw’n trysori’r fraint o gael helpu eu brodyr. Roedden nhw wrth eu boddau â’r aseiniad, ac mae’r awydd i wneud y gwaith hwnnw yn dal yn gryf yn eu calonnau. Ond maen nhw’n deall ei bod hi’n well i frodyr iau ofalu am y gwaith. Maen nhw felly yn dangos agwedd debyg i’r Lefiaid yn Israel gynt, a oedd yn gorfod rhoi’r gorau i wasanaethu yn y tabernacl pan oedden nhw’n 50 oed. Roedden nhw’n hapus ni waeth pa aseiniad oedd ganddyn nhw. Gwnaethon nhw fanteisio’n llawn ar yr hyn roedden nhw’n gallu ei wneud, a gwneud popeth allan nhw i helpu’r rhai ifanc. (Num. 8:25, 26) Heddiw, er bod arolygwyr cylchdaith gynt ddim yn mynd o gwmpas nifer o gynulleidfaoedd, maen nhw’n help mawr ac yn fendith i’r gynulleidfa maen nhw ynddi.

5. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o esiampl Dan a Katie?

5 Ystyria esiampl Dan, a wnaeth wasanaethu fel arolygwr cylchdaith am 23 mlynedd. Pan wnaeth Dan droi’n 70, cafodd ef a’i wraig Katie eu haseinio fel arloeswyr arbennig. Sut mae’r aseiniad newydd yn mynd? Mae Dan yn dweud ei fod yn brysurach nag erioed! Mae’n gofalu am ei gyfrifoldebau yn y gynulleidfa, yn helpu brodyr i weithio tuag at fod yn weision gweinidogaethol, ac yn hyfforddi eraill i bregethu mewn dinasoedd a charchardai. Os wyt ti’n hŷn, p’un a wyt ti’n gwasanaethu’n llawn amser neu ddim, mae ’na lawer gelli di ei wneud i helpu eraill. Sut? Dysga i fwynhau dy amgylchiadau newydd, gosoda amcanion newydd, a chanolbwyntia ar beth gelli di ei wneud yn hytrach nag ar beth dwyt ti ddim yn gallu ei wneud.

BYDDA’N WYLAIDD

6. Pam mae hi’n beth ddoeth bod yn wylaidd? Eglura.

6 Mae rhywun gwylaidd yn gwybod beth sydd o fewn ei allu. (Diar. 11:2) Am ei fod yn wylaidd, dydy ef ddim yn disgwyl gormod ohono’i hun. O ganlyniad, bydd yn aros yn hapus ac yn cadw’n brysur. Gallwn ni gymharu rhywun gwylaidd â rhywun yn gyrru car i fyny allt. Mae’n rhaid i’r gyrrwr newid i gêr is er mwyn parhau i fyny’r llethr. Mae’n wir y bydd yn teithio’n arafach, ond bydd yn parhau i symud yn ei flaen. Mewn ffordd debyg, mae rhywun gwylaidd yn gwybod pryd mae hi’n amser “newid i gêr is” fel ei fod yn gallu parhau i wasanaethu Jehofa a helpu eraill.—Phil. 4:5, NWT.

7. Sut gwnaeth Barsilai ddangos ei fod yn wylaidd?

7 Meddylia am esiampl Barsilai, a oedd yn 80 mlwydd oed pan wnaeth y Brenin Dafydd ei wahodd i fod yn rhan o’r llys brenhinol. Am ei fod yn wylaidd, gwnaeth Barsilai wrthod cynnig y Brenin. Gan gydnabod nad oedd yn gallu gwneud cymaint oherwydd ei oed, awgrymodd Barsilai fod Cimham, dyn iau, yn mynd yn ei le. (2 Sam. 19:35-37) Fel Barsilai, mae dynion hŷn yn falch o roi’r cyfle i ddynion iau wasanaethu.

Gwnaeth y Brenin Dafydd dderbyn bod Duw eisiau i’w fab Solomon adeiladu’r deml (Gweler paragraff 8)

8. Sut gwnaeth y Brenin Dafydd ddangos gwyleidd-dra pan oedd ef eisiau adeiladu’r deml?

8 Gosododd y Brenin Dafydd esiampl wych o wyleidd-dra hefyd. Roedd ef wir eisiau adeiladu tŷ i Jehofa. Ond pan ddywedodd Jehofa wrtho mai Solomon ifanc oedd am gael y fraint honno, derbyniodd Dafydd benderfyniad Jehofa a chefnogi’r prosiect yn llwyr. (1 Cron. 17:4; 22:5) Doedd Dafydd ddim yn teimlo mai ef ei hun oedd y gorau am yr aseiniad oherwydd bod Solomon yn “llanc ifanc dibrofiad.” (1 Cron. 29:1) Roedd Dafydd yn gwybod bod llwyddiant y prosiect adeiladu yn dibynnu ar fendith Jehofa, nid ar oedran na phrofiad y rhai oedd yn arwain. Fel Dafydd, mae rhai hŷn yn cadw’n brysur yng ngwasanaeth Jehofa hyd yn oed pan fydd eu rôl yn newid. Ac maen nhw’n gwybod y bydd Jehofa’n bendithio’r rhai ifanc sy’n gwneud y gwaith roedden nhw’n arfer ei wneud.

9. Sut gwnaeth un aelod o Bwyllgor Cangen ddangos ei fod yn wylaidd?

9 Mae brawd o’r enw Shigeo wedi gosod esiampl dda o wyleidd-dra yn ein hoes ni. Ym 1976, pan oedd yn 30 oed, cafodd ei benodi i wasanaethu ar Bwyllgor Cangen. Yn 2004, daeth yn gydlynydd y Pwyllgor hwnnw. Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth ef sylweddoli doedd ef ddim mor gryf ag yr oedd ef, a’i fod yn cymryd hirach i wneud ei waith. Gweddïodd am y mater a meddwl yn ofalus am y manteision o ofyn i frawd iau gymryd drosodd. Er nad yw’n gydlynydd bellach, mae Shigeo yn dal yn rhan werthfawr o’r Pwyllgor Cangen. Fel rydyn ni wedi gweld o esiamplau Barsilai, y Brenin Dafydd, a Shigeo, bydd rhywun gwylaidd a gostyngedig yn canolbwyntio ar gryfderau’r rhai ifanc yn hytrach nag ar eu diffyg profiad. Fydd ef ddim yn teimlo ei fod yn cystadlu yn eu herbyn, ond yn hytrach yn cydweithio â nhw.—Diar. 20:29.

BYDDA’N DDIOLCHGAR

10. Pa agwedd sydd gan y rhai hŷn tuag at y rhai ifanc yn y gynulleidfa?

10 Mae’r rhai hŷn yn ystyried y rhai ifanc fel rhoddion gan Jehofa, ac maen nhw’n ddiolchgar amdanyn nhw. Wrth i’r rhai hŷn ddechrau colli eu nerth, maen nhw’n ddiolchgar bod gan y rhai ifanc a chryf yr awydd a’r gallu i wasanaethu’r gynulleidfa.

11. Sut mae Ruth 4:13-16 yn dangos bod y rhai hŷn yn elwa o dderbyn help y rhai iau?

11 Mae Naomi, un o gymeriadau’r Beibl, yn esiampl wych o rywun hŷn a oedd yn falch i dderbyn help oddi wrth rywun iau. I gychwyn, gwnaeth Naomi annog ei merch yng nghyfraith weddw Ruth i ddychwelyd at ei phobl ei hun. Ond pan wnaeth Ruth fynnu mynd gyda Naomi yn ôl i Fethlehem, gwnaeth hi dderbyn cefnogaeth ffyddlon Ruth. (Ruth 1:7, 8, 18) Ac am fendith oedd hynny i’r ddwy ddynes! (Darllen Ruth 4:13-16.) Bydd gostyngeiddrwydd yn cymell y rhai hŷn i ddilyn esiampl Naomi.

12. Sut dangosodd yr apostol Paul ei fod yn ddiolchgar?

12 Roedd yr apostol Paul yn ddiolchgar am yr help a gafodd. Er enghraifft, diolchodd i’r Cristnogion yn Philipi am yr anrhegion roedden nhw wedi eu hanfon ato. (Phil. 4:16) Dywedodd ei fod yn ddiolchgar am help Timotheus. (Phil. 2:19-22) A diolchodd i Dduw am y rhai a ddaeth i’w galonogi tra oedd ar ei ffordd i’r carchar yn Rhufain. (Act. 28:15) Roedd Paul yn ddyn bywiog a deithiodd filoedd o filltiroedd i bregethu ac i atgyfnerthu cynulleidfaoedd. Ond, doedd ef ddim yn ddyn balch, felly gwnaeth ef dderbyn help oddi wrth ei frodyr a chwiorydd.

13. Sut gall y rhai hŷn ddangos eu bod nhw’n ddiolchgar am y rhai ifanc?

13 Chi rai hŷn, gallwch chi ddangos eich bod chi’n ddiolchgar am y rhai ifanc yn eich cynulleidfa mewn llawer o ffyrdd. Os ydyn nhw eisiau rhoi lifft iti, nôl neges, neu wneud rhywbeth arall drostot ti, derbynia eu help yn ddiolchgar. Cofia bod eu help yn un o’r ffyrdd mae Jehofa yn dangos ei gariad tuag atat ti. Efallai byddwch chi’n dod yn ffrindiau da o ganlyniad i hynny. Dangosa ddiddordeb yng nghynnydd ysbrydol dy ffrindiau ifanc, a dweud wrthyn nhw’n aml pa mor hapus wyt ti i’w gweld nhw’n gwneud mwy yn y gynulleidfa. Treulia amser gyda nhw a rhanna dy brofiadau. O wneud hynny, byddi di’n dangos i Jehofa dy fod ti “yn ddiolchgar” iddo am y rhai ifanc mae wedi eu denu i’r gynulleidfa.—Col. 3:15; Ioan 6:44; 1 Thes. 5:18.

BYDDA’N HAEL

14. Sut gwnaeth y Brenin Dafydd ddangos ei haelioni?

14 Mae’r Brenin Dafydd yn esiampl dda o rinwedd bwysig arall mae’r rhai hŷn angen ei dangos—haelioni. Rhoddodd lawer o’i arian a phethau gwerthfawr i gefnogi’r gwaith o adeiladu’r deml. (1 Cron. 22:11-16; 29:3, 4) Gwnaeth Dafydd hyn er mai ei fab Solomon fyddai’n cael y clod am y prosiect hwn. Pan nad oes gynnon ni’r nerth bellach i gael rhan mewn prosiectau adeiladu theocrataidd, gallwn ni barhau i gefnogi’r prosiectau hyn drwy gyfrannu yn ôl ein hamgylchiadau. A gallwn ni helpu’r rhai ifanc i elwa o’r profiad rydyn ni wedi ei gasglu dros y blynyddoedd.

15. Pa bethau gwerthfawr gwnaeth yr apostol Paul eu rhannu â Timotheus?

15 Meddylia hefyd am yr esiampl a osododd yr apostol Paul o ran haelioni. Gwnaeth Paul wahodd Timotheus i fynd gydag ef ar ei deithiau cenhadol, ac roedd yn hael wrth rannu ei ddulliau pregethu a dysgu â’r dyn ifanc. (Act. 16:1-3) Gwnaeth hyfforddiant Paul helpu Timotheus i ledaenu’r newyddion da mewn ffordd effeithiol. (1 Cor. 4:17) Yn ei dro, gwnaeth Timotheus ddefnyddio dulliau Paul i hyfforddi eraill.

16. Pam gwnaeth Shigeo hyfforddi eraill?

16 Dydy’r rhai hŷn ddim yn poeni na fyddan nhw’n ddefnyddiol bellach os ydyn nhw’n hyfforddi’r rhai ifanc i wneud y gwaith oedden nhw’n arfer ei wneud yn y gynulleidfa. Er enghraifft, gwnaeth Shigeo, a soniwyd amdano gynt, roi hyfforddiant ymarferol dros y blynyddoedd i aelodau iau y Pwyllgor Cangen. Gwnaeth hynny i gefnogi gwaith y Deyrnas yn y wlad lle mae’n gwasanaethu. O ganlyniad, pan ddaeth yr amser, roedd ’na frawd digon galluog i gymryd ei le fel cydlynydd. Mae Shigeo wedi bod yn aelod o Bwyllgor Cangen am dros 45 mlynedd, ac yn dal i rannu ei brofiad â brodyr iau. Mae rhai fel Shigeo yn help mawr i bobl Dduw!

17. Yn ôl Luc 6:38, beth gall y rhai hŷn ei roi i eraill?

17 Rydych chi frodyr a chwiorydd hŷn yn dystiolaeth o’r ffaith mai gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon yw’r ffordd orau o fyw. Drwy dy esiampl, rwyt ti’n dangos bod dysgu egwyddorion y Beibl a’u rhoi nhw ar waith yn dy fywyd yn werth yr ymdrech. Rwyt ti’n gwybod o brofiad sut roedd pethau’n cael eu gwneud yn y gorffennol, ond rwyt ti hefyd yn gweld yr angen i addasu i amgylchiadau newydd. Mae gynnoch chi rai hŷn, sydd wedi cael eich bedyddio yn ddiweddar, hefyd lawer i’w gynnig. Gallwch chi rannu’r llawenydd o ddod i adnabod Jehofa yn hwyrach ym mywyd. Bydd y rhai ifanc wrth eu boddau yn gwrando ar eich profiadau a’r gwersi rydych chi wedi eu dysgu. Os “gwnewch roi” o’ch profiad helaeth, bydd Jehofa yn eich bendithio’n fawr.—Darllen Luc 6:38.

18. Sut gall y rhai hŷn a’r rhai ifanc helpu ei gilydd?

18 Wrth i chi rai hŷn glosio at y rhai ifanc, byddwch chi’n gallu cefnogi’ch gilydd. (Rhuf. 1:12) Mae gan y naill rywbeth gwerthfawr nad oes gan y llall. Mae gan y rhai hŷn ddoethineb a phrofiad maen nhw wedi eu casglu dros amser. Ac mae gan y rhai ifanc egni a nerth. Pan fydd hen ac ifanc yn gweithio gyda’i gilydd fel ffrindiau, maen nhw’n dod â chlod i’n Tad nefol cariadus ac yn fendith i’r gynulleidfa.

CÂN 90 Annog Ein Gilydd

^ Par. 5 Rydyn ni’n falch iawn o gael cymaint o ddynion a merched ifanc yn ein cynulleidfa sy’n gwneud eu gorau glas i gefnogi cyfundrefn Jehofa. Gall y rhai hŷn yn y gynulleidfa, ni waeth beth yw eu cefndir, helpu’r rhai ifanc i ddefnyddio eu holl nerth yng ngwasanaeth Jehofa.

^ Par. 55 DISGRIFIAD O’R LLUN: Pan wnaeth arolygwr cylchdaith droi’n 70, cafodd ef a’i wraig aseiniad newydd. Mae eu blynyddoedd o brofiad yn eu helpu nhw i hyfforddi eraill yn y gynulleidfa maen nhw ynddi nawr.