Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 37

Bydda i’n Ysgwyd y Cenhedloedd i Gyd

Bydda i’n Ysgwyd y Cenhedloedd i Gyd

“Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd; daw trysor yr holl genhedloedd i mewn.”—HAG. 2:7, BCND.

CÂN 24 Dewch i Fynydd Jehofa

CIPOLWG *

1-2. Pa fath o ysgwyd ragfynegodd y proffwyd Haggai byddai’n digwydd yn ein hoes ni?

“O FEWN munudau, roedd y siopau a’r hen adeiladau yn disgyn fel pac o gardiau.” “Roedd pawb yn panicio . . . Dywedodd llawer o bobl ei fod ond wedi para am tua dau funud. Ond i mi, oedd yn teimlo fel oes.” Dyna ddywedodd rhai pobl wnaeth oroesi daeargryn a darodd Nepal yn 2015. Petaset ti yng nghanol trychineb o’r fath, fyddet ti ddim yn ei anghofio’n sydyn.

2 Ond, ar hyn o bryd, mae ’na ysgwyd o fath gwahanol yn mynd ymlaen—a hynny’n effeithio ar fwy nag un ddinas neu wlad. Mae Jehofa yn ysgwyd holl genhedloedd y byd, ac mae wedi bod yn gwneud hynny am ddegawdau. Rhagfynegodd y proffwyd Haggai y byddai hynny’n digwydd. Ysgrifennodd: “Dyma mae’r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i’n mynd i ysgwyd y nefoedd a’r ddaear, y môr a’r tir.’”—Hag. 2:6.

3. Sut mae’r ysgwyd a ddisgrifiodd Haggai yn wahanol i ddaeargryn go iawn?

3 Mae’r math o ysgwyd mae Haggai yn ei ddisgrifio yn wahanol i ddaeargryn llythrennol sydd ond yn dinistrio. Yn hytrach, mae ’na ganlyniadau da yn dod ohono. Dywedodd Jehofa ei hun: “Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd; daw trysor yr holl genhedloedd i mewn, a llanwaf y tŷ hwn â gogoniant.” (Hag. 2:7, BCND) Beth oedd y broffwydoliaeth hon yn ei olygu i’r rhai oedd yn byw yn nyddiau Haggai? A beth mae’n ei olygu i ni heddiw? Byddwn ni’n trafod yr atebion i’r cwestiynau hynny a hefyd yn dysgu sut gallwn ni gael rhan yn y gwaith o ysgwyd y cenhedloedd.

NEGES GALONOGOL YN NYDDIAU HAGGAI

4. Pam gwnaeth Jehofa anfon y proffwyd Haggai at ei bobl?

4 Rhoddodd Jehofa waith pwysig i’r proffwyd Haggai. Ystyria’r cyd-destun. Mae’n debyg roedd Haggai ymysg y rhai a ddychwelodd i Jerwsalem o Fabilon ym 537 COG. Yn fuan ar ôl iddyn nhw gyrraedd Jerwsalem, aeth y rhai ffyddlon hynny ati i osod sylfeini teml Jehofa. (Esra 3:8, 10) Ond cyn bo hir, digwyddodd rywbeth trist. Gwnaethon nhw ddigalonni a stopio gweithio ar y prosiect oherwydd gwrthwynebiad. (Esra 4:4; Hag. 1:1, 2) Felly, ym 520 COG, gwnaeth Jehofa anfon Haggai at yr Iddewon i ailgynnau eu sêl a’u hysgogi nhw i orffen y deml. *Esra 6:14, 15.

5. Pam roedd neges Haggai yn galonogol ar gyfer pobl Dduw?

5 Pwrpas neges Haggai oedd cryfhau ffydd yr Iddewon yn Jehofa. Yn ddewr, dywedodd y proffwyd wrth yr Iddewon digalon: “‘Daliwch chithau ati, bawb,’—meddai’r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai’r ARGLWYDD holl-bwerus.” (Hag. 2:4) Mae’n rhaid oedd y geiriau “ARGLWYDD holl-bwerus,” neu “Jehofa y lluoedd” yn yr iaith wreiddiol, wedi bod yn galonogol iawn. Mae gan Jehofa awdurdod dros lu o angylion, felly roedd rhaid i’r Iddewon ddibynnu arno er mwyn llwyddo.

6. Beth fyddai’n digwydd o ganlyniad i’r ysgwyd gwnaeth Haggai ei ragfynegi?

6 Gwnaeth Jehofa ysbrydoli Haggai i ddweud wrth yr Iddewon y byddai’n ysgwyd y cenhedloedd i gyd. Gwnaeth y neges honno gysuro’r Iddewon digalon hynny, am ei bod yn golygu y byddai Jehofa yn ysgwyd Persia, sef grym byd yr adeg honno. Ond beth fyddai’n digwydd o ganlyniad i’r ysgwyd? Yn gyntaf, byddai pobl Dduw yn gorffen adeiladu’r deml. Yna, byddai hyd yn oed rhai nad oedd yn Iddewon yn addoli Jehofa yn y deml honno hefyd. Am neges galonogol i bobl Dduw!—Sech. 8:9.

GWAITH SY’N YSGWYD Y BYD HEDDIW

A wyt ti’n cael rhan lawn yn y gwaith ysgwyd sy’n cael ei wneud heddiw? (Gweler paragraffau 7-8) *

7. Pa waith ysgwyd ydyn ni’n cael rhan ynddo heddiw? Esbonia.

7 Beth mae proffwydoliaeth Haggai yn ei olygu i ni heddiw? Mae Jehofa yn ysgwyd y cenhedloedd i gyd unwaith eto, ond tro yma, mae gynnon ni ran. Ystyria’r ffaith hon: Ym 1914, gwnaeth Jehofa benodi Iesu Grist fel brenin ei Deyrnas nefol. (Salm 2:6) Roedd hi’n newyddion drwg i arweinwyr y byd pan ddechreuodd y Deyrnas honno reoli, oherwydd roedd yn golygu bod “amser y cenhedloedd hynny”—yr amser lle nad oedd ’na frenin na llywodraethwr yn cynrychioli Jehofa—wedi dod i ben. (Luc 21:24) Am y rheswm hwnnw, mae pobl Dduw, yn enwedig ers 1919, wedi bod yn dweud wrth bawb mai Teyrnas Dduw yw’r unig obaith i ddynolryw. Mae’r gwaith hwn o bregethu am “y newyddion da am deyrnasiad Duw” wedi ysgwyd y byd cyfan.—Math. 24:14.

8. Yn ôl Salm 2:1-3, sut mae’r rhan fwyaf o’r cenhedloedd wedi ymateb i’r neges hon?

8 Sut mae pobl wedi ymateb i’r neges hon? Mae’r rhan fwyaf wedi ei gwrthod. (Darllen Salm 2:1-3.) Mae’r cenhedloedd wedi cynhyrfu. Maen nhw’n gwrthod derbyn y brenin mae Jehofa wedi ei benodi. Dydyn nhw ddim yn ystyried y neges rydyn ni’n ei phregethu am y Deyrnas fel “newyddion da.” Mae rhai llywodraethau hyd yn oed wedi gwahardd y gwaith pregethu! Er bod llawer o lywodraethwyr y cenhedloedd yn honni eu bod nhw’n gwasanaethu Duw, dydyn nhw ddim eisiau ildio eu grym a’u hawdurdod eu hunain. Felly, yn union fel gwnaeth llywodraethwyr yn nyddiau Iesu, mae llywodraethwyr heddiw yn gwrthwynebu un eneiniog Jehofa drwy ymosod ar ei ddilynwyr ffyddlon.—Act. 4:25-28.

9. Beth mae Jehofa yn rhoi amser i’r cenhedloedd ei wneud?

9 Dydy’r cenhedloedd ddim wedi derbyn neges y Deyrnas, felly beth mae Jehofa yn rhoi cyfle iddyn nhw ei wneud? Mae Salm 2:10-12 yn dweud: “Felly, chi frenhinoedd, byddwch ddoeth; dysgwch eich gwers, chi arweinwyr daearol! Gwasanaethwch yr ARGLWYDD gyda pharch; byddwch yn falch ei fod wedi’ch dychryn chi! Plygwch, a thalu teyrnged i’r mab; neu bydd yn digio a cewch eich difa pan fydd yn dangos mor ddig ydy e. Mae pawb sy’n troi ato am loches wedi eu bendithio’n fawr!” Mae Jehofa yn garedig, ac mae wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw wneud y penderfyniad iawn. Mae ’na dal amser iddyn nhw newid eu meddyliau, a derbyn Teyrnas Jehofa. Ond, mae amser yn rhedeg allan. Rydyn ni’n byw yng ‘nghyfnod olaf’ y system hon. (2 Tim. 3:1; Esei. 61:2) Mae hi’n fater o frys nawr yn fwy nag erioed i bobl gael y ffeithiau a gwneud y dewis iawn.

YMATEB POSITIF I’R YSGWYD

10. Pa ymateb positif i’r gwaith ysgwyd sy’n cael ei ddisgrifio yn Haggai 2:7-9?

10 Mae’r ysgwyd a ragfynegodd Haggai yn cael effaith bositif ar rai pobl. Mae’n dweud y byddai “trysor [neu bobl ddiffuant] yr holl genhedloedd” yn dod i addoli Jehofa o ganlyniad i’r ysgwyd. * (Darllen Haggai 2:7-9.) Gwnaeth Eseia a Micha hefyd ragfynegi y byddai hynny’n digwydd yn y dyddiau diwethaf.—Esei. 2:2-4; Mich. 4:1, 2.

11. Sut gwnaeth un brawd ymateb i neges y Deyrnas ar ôl iddo ei chlywed am y tro cyntaf?

11 Ystyria’r effaith gafodd y neges gyffrous honno ar frawd o’r enw Ken, sy’n gwasanaethu yn y Pencadlys. Mae ef yn dal i gofio’n glir y tro cyntaf iddo glywed neges y Deyrnas, ryw 40 mlynedd yn ôl. Dywedodd Ken: “Pan glywais i’r gwir o Air Duw am y tro cyntaf, o’n i’n falch o ddysgu ein bod ni’n byw yn nyddiau diwethaf y system hon. Des i i ddeall fy mod i angen dianc o’r byd bregus hwn a sefyll yn gadarn ar ochr Jehofa er mwyn ennill ei gymeradwyaeth a byw am byth. Felly, wnes i weddïo a gwneud hynny ar unwaith. Wnes i stopio cefnogi’r byd a dianc i ddiogelwch Teyrnas Dduw, sydd ddim yn gallu cael ei ysgwyd.”

12. Sut mae teml ysbrydol Jehofa wedi cael ei llenwi â gogoniant yn ystod y dyddiau diwethaf hyn?

12 Mae’n amlwg fod Jehofa wedi bod yn bendithio ei bobl. Yn ystod y dyddiau diwethaf hyn, mae llawer mwy o bobl wedi dechrau ei addoli. Ym 1914, doedd ’na ond ychydig o filoedd ohonon ni. Bellach, mae ’na dros wyth miliwn yn gwasanaethu Duw, ac mae miliynau mwy yn ymuno â ni bob blwyddyn ar gyfer y Goffadwriaeth. Felly, mae rhan ddaearol teml ysbrydol Jehofa—sef ei drefniant ar gyfer addoliad pur—wedi cael ei llenwi â ‘thrysor yr holl genhedloedd.’ Mae enw Jehofa hefyd yn cael ei ogoneddu gan y newidiadau mae’r bobl hynny yn eu gwneud wrth iddyn nhw wisgo’r bersonoliaeth newydd.—Eff. 4:22-24.

Mae pobl Dduw o gwmpas y byd wedi bod yn pregethu am Deyrnas Dduw yn llawen (Gweler paragraff 13)

13. Pa broffwydoliaethau eraill sydd wedi cael eu cyflawni gan y digwyddiadau cyffrous hyn? (Gweler y llun ar y clawr.)

13 Mae’r digwyddiadau cyffrous hyn wedi cyflawni proffwydoliaethau eraill, fel yr un yn Eseia pennod 60. Mae adnod 22 y bennod honno yn dweud: “Bydd yr un fechan yn troi yn llwyth, a’r lleiaf yn troi’n genedl fawr. Fi ydy’r ARGLWYDD! Pan ddaw’r amser iawn bydda i’n gwneud hyn ar frys!” Am fod cymaint mwy o bobl yn dechrau addoli Jehofa, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. Mae gan y “trysor” hwnnw, sef y bobl sy’n dechrau addoli Jehofa, wahanol sgiliau neu alluoedd, yn ogystal â’r awydd i gael rhan yn y gwaith o bregethu’r “newyddion da am Deyrnasiad Duw.” O ganlyniad, gall pobl Jehofa ddefnyddio’r sgiliau hynny gwnaeth Eseia eu galw’n “laeth y cenhedloedd.” (Esei. 60:5, 16) Gyda help y dynion a merched gwerthfawr hynny, mae’r gwaith pregethu yn cael ei wneud mewn 240 o wledydd, ac mae’r llenyddiaeth yn cael ei chynhyrchu mewn dros 1,000 o ieithoedd.

MAE’N AMSER I BENDERFYNU

14. Pa benderfyniad sydd rhaid i bobl ei wneud nawr?

14 Mae’r ffaith fod y cenhedloedd yn cael eu hysgwyd yn gorfodi pobl i wneud penderfyniad nawr. A fyddan nhw’n cefnogi Teyrnas Dduw, neu a fyddan nhw’n dibynnu ar lywodraethau’r byd hwn? Dyma’r dewis bydd pawb yn ei wynebu. Er bod pobl Jehofa yn dilyn cyfraith y wlad maen nhw’n byw ynddi, maen nhw’n aros yn hollol niwtral o ran gwleidyddiaeth y byd. (Rhuf. 13:1-7) Maen nhw’n gwybod mai dim ond y Deyrnas fydd yn datrys problemau dynolryw, a dydy’r Deyrnas honno ddim yn rhan o’r byd hwn.—Ioan 18:36, 37.

15. Sut bydd ffyddlondeb pobl Dduw yn cael ei herio yn ôl llyfr Datguddiad?

15 Mae llyfr Datguddiad yn dangos y bydd ffyddlondeb pobl Dduw yn cael ei herio yn y dyddiau diwethaf. Bydd hynny’n ein rhoi ni o dan bwysau enfawr. Bydd llywodraethau’r byd hwn yn mynnu ein haddoliad ac yn erlid y rhai sy’n gwrthod eu cefnogi. (Dat. 13:12, 15) Byddan nhw’n “gorfodi pawb i gael marc ar eu llaw dde ac ar eu talcen—ie, pawb, yn fach a mawr, cyfoethog a thlawd, dinasyddion rhydd a chaethweision.” (Dat. 13:16) Roedd caethweision ers talwm yn cael eu serio â marc i ddangos pwy oedd biau nhw. Mewn ffordd debyg, bydd disgwyl bod gan bawb yn ein dyddiau ni farc symbolaidd ar eu llaw neu dalcen i ddangos pwy maen nhw’n cefnogi. Bydd eu ffordd o feddwl a’u gweithredoedd yn dangos eu bod nhw’n perthyn i’r systemau gwleidyddol ac yn eu cefnogi.

16. Pam mae hi’n hynod o bwysig inni gryfhau ein ffyddlondeb i Jehofa nawr?

16 A fyddwn ni’n derbyn y marc symbolaidd hwn, ac yn cefnogi’r systemau gwleidyddol? Bydd y rhai sy’n gwrthod derbyn y marc yn wynebu anawsterau a pheryglon. Mae llyfr Datguddiad yn mynd ymlaen i ddweud na fydd “neb yn gallu prynu a gwerthu oni bai fod ganddyn nhw y marc.” (Dat. 13:17) Ond mae pobl Dduw yn gwybod beth bydd Duw yn ei wneud i’r rhai sydd â’r marc mae Datguddiad 14:9, 10 yn sôn amdano. Yn hytrach na derbyn y marc hwnnw, byddan nhw i bob pwrpas yn ysgrifennu “eiddo Jehofa” ar eu llaw. (Esei. 44:5) Nawr yw’r amser i wneud yn siŵr bod ein ffyddlondeb i Jehofa yn gryf. Os ydyn ni’n gwneud hynny, bydd Jehofa yn falch o ddweud ein bod ni’n perthyn iddo!

YR YSGYTWAD OLAF

17. Beth sydd rhaid inni ei gofio am amynedd Jehofa?

17 Mae Jehofa wedi bod yn amyneddgar iawn yn ystod y dyddiau diwethaf hyn. Dydy ef ddim eisiau i neb cael ei ddinistrio. (2 Pedr 3:9) Mae wedi rhoi cyfle i bawb edifarhau ac i wneud y penderfyniad iawn. Ond, mae ’na derfyn i’w amynedd. Bydd y rhai sy’n gwrthod y cyfle hwnnw yn wynebu sefyllfa debyg i Pharo yn nyddiau Moses. Dywedodd Jehofa wrth Pharo: “Gallwn i fod wedi dy daro di a dy bobl gyda pla ofnadwy fyddai wedi eich dileu oddi ar wyneb y ddaear! Dyma pam wnes i dy godi di—er mwyn dangos i ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy’r byd i gyd ddod i wybod amdana i.” (Ex. 9:15, 16) Bydd rhaid i’r holl genhedloedd yn y pen draw wybod mai Jehofa yw’r unig wir Dduw. (Esec. 38:23) Sut bydd hyn yn digwydd?

18. (a) Pa fath arall o ysgwyd sy’n cael ei ddisgrifio yn Haggai 2:6, 20-22? (b) Sut rydyn ni’n gwybod bydd geiriau Haggai yn cael eu cyflawni yn y dyfodol?

18 Ganrifoedd ar ôl dyddiau Haggai, cafodd yr apostol Paul ei ysbrydoli i ysgrifennu y byddai’r geiriau yn Haggai 2:6, 20-22 yn cael eu cyflawni eto yn y dyfodol. (Darllen.) Ysgrifennodd Paul: “Nawr mae wedi dweud: ‘Unwaith eto dw i’n mynd i ysgwyd nid yn unig y ddaear, ond y nefoedd hefyd.’ Mae’r geiriau ‘unwaith eto’ yn dangos fod y pethau fydd yn cael eu hysgwyd—sy’n bethau wedi eu creu—i gael eu symud. Dim ond y pethau sydd ddim yn gallu cael eu hysgwyd fydd yn aros.” (Heb. 12:26, 27) Yn wahanol i’r ysgwyd mae Haggai 2:7 yn sôn amdano, bydd yr ysgwyd hwn yn golygu dinistr llwyr i’r rhai sydd, fel Pharo, yn gwrthod cydnabod hawl Jehofa i reoli.

19. Beth fydd ddim yn cael ei ysgwyd, a sut rydyn ni’n gwybod?

19 Beth fydd ddim yn cael ei ysgwyd na’i ddinistrio? Aeth Paul ymlaen i ddweud: “Dyna sut deyrnas dŷn ni’n ei derbyn!—un sydd ddim yn gallu cael ei hysgwyd. Felly gadewch i ni fod yn ddiolchgar, ac addoli ein Duw yn y ffordd ddylen ni—gyda pharch a rhyfeddod.” (Heb. 12:28) Ar ôl i bethau lonyddu ar ôl yr ysgytwad olaf hwn, dim ond Teyrnas Dduw fydd ar ôl. Bydd hi’n aros yn gadarn yn ei lle!—Salm 110:5, 6; Dan. 2:44.

20. Pa ddewis mae’n rhaid i bobl ei wneud, a sut gallwn ni eu helpu nhw?

20 Mae amser yn brin! Mae’n rhaid i bobl ddewis: A fyddan nhw’n parhau i gefnogi’r byd hwn a fydd yn cael ei ddinistrio, neu a fyddan nhw’n dewis gwasanaethu Jehofa, a gwneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn gwneud ei ewyllys a chael byw am byth? (Heb. 12:25) Drwy ein gwaith pregethu, gallwn ni helpu pobl i benderfynu ar ba ochr byddan nhw’n sefyll. Gad inni helpu llawer mwy o bobl werthfawr i wneud safiad dros Deyrnas Dduw. A gad inni gofio geiriau ein Harglwydd Iesu: “Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.”—Math. 24:14.

CÂN 40 I Bwy Rydyn Ni’n Perthyn?

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn addasu ein dealltwriaeth o Haggai 2:7. Byddwn ni’n dysgu sut gallwn ni gael rhan mewn gwaith cyffrous sy’n ysgwyd y cenhedloedd. Byddwn ni hefyd yn dysgu y bydd ’na ymateb positif a negatif i’r gwaith hwn.

^ Par. 4 Gwyddon ni fod Haggai wedi llwyddo, oherwydd cafodd y deml ei chwblhau ym 515 COG.

^ Par. 10 Mae hyn yn addasiad i’n dealltwriaeth. Yn y gorffennol, dywedon ni nad oedd y gwaith o ysgwyd y cenhedloedd yn achosi i bobl ddiffuant ddechrau gwasanaethu Jehofa. Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Mai 15, 2006, Y Tŵr Gwylio Saesneg.

^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: Gwnaeth Haggai annog pobl Dduw i fod yn selog a gorffen adeiladu’r deml. Mae pobl Dduw yn yr oes fodern wedi cyhoeddi neges Duw â sêl. Cwpl yn pregethu am yr ysgytwad olaf sydd i ddod.