Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 38

Closia at Dy Deulu Ysbrydol

Closia at Dy Deulu Ysbrydol

“Dw i’n mynd at fy Nhad a’m Duw, eich Tad a’ch Duw chi hefyd.”—IOAN 20:17.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

CIPOLWG *

1. Pa fath o berthynas gall pobl ffyddlon ei chael â Jehofa?

MAE teulu Jehofa yn cynnwys Iesu, sef yr un cyntaf i gael ei greu, a miloedd o angylion. (Col. 1:15; Salm 103:20) Pan oedd Iesu ar y ddaear, gwnaeth ef helpu pobl i ddeall eu bod nhw’n gallu ystyried Jehofa yn Dad. Wrth siarad â’i ddisgyblion, cyfeiriodd Iesu at Jehofa fel “fy Nhad,” ac “eich Tad.” (Ioan 20:17) Ac unwaith inni gysegru ein hunain i Jehofa a chael ein bedyddio, rydyn ni’n dod yn rhan o deulu cariadus o frodyr a chwiorydd.—Marc 10:29, 30.

2. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Mae rhai yn ei chael hi’n anodd ystyried Jehofa fel Tad cariadus. Ac efallai bod eraill ddim yn gwybod sut i ddangos cariad tuag at eu brodyr a chwiorydd. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut mae Iesu yn ein helpu ni i weld Jehofa fel Tad cariadus—un gallwn ni deimlo’n agos ato. Byddwn ni hefyd yn dysgu sut gallwn ni efelychu Jehofa yn y ffordd rydyn ni’n trin ein brodyr a chwiorydd.

MAE JEHOFA EISIAU ITI GLOSIO ATO

3. Sut mae’r weddi enghreifftiol yn ein helpu ni i glosio at Jehofa?

3 Mae Jehofa’n Dad cariadus. Mae Iesu eisiau i ni weld Jehofa fel y mae ef yn ei weld—fel rhiant caredig a chariadus sy’n hawdd mynd ato, nid fel rhyw awdurdod oeraidd. Mae hyn yn amlwg o’r ffordd gwnaeth Iesu ddysgu ei ddisgyblion i weddïo. Dechreuodd y weddi enghreifftiol â’r geiriau: “Ein Tad.” (Math. 6:9) Gallai Iesu fod wedi dweud wrthon ni am alw Jehofa yn “Hollalluog,” “Creawdwr,” neu “Duw y duwiau”—sydd i gyd yn gywir ac yn cael eu defnyddio yn y Beibl. (Salm 91:1; Eff. 3:9, BCND; Deut. 10:17, BCND) Ond defnyddiodd Iesu y term cynnes, “Tad.”

4. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa eisiau inni glosio ato?

4 Wyt ti’n ei chael hi’n anodd gweld Jehofa fel Tad cariadus? Mae hynny’n wir i rai ohonon ni. Efallai bod y syniad o riant cariadus yn anodd inni ei ddeall oherwydd ein bod ni wedi cael plentyndod poenus. Ond gallwn ni gael cysur o’r ffaith fod Jehofa yn gwybod yn union sut rydyn ni’n teimlo, a pham rydyn ni’n teimlo felly. Mae ef eisiau bod yn agos aton ni. Dyna pam mae ei Air yn ein hannog: “Closiwch at Dduw a bydd e’n closio atoch chi.” (Iago 4:8) Mae Jehofa yn ein caru ni, ac yn dweud mai ef fydd y Tad gorau gallwn ni ei gael.

5. Yn ôl Luc 10:22, sut gall Iesu ein helpu ni i glosio at Jehofa?

5 Gall Iesu ein helpu ni i glosio at Jehofa. Mae Iesu yn adnabod Jehofa yn dda iawn ac yn adlewyrchu Ei rinweddau yn berffaith, felly dywedodd: “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad.” (Ioan 14:9) Fel brawd mawr, mae Iesu yn ein dysgu ni sut i barchu ein Tad ac ufuddhau iddo, sut i beidio â’i ypsetio, a sut i ennill ei gymeradwyaeth. Ond mae bywyd Iesu ar y ddaear yn enwedig yn dangos pa mor garedig a chariadus ydy Jehofa. (Darllen Luc 10:22.) Gad inni ystyried rhai esiamplau.

Fel Tad cariadus, anfonodd Jehofa angel i atgyfnerthu ei Fab (Gweler paragraff 6) *

6. Rho enghreifftiau o sut gwnaeth Jehofa wrando ar Iesu.

6 Mae Jehofa yn gwrando ar ei blant. Ystyria’r ffordd gwnaeth Jehofa wrando ar ei Fab cyntaf-anedig. Yn sicr, mi wnaeth Jehofa wrando ar lawer o weddïau ei Fab pan oedd ef ar y ddaear. (Luc 5:16) Clywodd Iesu yn gweddïo am benderfyniadau pwysig, fel pan wnaeth ef ddewis ei 12 apostol. (Luc 6:12, 13) Gwnaeth Jehofa hefyd glywed Iesu yn gweddïo pan oedd yn poeni’n ofnadwy. Pan oedd ar fin cael ei fradychu, gweddïodd Iesu ar ei Dad am y pethau fyddai’n digwydd iddo’n fuan. Nid yn unig gwnaeth Jehofa glywed gweddi Iesu, ond hefyd anfonodd angel i atgyfnerthu ei Fab annwyl.—Luc 22:41-44.

7. Sut dylen ni deimlo o wybod bod Jehofa yn gwrando ar ein gweddïau?

7 Mae Jehofa yn gwrando ar ein gweddïau ninnau hefyd, ac mae’n eu hateb nhw ar yr adeg iawn, ac yn y ffordd orau bosib. (Salm 116:1, 2) Gwelodd un chwaer yn India sut gwnaeth Jehofa ateb ei gweddïau. Roedd hi wedi bod yn dioddef o bryder ofnadwy, a gwnaeth hi weddïo yn daer ar Jehofa am y mater. Ysgrifennodd: “Oedd rhaglen JW Broadcasting® Mai 2019 am sut i ddelio â phryder union beth o’n i ei angen. Oedd o’n ateb i ngweddi.”

8. Ym mha ffyrdd wnaeth Jehofa ddangos ei fod yn caru Iesu?

8 Mae Jehofa yn ein caru ni ac yn gofalu amdanon ni, yn union fel roedd yn caru Iesu ac yn gofalu amdano yn ystod ei aseiniad heriol ar y ddaear. (Ioan 5:20) Gofalodd am holl anghenion ysbrydol, emosiynol, a chorfforol Iesu. A wnaeth Jehofa ddim dal yn ôl rhag canmol Iesu a dweud wrtho ei fod yn ei garu. (Math. 3:16, 17) Roedd Iesu yn gwybod y byddai ei Dad nefol cariadus wastad wrth ei ochr i’w helpu, felly doedd ef byth yn teimlo ar ei ben ei hun.—Ioan 8:16.

9. Sut rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn ein caru ni?

9 Fel Iesu, mae pob un ohonon ni wedi teimlo cariad Jehofa mewn llawer o ffyrdd. Meddylia: Mae Jehofa wedi ein denu ni ato, ac wedi rhoi teulu ysbrydol cariadus ac unedig inni i’n gwneud ni’n hapus, ac i lenwi ein hanghenion emosiynol. (Ioan 6:44) Mae Jehofa yn rhoi digonedd o fwyd ysbrydol inni allu cadw ein ffydd yn gryf. Ac mae ef hyd yn oed yn ein helpu i ofalu am ein hanghenion bob dydd. (Math. 6:31, 32) Wrth inni feddwl am gariad Jehofa tuag aton ni, mae ein cariad tuag ato ef yn tyfu.

TRIN DY DEULU YSBRYDOL FEL MAE JEHOFA YN EI WNEUD

10. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd mae Jehofa yn trin ein brodyr a chwiorydd?

10 Mae Jehofa yn caru ein brodyr a chwiorydd, ond dydy hi ddim bob tro’n hawdd i ni eu caru nhw, nac i fynegi hynny. Wedi’r cwbl, rydyn ni’n dod o lawer o wahanol gefndiroedd a diwylliannau. Ac rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau sy’n gallu codi gwrychyn pobl eraill neu eu siomi nhw. Ond, gallwn ni i gyd gyfrannu at gariad ein teulu ysbrydol. Sut? Drwy efelychu ein Tad yn y ffordd rydyn ni’n dangos ein cariad tuag at ein brodyr a chwiorydd. (Eff. 5:1, 2; 1 Ioan 4:19) Gad inni weld beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Jehofa.

11. Sut gwnaeth Iesu efelychu tosturi ei Dad?

11 Mae Jehofa “yn drugarog,” sydd hefyd yn gallu golygu tosturiol. (Luc 1:78) Mae rhywun tosturiol yn teimlo consýrn pan mae’n sylwi bod pobl yn dioddef; mae’n edrych am ffyrdd i helpu a chynnig cysur. Gwnaeth Iesu efelychu consýrn Jehofa dros bobl yn y ffordd gwnaeth ef eu trin nhw. (Ioan 5:19) Ar un achlysur pan welodd Iesu dyrfa, cafodd “ei gyffwrdd i’r byw, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth.” (Math. 9:36) Ond, gwnaeth Iesu fwy na theimlo consýrn drostyn nhw, gwnaeth rywbeth i’w helpu. Iachaodd y sâl a helpu’r rhai oedd wedi eu “llethu gan feichiau trwm.”—Math. 11:28-30; 14:14.

Efelycha Jehofa drwy fod yn dosturiol ac yn hael tuag at dy frodyr a chwiorydd (Gweler paragraffau 12-14) *

12. Rho enghraifft o sut gallwn ni ddangos tosturi.

12 Cyn inni allu dangos tosturi tuag at ein brodyr a chwiorydd, mae’n rhaid inni ystyried pa heriau maen nhw’n eu hwynebu. Er enghraifft, efallai bod gan chwaer broblem iechyd difrifol. Dydy hi byth yn cwyno, ond mae’n debyg y byddai hi’n gwerthfawrogi rhywfaint o help ymarferol. Sut mae hi’n gofalu am anghenion corfforol ei theulu? A fyddai hi’n gwerthfawrogi rhywfaint o help i baratoi bwyd neu i lanhau’r tŷ? Neu, efallai bod brawd wedi colli ei swydd. Oes modd inni roi ychydig bach o arian iddo fel anrheg, heb iddo wybod gan bwy, er mwyn ei helpu nes iddo ffeindio swydd arall?

13-14. Sut gallwn ni fod yn hael fel Jehofa?

13 Mae Jehofa yn hael. (Math. 5:45) Ddylen ni ddim disgwyl nes bod ein brodyr a chwiorydd yn gofyn am ein help cyn inni ddangos tosturi. Fel Jehofa, gallwn ni gymryd y cam cyntaf i’w helpu. Mae’n gwneud i’r haul godi bob dydd heb inni orfod gofyn. Ac mae’r haul yn fuddiol i bawb, nid jest y rhai sy’n ei werthfawrogi. Drwy ofalu am ein hanghenion, mae Jehofa yn dangos ei fod yn ein caru ni. Rydyn ni’n caru Jehofa yn fawr iawn am fod mor garedig a hael!

14 Mae ein brodyr a chwiorydd yn efelychu Jehofa drwy fod yn hael tuag at eraill. Er enghraifft, yn 2013, achosodd Teiffŵn Haiyan ddinistr ofnadwy yn Ynysoedd y Philipinau. Collodd llawer o frodyr a chwiorydd eu cartrefi a’u heiddo. Ond, gwnaeth eu teulu ysbrydol o bob rhan o’r byd neidio i’r adwy. Gwnaeth llawer gyfrannu arian, neu helpu i drwsio neu ailadeiladu bron i 750 o dai mewn llai na blwyddyn. Ac yn ystod y pandemig COVID-19, gweithiodd y Tystion yn galed i gefnogi eu brodyr a chwiorydd. Pan fyddwn ni’n bachu ar y cyfle i gefnogi ein teulu ysbrydol, rydyn ni’n dangos iddyn nhw ein bod ni’n eu caru.

15-16. Yn ôl Luc 6:36, sut gallwn ni efelychu ein Tad nefol?

15 Mae Jehofa yn barod i faddau. (Darllen Luc 6:36, BCND.) Mae ein Tad nefol yn maddau inni bob dydd. (Salm 103:10-14) Roedd dilynwyr Iesu yn amherffaith, ond eto, roedd yn maddau iddyn nhw. Roedd ef hyd yn oed yn fodlon aberthu ei fywyd er mwyn ei gwneud hi’n bosib i’n pechodau ni gael eu maddau. (1 Ioan 2:1, 2) Onid wyt ti’n teimlo’n agosach at Jehofa ac Iesu am eu bod nhw mor barod i faddau?

16 Mae’r cariad sydd rhyngon ni yn cryfhau pan fyddwn ni’n “maddau i’n gilydd” yn hael. (Eff. 4:32) Wrth gwrs, gall maddau i eraill fod yn anodd iawn ar adegau, felly mae’n rhaid inni weithio arno. Teimlodd un chwaer fod yr erthygl “Forgive One Another Freely” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, wedi ei helpu hi i wneud union hynny. * Dywedodd: “Mae astudio’r erthygl hon wedi fy helpu i i newid fy agwedd. Roedd yn esbonio fod bod yn barod i faddau i eraill ddim yn golygu dy fod ti’n cymeradwyo beth wnaethon nhw, nac yn minimeiddio’r boen mae o wedi ei achosi. Mae’n golygu dy fod ti’n stopio dal dig ac yn gallu cadw dy heddwch mewnol.” Pan fyddwn ni’n maddau’n hael i’n brodyr a chwiorydd rydyn ni’n dangos ein bod ni’n eu caru nhw ac yn efelychu ein Tad, Jehofa.

TRYSORA DY LE YN Y TEULU

Mae’r hen a’r ifanc yn dangos cariad tuag at eu brodyr a chwiorydd (Gweler paragraff 17) *

17. Yn ôl Mathew 5:16, sut gallwn ni anrhydeddu ein Tad nefol?

17 Mae’n fraint enfawr i gael bod yn rhan o deulu rhyngwladol cariadus. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib addoli Duw gyda ni. Gyda hyn mewn cof, dylen ni fod yn ofalus i beidio byth â gwneud unrhyw beth a fyddai’n gwneud i bobl feddwl yn negyddol am Jehofa neu ei bobl. Rydyn ni’n trio ymddwyn mewn ffordd fydd yn denu pobl at y newyddion da.—Darllen Mathew 5:16.

18. Beth all ein helpu ni i bregethu’n ddewr?

18 Ar adegau, efallai bydd rhai yn ein beirniadu, neu hyd yn oed yn ein herlid am ein bod ni’n ufudd i’n Tad nefol. Beth os ydy siarad ag eraill am ein daliadau yn ein llenwi ni ag ofn? Gallwn ni ddibynnu ar Jehofa a’i Fab i’n helpu ni. Gwnaeth Iesu ddweud wrth ei ddisgyblion fod ’na ddim rhaid iddyn nhw boeni am sut i siarad na beth i’w ddweud. Pam ddim? Esboniodd Iesu: “Bydd y peth iawn i’w ddweud yn dod i chi ar y pryd. Dim chi fydd yn siarad, ond Ysbryd eich Tad fydd yn siarad trwoch chi.”—Math. 10:19, 20.

19. Rho enghraifft o rywun a dystiolaethodd yn ddewr.

19 Ystyria esiampl Robert. Beth amser yn ôl, pan oedd ef newydd ddechrau astudio’r Beibl, a doedd ef ddim yn adnabod y Beibl yn dda, aeth o flaen llys milwrol yn Ne Affrica. Esboniodd yn ddewr i’r llys ei fod eisiau aros yn niwtral oherwydd ei gariad tuag at ei frodyr Cristnogol. Roedd yn trysori ei le yn ein teulu ysbrydol! “Pwy ydy dy frodyr di?” gofynnodd y barnwr yn sydyn. Doedd Robert ddim yn disgwyl y cwestiwn hwnnw, ond daeth testun y dydd y bore hwnnw i’w feddwl ar unwaith, sef Mathew 12:50: “Mae pwy bynnag sy’n gwneud beth mae fy Nhad nefol eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.” Er mai newydd ddechrau astudio oedd Robert, gwnaeth ysbryd Jehofa ei helpu i ateb y cwestiwn hwnnw, a sawl cwestiwn annisgwyl arall. Mae’n rhaid oedd Jehofa yn falch iawn o Robert! Ac mae Jehofa hefyd yn falch iawn ohonon ni pan fyddwn ni’n dibynnu arno i dystiolaethu’n ddewr mewn sefyllfaoedd heriol.

20. Beth dylen ni fod yn benderfynol o’i wneud? (Ioan 17:11, 15)

20 Gad inni drysori’r fendith sydd gynnon ni o fod yn rhan o deulu ysbrydol mor gariadus. Mae gynnon ni’r Tad gorau posib, a llawer o frodyr a chwiorydd sy’n ein caru ni. Ddylen ni byth gymryd y pethau hyn yn ganiataol. Mae Satan a’i ddilynwyr creulon yn trio gwneud inni amau cariad ein Tad nefol, a chwalu’r undod rydyn ni’n ei fwynhau. Ond, gweddïodd Iesu droston ni, gan ofyn i’n Tad ein hamddiffyn ni fel bod ein teulu yn aros yn unedig. (Darllen Ioan 17:11, 15.) Mae Jehofa yn ateb y weddi honno. Fel Iesu, gad inni beidio byth ag amau cariad a chefnogaeth ein Tad nefol. Gad inni fod yn benderfynol o glosio’n fwy byth at ein teulu ysbrydol.

CÂN 99 Miloedd ar Filoedd o Frodyr

^ Par. 5 Mae gynnon ni fraint anhygoel, sef bod yn rhan o deulu cariadus o frodyr a chwiorydd. Mae pob un ohonon ni eisiau cryfhau’r cariad sydd rhyngon ni. Sut gallwn ni wneud hynny? Drwy efelychu’r ffordd mae ein Tad cariadus yn ein trin ni, a dilyn esiamplau Iesu a’n brodyr a’n chwiorydd.

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Anfonodd Jehofa angel i atgyfnerthu Iesu yng ngardd Gethsemane.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn ystod y pandemig COVID-19, gweithiodd llawer yn galed i baratoi bwyd a’i ddosbarthu.

^ Par. 61 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mam yn helpu ei merch sy’n anfon llythyr calonogol i frawd yn y carchar.