Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 43

Dalia Ati!

Dalia Ati!

“Dylen ni byth flino gwneud daioni.”—GAL. 6:9.

CÂN 68 Hau Had y Deyrnas

CIPOLWG *

1. Pam mae hi’n fraint ac yn llawenydd i fod yn un o Dystion Jehofa?

AM FRAINT a llawenydd sydd gynnon ni fel Tystion Jehofa! Rydyn ni’n dwyn enw Duw ac yn profi ein bod ni’n dystion iddo drwy bregethu a gwneud disgyblion. Rydyn ni wrth ein boddau i helpu rhywun sydd “â’r agwedd gywir tuag at fywyd tragwyddol” i ddod i gredu. (Act. 13:48, NWT) Rydyn ni’n teimlo fel gwnaeth Iesu a oedd yn “fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân” pan ddaeth ei ddisgyblion yn ôl o ymgyrch bregethu lwyddiannus.—Luc 10:1, 17, 21.

2. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n cymryd ein gweinidogaeth o ddifri?

2 Rydyn ni’n cymryd ein gweinidogaeth o ddifri. Gwnaeth yr apostol Paul annog Timotheus: “Cadw lygad ar sut rwyt ti’n byw a beth rwyt ti’n ei ddysgu,” gan ychwanegu, “byddi’n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a’r rhai sy’n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.” (1 Tim. 4:16) Felly, mae bywydau yn y fantol. Rydyn ni’n cadw llygad ar sut rydyn ni’n byw am ein bod ni’n rhan o deulu Duw. Rydyn ni wastad eisiau ymddwyn mewn ffordd sy’n dod â chlod i Jehofa ac sy’n dangos ein bod ni’n credu’r newyddion da rydyn ni’n ei bregethu. (Phil. 1:27) Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ‘cadw llygad ar beth rydyn ni’n ei ddysgu’ drwy baratoi’n dda ar gyfer y weinidogaeth a thrwy ofyn am fendith Jehofa cyn inni dystiolaethu i eraill.

3. A fydd gan bawb ddiddordeb yn neges y Deyrnas? Rho enghraifft.

3 Hyd yn oed pan ydyn ni’n gwneud ein gorau i bregethu i eraill, efallai na fydd gan lawer o bobl yn ein hardal ddiddordeb yn neges y Deyrnas. Ystyria brofiad y Brawd Georg Lindal, a bregethodd ar ei ben ei hun ar hyd a lled Gwlad yr Iâ o 1929 i 1947. Dosbarthodd filoedd o lyfrau, ond eto wnaeth neb dderbyn y gwir. Ysgrifennodd: “Mae rhai i weld wedi gwneud safiad yn erbyn y gwir, ond dydy’r rhan fwyaf ddim yn teimlo’n gryf y naill ffordd neu’r llall.” Hyd yn oed ar ôl i genhadon o Gilead gyrraedd ac ehangu’r gwaith, aeth naw mlynedd arall heibio cyn i rai o’r wlad honno gysegru eu hunain i Jehofa a chael eu bedyddio. *

4. Sut gallen ni deimlo pan fydd pobl ddim yn ymateb yn bositif i’r newyddion da?

4 Rydyn ni’n drist pan fydd pobl ddim yn ymateb yn bositif. Efallai byddwn ni’n teimlo fel gwnaeth Paul, a oedd yn “ddigalon iawn ac yn poeni” am fod yr Iddewon, ar y cyfan, ddim yn derbyn Iesu fel y Meseia. (Rhuf. 9:1-3) Ond beth os ydy myfyriwr y Beibl ddim yn gwneud cynnydd, ac mae angen stopio’r astudiaeth er gwaethaf dy holl ymdrechion a dy weddïau drosto? Neu beth os dwyt ti erioed wedi helpu rhywun yn uniongyrchol i gyrraedd bedydd? A ddylet ti deimlo’n euog, gan feddwl efallai nad ydy Jehofa wedi bendithio dy weinidogaeth? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ateb dau gwestiwn: (1) Beth sy’n gwneud ein gweinidogaeth yn llwyddiannus? (2) Pa ddisgwyliadau realistig dylen ni eu cael?

BETH SY’N GWNEUD EIN GWEINIDOGAETH YN LLWYDDIANNUS?

5. Pam efallai na fydd ein gwaith i Jehofa wastad yn cael y canlyniadau rydyn ni’n dymuno?

5 Mae’r Beibl yn dweud am rywun sy’n gwneud ewyllys Duw: “Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo.” (Salm 1:3) Ond dydy hynny ddim yn golygu y bydd popeth rydyn ni’n ei wneud i Jehofa yn troi allan fel rydyn ni’n dymuno. Mae ein bywydau “yn llawn trafferthion” am ein bod ni, a phawb arall, yn amherffaith. (Job 14:1) Ar ben hynny, efallai bydd gwrthwynebwyr yn llwyddo i’n rhwystro ni rhag gwneud ein gweinidogaeth yn y ffordd arferol am gyfnod. (1 Cor. 16:9; 1 Thes. 2:18) Felly sut mae Jehofa yn mesur ein llwyddiant? Ystyria rai egwyddorion o’r Beibl sy’n helpu i ateb y cwestiwn hwnnw.

Mae Jehofa yn gwerthfawrogi ein gwaith p’un a ydyn ni’n pregethu wyneb yn wyneb, drwy lythyr, neu dros y ffôn (Gweler paragraff 6)

6. Sut mae Jehofa yn mesur llwyddiant y gwaith rydyn ni’n ei wneud iddo?

6 Mae Jehofa’n edrych ar ein hymdrechion a’n dyfalbarhad. Yng ngolwg Jehofa, mae ein gwaith iddo yn llwyddiannus pan ydyn ni’n ei wneud yn selog a gyda chariad, ni waeth sut mae pobl yn ymateb. Ysgrifennodd Paul: “Dydy Duw ddim yn annheg; wnaiff e ddim anghofio beth dych chi wedi’i wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato.” (Heb. 6:10) Mae Jehofa yn cofio ein hymdrechion a’n cariad, hyd yn oed os nad ydyn ni’n cael canlyniadau da. Felly, mae’r hyn a ddywedodd Paul wrth y Corinthiaid hefyd yn wir yn dy achos di: “Dych chi’n gwybod fod unrhyw beth wnewch chi i’r Arglwydd ddim yn wastraff amser,” hyd yn oed os nad ydy dy waith caled yn cael y canlyniadau roeddet ti wedi gobeithio amdanyn nhw.—1 Cor. 15:58.

7. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth yr apostol Paul ddisgrifio ei weinidogaeth?

7 Roedd yr apostol Paul yn genhadwr gwych, a ffurfiodd lawer o gynulleidfaoedd mewn llawer o ddinasoedd. Ond eto, pan deimlodd ei fod angen amddiffyn ei gymwysterau fel athro da, wnaeth ef ddim sôn am faint o bobl roedd ef wedi eu helpu i ddod yn Gristnogion. Yn hytrach, ysgrifennodd Paul: “Dw i wedi gweithio’n galetach.” (2 Cor. 11:23) Fel Paul, cofia fod Jehofa’n gwerthfawrogi ymdrech a dyfalbarhad yn fwy na dim.

8. Beth dylen ni ei gofio am ein gweinidogaeth?

8 Mae ein gweinidogaeth yn plesio Jehofa. Anfonodd Iesu 70 o ddisgyblion allan i bregethu neges y Deyrnas, a daethon nhw’n ôl yn llawen. Pam roedden nhw mor hapus? Dywedon nhw: “Mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.” Ond, gwnaeth Iesu gywiro eu ffordd o feddwl drwy ddweud: “Peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.” (Luc 10:17-20) Gwyddai Iesu na fydden nhw o hyd yn cael profiadau mor wych yn eu gweinidogaeth. A dweud y gwir, dydyn ni ddim yn gwybod faint o bobl ddaeth yn Gristnogion ar ôl gwrando ar ddisgyblion Iesu. Roedd angen i’r disgyblion ddeall bod llawenydd ddim yn dod o faint o bobl oedd yn gwrando arnyn nhw, ond o wybod bod eu gwaith caled yn plesio Jehofa.

9. Yn ôl Galatiaid 6:7-9, beth fydd yn digwydd os ydyn ni’n dal ati i bregethu?

9 Os ydyn ni’n dyfalbarhau yn ein gweinidogaeth, byddwn ni’n cael bywyd tragwyddol. Wrth inni wneud ein gorau i hau had y Deyrnas, rydyn ni’n “byw i blesio’r Ysbryd” drwy adael i ysbryd glân Duw ddylanwadu ar ein bywyd. Cyn belled ein bod ni’n dal ati, a ‘byth yn blino,’ mae Jehofa’n addo y byddwn ni’n cael bywyd tragwyddol, hyd yn oed os nad ydyn ni wedi helpu unrhyw un yn uniongyrchol i gyrraedd bedydd.—Darllen Galatiaid 6:7-9.

PA DDISGWYLIADAU REALISTIG DYLEN NI EU CAEL?

10. Ar beth mae ymateb pobl i’n gweinidogaeth yn dibynnu?

10 Mae ymateb rhywun yn dibynnu’n bennaf ar beth sydd yn eu calonnau. Esboniodd Iesu y gwirionedd hwn gydag eglureb o heuwr wnaeth hau hadau ar wahanol fathau o bridd, ond dim ond un wnaeth ddwyn ffrwyth. (Luc 8:5-8) Dywedodd Iesu bod y gwahanol fathau o bridd yn cyfateb i galonnau pobl sy’n ymateb mewn gwahanol ffyrdd i “neges Duw.” (Luc 8:11-15) Fel yr heuwr, allwn ni ddim rheoli canlyniadau ein gwaith am ei fod yn dibynnu ar gyflwr calon ein gwrandawyr. Ein cyfrifoldeb ni ydy parhau i hau had y Deyrnas. Dywedodd yr apostol Paul fod pawb “yn cael eu talu am eu gwaith eu hunain,” nid am ganlyniadau ei gwaith.—1 Cor. 3:8.

Er bod Noa wedi pregethu’n ffyddlon am flynyddoedd, wnaeth neb fynd gydag ef ar yr arch heblaw am ei deulu agos. Er hynny, roedd Noa yn llwyddiannus o ran ufuddhau i Dduw! (Gweler paragraff 11)

11. Pam roedd gweinidogaeth Noa yn llwyddiannus? (Gweler y llun ar y clawr.)

11 Roedd hyd yn oed Tystion cynnar Jehofa yn pregethu i bobl doedd ddim eisiau gwrando. Er enghraifft, roedd Noa “yn galw ar bobl i fyw yn ufudd i Dduw” am ddegawdau mae’n debyg. (2 Pedr 2:5) Mae’n siŵr ei fod yntau eisiau i bobl wrando arno, ond wnaeth Jehofa ddim dweud y byddai hynny’n digwydd. Yn hytrach, pan ofynnodd i Noa adeiladu’r arch, dywedodd Duw: “Byddi di’n mynd i mewn i’r arch—ti a dy feibion, dy wraig di a’u gwragedd nhw.” (Gen. 6:18) Ac o ystyried maint yr arch roedd Duw wedi gofyn iddo ei adeiladu, efallai bod Noa wedi sylweddoli na fyddai llawer o bobl yn gwrando arno. (Gen. 6:15) Ac fel rydyn ni’n gwybod, wnaeth neb o gwbl wrando ar Noa. (Gen. 7:7) Oedd Jehofa’n ystyried Noa yn fethiant? Ddim o gwbl! Yng ngolwg Duw, roedd Noa yn llwyddiannus am ei fod wedi mynd ati’n ffyddlon i wneud yr hyn roedd Jehofa wedi ei ofyn ganddo.—Gen. 6:22.

12. Sut gwnaeth y proffwyd Jeremeia gael llawenydd o’i weinidogaeth er bod y bobl yn apathetig ac yn ei wrthwynebu?

12 Gwnaeth y proffwyd Jeremeia hefyd bregethu am ddegawdau er bod y bobl yn apathetig ac yn ei wrthwynebu. Gwnaeth ef ddigalonni gymaint am ei fod yn “jôc a thestun sbort i bobl drwy’r amser,” gwnaeth ef ystyried rhoi’r gorau i’w aseiniad. (Jer. 20:8, 9) Ond wnaeth Jeremeia ddim rhoi’r ffidil yn y to! Beth gwnaeth ei helpu i drechu ei feddyliau negyddol a chael llawenydd yn ei weinidogaeth? Canolbwyntiodd ar ddwy ffaith bwysig. Yn gyntaf, byddai neges Duw roedd Jeremeia yn ei rhannu yn rhoi “dyfodol llawn gobaith” i’r bobl. (Jer. 29:11) Yn ail, roedd Jehofa wedi dewis Jeremeia i siarad drosto. (Jer. 15:16) Rydyn ninnau hefyd yn dod â neges o obaith i bobl, ac yn dwyn enw Jehofa fel ei Dystion. Pan fyddwn ni’n canolbwyntio ar y ddwy ffaith bwysig hynny, byddwn ni’n llawen, ni waeth sut bydd pobl yn ymateb.

13. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o eglureb Iesu yn Marc 4:26-29?

13 Mae cynnydd ysbrydol yn cymryd amser. Esboniodd Iesu’r gwirionedd hwnnw yn ei eglureb am yr heuwr sy’n cysgu. (Darllen Marc 4:26-29.) Unwaith i’r heuwr hau’r had, roedden nhw’n tyfu’n araf, a doedd dim byd allai’r heuwr ei wneud er mwyn gwneud iddyn nhw dyfu’n gynt. Efallai na fyddi dithau’n gweld canlyniadau dy weinidogaeth ar unwaith am fod cynnydd ysbrydol yn cymryd amser. Yn union fel na all ffermwr orfodi ei blanhigion i dyfu’n gynt, allwn ninnau ddim gorfodi ffydd ein myfyrwyr i dyfu’n gyflymach chwaith. Felly paid â digalonni na rhoi’r gorau iddi os ydy eu cynnydd yn cymryd yn hirach nag yr oeddet ti’n ei ddisgwyl. Fel ffermio, mae gwneud disgyblion yn gofyn am amynedd.—Iago 5:7, 8.

14. Pa brofiad sy’n dangos y gallai gymryd amser inni weld canlyniadau ein gweinidogaeth?

14 Mewn rhai llefydd, efallai na fydd canlyniadau ein gweinidogaeth yn amlwg am flynyddoedd. Ystyria brofiad Gladys a Ruby Allen. Roedden nhw’n chwiorydd, a chawson nhw eu haseinio fel arloeswyr llawn amser mewn tref yn nhalaith Cwebéc ym 1959. * Oherwydd pwysau’r gymuned a dylanwad yr eglwys Gatholig, doedd pobl ddim yn fodlon gwrando ar neges y Deyrnas. Dywedodd Gladys: “Aethon ni o ddrws i ddrws wyth awr y diwrnod am ddwy flynedd, a wnaeth yr un person agor y drws inni! Roedden nhw’n dod at y drws, yn gweld mai ni oedd yna, ac yn cerdded i ffwrdd. Ond gwnaethon ni ddal ati.” Fesul tipyn, daeth pobl yn fwy cyfeillgar a gwnaeth rhai ddechrau gwrando. Bellach, mae ’na dair cynulleidfa yn y dref honno.—Esei. 60:22.

15. Beth mae 1 Corinthiaid 3:6, 7 yn ei ddysgu inni am y gwaith o wneud disgyblion?

15 Mae gwneud disgyblion yn waith tîm. Maen nhw’n dweud ei bod hi’n cymryd cynulleidfa i helpu rhywun i gyrraedd bedydd. (Darllen 1 Corinthiaid 3:6, 7.) Er enghraifft, dyweda fod brawd yn gadael taflen neu gylchgrawn â rhywun sydd wedi dangos diddordeb. Ond dydy ef ddim yn gallu galw’n ôl ar amser sy’n gyfleus i’r person hwnnw. Felly, mae’n gofyn i frawd arall wneud yr ail alwad. Mae’r brawd hwnnw yn llwyddo i ddechrau astudiaeth Feiblaidd. Ac mae yntau yn ei dro yn gwahodd brodyr a chwiorydd eraill i ymuno ar yr astudiaeth, ac mae pob un yn calonogi’r myfyriwr mewn ffyrdd gwahanol. Bydd pob brawd neu chwaer mae’r myfyriwr yn ei gyfarfod yn helpu i ddyfrio hadau’r gwirionedd. Ac felly, fel dywedodd Iesu, gall yr un sy’n hau, a’r un sy’n medi, lawenhau gyda’i gilydd yn y cynhaeaf ysbrydol.—Ioan 4:35-38.

16. Sut gelli di gael llawenydd yn dy weinidogaeth er gwaethaf iechyd gwael neu ddiffyg nerth?

16 Beth os nad wyt ti’n gallu pregethu a dysgu gymaint ag yr oeddet ti oherwydd iechyd gwael neu ddiffyg nerth? Gelli di dal fod yn hapus oherwydd yr hyn rwyt ti’n gallu ei wneud. Ystyria brofiad y Brenin Dafydd pan wnaeth ef a’i ddynion achub eu teuluoedd a’u heiddo rhag yr Amaleciaid. Roedd dau gant o’i ddynion wedi blino gormod i ymladd, felly gwnaethon nhw aros ar ôl i edrych ar ôl yr offer. Ar ôl iddyn nhw ennill y frwydr, gorchmynnodd Dafydd fod yr ysbail yn cael ei rannu’n gyfartal rhyngddyn nhw i gyd. (1 Sam. 30:21-25) Mae’r stori hon yn dysgu rhywbeth inni am ein gwaith o wneud disgyblion. Gall pawb sy’n gwneud eu gorau glas gael rhan yn y llawenydd bob tro bydd rhywun newydd yn dod i adnabod Jehofa ac yn cael ei fedyddio.

17. Am beth dylen ni ddiolch i Jehofa?

17 Rydyn ni’n ddiolchgar i Jehofa am y ffordd gariadus mae’n edrych ar ein gwasanaeth iddo. Mae’n gwybod na allwn ni reoli canlyniadau ein hymdrechion. Ond mae’n sylwi ar ba mor galed rydyn ni’n gweithio, a chymaint rydyn ni’n ei garu, ac mae’n ein gwobrwyo ni am hynny. Mae hefyd yn ein dysgu ni sut i gael llawenydd o beth rydyn ni’n gallu ei wneud yn y gwaith pregethu. (Ioan 14:12) Gallwn ni fod yn sicr y byddwn ni’n plesio Duw os ydyn ni’n dal ati!

CÂN 67 “Pregetha’r Gair”

^ Par. 5 Rydyn ni’n hapus pan fydd pobl yn ymateb yn bositif i’r newyddion da, ond yn drist pan dydyn nhw ddim. Beth os wyt ti’n astudio’r Beibl â rhywun sydd ddim yn gwneud cynnydd? Neu beth os dwyt ti erioed wedi helpu rhywun yn uniongyrchol i gyrraedd bedydd? Ydy hynny’n golygu bod dy waith i Jehofa ddim yn ddigon da? Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld pam gallwn ni lwyddo yn ein gweinidogaeth a bod yn llawen ni waeth sut mae pobl yn ymateb i’n hymdrechion ni.

^ Par. 14 Gweler hanes bywyd Gladys Allen, I Would Not Change a Thing!,” yn rhifyn Medi 1, 2002, y Tŵr Gwylio Saesneg.