Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Chwilio am Fywyd Llawn Pwrpas

Chwilio am Fywyd Llawn Pwrpas

WRTH hwylio ar draws môr y canoldir, ges i sioc i weld bod ’na dwll yn fy hen gwch hwylio oedd yn gadael galwyni o ddŵr i mewn. Ac wedyn, dyma storm yn taro. Roedd gen i gymaint o ofn wnes i weddïo am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Sut des i i fod yn y sefyllfa yna? Gad imi ddechrau o’r dechrau.

Pan o’n i’n saith mlwydd oed, o’n i’n byw ym Mrasil gyda fy nheulu

Ces i fy ngeni yn Yr Iseldiroedd ym 1948. Y flwyddyn wedyn, symudodd fy nheulu i São Paulo, Brasil. Roedd fy rhieni yn mynd i’r eglwys yn rheolaidd, ac roedden ni’n aml yn darllen y Beibl fel teulu ar ôl swper. Ym 1959, gwnaethon ni symud o Frasil i Massachusetts yn yr Unol Daleithiau.

Gweithiodd Dad yn galed i ofalu am ein teulu o wyth. Dros y blynyddoedd, gwnaeth o weithio fel gweithiwr teithiol ac adeiladwr ffyrdd, ac yna cafodd ef waith gyda chwmni awyrennau. Roedd pawb yn y teulu wrth eu boddau pan gafodd y jòb gyda’r cwmni awyrennau, oherwydd wedyn roedden ni’n gallu teithio’r byd.

Tra o’n i yn yr ysgol uwchradd, o’n i’n aml yn meddwl, ‘Beth wna i ar ôl imi dyfu fyny?’ Gwnaeth rhai o fy ffrindiau ddewis mynd i brifysgol, a gwnaeth eraill ymuno â’r fyddin. Ond imi, doeddwn i ddim hyd yn oed am ystyried ymuno â’r fyddin oherwydd doeddwn i ddim yn hoffi dadlau, heb sôn am gwffio. Wnes i benderfynu mynd i brifysgol er mwyn osgoi ymuno â’r fyddin. Ond beth o’n i wir eisiau wneud oedd helpu eraill, achos o’n i’n meddwl y byddai hynny yn rhoi pwrpas go iawn i fy mywyd.

BYWYD AR Y CAMPWS

Am flynyddoedd o’n i’n chwilio am bwrpas mewn bywyd

Yn y brifysgol, roedd gen i ddiddordeb mewn anthropoleg, oherwydd o’n i eisiau gwybod mwy am darddiad bywyd. Roedden nhw’n dysgu esblygiad inni, ac yn disgwyl inni dderbyn hynny fel ffaith. Ond i mi, doedd rhai o’r esboniadau ddim yn rhesymegol, ac roedden nhw’n gofyn am ffydd ddall, sy’n mynd yn gwbl groes i wyddoniaeth.

Doedden ni ddim yn dysgu moesau da yn ein gwersi. Yn hytrach, roedd y pwyslais ar lwyddo beth bynnag yw’r gost. Roedd mynd i bartïon a chymryd cyffuriau yn gwneud imi deimlo’n hapus, ond doedd hynny ddim yn para. O’n i’n meddwl i fy hun, ‘A’i dyma ydy bywyd llawn pwrpas?’

Yn y cyfamser, wnes i symud i ddinas Boston, a dechrau mynd i’r brifysgol yno. Er mwyn talu am hynny, ges i swydd dros yr haf, lle wnes i gyfarfod un o Dystion Jehofa am y tro cyntaf. Gwnaeth cyd-weithiwr sôn wrtho i am y broffwydoliaeth am y “saith cyfnod” sydd yn Daniel pennod 4, ac esbonio wrtho i ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf. (Dan. 4:13-17, BCND) Yn fuan wnes i sylweddoli y byddai rhaid imi wneud newidiadau yn fy mywyd petaswn i’n parhau i gael sgyrsiau am y Beibl a’u cymryd nhw o ddifri. Felly, es i allan o’n ffordd i osgoi’r cyd-weithiwr hwnnw.

Yn y brifysgol, wnes i gymryd cyrsiau y byddai’n fy mharatoi ar gyfer gwaith gwirfoddol yn Ne America. O’n i’n meddwl y byddai helpu pobl mewn angen yn rhoi pwrpas i fy mywyd, ond des i i sylweddoli bod hyd yn oed hynny ddim yn gweithio. Wedi siomi’n llwyr, wnes i adael y brifysgol ar ddiwedd y tymor.

CHWILIO AM FYWYD LLAWN PWRPAS MEWN GWLEDYDD PELL

Ym mis Mai 1970, wnes i symud i Amsterdam yn Yr Iseldiroedd i weithio i’r un cwmni awyrennau a wnaeth fy nhad. Yn y swydd yma, ges i deithio cryn dipyn, ac ymweld â gwledydd yn Affrica, yr Americas, Ewrop, a’r Dwyrain Pell. Yn fuan des i i sylweddoli, ni waeth pa wlad o’n i ynddi, roedden nhw i gyd yn wynebu problemau ofnadwy, a doedd neb i weld yn gallu eu datrys. O’n i dal eisiau wneud rhywbeth gwerth chweil gyda fy mywyd, felly wnes i benderfynu mynd yn ôl i’r Unol Daleithiau ac astudio eto yn yr un brifysgol yn Boston.

Ond yn fuan wnes i sylweddoli bod y gwersi yn y brifysgol ddim yn rhoi unrhyw atebion i fy nghwestiynau am fywyd. Mewn penbleth ynglŷn â beth i wneud, wnes i ofyn i fy athro anthropoleg am gyngor. Gwnaeth o synnu fi pan ddywedodd: “Pam wyt ti dal yma felly? Beth am roi’r gorau iddi?” Wel, doedd dim rhaid dweud wrtho i ddwywaith. Felly, wnes i adael y brifysgol, ac es i erioed yn ôl.

Ond o’n i dal yn teimlo bod ’na ddim pwrpas i fy mywyd. Felly wnes i benderfynu ymuno â grŵp oedd i weld yn hyrwyddo heddwch a chariad. Wnes i a rhai o’n ffrindiau deithio ar draws yr Unol Daleithiau ac i lawr i Acapulco, Mecsico. Roedden ni’n byw mewn cymunedau o hipis, oedd i weld yn byw bywydau heb boeni am ddim a heb unrhyw broblemau. Ond o fyw gyda nhw, yn fuan des i i weld doedd eu ffordd o fyw ddim yn eu gwneud nhw’n hapus nac yn rhoi pwrpas iddyn nhw. Yn hytrach, gwelais fod llawer ohonyn nhw yn anonest ac yn anffyddlon.

PARHAU I CHWILIO AR GWCH HWYLIO

Wnes i ac un o’n ffrindiau chwilio am baradwys bersonol ar ynys

Yn ystod y cyfnod hwnnw, wnes i ddechrau meddwl eto am rywbeth o’n i eisiau gwneud pan o’n i’n blentyn. O’n i eisiau hwylio’r moroedd, nid fel morwr, ond fel capten. Yr unig ffordd o’n i’n gallu gwneud hynny oedd drwy gael cwch hwylio fy hun. Gan fod ffrind o’r enw Tom eisiau gwneud yr un peth, gwnaethon ni benderfynu hwylio’r byd gyda’n gilydd. O’n i eisiau ffeindio paradwys fach fy hun ar ynys drofannol, lle byddwn i’n rhydd rhag rheolau’r gymdeithas.

Wnes i a Tom deithio i Arenys de Mar, sydd ddim yn bell o Barcelona, Sbaen. Yno, gwnaethon ni brynu cwch hwylio 31 troedfedd (9.4 m) o’r enw Llygra. Wnaethon ni ddechrau ailadeiladu’r cwch bach, fel ei fod yn barod i hwylio ar y môr. Gan ein bod ni ddim mewn brys i gyrraedd unrhyw le, gwnaethon ni dynnu’r injan allan a storio dŵr yfed ychwanegol yn ei le. Er mwyn manwfro’r cwch o gwmpas porthladdoedd bychan, roedd gynnon ni ddwy rwyf 16 troedfedd (5 m). O’r diwedd, cychwynnon ni ar ein taith i Ynysoedd y Seisiêl, yng nghefnfor India. Ein cynllun oedd hwylio ar hyd arfordir gorllewinol Affrica, ac o gwmpas Penrhyn Gobaith Da, De Affrica. Gwnaethon ni ddefnyddio secstant, sêr, siartiau, a llyfrau i helpu ni i deithio yn y cyfeiriad cywir. O’n i’n rhyfeddu ar sut roedden ni’n gallu ffeindio yn union lle roedden ni.

Cyn bo hir, daethon ni i sylweddoli bod yr hen gwch pren ’ma ddim ffit i fynd ar y môr mawr. Roedd ’na tua chwe galwyn o ddŵr (22 L) yn dod i mewn bob awr! Fel dywedais i yn y dechrau, roedd gen i gymaint o ofn mewn un storm wnes i weddïo am y tro cyntaf ers blynyddoedd, ac addo i Dduw y byddwn i’n trio dod i’w adnabod petasen ni’n goroesi. Gwnaeth y storm basio, ac am unwaith, wnes i gadw fy addewid.

Wnes i ddechrau ddarllen y Beibl tra oedden ni allan ar y môr. Dychmyga eistedd ar gwch yng nghanol Môr y Canoldir gyda physgod a dolffiniaid yn neidio allan o’r dŵr, a’r gorwel yn ymestyn yn ddi-ben-draw. Gyda’r nos, o’n i’n rhyfeddu ar y Llwybr Llaethog, a des i’n fwy sicr byth bod ’na Dduw sydd â diddordeb yn y ddynoliaeth.

Ar ôl rhai wythnosau ar y môr, gwnaethon ni rwyfo i mewn i harbwr Alicante, Sbaen, lle gwnaethon ni roi ein cwch ar werth er mwyn prynu un gwell. Doedd hi ddim yn syndod fod neb eisiau prynu hen gwch heb injan oedd yn colli dŵr. Ond ar y llaw arall, roedd hi’n gyfle gwych imi ddarllen fy Meibl.

Y mwyaf o’n i’n darllen y Beibl, y mwyaf o’n i’n dechrau ei weld fel llawlyfr sy’n gallu ein helpu ni mewn bywyd. Beth wnaeth daro fi oedd iaith glir y Beibl am fyw bywyd glân a moesol, ond gwnaeth hynny wneud imi feddwl pam roedd gymaint o bobl—gan gynnwys fi—yn ystyried eu hunain i fod yn Gristnogion, ond eto’n anwybyddu beth mae’r Beibl yn ei ddweud.

O’n i’n benderfynol o gymryd camau mawr i newid fy mywyd. Felly, wnes i stopio cymryd cyffuriau. O’n i’n meddwl mae’n rhaid bod ’na bobl sy’n byw yn unol â safonau moesol uchel y Beibl, ac o’n i eisiau eu cyfarfod nhw. Am yr ail dro, wnes i weddïo, a gofyn i Dduw fy helpu i’w ffeindio nhw.

CHWILIO AM Y GWIR GREFYDD

I mi, roedd yn gwneud synnwyr i edrych i mewn i bob crefydd fesul un nes imi ffeindio’r gwir grefydd. Wrth imi gerdded drwy strydoedd Alicante, des i ar draws llawer o adeiladau crefyddol. Ond am fod gan y rhan fwyaf ohonyn nhw ddelwau, roedd hi’n hawdd eu croesi nhw oddi ar fy rhestr.

Un prynhawn Sul, o’n i’n eistedd ar fryn yn edrych dros yr harbwr yn darllen Iago 2:1-5, sy’n rhybuddio yn erbyn dangos ffafriaeth tuag at y cyfoethog. Ar y ffordd yn ôl i’r cwch, wnes i gerdded heibio beth oedd yn edrych fel man cyfarfod crefyddol, gydag arwydd uwchben y drws: Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa.

Wnes i feddwl, ‘Dylwn i roi prawf ar y bobl ’ma, a gweld sut maen nhw’n fy nhrin i.’ Felly, wnes i gamu mewn i’r Neuadd yn droednoeth, gyda barf, ac yn gwisgo jîns wedi rhwygo. Gwnaeth y gwasanaethwr roi fi i eistedd wrth ymyl dynes hŷn, a oedd yn ddigon caredig i helpu mi i ffeindio’r adnodau roedd y siaradwr yn sôn amdanyn nhw. Ar ôl y cyfarfod, ges i fy synnu ar yr ochr orau gan garedigrwydd pawb ddaeth i fy nghyfarch. Gwnaeth un dyn fy ngwahodd i draw i’w gartref am drafodaeth, ond am fy mod i heb orffen darllen y Beibl eto, wnes i ddweud wrtho, “Wna i adael ichi wybod pan dw i’n barod.” Yn y cyfamser, wnes i ddechrau mynd i bob un o’r cyfarfodydd.

Sawl wythnos wedyn, wnes i alw ar y dyn yn ei gartref, a gwnaeth ef ateb fy nghwestiynau am y Beibl. Wythnos ar ôl hynny, rhoddodd lond bag o ddillad neis iawn imi. Dywedodd wrtho i bod perchennog y dillad yn y carchar am ei fod yn dilyn gorchymyn y Beibl i garu’n gilydd ac i beidio â mynd i ryfel. (Esei. 2:4; Ioan 13:34, 35) Bellach o’n i’n sicr fy mod i wedi ffeindio beth roeddwn i’n chwilio amdano—pobl sy’n dilyn beth mae’r Beibl yn amlwg yn ei ddweud am fyw bywyd glân a moesol! Erbyn hyn, nid cael hyd i baradwys bersonol ar ynys oedd fy nod, ond astudio’r Beibl yn ddwfn. Felly, es i yn ôl i’r Iseldiroedd.

CHWILIO AM WAITH

Cymerodd bedwar diwrnod imi deithio i ddinas Groningen yn yr Iseldiroedd. Yna, o’n i angen gwaith er mwyn cynnal fy hun. Wnes i gais am swydd mewn un gweithdy saer, ac roedd y ffurflen yn gofyn am fy nghrefydd. Wnes i ysgrifennu “Tystion Jehofa.” Pan ddarllenodd y perchennog hynny, wnes i sylwi ar ei wyneb yn newid. Dywedodd wrtho i, “Wna i adael ichi wybod.” Ond wnaeth o ddim.

Mewn gweithdy saer arall, wnes i ofyn i’r perchennog os oedd ef angen help. Gofynnodd am fy addysg ac am lythyrau cymeradwyaeth. Wnes i esbonio fy mod i wedi trwsio cwch hwylio pren. Er mawr syndod imi, dywedodd, “Cewch chi gychwyn prynhawn ’ma o dan un amod. Peidiwch â chreu problemau yn fy siop, oherwydd dw i’n un o Dystion Jehofa a dw i’n byw yn ôl egwyddorion y Beibl.” Wnes i edrych arno mewn syndod a dweud, “A finnau hefyd!” Mae’n debyg o weld fy ngwallt hir a’r barf, dywedodd, “Wna i astudio’r Beibl efo chi felly!” O’n i’n hapus i dderbyn ei gynnig. Bellach, roedd hi’n amlwg imi pam wnaeth y perchennog arall byth ddod yn ôl ata i. Roedd Jehofa yn ateb fy ngweddïau. (Salm 37:4) Wnes i weithio yng ngweithdy’r brawd am flwyddyn. Yn ystod yr amser yna, gwnaeth ef astudio’r Beibl gyda fi, a ches i fy medyddio ym mis Ionawr 1974.

BYWYD LLAWN PWRPAS O’R DIWEDD!

Fis yn ddiweddarach, wnes i ddechrau gyrfa newydd fel arloeswr, sydd wedi gwneud fi’n hapus dros ben. Fis ar ôl hynny, wnes i symud i Amsterdam i gefnogi grŵp Sbaeneg newydd. O’n i’n wrth fy modd yn cynnal astudiaethau Beiblaidd yn Sbaeneg a Phortiwgaleg! Ym mis Mai 1975, ges i’r fraint o wasanaethu fel arloeswr arbennig.

Un diwrnod, daeth arloeswraig arbennig o’r enw Ineke i’n cyfarfod Sbaeneg, er mwyn cyflwyno ei myfyrwraig y Beibl o Bolifia inni. Wnes i ac Ineke benderfynu dod i adnabod ein gilydd yn well drwy ysgrifennu llythyrau, ac yn fuan gwnaethon ni sylweddoli bod gynnon ni yr un amcanion. Gwnaethon ni briodi ym 1976, a pharhau i wasanaethu fel arloeswyr arbennig tan 1982, pan gawson ni ein gwahodd i fynd i’r 73ain dosbarth o Gilead. Roedden ni wedi gwirioni i gael ein haseinio i Ddwyrain Affrica, lle gwnaethon ni wasanaethu am bum mlynedd ym Mombasa, Cenia! Ym 1987, cawson ni ein hailaseinio i Tansanïa, lle roedd y gwaharddiad ar y gwaith pregethu wedi cael ei godi. Gwnaethon ni aros yno am 26 mlynedd cyn mynd yn ôl i Cenia.

Mae helpu pobl yn Nwyrain Affrica i ddysgu am wirioneddau’r Beibl wedi dod â llawenydd mawr i fi a fy ngwraig

Mae helpu pobl ddiolchgar i ddysgu gwirioneddau’r Beibl wedi rhoi ystyr go iawn i’n bywydau. Er enghraifft, fy astudiaeth Feiblaidd gyntaf ym Mombasa oedd gyda dyn wnes i ei gyfarfod pan o’n i’n tystiolaethu’n gyhoeddus. Ar ôl imi gynnig dau gylchgrawn iddo, dywedodd, “Os dw i’n gorffen rhain, beth dw i’n ei wneud nesaf?” Yr wythnos wedyn, gwnaethon ni ddechrau astudio’r Beibl gyda’r llyfr You Can Live Forever in Paradise on Earth, oedd newydd gael ei ryddhau yn Swahili. Cafodd ei fedyddio flwyddyn yn ddiweddarach, a daeth yn arloeswr llawn amser. Ers hynny, mae ef a’i wraig wedi helpu bron i 100 o bobl i ymgysegru eu hunain i Jehofa a chael eu bedyddio.

Mae Ineke a minnau wedi gweld sut mae Jehofa yn bendithio ei weision gyda bywyd llawn pwrpas

Pan ddes i i ddeall pwrpas bywyd am y tro cyntaf, o’n i’n teimlo fel y masnachwr a ddaeth o hyd i berl arbennig, a doedd ef ddim eisiau ei golli. (Math. 13:45, 46) O’n i eisiau treulio fy mywyd yn helpu eraill i ffeindio gwir ystyr bywyd hefyd. Mae fy ngwraig annwyl a minnau wedi gweld droston ni’n hunain sut mae Jehofa yn bendithio ei bobl gyda bywyd llawn pwrpas.