Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 48

“Rhaid i Chi Fod yn Sanctaidd”

“Rhaid i Chi Fod yn Sanctaidd”

“Rhaid i’ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân.”—1 PEDR 1:15.

CÂN 34 Rhodio Mewn Uniondeb

CIPOLWG *

1. Pa gyngor roddodd yr apostol Pedr i’w gyd-gredinwyr, a pham gall hynny ymddangos yn amhosib i’w ddilyn?

P’UN a oes gynnon ni obaith o fyw am byth yn y nef neu ar y ddaear, gallwn ni elwa o ystyried cyngor yr apostol Pedr i Gristnogion eneiniog yn y ganrif gyntaf. Ysgrifennodd Pedr: “Rhaid i’ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi’ch galw chi ato’i hun yn berffaith lân. Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: ‘Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.’” (1 Pedr 1:15, 16) O’r geiriau hyn, rydyn ni’n dysgu ein bod ni’n gallu efelychu Jehofa, sy’n gosod yr esiampl orau o sancteiddrwydd. Mae sancteiddrwydd o fewn ein cyrraedd, ac mae’n rhaid inni ei ddangos yn ein hymddygiad. Efallai bod hynny’n ymddangos yn amhosib am ein bod ni’n amherffaith. Gwnaeth Pedr ei hun wneud nifer o gamgymeriadau, ond eto mae ei esiampl yn dangos ein bod ni’n gallu bod “yn sanctaidd.”

2. Pa gwestiynau byddwn ni’n eu trafod yn yr erthygl hon?

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod y cwestiynau canlynol: Beth mae’n ei olygu i fod yn sanctaidd? Beth mae’r Beibl yn ein dysgu ni am sancteiddrwydd Jehofa? Sut gallwn ni ddod yn sanctaidd yn y ffordd rydyn ni’n ymddwyn? A pha gysylltiad sydd ’na rhwng bod yn sanctaidd a’n perthynas â Jehofa?

BETH MAE’N EI OLYGU I FOD YN SANCTAIDD?

3. Beth sy’n dod i feddwl llawer o bobl wrth ddychmygu rhywun sanctaidd, a lle gallwn ni ffeindio gwybodaeth gywir am sancteiddrwydd?

3 Wrth feddwl am rywun sanctaidd, mae llawer o bobl yn dychmygu rhywun diflas sy’n gwisgo dillad crefyddol a golwg sych ar ei wyneb. Ond dim dyna mae’n ei olygu. Mae Jehofa, sy’n hollol sanctaidd, yn cael ei ddisgrifio fel “y Duw hapus.” (1 Tim. 1:11, NWT) Mae’r rhai sy’n ei addoli yn cael eu galw’n “hapus.” (Salm 144:15, NWT) Gwnaeth Iesu gondemnio’r rhai oedd yn gwisgo dillad arbennig ac yn gwneud pethau da er mwyn i eraill eu gweld. (Math. 6:1; Marc 12:38) Fel Cristnogion, mae’r hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu inni yn siapio’r ffordd rydyn ni’n meddwl am sancteiddrwydd. Am ein bod ni’n gwybod bod Duw yn ein caru, rydyn ni’n hollol sicr fyddai ef byth yn gofyn inni wneud rhywbeth sy’n amhosib inni. Felly pan mae Jehofa yn dweud wrthon ni: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd,” rydyn ni’n gwbl hyderus bod hynny’n bosib. Wrth gwrs, cyn inni allu ymddwyn yn sanctaidd, mae’n rhaid inni ddeall beth ydy sancteiddrwydd.

4. Beth mae’r geiriau “sanctaidd” a “sancteiddrwydd” yn ei olygu?

4 Beth ydy sancteiddrwydd? Yn y Beibl, mae’r geiriau “sanctaidd” a “sancteiddrwydd” yn cyfeirio at lendid moesol a chrefyddol. Gall y termau hyn hefyd gyfleu’r syniad bod rhywun neu rywbeth wedi ei neilltuo ar gyfer gwasanaethu Duw. Mewn geiriau eraill, byddwn ni’n sanctaidd os ydyn ni’n foesol lân, yn addoli Jehofa mewn ffordd dderbyniol, ac os oes gynnon ni berthynas agos ag ef. Mae’n rhyfeddol i feddwl bod perthynas agos â’n Duw sanctaidd yn bosib, yn enwedig o ystyried beth mae’r Beibl yn ei ddysgu inni am sancteiddrwydd Jehofa.

‘SANCTAIDD! SANCTAIDD! MOR SANCTAIDD YDY JEHOFA!’

5. Beth gallwn ni ei ddysgu am Jehofa oddi wrth angylion ffyddlon?

5 Mae Jehofa yn bur ac yn lân ym mhob ffordd. Rydyn ni’n dysgu hyn o ddisgrifiad ohono roddodd rhai o’r seraffiaid, angylion sy’n agos at ei orsedd. Dywedon nhw: “Sanctaidd! Sanctaidd! Mor Sanctaidd ydy’r ARGLWYDD holl-bwerus!” (Esei. 6:3) Wrth gwrs, er mwyn cael perthynas agos gyda’u Duw sanctaidd, mae’n rhaid i’r angylion eu hunain fod yn sanctaidd—ac maen nhw. A dweud y gwir, roedd un o angylion Jehofa yn gallu gwneud rhywle ar y ddaear yn sanctaidd dim ond drwy fod yno. Dyna ddigwyddodd pan oedd Moses yn sefyll wrth ymyl y berth oedd yn llosgi.—Ex. 3:2-5; Jos. 5:15.

Roedd yr ymadrodd “Mae sancteiddrwydd yn perthyn i Jehofa” yn ymddangos ar blât aur ar dwrban yr archoffeiriad (Gweler paragraffau 6-7)

6-7. (a) Yn ôl Exodus 15:1, 11, sut gwnaeth Moses bwysleisio sancteiddrwydd Duw? (b) Beth roedd yn atgoffa’r Israeliaid bod Duw yn sanctaidd? (Gweler y llun ar y clawr.)

6 Ar ôl i Moses arwain yr Israeliaid drwy’r Môr Coch, pwysleisiodd y ffaith fod ei Dduw Jehofa yn sanctaidd. (Darllen Exodus 15:1, 11.) Roedd yr Eifftiaid oedd yn addoli gau dduwiau yn bell o fod yn sanctaidd. Roedd hynny hefyd yn wir am y Canaaneaid oedd yn addoli gau dduwiau. Roedd aberthu plant ac arferion rhywiol afiach yn rhan o’u haddoliad. (Lef. 18:3, 4, 21-24; Deut. 18:9, 10) Yn gwbl wahanol i hynny, fyddai Jehofa byth yn gofyn i’w addolwyr wneud rhywbeth mor afiach. Mae ef yn hollol sanctaidd. Er mwyn atgoffa’r Israeliaid o hynny, roedd ’na blât aur ar dwrban yr archoffeiriad. Roedd y geiriau: “Mae sancteiddrwydd yn perthyn i Jehofa” wedi eu crafu ar y plât.—Ex. 28:36-38, NWT.

7 Byddai’r neges ar y plât hwnnw yn atgoffa unrhyw un oedd yn ei gweld bod Jehofa yn wirioneddol sanctaidd. Ond beth am Israeliad doedd ddim yn gallu gweld y plât, oherwydd doedd ef ddim yn cael mynd yn agos at yr archoffeiriad? A fyddai’r neges hon yn dal i’w gyrraedd? Byddai! Roedd pob Israeliad yn clywed y neges honno wrth i’r Gyfraith gael ei ddarllen o flaen dynion, merched, a phlant. (Deut. 31:9-12) Petaset ti wedi bod yno, byddet ti wedi clywed y geiriau hyn: ‘Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i’n sanctaidd.’ “Yr ydych i fod yn sanctaidd i mi, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn sanctaidd.”—Lef. 11:44, 45; 20:7, 26, BCND.

8. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o Lefiticus 19:2 a 1 Pedr 1:14-16?

8 Gad inni edrych ar rywbeth gafodd ei ddarllen i’r Israeliaid i gyd. Dywedodd Jehofa wrth Moses yn Lefiticus 19:2: “Dwed wrth bobl Israel: ‘Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i’n sanctaidd.’” Efallai roedd Pedr yn meddwl am yr adnod honno pan wnaeth ef annog Cristnogion i “fod yn berffaith lân.” (Darllen 1 Pedr 1:14-16.) Wrth gwrs, dydyn ni ddim o dan Gyfraith Moses. Ond eto, mae beth ysgrifennodd Pedr yn cadarnhau beth rydyn ni’n ei ddysgu o Lefiticus 19:2, sef bod Jehofa yn sanctaidd, a bod angen i’r rhai sy’n ei garu gwneud eu gorau i fod yn sanctaidd hefyd. Mae hynny’n wir p’un a ydyn ni’n gobeithio byw yn y nef neu ar baradwys ddaear.—1 Pedr 1:4; 2 Pedr 3:13.

“RHAID I’CH YMDDYGIAD CHI FOD YN BERFFAITH LÂN”

9. Sut byddwn ni’n elwa o ystyried Lefiticus pennod 19?

9 Am ein bod ni eisiau plesio ein Duw sanctaidd, rydyn ni’n awyddus i ddysgu sut gallwn ni ddod yn sanctaidd. Mae Jehofa yn rhoi cyngor ymarferol inni ar sut gallwn ni wneud hynny. Un lle da i’w ffeindio ydy Lefiticus pennod 19. Ysgrifennodd yr ysgolhaig Hebraeg, Marcus Kalisch: “Mae’n bosib mai dyma’r bennod bwysicaf yn llyfr Lefiticus, ac efallai ym mhum llyfr cyntaf y Beibl, hyd yn oed.” Gad inni ystyried rhai adnodau o’r bennod hon sy’n cynnwys gwersi gwerthfawr am agweddau o’n bywyd bob dydd. Wrth inni wneud hynny, cofia fod y gwersi hyn yn dilyn y geiriau agoriadol: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd.”

Beth ddylai’r sylw am rieni yn Lefiticus 19:3 wneud i Gristnogion feddwl amdano? (Gweler paragraffau 10-12) *

10-11. Beth mae Lefiticus 19:3 yn ein gorchymyn i wneud, a pham mae hynny’n bwysig?

10 Ar ôl iddo ddweud y dylai’r Israeliaid fod yn sanctaidd, ychwanegodd Jehofa: “Rhaid i bob un ohonoch chi barchu ei fam a’i dad . . . fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.”—Lef. 19:2, 3.

11 Yn amlwg, mae hi’n bwysig ein bod ni’n ufuddhau i orchymyn Duw i anrhydeddu ein rhieni. Cofia beth ddywedodd Iesu pan ofynnodd dyn iddo: “Pa weithred dda sy’n rhaid i mi ei gwneud i gael bywyd tragwyddol?” Rhan o ateb Iesu oedd bod rhaid i’r dyn anrhydeddu ei dad a’i fam. (Math. 19:16-19) Gwnaeth Iesu hyd yn oed gondemnio’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion am eu bod nhw’n gwneud popeth allan nhw i beidio â gofalu am eu rhieni. Drwy wneud hynny, roedden nhw’n “osgoi gwneud beth mae Duw’n ei ddweud.” (Math. 15:3-6) Roedd “beth mae Duw’n ei ddweud” yn cynnwys y pumed o’r Deg Gorchymyn yn ogystal â beth rydyn ni’n ei ddarllen yn Lefiticus 19:3. (Ex. 20:12) Unwaith eto, cofia fod y gorchymyn yn Lefiticus 19:3 i barchu ein rhieni yn dod yn syth ar ôl y geiriau: “Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i’n sanctaidd.”

12. Sut gallwn ni roi’r cyngor yn Lefiticus 19:3 ar waith?

12 Wrth feddwl am gyngor Jehofa i barchu ein rhieni, gallen ni ofyn i’n hunain, ‘Sut ydw i’n gwneud yn hyn o beth?’ Os wyt ti’n teimlo y gallet ti fod wedi gwneud mwy yn y gorffennol, gallet ti benderfynu gwneud newidiadau. Elli di ddim newid y gorffennol, ond gelli di fod yn benderfynol o dreulio mwy o amser gyda dy rieni, a gwneud mwy i’w helpu nhw o hyn ymlaen. Neu beth am gynnig mwy o gymorth materol, ysbrydol, neu emosiynol? Os gwnei di hynny, byddi di’n ufuddhau i’r gorchymyn yn Lefiticus 19:3.

13. (a) Pa gyngor ymarferol sydd ‘na yn Lefiticus 19:3? (b) Yn ôl Luc 4:16-18, sut gallwn ni efelychu esiampl Iesu heddiw?

13 Mae Lefiticus 19:3 yn dysgu rhywbeth arall inni am fod yn sanctaidd. Mae’n sôn am gadw’r Saboth. Dydy Cristnogion ddim o dan y Gyfraith, felly does dim rhaid inni gadw Saboth wythnosol. Ond eto, gallwn ni ddysgu llawer o’r ffordd roedd yr Israeliaid yn ei gadw, a sut roedden nhw’n elwa o wneud hynny. Roedd y Saboth yn gyfle i gael gorffwys o waith bob dydd, a rhoi sylw i bethau ysbrydol. * Dyna pam aeth Iesu i’r synagog yn ei dref enedigol ar y Saboth i ddarllen Gair Duw. (Ex. 31:12-15; darllen Luc 4:16-18.) Dylai gorchymyn Duw yn Lefiticus 19:3 i “gadw [ei] Sabothau” ein hysgogi i neilltuo amser bob dydd i roi mwy o sylw i bethau ysbrydol. Wyt ti’n teimlo y gallet ti wneud mwy yn hynny o beth? Os byddi di’n neilltuo amser yn rheolaidd ar gyfer canolbwyntio ar bethau ysbrydol, byddi di’n meithrin perthynas agos a chynnes â Jehofa, sy’n hanfodol er mwyn bod yn sanctaidd.

CRYFHA DY BERTHYNAS Â JEHOFA

14. Pa wirionedd sylfaenol sy’n cael ei bwysleisio drwy Lefiticus pennod 19?

14 Mae Lefiticus pennod 19 yn sôn fwy nag unwaith am wirionedd sylfaenol all ein helpu ni i aros yn sanctaidd. Mae adnod 4 yn gorffen gyda’r geiriau: “Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.” Mae’r geiriau hyn, neu rai tebyg, yn ymddangos 16 o weithiau yn y bennod hon. Mae hyn yn ein hatgoffa o’r gorchymyn cyntaf: “Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi . . . Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.” (Ex. 20:2, 3) Mae’n rhaid i bob Cristion sydd eisiau bod yn sanctaidd sicrhau bod dim byd na neb yn dod rhyngddo ef a’i berthynas â Duw. Ac am ein bod ni’n Dystion Jehofa, rydyn ni’n benderfynol o osgoi gwneud unrhyw beth a fyddai’n dwyn gwarth ar ei enw sanctaidd.—Lef. 19:12; Esei. 57:15.

15. Beth ddylai’r adnodau yn Lefiticus pennod 19 sy’n sôn am aberthau ein hysgogi ni i’w wneud?

15 Roedd rhaid i’r Israeliaid ddilyn llawer o reolau er mwyn dangos eu bod nhw’n derbyn Jehofa fel eu Duw. Mae Lefiticus 18:4 yn dweud: “Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Rhaid i chi ddilyn fy rheolau i, a gwneud be dw i’n ddweud wrthoch chi.” Mae pennod 19 yn cynnwys rhai o’r “rheolau” hynny ar gyfer Israel. Er enghraifft, mae adnodau 5-8, 21, 22 yn sôn am aberthu anifeiliaid. Roedd rhaid i’r Israeliaid wneud yr aberthau hyn mewn ffordd fyddai ddim yn trin rhywbeth oedd yn sanctaidd i Jehofa “yn sarhaus.” Dylai darllen yr adnodau hyn ein hysgogi i fod eisiau plesio Jehofa a’i foli mewn ffordd dderbyniol, fel mae Hebreaid 13:15 yn ein hannog ni i’w wneud.

16. Beth all ein hatgoffa ni o’r gwahaniaeth rhwng y rhai sy’n gwasanaethu Duw a’r rhai sydd ddim yn ei wasanaethu?

16 I fod yn sanctaidd, mae’n rhaid inni fod yn barod i sefyll allan yn wahanol. Gall hynny fod yn her. Weithiau bydd ffrindiau ysgol, cyd-weithwyr, perthnasau anghrediniol, ac eraill yn ein rhoi ni dan bwysau i gael rhan mewn pethau fyddai’n amharu ar ein haddoliad. Pan fyddan nhw’n gwneud hynny, mae gynnon ni benderfyniad pwysig i’w wneud. Beth all ein helpu i wneud y penderfyniad iawn? Ystyria egwyddor ddiddorol yn Lefiticus 19:19, sy’n dweud yn rhannol: “Paid gwisgo dillad wedi eu gwneud o ddau fath gwahanol o ddefnydd.” Gwnaeth y rheol honno helpu i wahaniaethu Israel oddi wrth y cenhedloedd cyfagos. Heddiw, dydyn ni ddim yn gwrthod gwisgo dillad o ddefnydd cymysg, fel cotwm a pholyester, neu wlân a neilon. Ond rydyn ni’n gwrthod bod fel pobl sy’n credu pethau a gwneud pethau sy’n mynd yn erbyn beth mae’r Beibl yn ei ddysgu, hyd yn oed os ydy’r bobl hynny yn ffrindiau ysgol, yn gyd-weithwyr, neu’n perthyn inni. Wrth gwrs, rydyn ni’n caru ein perthnasau, ac yn dangos cariad tuag at ein cymdogion. Ond pan mae’n dod i’r pethau pwysig mewn bywyd, rydyn ni’n barod i sefyll ar wahân fel pobl Jehofa. Cofia fod cael ein neilltuo ar gyfer gwasanaeth Duw yn rhan hollbwysig o fod yn sanctaidd.—2 Cor. 6:14-16; 1 Pedr 4:3, 4.

Beth ddylai’r Israeliaid fod wedi ei ddysgu o Lefiticus 19:23-25, a pha wers rwyt ti’n ei dysgu o’r adnodau hynny? (Gweler paragraffau 17-18) *

17-18. Pa wers werthfawr gallwn ni ei dysgu o Lefiticus 19:23-25?

17 Dylai’r ymadrodd, “Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi,” fod wedi helpu’r Israeliaid i flaenoriaethu eu perthynas â Jehofa. Sut? Mae Lefiticus 19:23-25 yn dangos un ffordd. (Darllen.) Ystyria beth fyddai’r geiriau hyn yn ei olygu i’r Israeliaid unwaith iddyn nhw gyrraedd Gwlad yr Addewid. Petai dyn yn plannu coed ar gyfer bwyd, doedd ef ddim i fwyta’r ffrwyth o’r coed hynny am dair blynedd. Yn y bedwaredd flwyddyn, roedd y ffrwyth yn cael ei neilltuo ar gyfer Lle Sanctaidd Duw. Dim ond yn y bumed flwyddyn roedd y perchennog yn cael bwyta’r ffrwyth. Dylai’r gyfraith hon fod wedi helpu’r Israeliaid i ddeall na ddylen nhw flaenoriaethu eu hanghenion eu hunain. Roedden nhw i fod i drystio Jehofa i ofalu amdanyn nhw a rhoi eu gwasanaeth iddo ef yn gyntaf yn eu bywydau. Byddai’n gwneud yn siŵr fod ganddyn nhw ddigon i’w fwyta. A gwnaeth Duw eu hannog i roi anrhegion hael yn ei Le Sanctaidd, canolfan ei addoliad.

18 Mae’r gyfraith yn Lefiticus 19:23-25 yn ein hatgoffa ni o eiriau Iesu yn y Bregeth ar y Mynydd. Dywedodd: “Peidiwch poeni beth i’w fwyta a beth i’w yfed.” Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi.” Bydd Duw yn gofalu amdanon ni, fel mae’n gofalu am yr adar. (Math. 6:25, 26, 32) Rydyn ni’n trystio Jehofa i ofalu amdanon ni. Ac rydyn ni’n “rhoi arian” yn ddistaw bach i helpu’r rhai mewn angen. Rydyn ni hefyd yn hapus i gyfrannu beth bynnag allwn ni tuag at gostau’r gynulleidfa. Mae Jehofa’n sylwi ar y fath haelioni a bydd yn talu yn ôl inni. (Math. 6:2-4) Drwy fod yn hael, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n deall y gwersi yn Lefiticus 19:23-25.

19. Sut rwyt ti wedi elwa o ystyried y rhan hon o Lefiticus?

19 Rydyn ni ond wedi trafod ychydig o adnodau o Lefiticus pennod 19, ac maen nhw wedi ein helpu ni i ddeall sut gallwn ni efelychu ein Duw sanctaidd. Drwy wneud hynny, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n trio ein gorau i “fod yn berffaith lân” yn y ffordd rydyn ni’n ymddwyn. (1 Pedr 1:15) Mae llawer sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa wedi sylwi ar y ffordd rydyn ni’n ymddwyn. Mae hynny hyd yn oed wedi ysgogi rhai i foli Jehofa. (1 Pedr 2:12) Ond mae ’na lawer mwy gallwn ni ei ddysgu o Lefiticus pennod 19. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod adnodau eraill yn y bennod honno fydd yn ein helpu i ddeall ffyrdd eraill gallwn ni “fod yn berffaith lân,” fel gwnaeth Pedr ein annog.

CÂN 80 Profwch Flas a Gwelwch mai Da Ydy Duw

^ Par. 5 Rydyn ni’n caru Jehofa yn fawr iawn, ac rydyn ni eisiau ei blesio. Mae Jehofa yn sanctaidd, ac mae’n disgwyl i’w addolwyr fod yn sanctaidd hefyd. Ydy hynny wir yn bosib i bobl amherffaith? Ydy. Bydd ystyried cyngor yr apostol Pedr i’w gyd-gredinwyr a chyfarwyddiadau Jehofa i Israel gynt yn ein helpu i ddysgu sut gallwn ni fod yn sanctaidd yn y ffordd rydyn ni’n ymddwyn.

^ Par. 13 Am drafodaeth am y Saboth a’r gwersi gallwn ni eu ddysgu ohono, gweler yr erthygl “‘Mae Amser Wedi’i Bennu’ ar Gyfer Gwaith a Gorffwys” yn rhifyn Rhagfyr 2019, Y Tŵr Gwylio.

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae mab sydd bellach yn oedolyn yn treulio amser gyda’i rieni, yn dod â’i wraig a’i blentyn i’w gweld nhw, ac yn gwneud ymdrech arbennig i gadw mewn cysylltiad â nhw.

^ Par. 59 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae ffermwr yn Israel yn edrych ar y ffrwyth ar y coed mae ef wedi eu plannu.