Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Beth yn union oedd y gorchymyn yn Lefiticus 19:16 yn ei olygu wrth ddweud, “paid gwneud dim sy’n rhoi bywyd rhywun arall mewn perygl,” a pha wersi gallwn ni eu dysgu ohono?

Dywedodd Jehofa wrth yr Israeliaid i fod yn bobl sanctaidd. I’w helpu nhw i wneud hynny, dywedodd wrthyn nhw: “Paid mynd o gwmpas dy bobl yn dweud celwydd a hel clecs. Paid gwneud dim sy’n rhoi bywyd rhywun arall mewn perygl. Fi ydy’r ARGLWYDD.”—Lef. 19:2, 16.

Mae rhai cyfieithiadau wedi trosi’r geiriau Hebraeg gwreiddiol yn llythrennol fel “sefyll i fyny yn erbyn,” ond beth mae hynny’n ei olygu? Mae un cyfeirlyfr Iddewig am Lefiticus yn dweud: “Mae’r rhan hon o’r adnod yn anodd ei deall am ei bod hi’n anodd gwybod beth sy’n cael ei awgrymu gan yr idiom Hebraeg sy’n golygu’n llythrennol, ‘paid â sefyll dros, wrth, neu’n agos.’”

Mae rhai arbenigwyr yn cysylltu’r ymadrodd hwnnw â’r adnod gynt sy’n dweud: “Paid bod yn annheg wrth farnu. Paid cadw ochr rhywun am ei fod yn dlawd na dangos parch at rywun am ei fod yn bwysig. Bydd yn hollol deg wrth farnu.” (Lef. 19:15) Yn yr achos hwnnw, byddai’r gorchymyn yn adnod 16 i beidio â sefyll i fyny yn erbyn rhywun yn gallu golygu na ddylai pobl Dduw wneud unrhyw beth anghyfiawn mewn achosion llys, mewn busnes, neu’r teulu, ac i beidio â phlygu’r gwir er eu lles eu hunain. Mae’n wir ddylen ni ddim gwneud y pethau hynny, ond mae ’na ffordd fwy rhesymegol o ddeall yr ymadrodd yn adnod 16.

Ystyria ran gyntaf yr adnod honno. Mae Duw yn gorchymyn i’w bobl beidio â mynd o gwmpas yn dweud celwyddau nac enllibio. Cofia fod enllibio yn llawer gwaeth na chario clecs, er bod cario clecs hefyd yn gallu achosi problemau. (Diar. 10:19; Preg. 10:12-14; 1 Tim. 5:11-15; Iago 3:6) Mae rhywun sy’n enllibio fel arfer yn dweud celwyddau yn fwriadol er mwyn niweidio enw da rhywun arall. Gall enllibiwr rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun arall, hyd yn oed os bydd gwneud hynny yn peryglu bywyd y person hwnnw. Cofia, cafodd Naboth ei labyddio’n anghyfiawn am fod enllibiwr wedi dweud celwyddau amdano. (1 Bren. 21:8-13) Felly, fel mae ail ran Lefiticus 19:16 yn dweud, gallai enllibiwr roi bywyd rhywun arall mewn peryg, neu sefyll i fyny yn ei erbyn drwy achosi ei farwolaeth.

Ar ben hynny, efallai bydd rhywun yn enllibio rhywun arall am ei fod yn ei gasáu. Mae 1 Ioan 3:15 yn dweud: “Mae unrhyw un sy’n casáu brawd neu chwaer yn llofrudd, a does gan lofrudd ddim bywyd tragwyddol.” Mae’n werth nodi fod Duw wedi dilyn y geiriau yn adnod 16 drwy ddweud: “Nid wyt i gasáu dy frawd a’th chwaer yn dy galon.”—Lef. 19:17, BCND.

Felly, mae’r gorchymyn diddorol yn Lefiticus 19:16 yn gyngor cryf i Gristnogion. Mae’n rhaid inni wrthod meddyliau drwg a pheidio byth ag enllibio rhywun arall. Yn ddigon syml, os ydyn ni’n sefyll i fyny yn erbyn rhywun drwy ei enllibio am ein bod ni’n genfigennus ohono neu ddim yn ei hoffi, gall hynny fod yn arwydd ein bod ni’n ei gasáu. Mae’n rhaid i Gristnogion osgoi hynny’n llwyr.—Math. 12:36, 37.