Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Wyt Ti’n Cydweithio’n Dda ag Eraill?

Wyt Ti’n Cydweithio’n Dda ag Eraill?

“RÔN i yno fel crefftwr, . . . yn dawnsio a dathlu’n ddi-stop o’i flaen.” (Diar. 8:30) Dyna sut mae’r Beibl yn disgrifio Mab Duw yn ystod y blynyddoedd di-rif gwnaeth ef eu treulio yn gweithio gyda’i Dad cyn dod i’r ddaear. Rydyn ni hefyd yn dysgu o’r adnod hon fod Iesu wedi llawenhau wrth iddo gydweithio â Duw.

Yn y nef, gwnaeth Iesu feithrin rhinweddau wnaeth ei wneud yn gyd-weithiwr da, ac felly pan ddaeth i’r ddaear, roedd yn esiampl wych yn hynny o beth. Sut gallwn ni elwa o esiampl Iesu? O edrych yn fanwl ar ei esiampl, gwelwn fod ’na dair egwyddor all ein helpu ni i gydweithio’n dda ag eraill. Bydd yr egwyddorion hyn yn ein helpu ni i gyfrannu mwy at yr undod rhwng ein brodyr.

Gan gofio esiampl Jehofa ac Iesu, bydda’n barod i rannu dy brofiad a dy wybodaeth â dy gyd-weithwyr

EGWYDDOR 1: “DANGOS PARCH AT EICH GILYDD”

Mae cyd-weithiwr da yn ostyngedig. Mae’n gwerthfawrogi ei gyd-weithwyr, a dydy ef ddim yn trio dangos ei hun. Dysgodd Iesu yr agwedd ostyngedig honno oddi wrth ei Dad. Er mai dim ond Jehofa sydd â’r hawl i gael ei alw’n Greawdwr, roedd ef eisiau i eraill wybod am y rhan bwysig gafodd ei Fab yn y gwaith hwnnw. Daeth hynny drosodd pan ddywedodd Duw: “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni’n hunain.” (Gen. 1:26) Mae’n debyg gwnaeth Iesu werthfawrogi gostyngeiddrwydd Jehofa pan ddywedodd hynny.—Salm 18:35, NWT.

Tra oedd ef ar y ddaear, dangosodd Iesu ostyngeiddrwydd tebyg. Pan gafodd ei ganmol am yr hyn a wnaeth, rhoddodd y clod i’r Un oedd yn ei haeddu. (Marc 10:17, 18; Ioan 7:15, 16) Gweithiodd Iesu yn galed i gadw awyrgylch heddychlon gyda’i ddisgyblion, a gwnaeth eu hystyried nhw fel ffrindiau yn hytrach na gweision. (Ioan 15:15) Gwnaeth ef hyd yn oed olchi eu traed er mwyn eu dysgu nhw i fod yn ostyngedig. (Ioan 13:5, 12-14) Dylen ninnau hefyd werthfawrogi ein cyd-weithwyr yn hytrach na rhoi ein hunain yn gyntaf. Pan fyddwn ni’n ‘dangos parch at ein gilydd’ a ddim yn poeni am bwy fydd yn cael y clod, bydd llawer iawn mwy yn cael ei gyflawni.—Rhuf. 12:10.

Mae rhywun gostyngedig hefyd yn deall y bydd pethau “yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.” (Diar. 15:22) Ni waeth pa mor brofiadol neu alluog ydyn ni, mae’n rhaid inni gofio nad ydy’r un ohonon ni’n gwybod popeth. Gwnaeth hyd yn oed Iesu gyfaddef bod ’na bethau doedd ef ddim yn eu gwybod. (Math. 24:36) Hefyd, roedd ganddo ddiddordeb ym marn ei ddisgyblion amherffaith, ac yn yr hyn roedden nhw’n ei wybod. (Math. 16:13-16) Does dim rhyfedd fod ei gyd-weithwyr wedi teimlo’n gyfforddus o’i gwmpas! Mewn ffordd debyg, pan fyddwn ni’n ostyngedig ac yn cofio ein bod ni ddim yn gwybod popeth, a phan fyddwn ni’n gwrando ar syniadau pobl eraill, byddwn ni’n hybu heddwch rhyngon ni, a byddwn ni’n gallu “llwyddo” gyda’n gilydd.

Mae’n arbennig o bwysig fod henuriaid yn efelychu Iesu yn hyn o beth wrth iddyn nhw weithio gyda’i gilydd. Mae’n rhaid iddyn nhw gofio bod yr ysbryd glân yn gallu dylanwadu ar unrhyw un o’r henuriaid sydd ar y corff. Os ydy’r henuriaid yn trio gwneud yn siŵr fod pawb yn eu cyfarfodydd yn teimlo’n gyfforddus i gyfrannu, byddan nhw’n gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd a fydd o les i’r gynulleidfa gyfan.

EGWYDDOR 2: ‘GADEWCH I BAWB WELD EICH BOD YN RHESYMOL’

Mae rhywun sy’n gweithio’n dda ag eraill yn rhesymol pan fydd yn delio â’i gyd-weithwyr. Mae’n hyblyg ac yn barod i ildio. Yn bendant, cafodd Iesu lawer o gyfleoedd i weld ei Dad yn bod yn rhesymol. Er enghraifft, gwnaeth Jehofa ei anfon i achub y ddynoliaeth rhag y ddedfryd roedden nhw’n ei haeddu, sef marwolaeth.—Ioan 3:16.

Ildiodd Iesu pan oedd hynny’n briodol neu’n angenrheidiol. Cofia sut gwnaeth ef helpu’r ddynes o Phoenicia, er ei fod wedi cael ei anfon i dŷ Israel. (Math. 15:22-28) Roedd hefyd yn rhesymol yn yr hyn roedd yn ei ddisgwyl oddi wrth ei ddisgyblion. Ar ôl i’w ffrind agos Pedr ei wadu yn gyhoeddus, roedd Iesu’n fodlon maddau iddo. Yn hwyrach ymlaen, gwnaeth ef drystio Pedr gyda chyfrifoldebau pwysig. (Luc 22:32; Ioan 21:17; Act. 2:14; 8:14-17; 10:44, 45) Mae esiampl Iesu yn dangos yn glir y dylen ni ‘adael i bawb weld ein bod yn bobl garedig [“rhesymol,” NWT]’ drwy fod yn barod i ildio.—Phil. 4:5.

Bydd bod yn rhesymol yn ein cymell ni i fod yn fwy hyblyg er mwyn gweithio’n heddychlon â phob math o bobl. Gwnaeth Iesu drin pawb o’i gwmpas mor dda, gwnaeth ei elynion cenfigennus ei gyhuddo o fod yn “ffrind i’r twyllwyr sy’n casglu trethi . . . ac i bechaduriaid” wnaeth ymateb i’w neges. (Math. 11:19) A allwn ni, fel Iesu, lwyddo i gydweithio’n dda ag eraill? Dywedodd Louis, brawd sydd wedi treulio amser fel arolygwr cylchdaith, ac yn y Bethel, yn gweithio gyda llawer o bobl o wahanol gefndiroedd: “Mae cydweithio â phobl amherffaith eraill fel adeiladu wal gerrig. Am fod y cerrig i gyd yn wahanol, mae’n cymryd mwy o ymdrech i greu wal syth, ond mae hi’n bosib. Dw i hefyd wedi trio gwneud newidiadau personol er mwyn cyfrannu at wal syth.” Am agwedd wych!

Dydy cyd-weithiwr da ddim yn dal gwybodaeth yn ôl dim ond er mwyn cadw pawb arall dan ei fawd

Pa gyfleoedd sydd gynnon ni i ddangos ein bod ni’n gallu cydweithio’n dda â’r rhai yn ein cynulleidfa? Gallwn wneud hynny pan ydyn ni gyda’n grŵp gweinidogaeth. Gallwn ni weithio gyda chyhoeddwyr sydd â chyfrifoldebau teuluol gwahanol i ni, neu sydd o oedran gwahanol. A allwn ni addasu’n cyflymder neu fod yn fodlon gwneud y dull o bregethu sydd orau ganddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael mwy o lawenydd yn y weinidogaeth?

EGWYDDOR 3: BYDDA’N “BAROD I RANNU”

Mae cyd-weithiwr da “yn barod i rannu.” (1 Tim. 6:18) Wrth weithio gyda’i Dad, mae’n rhaid bod Iesu wedi sylwi bod Jehofa ddim yn cuddio pethau oddi wrtho. Roedd Iesu “yno pan roddodd Duw y bydysawd yn ei le,” ac roedd yn dysgu oddi wrtho. (Diar. 8:27) Yn hwyrach ymlaen, roedd Iesu ei hun yn hapus i rannu ‘popeth roedd ei Dad wedi ei ddweud’ gyda’i ddisgyblion. (Ioan 15:15) Gallwn ni efelychu esiampl Jehofa drwy fod yn barod i rannu ein gwybodaeth a’n profiad â’n cyd-weithwyr. Yn sicr, fyddai cyd-weithiwr da ddim yn dal yn ôl rhag rhannu gwybodaeth ddefnyddiol, neu angenrheidiol, dim ond er mwyn cadw pawb arall dan ei fawd. Byddai’n hapus i rannu’r pethau da mae wedi eu dysgu ag eraill.

Hefyd, gallwn ni galonogi ein cyd-weithwyr gyda’n geiriau. Pan fydd rhywun yn sylwi ar ein hymdrechion ac yn diolch inni o’r galon, onid ydy hynny’n gwneud inni deimlo’n dda? Cymerodd Iesu’r amser i ganmol ei gyd-weithwyr am y pethau da a welodd ynddyn nhw. (Cymhara Mathew 25:19-23; Luc 10:17-20.) Gwnaeth ef hyd yn oed ddweud y bydden nhw’n “gwneud llawer iawn mwy” nag ef. (Ioan 14:12) Ar y noson cyn iddo farw, gwnaeth ef ganmol ei apostolion ffyddlon drwy ddweud: “Dych chi wedi sefyll gyda mi drwy’r treialon.” (Luc 22:28) Dychmyga gymaint gwnaeth ei eiriau gyffwrdd â’u calonnau nhw a’u hysgogi nhw i weithredu. Os ydyn ninnau hefyd yn cymryd yr amser i ganmol ein cyd-weithwyr, byddan nhw’n bendant yn hapusach, ac mae’n debyg yn fwy cynhyrchiol.

GELLI DI FOD YN GYD-WEITHIWR DA

“Does dim rhaid i gyd-weithiwr da fod yn berffaith,” meddai brawd o’r enw Kayode, “ond mae’n rhoi gwên ar wynebau’r rhai o’i gwmpas ac yn gwneud gwaith yn haws i’r rhai mae’n gweithio gyda nhw.” Ai’r math hwnnw o gyd-weithiwr wyt ti? Beth am ofyn i rai o dy frodyr a dy chwiorydd am eu barn nhw am sut weithiwr wyt ti? Os ydyn nhw’n mwynhau gweithio gyda ti, fel roedd disgyblion Iesu yn mwynhau gweithio gydag ef, gelli di ddweud fel gwnaeth yr apostol Paul: “[Dw i] eisiau gweithio gyda chi, i chi gael profi llawenydd go iawn.”—2 Cor. 1:24.