Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 50

Gwranda ar Lais y Bugail Da

Gwranda ar Lais y Bugail Da

“Byddan nhw’n gwrando ar fy llais.”—IOAN 10:16.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

CIPOLWG *

1. Beth yw un rheswm pam gwnaeth Iesu gymharu ei ddilynwyr â defaid?

GWNAETH Iesu gymharu ei berthynas gyda’i ddilynwyr â’r berthynas sydd ’na rhwng bugail a’i ddefaid. (Ioan 10:14) Mae’r gymhariaeth honno’n briodol. Mae’r defaid yn adnabod eu bugail ac yn ymateb i’w lais. Gwnaeth un teithiwr weld hyn ar waith. Dywedodd: “Oedden ni eisiau ffilmio defaid mewn rhyw gae, ac felly gwnaethon ni drio eu galw nhw draw. Wrth gwrs, wnaethon nhw ddim gwrando am eu bod nhw ddim yn nabod ein lleisiau. Ond wedyn dyma’r bachgen oedd yn gofalu amdanyn nhw yn dod heibio. A prin oedd o wedi galw nhw ac oedden nhw’n ei ddilyn.”

2-3. (a) Sut mae dilynwyr Iesu yn dangos eu bod nhw’n gwrando ar ei lais? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon a’r un nesaf?

2 Mae profiad y teithiwr hwnnw yn ein hatgoffa ni o eiriau Iesu ynglŷn â’i ddefaid—ei ddisgyblion. Dywedodd: “Byddan nhw’n gwrando ar fy llais.” (Ioan 10:16) Ond mae Iesu yn y nef. Felly sut gallwn ni ddweud ein bod ni’n gwrando arno? Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwrando ar lais ein Meistr drwy roi ei ddysgeidiaethau ar waith yn ein bywydau.—Math. 7:24, 25.

3 Yn yr erthygl hon a’r un nesaf, byddwn ni’n ystyried rhai o ddysgeidiaethau Iesu. Fel cawn weld, dysgodd Iesu y dylen ni wneud rhai pethau, ond y dylen ni beidio â gwneud pethau eraill. Yn gyntaf, byddwn ni’n trafod dau beth yn benodol dywedodd y bugail da wrthon ni i beidio â’u gwneud.

“PEIDIWCH TREULIO’CH BYWYD YN POENI”

4. Yn ôl Luc 12:29, beth all wneud inni boeni?

4 Darllen Luc 12:29. Gwnaeth Iesu annog ei ddilynwyr i beidio â phoeni gormod am eu hanghenion materol. Rydyn ni’n gwybod bod cyngor Iesu wastad yn ddoeth ac yn gywir. Rydyn ni eisiau ei roi ar waith, ond weithiau, gall hynny fod yn her inni. Pam?

5. Pam mae rhai yn poeni am eu hanghenion materol?

 5 Efallai bod rhai yn poeni am eu hanghenion materol—bwyd, dillad, a lloches. Efallai eu bod nhw’n byw mewn gwlad sydd â sefyllfa economaidd wael. Hwyrach ei bod hi’n anodd iddyn nhw ennill digon o arian i ofalu am eu teulu. Neu mae prif enillydd cyflog y teulu wedi marw, gan adael gweddill y teulu heb unrhyw gefnogaeth ariannol. Posibilrwydd arall yw eu bod nhw wedi colli eu swydd neu incwm o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. (Preg. 9:11) Os ydyn ni wedi wynebu heriau fel hyn, neu rywbeth tebyg, sut gallwn ni ddilyn cyfarwyddyd Iesu i beidio â phryderu?

Yn hytrach na boddi o dan bryderon am bethau materol, adeilada dy hyder yn Jehofa (Gweler paragraffau 6-8) *

6. Disgrifia beth ddigwyddodd i’r apostol Pedr ar un achlysur.

6 Ar un achlysur, roedd yr apostol Pedr a’r apostolion eraill mewn cwch ar Fôr Galilea ynghanol storm pan welson nhw Iesu yn cerdded ar y dŵr. Dywedodd Pedr: “Arglwydd, os mai ti sydd yna . . . gad i mi ddod atat ti ar y dŵr.” Atebodd Iesu, “Iawn, tyrd,” ac felly camodd Pedr allan o’r cwch a “dechrau cerdded ar y dŵr tuag at Iesu.” Sylwa beth ddigwyddodd nesaf. “Pan welodd mor gryf oedd y gwynt, roedd arno ofn. Dechreuodd suddo, a gwaeddodd allan ‘Achub fi, Arglwydd!’” Estynnodd Iesu ei law allan a’i achub. Mae’n bwysig cofio bod Pedr yn gallu cerdded ar y dŵr cyn belled ag yr oedd yn canolbwyntio ar Iesu. Pan edrychodd Pedr ar y storm, dechreuodd amau, a chafodd ei lethu gan ofn, a dyna pryd gwnaeth ef ddechrau suddo.—Math. 14:24-31.

7. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Pedr?

7 Gallwn ddysgu o esiampl Pedr. Pan gamodd Pedr oddi ar y cwch, wnaeth ef ddim disgwyl y byddai’n poeni am y storm ac yn dechrau suddo. Roedd ef eisiau aros ar ben y dŵr nes iddo gyrraedd ei Feistr. Ond cafodd ei sylw ei dynnu oddi ar y nod hwnnw. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gallu cerdded ar ddŵr heddiw, ond mi ydyn ni’n wynebu heriau sy’n gofyn am ffydd. Os ydyn ni’n colli golwg o Jehofa a’i addewidion, byddwn ni’n dechrau suddo’n ysbrydol. Ni waeth pa stormydd sy’n codi yn ein bywydau, mae’n rhaid inni hoelio ein sylw ar Jehofa a’i allu i’n helpu ni. Sut gallwn ni wneud hynny?

8. Beth all ein helpu ni i beidio â phoeni gormod am ein hanghenion materol?

8 Yn hytrach na phoeni am ein problemau, dylen ni drystio Jehofa. Cofia fod ein Tad nefol wedi addo y bydd yn gofalu am ein hanghenion materol os ydyn ni’n rhoi pethau ysbrydol yn gyntaf. (Math. 6:32, 33) Ac rydyn ni’n gwybod ei fod wastad yn cadw ei addewidion. (Deut. 8:4, 15, 16; Salm 37:25) Os ydy Jehofa’n gofalu am yr adar a’r blodau, yn sicr does dim rhaid i ni boeni am beth byddwn ni’n ei fwyta neu’n ei wisgo. (Math. 6:26-30; Phil. 4:6, 7) Yn union fel mae cariad yn cymell rhieni cariadus i ofalu am anghenion materol eu plant, mae cariad yn cymell ein Tad nefol i ofalu am anghenion materol ei bobl. Yn bendant, gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa’n gofalu amdanon ni!

9. Beth gelli di ei ddysgu o brofiad un cwpl?

9 Ystyria un profiad sy’n dangos sut gall Jehofa ofalu am ein hanghenion materol. Gwnaeth un cwpl oedd yn gwasanaethu’n llawn amser yrru am dros awr yn eu hen gar i bigo rhai chwiorydd i fyny o ganolfan ffoaduriaid, a mynd â nhw i gyfarfod y gynulleidfa. Esboniodd y brawd: “Ar ôl y cyfarfod, gwnaethon ni wahodd y chwiorydd draw am bryd o fwyd, ond wedyn gwnaethon ni sylweddoli bod gynnon ni ddim byd i’w gynnig iddyn nhw.” Beth bydden nhw’n ei wneud? Aeth y brawd ymlaen i ddweud: “Pan gyrhaeddon ni adref, oedd ’na ddau lond bag o fwyd yn disgwyl amdanon ni wrth y drws ffrynt. Doedd gynnon ni ddim syniad pwy oedd wedi eu gadael nhw. Jehofa oedd yn gofalu amdanon ni.” Ar achlysur arall, gwnaeth car y cwpl dorri i lawr. Roedden nhw ei angen ar gyfer eu gweinidogaeth, ond doedd ganddyn nhw ddim digon o arian i’w drwsio. Tra oedden nhw yn y garej lleol, daeth dyn i mewn a gofyn: “Pwy sydd biau’r car yna?” Dywedodd y brawd mai ef oedd biau’r car a’i fod angen ei drwsio. Atebodd y dyn: “Does dim ots am hynny. Mae fy ngwraig eisiau’r math yna o gar ac yn y lliw yna hefyd. Faint ’dych chi eisiau amdano?” Yn y pen draw, cafodd y brawd ddigon o arian i brynu car arall. Dywedodd: “Does dim rhaid imi esbonio sut oeddwn i’n teimlo ar ddiwedd y dydd. O’n i’n gwybod nid cyd-ddigwyddiad oedd hyn, ond llaw Jehofa.”

10. Sut mae Salm 37:5 yn ein hannog ni i beidio â phoeni am ein hanghenion materol?

10 Pan ydyn ni’n gwrando ar y bugail da ac yn stopio poeni’n ormodol am ein hanghenion materol, gallwn ni fod yn sicr y bydd Jehofa yn gofalu amdanon ni. (Darllen Salm 37:5; 1 Pedr 5:7) Meddylia am y sefyllfaoedd gwnaethon ni sôn amdanyn nhw ym  mharagraff 5. Hyd yn hyn, efallai fod Jehofa wedi bod yn defnyddio penteulu neu gyflogwr i’n helpu ni i ofalu am ein hanghenion bob dydd. Ond os nad ydy’r penteulu yn gallu gwneud hynny bellach, neu os ydyn ni’n colli ein swydd, bydd Jehofa yn defnyddio ffordd arall i ofalu amdanon ni. Gallwn ni fod yn hollol sicr o hynny. Nawr, gad inni ystyried rhywbeth arall mae’r bugail da wedi ein hannog ni i beidio â’i wneud.

“PEIDIWCH BOD YN FEIRNIADOL”

Gallwn ni stopio beirniadu eraill os ydyn ni’n canolbwyntio ar eu rhinweddau da (Gweler paragraffau 11, 14-16) *

11. Yn ôl Mathew 7:1, 2, beth gwnaeth Iesu ddweud wrthon ni i beidio â’i wneud, a pham gall hynny fod yn her?

11 Darllen Mathew 7:1, 2Gwyddai Iesu fod ei wrandawyr amherffaith yn dueddol o feirniadu eraill. Dyna pam gwnaeth ef ddweud: “Peidiwch bod yn feirniadol.” Efallai ein bod ni’n trio’n galed i beidio â beirniadu ein brodyr a chwiorydd. Ond eto, rydyn ni i gyd yn amherffaith. Os ydyn ni’n dal ein hunain yn bod yn feirniadol weithiau, beth dylen ni ei wneud? Gwrando ar Iesu, a gweithio’n galed i beidio â barnu.

12-13. Sut gall esiampl Jehofa ein helpu ni i beidio â barnu eraill?

12 Gallwn ni elwa o fyfyrio ar esiampl Jehofa. Mae’n canolbwyntio ar y pethau da mewn pobl. Mae hyn yn amlwg o’r ffordd gwnaeth ef ddelio â’r Brenin Dafydd, dyn a wnaeth gamgymeriadau difrifol. Er enghraifft, gwnaeth ef odinebu gyda Bathseba, a hyd yn oed trefnu i’w gŵr gael ei ladd. (2 Sam. 11:2-4, 14, 15, 24) O ganlyniad, gwnaeth Dafydd frifo ei hun a’i deulu cyfan, gan gynnwys ei wragedd eraill. (2 Sam. 12:10, 11) Ar achlysur arall, wnaeth Dafydd ddim dibynnu’n llwyr ar Jehofa pan wnaeth ef orchymyn i fyddin Israel gael ei chyfri, rhywbeth doedd Jehofa ddim wedi gofyn iddo ei wneud. Efallai bod Dafydd wedi gwneud hyn yn ei falchder, ac am ei fod yn dibynnu ar faint ei fyddin. Beth oedd y canlyniad? Bu farw 70,000 o Israeliaid oherwydd haint!—2 Sam. 24:1-4, 10-15.

13 Petaset ti wedi byw yn Israel bryd hynny, pa feddwl fyddai gen ti o Dafydd? A fyddet ti’n teimlo ei fod ef ddim yn haeddu trugaredd Jehofa? Doedd Jehofa ddim yn meddwl hynny. Gwnaeth ef ganolbwyntio ar ba mor ffyddlon roedd Dafydd wedi bod ar y cyfan, ac ar y ffaith ei fod wedi edifarhau. Felly, gwnaeth Jehofa faddau i Dafydd am y pechodau difrifol hyn. Roedd Jehofa’n gwybod bod Dafydd yn ei garu’n fawr, a’i fod eisiau gwneud y peth iawn. Onid wyt ti’n falch fod ein Duw yn edrych am y da ynon ni?—1 Bren. 9:4; 1 Cron. 29:10, 17.

14. Beth sydd wedi helpu Cristnogion i beidio â barnu eraill?

14 Am fod Jehofa ddim yn disgwyl i ni fod yn berffaith, ddylen ninnau ddim disgwyl i eraill fod yn berffaith chwaith. Dylen ni edrych am y da ynddyn nhw. Fel arfer, mae’n eithaf hawdd pigo ar feiau pobl eraill a bod yn feirniadol. Ond mae rhywun ysbrydol yn gweithio’n dda gydag eraill hyd yn oed os yw’n gweld eu hamherffeithion. Dydy diemwnt garw ddim yn ddel, ond mae rhywun doeth yn edrych y tu hwnt i hynny ac yn gweld beth bydd ei wir werth unwaith iddo gael ei dorri a’i bolisio. Fel Jehofa ac Iesu, rydyn ni angen gweld y tu hwnt i amherffeithion pobl, a gweld eu rhinweddau da.

15. Sut gall ystyried amgylchiadau pobl ein helpu ni i beidio â’u beirniadu?

15 Yn ogystal â chanolbwyntio ar rinweddau da pobl eraill, beth all ein helpu ni i beidio â’u beirniadu? Ceisia ddychmygu sut fywyd sydd ganddyn nhw. Ystyria’r enghraifft hon. Un diwrnod yn y deml, gwelodd Iesu wraig weddw anghenus yn gollwng dwy geiniog o ychydig werth i mewn i’r blwch arian. Wnaeth ef ddim gofyn: “Pam na wnaeth hi roi mwy i mewn?” Yn hytrach na chanolbwyntio ar faint roedd y wraig weddw wedi ei gyfrannu, gwnaeth Iesu ystyried ei chymhellion a’i hamgylchiadau, a’i chanmol hi am wneud popeth allai hi.—Luc 21:1-4.

16. Beth gelli di ei ddysgu o brofiad Veronica?

16 Mae profiad Veronica yn dangos inni pam mae hi mor bwysig i roi ein hunain yn esgidiau pobl eraill. Yn ei chynulleidfa, roedd ’na fam sengl a’i mab. Gwnaeth Veronica gyfaddef: “I mi, oedd hi’n edrych fel eu bod nhw ddim yn mynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd, nac allan ar y weinidogaeth rhyw lawer. Oherwydd hynny, doeddwn i ddim yn meddwl llawer ohonyn nhw. Ond wedyn, es i allan ar y weinidogaeth gyda’r fam. Gwnaeth hi esbonio’r anawsterau roedd hi’n eu hwynebu gyda’i mab awtistig. Roedd hi’n gwneud ei gorau i ofalu am eu hanghenion corfforol ac ysbrydol. Oherwydd iechyd ei mab, roedd hi weithiau’n gorfod mynd i gyfarfod cynulleidfa arall.” Yn y diwedd, dywedodd Veronica, “Wnes i erioed sylweddoli bod ei bywyd hi mor anodd. Erbyn hyn, dw i’n caru ac yn parchu’r chwaer yma gymaint am bopeth mae hi’n wneud i wasanaethu Jehofa.”

17. Beth mae Iago 2:8 yn dweud wrthon ni i’w wneud, a sut gallwn ni wneud hynny?

17 Beth dylen ni ei wneud os ydyn ni’n sylweddoli ein bod ni wedi beirniadu un o’n cyd-gredinwyr? Rhaid inni gofio y dylen ni garu ein brodyr. (Darllen Iago 2:8.) Dylen ni hefyd weddïo’n daer ar Jehofa ac erfyn arno i’n helpu ni i stopio beirniadu. Gallwn ni weithio’n unol â’n gweddi drwy dreulio amser â’r person roedden ni wedi ei feirniadu. Bydd hynny’n ein helpu ni i ddod i’w adnabod yn well. Gallwn ni ofyn iddo weithio gyda ni yn y weinidogaeth, neu gael pryd o fwyd gyda ni. Wrth inni ddod i adnabod ein brawd yn well, gallwn ni drio dilyn esiampl Jehofa ac Iesu drwy edrych am y da ynddo. Drwy wneud hynny, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwrando ar orchymyn y bugail da i beidio â beirniadu.

18. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwrando ar lais y bugail da?

18 Mae dilynwyr Iesu yn gwrando ar ei lais, yn union fel mae defaid llythrennol yn gwrando ar lais eu bugail. Os ydyn ni’n gwneud ein gorau i beidio â phryderu am ein hanghenion materol, ac i beidio â beirniadu eraill, bydd Jehofa ac Iesu yn bendithio ein hymdrechion. P’un a ydyn ni’n rhan o’r ‘praidd bach’ neu’r ‘defaid eraill,’ gad inni barhau i wrando ar lais y bugail da ac ufuddhau iddo. (Luc 12:32; Ioan 10:11, 14, 16) Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n ystyried dau beth gwnaeth Iesu ddweud wrth ei ddilynwyr y dylen nhw ei wneud.

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod

^ Par. 5 Pan ddywedodd Iesu y byddai ei ddefaid yn gwrando ar ei lais, roedd yn golygu y byddai ei ddisgyblion yn gwrando ar ei ddysgeidiaethau, ac yn eu rhoi nhw ar waith yn eu bywydau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried dwy o ddysgeidiaethau Iesu, sef peidio â phoeni am bethau materol, a stopio barnu eraill. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni roi ei gyngor ar waith.

^ Par. 51 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd wedi colli ei swydd, mae’n brin o arian i ofalu am ei deulu, ac mae ef angen ffeindio rhywle newydd i fyw. Os nad yw’n ofalus, gall ei bryderon dynnu ei sylw oddi ar ei wasanaeth i Dduw.

^ Par. 53 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn hwyr i’r cyfarfod. Ond mae’n dangos rhinweddau da wrth iddo dystiolaethu’n anffurfiol, helpu rhywun hŷn, a gofalu am Neuadd y Deyrnas.