Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 2

Dysga Oddi Wrth Frawd Bach Iesu

Dysga Oddi Wrth Frawd Bach Iesu

“Iago, gwas i Dduw a’r Arglwydd Iesu Grist.”—IAGO 1:1.

CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi

CIPOLWG *

1. Sut byddet ti’n disgrifio teulu Iago?

 CAFODD Iago, brawd Iesu, ei fagu mewn teulu ysbrydol gryf. * Roedd ei rieni, Joseff a Mair, yn caru Jehofa’n fawr iawn, ac yn gwneud eu gorau i’w wasanaethu. Roedd gan Iago fendith ychwanegol—ei frawd mawr fyddai’r Meseia addawedig un diwrnod. Am fraint fawr i Iago fod yn rhan o’r teulu hwnnw!

Wrth dyfu i fyny gyda Iesu, daeth Iago i adnabod ei frawd mawr yn dda iawn (Gweler paragraff 2)

2. Pa resymau oedd gan Iago i edmygu ei frawd mawr?

2 Roedd gan Iago nifer o resymau i edmygu ei frawd mawr. (Math. 13:55) Er enghraifft, pan oedd Iesu’n 12, roedd yn adnabod yr Ysgrythurau mor dda, roedd yr athrawon yn synnu. (Luc 2:46, 47) Efallai fod Iago hefyd wedi gweithio fel saer gyda Iesu. Yn yr achos hwnnw, byddai wedi dod i adnabod ei frawd yn dda iawn. Roedd Nathan H. Knorr yn dweud yn aml, “Rydych chi’n dysgu lot am rywun pan fyddwch chi’n gweithio efo nhw.” * Ac allai Iago ddim peidio â sylwi sut “tyfodd Iesu’n fachgen doeth a chryf. Roedd ffafr Duw arno, ac roedd pobl hefyd yn hoff iawn ohono.” (Luc 2:52) Oherwydd hyn i gyd, gallai fod yn rhesymol inni ddisgwyl mai Iago oedd un o ddisgyblion cyntaf Iesu. Ond nid dyna ddigwyddodd.

3. Sut gwnaeth Iago ymateb pan gychwynnodd Iesu ei weinidogaeth?

3 Yn ystod gweinidogaeth Iesu ar y ddaear, ddaeth Iago ddim yn un o’i ddisgyblion. (Ioan 7:3-5) A dweud y gwir, efallai mai Iago oedd un o berthnasau Iesu oedd yn meddwl ei fod yn “wallgof.” (Marc 3:21) A does ’na ddim sôn fod Iago gyda’u mam, Mair, pan oedd Iesu’n cael ei roi i farwolaeth ar y stanc.—Ioan 19:25-27.

4. Pa wersi byddwn ni’n eu hystyried?

4 Yn hwyrach ymlaen, rhoddodd Iago ffydd yn Iesu a daeth yn aelod gwerthfawr o’r gynulleidfa Gristnogol. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried dwy wers gallwn ni eu dysgu oddi wrth Iago: (1) pam mae’n rhaid inni aros yn ostyngedig a (2) sut gallwn ni fod yn athrawon effeithiol.

ARHOSA’N OSTYNGEDIG FEL IAGO

Pan ymddangosodd Iesu i Iago, roedd Iago yn ddigon gostyngedig i dderbyn mai Iesu oedd y Meseia. O hynny ymlaen, gwasanaethodd yn ffyddlon fel un o ddisgyblion Crist (Gweler paragraffau 5-7)

5. Beth oedd ymateb Iago pan welodd Iesu ar ôl ei atgyfodiad?

5 Pryd daeth Iago yn un o ddilynwyr ffyddlon Iesu? Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, ymddangosodd i Iago, ac yna i’w apostolion i gyd. (1 Cor. 15:7) Roedd hynny’n drobwynt ym mywyd Iago. Roedd yn bresennol pan oedd yr apostolion yn disgwyl derbyn yr ysbryd glân yn yr oruwchystafell yn Jerwsalem. (Act. 1:13, 14) Yn hwyrach ymlaen, cafodd Iago’r fraint o wasanaethu fel aelod o Gorff Llywodraethol y ganrif gyntaf. (Act. 15:6, 13-22; Gal. 2:9) A rhywbryd cyn 62 OG, cafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu llythyr at Gristnogion eneiniog. Gallwn ninnau heddiw elwa ar y llythyr hwnnw, p’un a ydyn ni’n gobeithio byw yn y nef neu ar y ddaear. (Iago 1:1, BCND) Yn ôl yr haneswr Iddewig Josephus, cafodd Iago ei ddedfrydu i farwolaeth gan yr Archoffeiriad Iddewig Ananias yr Iau. Arhosodd Iago yn ffyddlon i Jehofa am weddill ei oes ar y ddaear.

6. Sut roedd Iago yn wahanol i arweinwyr crefyddol ei ddydd?

6 Roedd Iago yn ostyngedig. Pam gallwn ni ddweud hynny? Ystyria’r gwahaniaeth rhwng y ffordd gwnaeth Iago ymateb i Iesu yn y pen draw, a’r ffordd gwnaeth llawer o’r arweinwyr crefyddol ymateb. Pan welodd Iago dystiolaeth glir mai Iesu ydy Mab Duw, roedd yn ddigon gostyngedig i’w derbyn. Doedd hynny ddim yn wir yn achos y prif offeiriaid yn Jerwsalem. Er enghraifft, allen nhw ddim gwadu’r ffaith fod Iesu wedi atgyfodi Lasarus o’r meirw. Yn hytrach na chydnabod bod Iesu wedi cael ei anfon gan Jehofa, gwnaethon nhw drio lladd y ddau, Iesu a Lasarus. (Ioan 11:53; 12:9-11) Yn hwyrach ymlaen, pan gafodd Iesu ei hun ei atgyfodi o’r meirw, gwnaethon nhw gynllwynio i guddio hynny oddi wrth y bobl. (Math. 28:11-15) Gwnaeth balchder yr arweinwyr crefyddol hynny achosi iddyn nhw wrthod y Meseia.

7. Pam dylen ni osgoi balchder?

7 Y wers: Paid â bod yn falch, bydda’n barod i gael dy ddysgu. Yn union fel gall clefyd galedu arterïau calon lythrennol ac amharu ar ei gallu i guro, gall balchder galedu ein calon ffigurol, a’n rhwystro ni rhag ymateb i arweiniad Jehofa. Gwnaeth y Phariseaid adael i’w calonnau fynd mor galed, gwnaethon nhw wrthod credu’r dystiolaeth glir mai Iesu oedd Mab Duw, a bod ganddo ysbryd Duw. (Ioan 12:37-40) Doedd hynny ddim yn ddoeth, oherwydd byddai’n eu rhwystro rhag cael bywyd tragwyddol. (Math. 23:13, 33) Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n parhau i adael i Air Duw a’i ysbryd fowldio ein personoliaeth a dylanwadu ar ein penderfyniadau a’n meddyliau. (Iago 3:17) Am fod Iago yn ostyngedig, roedd yn fodlon cael ei ddysgu gan Jehofa. Ac fel byddwn ni’n gweld, ei ostyngeiddrwydd wnaeth ei wneud yn athro da.

BYDDA’N ATHRO DA FEL IAGO

8. Beth bydd yn ein helpu ni i fod yn athrawon da?

8 Chafodd Iago ddim llawer o addysg seciwlar. Mae’n debyg bod arweinwyr crefyddol ei ddydd wedi ei roi yn yr un categori a’r apostolion Pedr ac Ioan, a’u hystyried nhw i gyd fel dynion “cyffredin di-addysg.” (Act. 4:13) Ond dysgodd Iago i fod yn athro effeithiol, fel sy’n amlwg pan ydyn ni’n darllen ei lyfr. Fel Iago, efallai nad oes gynnon ni lawer o addysg seciwlar. Ond er hynny, gyda help ysbryd Jehofa, a hyfforddiant ymarferol gan ei gyfundrefn, gallwn ninnau hefyd ddod yn athrawon da. Gad inni ystyried yr esiampl a osododd Iago fel athro, a gweld pa wersi gallwn ni eu dysgu.

9. Sut byddet ti’n disgrifio ffordd Iago o ddysgu?

9 Wnaeth Iago ddim defnyddio geiriau mawr, na rhesymeg gymhleth. O ganlyniad, roedd y rhai oedd yn gwrando arno yn gwybod beth oedd angen iddyn nhw ei wneud, a sut i fynd o’i chwmpas. Ystyria, er enghraifft, y ffordd syml gwnaeth Iago ddysgu Cristnogion bod angen iddyn nhw fod yn fodlon cael eu trin yn annheg heb droi’n chwerw. Ysgrifennodd: “Y rhai wnaeth ddal ati gafodd eu bendithio. Mae Job yn enghraifft dda o ddyn wnaeth ddal ati drwy’r cwbl, a chofiwch beth wnaeth yr Arglwydd iddo yn y diwedd. Mae tosturi a thrugaredd yr Arglwydd mor fawr!” (Iago 5:11) Sylwa fod Iago wedi seilio’r hyn roedd yn ei ddysgu ar yr Ysgrythurau. Defnyddiodd Air Duw i helpu’r rhai oedd yn gwrando arno i weld bod Jehofa wastad yn gwobrwyo’r rhai sydd, fel Job, yn ffyddlon iddo. Cyflwynodd Iago’r pwynt hwnnw gan ddefnyddio geiriau a rhesymeg syml. Drwy wneud hynny, roedd yn tynnu sylw, nid ato’i hun, ond at Jehofa.

10. Beth yw un ffordd gallwn ni efelychu Iago wrth ddysgu eraill?

10 Y wers: Cadwa dy neges yn syml, a dysga eraill o Air Duw. Ddylen ni ddim trio dangos i eraill gymaint rydyn ni’n ei wybod, ond yn hytrach, dylen ni ddangos iddyn nhw gymaint mae Jehofa’n ei wybod, a chymaint mae’n eu caru nhw. (Rhuf. 11:33) Byddwn ni’n llwyddo i wneud hynny os ydyn ni wastad yn defnyddio’r Ysgrythurau fel sail i’r hyn rydyn ni’n ei ddweud. Er enghraifft, yn hytrach na dweud wrth ein myfyrwyr beth bydden ni’n ei wneud yn eu sefyllfa nhw, dylen ni eu helpu nhw i resymu ar esiamplau yn y Beibl ac i ddeall sut mae Jehofa yn meddwl ac yn teimlo am y mater. Yna, byddan nhw eisiau rhoi ar waith yr hyn maen nhw’n ei ddysgu am eu bod nhw eisiau plesio Jehofa, nid ni.

11. Pa heriau oedd rhai Cristnogion yn eu hwynebu yn nyddiau Iago, a pha gyngor gwnaeth ef ei roi iddyn nhw? (Iago 5:13-15)

11 Roedd Iago yn realistig. Mae’n amlwg o’i lythyr fod Iago yn ymwybodol o’r heriau roedd ei gyd-gredinwyr yn eu hwynebu, a rhoddodd arweiniad clir iddyn nhw am sut i’w trechu. Er enghraifft, roedd rhai Cristnogion yn araf i roi cyngor ar waith. (Iago 1:22) Roedd eraill yn dangos ffafriaeth tuag at y cyfoethog. (Iago 2:1-3) Roedd eraill eto yn ei chael hi’n anodd rheoli eu tafodau. (Iago 3:8-10) Er bod y problemau hynny’n ddifrifol, roedd Iago’n credu bod y Cristnogion hynny yn gallu newid. Roedd yn blwmp ac yn blaen wrth roi cyngor, ond roedd yn garedig, a gwnaeth ef annog y rhai oedd yn gwegian yn ysbrydol i ofyn i’r henuriaid am help.—Darllen Iago 5:13-15.

12. Sut gallwn ni aros yn bositif wrth helpu ein myfyrwyr?

12 Y wers: Bydda’n realistig, ond meddylia am eraill mewn ffordd bositif. Efallai bydd llawer sy’n astudio’r Beibl gyda ni yn ei chael hi’n anodd rhoi ei gyngor ar waith. (Iago 4:1-4) Gall gymryd amser iddyn nhw ddadwreiddio arferion drwg a meithrin rhinweddau Cristnogol yn eu lle. Fel Iago, mae’n rhaid inni fod yn ddigon dewr i ddweud wrth ein myfyrwyr lle maen nhw angen gwella. Mae’n rhaid inni hefyd aros yn bositif, a thrystio y bydd Jehofa yn denu pobl ostyngedig ato, a rhoi’r nerth iddyn nhw wneud newidiadau yn eu bywydau.—Iago 4:10.

13. Yn ôl Iago 3:2, beth roedd Iago yn ei gydnabod?

13 Doedd Iago ddim yn meddwl gormod ohono’i hun. Doedd Iago ddim yn teimlo bod cefndir ei deulu na’i aseiniadau arbennig yn ei wneud yn bwysicach nac yn well na’i frodyr a’i chwiorydd. Cyfeiriodd at ei gyd-gredinwyr fel ‘brodyr a chwiorydd annwyl.’ (Iago 1:16, 19; 2:5) Wnaeth ef ddim rhoi’r argraff ei fod yn berffaith. Yn hytrach, roedd yn cynnwys ei hun pan ddywedodd: “Dŷn ni i gyd yn gwneud pob math o gamgymeriadau.”—Darllen Iago 3:2.

14. Pam dylen ni fod yn fodlon cyfaddef ein camgymeriadau?

14 Y wers: Cofia ein bod ni i gyd yn pechu. Dylen ni beidio â meddwl ein bod ni rywsut yn well na’r rhai rydyn ni’n eu dysgu. Pam ddim? Os ydyn ni’n rhoi’r argraff i’n myfyriwr ein bod ni byth yn gwneud dim o’i le, gallai ddigalonni a meddwl na fydd ef byth yn gallu cyrraedd safonau Duw. Ond pan ydyn ni’n cyfaddef yn agored nad ydy hi wastad wedi bod yn hawdd inni ddilyn egwyddorion y Beibl, ac yn esbonio sut mae Jehofa wedi ein helpu ni i drechu ein heriau, byddwn ni’n helpu ein myfyriwr i weld sut gall yntau wasanaethu Jehofa hefyd.

Roedd eglurebau Iago yn syml, yn glir, ac yn effeithiol (Gweler paragraffau 15-16) *

15. Sut byddet ti’n disgrifio eglurebau Iago? (Iago 3:2-6, 10-12)

15 Defnyddiodd Iago eglurebau oedd yn cyrraedd y galon. Yn sicr, cafodd help yr ysbryd glân, ond mae’n debyg gwnaeth ef hefyd ddysgu llawer am sut i ddysgu eraill drwy astudio eglurebau ei frawd mawr, Iesu. Mae’r eglurebau a ddefnyddiodd Iago yn ei lythyr yn syml, ac mae’r gwersi’n glir.—Darllen Iago 3:2-6, 10-12.

16. Pam dylen ni ddefnyddio eglurebau effeithiol?

16 Y wers: Defnyddia eglurebau effeithiol. Drwy ddefnyddio eglurebau priodol, byddi di’n troi clustiau i mewn i lygaid. Byddi di’n creu darlun ym meddyliau pobl. Bydd y darluniau hyn yn helpu dy wrandawyr i gofio gwirioneddau allweddol y Beibl. Roedd Iesu yn un arbennig o dda am ddefnyddio eglurebau effeithiol, a gwnaeth ei frawd, Iago, ddilyn ei esiampl. Gad inni drafod un o eglurebau Iago, a pham mae’n gweithio mor dda.

17. Pam mae’r eglureb yn Iago 1:22-25 mor effeithiol?

17 Darllen Iago 1:22-25. Mae eglureb Iago am y drych yn effeithiol am nifer o resymau. Roedd yn dysgu gwers benodol, hynny ydy mae’n rhaid inni wneud mwy na darllen Gair Duw; mae’n rhaid inni roi beth rydyn ni’n ei ddarllen ar waith. Dewisodd Iago eglureb gallai ei wrandawyr ei deall yn hawdd—dyn yn edrych mewn drych. Ei bwynt? Byddai’n wirion petasai dyn yn edrych mewn drych, yn gweld bod rhywbeth allan o’i le, ac yn gwneud dim amdano. Mewn ffordd debyg, byddai’n wirion inni ddarllen Gair Duw, gweld bod ’na rywbeth rydyn ni angen ei newid yn ein personoliaeth, a gwneud dim amdano.

18. Pa dri pheth dylen ni eu gwneud wrth ddefnyddio eglurebau?

18 Wrth ddefnyddio eglureb, gelli di efelychu esiampl Iago drwy wneud tri pheth: (1) Gwna’n siŵr fod yr eglureb yn berthnasol i’r pwynt rwyt ti’n ei drafod. (2) Defnyddia eglureb gall dy wrandawyr ei deall yn hawdd. (3) Gwna brif wers yr eglureb yn glir. Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd meddwl am eglurebau priodol, chwilia yn y Watch Tower Publications Index. O dan y pennawd “Illustrations,” cei di hyd i ddwsinau o eglurebau gelli di eu defnyddio. Ond cofia fod eglurebau fel microffon—maen nhw’n tynnu sylw at y pwynt rwyt ti’n ei wneud. Felly bydda’n sicr dy fod ti ond yn defnyddio eglurebau ar gyfer dy brif bwyntiau, fel nad wyt ti’n drysu dy wrandawyr. Wrth gwrs, y rheswm pwysicaf rydyn ni eisiau gwella ein sgiliau dysgu ydy i helpu cymaint â phosib i fod yn rhan o deulu hapus Jehofa, nid i dynnu sylw aton ni’n hunain.

19. Sut rydyn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi ein teulu ysbrydol?

19 Dydyn ni ddim wedi cael y fraint o dyfu i fyny gyda brawd mawr perffaith. Ond rydyn ni wedi cael y fraint o wasanaethu Jehofa gyda theulu mawr o frodyr a chwiorydd Cristnogol. Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n eu caru nhw drwy gymdeithasu â nhw, drwy ddysgu oddi wrthyn nhw, a thrwy wasanaethu’n ffyddlon ochr yn ochr â nhw yn y gwaith pregethu a dysgu. Pan ydyn ni’n gwneud ein gorau i efelychu esiampl Iago yn ein hagwedd, ymddygiad, a ffordd o ddysgu, rydyn ni’n anrhydeddu Jehofa, ac yn helpu pobl ddiffuant i glosio at ein Tad nefol cariadus.

CÂN 114 Byddwch yn Amyneddgar

^ Cafodd Iago ei fagu o dan yr un to â Iesu. Roedd Iago yn adnabod Mab perffaith Duw yn well na’r rhan fwyaf o bobl bryd hynny. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar beth gallwn ni ei ddysgu o fywyd a dysgeidiaethau brawd bach Iesu a ddaeth yn un o bileri cynulleidfa y ganrif gyntaf.

^ Er mwyn cadw pethau’n syml, byddwn ni’n cyfeirio at Iago fel brawd Iesu. Mewn gwirionedd, roedd yn hanner brawd i Iesu, ac ysgrifennodd lyfr Iago yn y Beibl.

^ Roedd Nathan H. Knorr yn aelod o’r Corff Llywodraethol. Daeth ei fywyd ar y ddaear i ben ym 1977.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Defnyddiodd Iago dân bach—rhywbeth gall pobl ei ddeall yn hawdd—i egluro’r peryg o gamddefnyddio’r tafod.