Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 6

Wyt Ti’n Trystio Ffordd Jehofa o Wneud Pethau?

Wyt Ti’n Trystio Ffordd Jehofa o Wneud Pethau?

“Mae e fel craig, a’i waith yn berffaith; mae bob amser yn gwneud beth sy’n iawn. Bob amser yn deg ac yn onest—yn Dduw ffyddlon sydd byth yn anghyfiawn.”—DEUT. 32:4.

CÂN 3 Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

CIPOLWG *

1-2. (a) Pam mae llawer heddiw yn ei chael hi’n anodd trystio rhai mewn awdurdod? (b) Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

 HEDDIW, mae llawer yn ei chael hi’n anodd trystio unrhyw un mewn awdurdod. Maen nhw wedi gweld bod y systemau cyfreithiol a gwleidyddol yn dueddol o ffafrio’r cyfoethog a’r pwerus, ac i drin y tlawd yn annheg. Mae’r Beibl yn dweud yn gywir: “Mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.” (Preg. 8:9) Ar ben hynny, mae ymddygiad rhai arweinwyr crefyddol yn warthus, ac o ganlyniad, mae rhai pobl wedi colli hyder yn Nuw. Felly pan fydd rhywun yn cytuno i astudio’r Beibl gyda ni, rydyn ni angen ei helpu i drystio Jehofa a’i gynrychiolwyr ar y ddaear.

2 Wrth gwrs, nid myfyrwyr y Beibl yw’r unig rai sydd angen dysgu i drystio Jehofa a’i gyfundrefn. Hyd yn oed os ydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am lawer o flynyddoedd, ddylen ni byth golli golwg o’r ffaith mai ffordd Jehofa o wneud pethau sydd wastad orau. Weithiau, mae pethau’n digwydd sy’n gallu rhoi prawf ar ein hyder yn Jehofa. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tair sefyllfa all brofi ein ffydd: (1) wrth inni ddarllen rhai hanesion yn y Beibl, (2) pan ydyn ni’n cael arweiniad oddi wrth gyfundrefn Jehofa, a (3) pan fyddwn ni’n wynebu heriau yn y dyfodol.

TRYSTIA JEHOFA WRTH ITI DDARLLEN Y BEIBL

3. Sut gallai rhai hanesion o’r Beibl roi prawf ar ein hyder yn Jehofa?

 3 Wrth inni ddarllen Gair Duw, efallai bydd gynnon ni gwestiynau am y ffordd gwnaeth Jehofa ddelio â rhai pobl, ac am rai o’i benderfyniadau. Er enghraifft, yn llyfr Numeri, rydyn ni’n darllen bod Jehofa wedi dedfrydu dyn i farwolaeth am gasglu pren ar y Saboth. Yn ail lyfr Samuel, rydyn ni’n dysgu bod Jehofa, ganrifoedd wedyn, wedi maddau i’r Brenin Dafydd am odinebu a llofruddio. (Num. 15:32, 35; 2 Sam. 12:9, 13) Efallai byddwn ni’n meddwl, ‘Pam gwnaeth Jehofa faddau i Dafydd am lofruddio a godinebu, ond dedfrydu’r dyn arall i farwolaeth am rywbeth oedd i weld yn llai difrifol?’ I ateb y cwestiwn hwnnw, ystyria dri pheth dylen ni eu cadw mewn cof wrth inni ddarllen y Beibl.

4. Sut mae Genesis 18:20, 21 a Deuteronomium 10:17 yn cryfhau ein hyder ym mhenderfyniadau Jehofa?

4 Dydy’r Beibl ddim wastad yn rhoi pob manylyn o fewn hanesyn. Er enghraifft, rydyn ni’n gwybod roedd Dafydd yn wir edifar am beth wnaeth ef. (Salm 51:2-4) Ond sut fath o berson oedd y dyn wnaeth dorri rheol y Saboth? Wnaeth ef ddifaru gwneud beth wnaeth ef? A oedd ef wedi mynd yn groes i gyfreithiau Jehofa yn y gorffennol? A oedd ef wedi anwybyddu rhybuddion cyn hyn, neu hyd yn oed eu gwrthod? Dydy’r Beibl ddim yn dweud. Ond, gallwn ni fod yn sicr o hyn: Dydy Jehofa “byth yn anghyfiawn.” (Deut. 32:4) Mae’n seilio ei benderfyniadau ar y ffeithiau i gyd, nid ar sibrydion, rhagfarn, neu unrhyw beth arall sy’n aml yn cymylu barn pobl. (Darllen Genesis 18:20, 21; Deuteronomium 10:17.) Y mwyaf rydyn ni’n ei ddysgu am Jehofa a’i safonau, y mwyaf byddwn ni’n trystio ei benderfyniadau. Hyd yn oed os ydy hanesyn yn y Beibl yn codi cwestiynau allwn ni ddim eu hateb ar hyn o bryd, rydyn ni’n gwybod mwy na digon am ein Duw i fod yn sicr ei fod yn “gyfiawn bob amser.”—Salm 145:17.

5. Sut mae amherffeithrwydd yn effeithio ar ein synnwyr o beth sy’n gyfiawn? (Gweler hefyd y blwch “ Mae Amherffeithrwydd yn Cymylu Ein Synnwyr o Beth Sy’n Gyfiawn.”)

5 Mae ein synnwyr o beth sy’n gyfiawn wedi ei gymylu gan amherffeithrwydd. Gwnaeth Duw ein creu ni yn ei ddelw, felly rydyn ni wir eisiau gweld pobl yn cael eu trin yn deg. (Gen. 1:26) Ond am ein bod ni’n amherffaith, gallwn ni gamfarnu pethau, hyd yn oed pan ydyn ni’n meddwl bod gynnon ni’r ffeithiau i gyd. Cofia, er enghraifft, pa mor anhapus oedd Jona â phenderfyniad Jehofa i ddangos trugaredd tuag at bobl Ninefe. (Jona 3:10–4:1) Ond ystyria’r canlyniadau. Cafodd bywydau ymhell dros 120,000 o bobl Ninefe eu hachub! Yn y pen draw, Jona—nid Jehofa—oedd angen cael ei gywiro.

6. Pam nad ydy Jehofa yn gorfod esbonio ei benderfyniadau inni?

6 Dydy Jehofa ddim angen esbonio ei benderfyniadau inni. Do, mi wnaeth Jehofa adael i’w weision yn y gorffennol fynegi eu pryderon am y penderfyniadau roedd ef wedi eu gwneud neu roedd ef ar fin eu gwneud. (Gen. 18:25; Jona 4:2, 3) Ac weithiau, gwnaeth ef esbonio ei benderfyniad. (Jona 4:10, 11) Ond, does dim rhaid i Jehofa esbonio ei hun i ni. Fel ein Creawdwr, dydy ef ddim angen ein sêl bendith, naill ai cyn neu ar ôl iddo weithredu.—Esei. 40:13, 14; 55:9.

TRYSTIA JEHOFA PAN GEI DI ARWEINIAD

7. Pa her gallen ni ei hwynebu, a pham?

7 Mae’n debyg ein bod ni i gyd yn cytuno’n llwyr fod Jehofa wastad yn gwneud y peth iawn. Ond efallai mai’r her i ni ydy trystio ei gynrychiolwyr ar y ddaear. Efallai byddwn ni’n cwestiynu a ydy’r rhai sydd â rhywfaint o awdurdod yn y gyfundrefn yn wir yn gwneud pethau ffordd Jehofa, neu a ydyn nhw’n gwneud pethau eu ffordd eu hunain? Efallai mai dyna oedd rhai yn adeg y Beibl yn ei feddwl. Ystyria’r enghreifftiau ym  mharagraff 3. Efallai fod un o berthnasau’r dyn wnaeth dorri rheol y Saboth wedi cwestiynu a oedd Moses wir wedi holi Jehofa cyn rhoi’r gosb eithaf. Ac efallai fod un o ffrindiau Wreia yr Hethiad, gŵr y ddynes wnaeth odinebu â Dafydd, wedi dod i’r casgliad fod Dafydd wedi defnyddio ei statws fel brenin i osgoi’r gosb roedd yn ei haeddu. Y gwir amdani yw, allwn ni ddim dweud ein bod ni’n trystio Jehofa os nad ydyn ni’n trystio ei gynrychiolwyr ar y ddaear—y rhai mae Jehofa yn eu trystio.

8. Sut mae’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen yn Actau 16:4, 5 yn debyg i’r ffordd mae cynulleidfaoedd Cristnogol yn gweithio heddiw?

8 Heddiw, mae Jehofa yn arwain rhan ddaearol ei gyfundrefn drwy’r gwas ffyddlon a chall. (Math. 24:45) Fel corff llywodraethol y ganrif gyntaf, mae’r gwas hwn yn gofalu am bobl Dduw ledled y byd, ac yn rhoi cyfarwyddyd i’r henuriaid. (Darllen Actau 16:4, 5.) Mae’r henuriaid yn eu tro yn rhoi’r cyfarwyddyd hwnnw ar waith yn y cynulleidfaoedd. Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n trystio ffordd Jehofa o wneud pethau drwy ufuddhau i’r cyfarwyddyd rydyn ni’n ei gael drwy’r gyfundrefn a’r henuriaid.

9. Pryd efallai byddwn ni’n ei chael hi’n anodd cefnogi penderfyniadau’r henuriaid, a pham?

9 Ar adegau, efallai byddwn ni’n ei chael hi’n anodd cefnogi penderfyniadau’r henuriaid. Er enghraifft, dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o gynulleidfaoedd wedi cael eu haildrefnu. Mewn rhai achosion, mae henuriaid wedi gofyn i gyhoeddwyr gefnogi cynulleidfaoedd gwahanol gyda’r nod o wneud y defnydd gorau o Neuaddau’r Deyrnas. Os oes gofyn i ni ymuno â chynulleidfa newydd, efallai bydd hi’n anodd inni adael teulu a ffrindiau. Ydy’r henuriaid yn cael neges oddi wrth Dduw sy’n dweud wrthyn nhw yn union lle i aseinio pob cyhoeddwr? Nac ydyn. A gall y ffaith honno ei gwneud hi’n anodd inni ddilyn y cyfarwyddyd rydyn ni’n ei gael. Ond mae Jehofa’n trystio’r henuriaid i wneud penderfyniadau o’r fath, ac rydyn ninnau hefyd angen eu trystio nhw. *

10. Yn ôl Hebreaid 13:17, pam dylen ni gydweithio â’r henuriaid?

10 Pam dylen ni gefnogi penderfyniadau’r henuriaid hyd yn oed os nad ydyn ni’n cytuno â’r penderfyniadau hynny? Oherwydd drwy wneud hynny, byddwn ni’n cadw’r undod rhwng pobl Dduw. (Eff. 4:2, 3) Mae cynulleidfaoedd yn ffynnu pan mae pawb yn ddigon gostyngedig i gefnogi penderfyniadau’r henuriaid. (Darllen Hebreaid 13:17.) Yn bwysicach byth, rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni’n ei drystio drwy gydweithio â’r rhai mae ef yn eu trystio i ofalu amdanon ni.—Act. 20:28.

11. Beth all ein helpu ni i drystio cyfarwyddiadau’r henuriaid yn fwy?

11 Byddwn ni’n trystio cyfarwyddyd yr henuriaid yn fwy byth o gofio eu bod nhw’n gweddïo am yr ysbryd glân wrth iddyn nhw drafod pethau sy’n effeithio’r gynulleidfa. Maen nhw hefyd yn ystyried yn ofalus egwyddorion perthnasol o’r Beibl ac arweiniad sy’n dod o gyfundrefn Jehofa. Maen nhw wir eisiau plesio Jehofa a gofalu am ei bobl yn y ffordd orau bosib. Mae’r dynion ffyddlon hyn yn gwybod eu bod nhw’n atebol i Dduw am y ffordd maen nhw’n gwneud hyn. (1 Pedr 5:2, 3) Ystyria’r ffaith hon: Mewn byd sydd wedi ei wahanu gan hil, crefydd, a gwleidyddiaeth, mae pobl Jehofa yn ei addoli yn unedig. Fyddai hynny ddim yn bosib oni bai bod Jehofa yn bendithio ei gyfundrefn!

12. Beth dylai henuriaid ei ystyried wrth benderfynu a ydy rhywun yn wir edifar?

12 Mae Jehofa wedi trystio’r henuriaid gyda’r cyfrifoldeb trwm o gadw’r gynulleidfa yn lân. Os ydy Cristion yn pechu’n ddifrifol, mae Jehofa’n disgwyl i’r henuriaid benderfynu a ddylai’r unigolyn aros yn y gynulleidfa neu ddim. Ymysg pethau eraill, maen nhw angen ffeindio allan a ydy’r person hwnnw yn wirioneddol sori am beth wnaeth ef. Efallai ei fod yn dweud ei fod yn edifar, ond ydy ef wir yn casáu beth wnaeth ef? Ydy ef yn benderfynol o beidio â gwneud yr un peth eto? Os mai cwmni drwg oedd wrth wraidd ei bechod, ydy ef yn fodlon torri cysylltiad â’r bobl hynny? Mae’r henuriaid yn gweddïo ar Jehofa, ac yn ystyried y ffeithiau a beth mae’r Beibl yn ei ddweud. Maen nhw hefyd yn ystyried sut mae’r pechadur yn teimlo am beth ddigwyddodd. Yna, maen nhw’n penderfynu a ddylai’r pechadur aros yn y gynulleidfa neu ddim. Mewn rhai achosion, bydd rhaid iddo gael ei ddiarddel.—1 Cor. 5:11-13.

13. Beth gallwn ni boeni amdano os ydy rhywun sy’n agos aton ni yn cael ei ddiarddel?

13 Sut gall ein hyder yn yr henuriaid gael ei brofi? Efallai ei bod hi’n hawdd inni dderbyn penderfyniad yr henuriaid pan nad yw’n effeithio arnon ni’n bersonol, ond beth os ydy rhywun sy’n agos aton ni yn cael ei ddiarddel? Efallai byddwn ni’n meddwl, ‘A ydy’r henuriaid wedi ystyried y ffeithiau i gyd?’ neu, ‘Ydyn nhw wedi gwneud yr un penderfyniad fyddai Jehofa wedi ei wneud?’ Beth all ein helpu ni i gadw’r agwedd gywir tuag at y penderfyniad hwnnw?

14. Beth all ein helpu ni os ydy penderfyniad yr henuriaid i ddiarddel rhywun yn effeithio arnon ni’n bersonol?

14 Mae’n beth da i gofio bod diarddel yn drefniant gan Jehofa sy’n amddiffyn y gynulleidfa. Petai pechadur diedifar yn cael aros yn y gynulleidfa, gallai fod yn ddylanwad drwg ar eraill. (Gal. 5:9) Gall y trefniant hwnnw hefyd fod o les i’r pechadur. Efallai bydd yn ei helpu i sylweddoli pa mor ddifrifol oedd ei bechod, a beth sydd rhaid iddo ei wneud er mwyn troi yn ôl at Jehofa. (Preg. 8:11) Cofia hefyd fod yr henuriaid yn cymryd y penderfyniad hwn o ddifri, ac maen nhw’n gwneud eu gorau glas i farnu “ar ran yr ARGLWYDD,” yn hytrach na thrio plesio pobl.—2 Cron. 19:6, 7.

SUT MAE TRYSTIO JEHOFA NAWR YN EIN HYFFORDDI AR GYFER Y DYFODOL

Beth fydd yn ein helpu ni i drystio’r cyfarwyddyd a gawn ni yn ystod y gorthrymder mawr ac ufuddhau iddo? (Gweler paragraff 15)

15. Pam rydyn ni angen trystio cyfarwyddyd Jehofa nawr yn fwy nag erioed?

15 Mae diwedd y system hon yn agos iawn, felly mae’n rhaid inni drystio ffordd Jehofa o wneud pethau yn fwy nag erioed. Pam? Yn ystod y gorthrymder mawr, fydd Jehofa ddim yn siarad â ni yn bersonol. Mae’n debyg y bydd yn defnyddio ei gynrychiolwyr ar y ddaear i roi cyfarwyddyd inni. Ond efallai bydd y cyfarwyddyd hwnnw yn swnio’n rhyfedd, neu ddim yn gwneud synnwyr. Ond nid dyna’r amser i gwestiynu a ydy hyn yn dod oddi wrth Jehofa, neu ai syniadau’r brodyr ydyn nhw. Os nad wyt ti’n trystio’r cyfarwyddyd rwyt ti’n ei gael heddiw, mae’n debyg na fyddi di’n ei drystio yn ystod y gorthrymder mawr chwaith. Sut byddi di’n ymateb i gyfarwyddyd Jehofa yn ystod yr adeg bwysig honno?—Luc 16:10.

16. Sut gall ein hyder ym mhenderfyniadau Jehofa gael ei brofi yn y dyfodol agos?

16 Mae’n beth da inni gofio beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y system hon. Yn ystod Armagedon, bydd Jehofa, drwy Iesu, yn penderfynu pwy fydd yn goroesi. (Math. 25:31-33; 2 Thes. 1:7-9) Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer sydd ddim eto’n gwasanaethu Jehofa, gan gynnwys ein perthnasau, yn dod yn ffrind iddo cyn i’r diwedd ddod. Ond nid ni sy’n cael penderfynu pwy fydd yn elwa ar drugaredd Jehofa. (Math. 25:34, 41, 46) A fyddwn ni’n gallu trystio penderfyniadau Jehofa, neu a fyddan nhw’n ein baglu? Yn amlwg, rydyn ni angen cryfhau ein hyder yn Jehofa nawr fel y byddwn ni’n ei drystio’n llwyr yn y dyfodol.

17. Sut byddwn ni’n elwa o benderfyniadau Jehofa ar ddiwedd y system hon?

17 Dychmyga sut byddwn ni’n teimlo o weld canlyniadau holl benderfyniadau Jehofa yn y byd newydd. Byddwn ni’n rhydd o ddylanwad Satan a’i gythreuliaid am fil o flynyddoedd, a bydd canlyniadau eu gwrthryfel wedi mynd. (Dat. 20:2, 3) Bydd pethau fel gau grefydd, y byd busnes, a gwleidyddiaeth, sy‘n feistr ar gymaint o bobl ac wedi gwneud iddyn nhw ddioddef, i gyd wedi diflannu. Fyddwn ni ddim yn gorfod wynebu iechyd gwael, henaint, na marwolaeth byth eto. Meddylia pa mor falch byddwn ni bryd hynny am ein bod ni wedi trystio ffordd Jehofa o wneud pethau!

18. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o hanes yr Israeliaid yn Numeri 11:4-6 a 21:5?

18 A fydd ’na heriau ym myd newydd Duw a allai roi prawf ar ein hyder yn ffordd Jehofa o wneud pethau? Meddylia am yr Israeliaid. Yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r Aifft, gwnaethon nhw ddechrau colli’r bwyd roedden nhw wedi ei fwynhau yno, a chwyno am y manna roedd Jehofa wedi ei roi iddyn nhw. (Darllen Numeri 11:4-6; 21:5.) Yn ein hachos ni, dydyn ni ddim yn gwybod faint o waith bydd rhaid inni ei wneud ar ôl y gorthrymder mawr i lanhau’r ddaear a’i throi’n baradwys. Ond mae’n debyg y bydd ’na gryn dipyn, a fydd pethau ddim yn hawdd i gychwyn. A fyddwn ni’n dangos agwedd debyg i’r Israeliaid? A fyddwn ni’n meiddio cwyno am y pethau mae Jehofa’n eu rhoi inni yn ystod yr adeg honno? Mae un peth yn sicr: Y mwyaf rydyn ni’n gwerthfawrogi beth mae Jehofa’n ei roi inni nawr, y mwyaf byddwn ni’n gwerthfawrogi beth bydd ef yn ei roi inni yn y dyfodol.

19. Sut byddet ti’n crynhoi prif bwyntiau’r erthygl hon?

19 Ffordd Jehofa o wneud pethau sydd wastad yn gywir. Ond rydyn ni angen bod yn hollol sicr o hynny, ac mae hynny’n cynnwys trystio’r rhai mae Jehofa’n eu trystio. Felly gad inni beidio byth ag anghofio geiriau Jehofa: “Eich cryfder fydd peidio â chynhyrfu a bod yn llawn hyder.”—Esei. 30:15, NWT.

CÂN 98 Ysgrythurau Ysbrydoledig Duw

^ Par. 5 Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i weld yr angen i drystio Jehofa a’i gynrychiolwyr ar y ddaear yn fwy. Byddwn ni hefyd yn gweld sut mae hynny o les inni nawr, ac yn ein paratoi ni i wynebu heriau’r dyfodol.

^ Par. 9 Ar adegau, efallai bydd ’na amgylchiadau arbennig sy’n golygu bydd rhaid i unigolyn neu deulu aros yn y gynulleidfa maen nhw ynddi yn barod. Gweler Question Box,” yn rhifyn Tachwedd 2002, Ein Gweinidogaeth Saesneg.