Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 7

Gwranda’n Astud ar Eiriau’r Doeth

Gwranda’n Astud ar Eiriau’r Doeth

“Gwranda’n astud ar beth mae’r doethion wedi ei ddweud.”—DIAR. 22:17.

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

CIPOLWG *

1. Ym mha ffyrdd rydyn ni’n cael cyngor, a pham rydyn ni i gyd ei angen?

 GALL cyngor ddod mewn llawer o wahanol ffyrdd. Weithiau byddwn ni’n gofyn i rywun rydyn ni’n ei barchu am gyngor. Weithiau bydd brawd yn gweld ein bod ni ar fin pechu, ac yn ein helpu i droi yn ôl cyn inni wneud rhywbeth byddwn ni’n ei ddifaru. (Gal. 6:1) Neu weithiau, byddwn ni’n cael cyngor ar ôl inni wneud camgymeriad difrifol. Ni waeth sut rydyn ni’n ei gael, rydyn ni i gyd ei angen ar adegau, oherwydd mae’n dda inni ac mae ein bywydau yn y fantol!—Diar. 6:23.

2. Yn ôl Diarhebion 12:15, pam dylen ni wrando ar gyngor?

2 Mae prif adnod yr erthygl hon yn ein hannog i ‘wrando’n astud ar beth mae’r doethion wedi ei ddweud.’ (Diar. 22:17) Rhaid inni gofio, does ’na’r un ohonon ni’n gwybod popeth; mae ’na wastad rywun sy’n gwybod mwy na ni neu sydd â mwy o brofiad. (Darllen Diarhebion 12:15.) Felly, mae gwrando ar gyngor yn dangos ein bod ni’n ostyngedig ac yn deall ein bod ni angen help i gyrraedd ein hamcanion. Ysgrifennodd y Brenin Solomon: “Mae cynlluniau’n . . . llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.”—Diar. 15:22.

O’r ddau fath hwn o gyngor, pa un yw’r anoddaf iti ei dderbyn? (Gweler paragraffau 3-4)

3. Pa fathau o gyngor gallwn ni eu cael?

3 Pa fathau o gyngor gallwn ni eu cael? Gallwn ni gael cyngor anuniongyrchol drwy ddarllen rhywbeth yn y Beibl neu yn un o’n cyhoeddiadau sy’n gwneud inni stopio a meddwl am beth rydyn ni’n ei wneud, a newid ein ffyrdd. (Heb. 4:12) Ar adegau eraill, efallai byddwn ni’n cael cyngor uniongyrchol pan fydd henuriad neu frawd aeddfed arall yn tynnu ein sylw at rywbeth rydyn ni angen gweithio arno. Dylen ni gofio eu bod nhw’n gwneud hynny am eu bod nhw’n ein caru ni. Drwy wrando ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud a rhoi’r cyngor ar waith, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n eu gwerthfawrogi.

4. Yn ôl Pregethwr 7:9, pa ymateb dylen ni ei osgoi wrth dderbyn cyngor?

4 Pam mae cyngor uniongyrchol yn gallu bod mor anodd ei lyncu? Rydyn ni’n gwybod yn iawn ein bod ni’n amherffaith, ond dydyn ni ddim yn hoffi pan mae rhywun yn pwyntio allan camgymeriad penodol rydyn ni wedi ei wneud. Gallen ni wylltio hyd yn oed! (Darllen Pregethwr 7:9.) Efallai byddwn ni’n teimlo fel cyfiawnhau ein hunain, neu gwestiynu cymhellion yr un sy’n rhoi’r cyngor. Efallai gwnaeth y ffordd wnaeth ef roi’r cyngor ein pechu. Gallen ni hyd yn oed ddigio gyda’r person, gan feddwl: ‘Pa hawl sydd ganddo i roi cyngor i mi? Dydy ef ddim gwell nag ydw i!’ Ac yn y pen draw, gallai agwedd felly wneud inni anwybyddu ei eiriau, a mynd i chwilio am gyngor sy’n ein siwtio ni’n well.

5. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

5 Yn yr erthygl hon, rydyn ni am drafod esiamplau rhai o’r Beibl wnaeth wrthod cyngor, a rhai wnaeth ei dderbyn. Rydyn ni hefyd am drafod beth fydd yn ein helpu i dderbyn cyngor ac elwa ohono.

GWNAETHON NHW WRTHOD CYNGOR

6. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth y Brenin Rehoboam ymateb i gyngor?

6 Ystyria esiampl Rehoboam. Unwaith iddo ddod yn frenin Israel, daeth ei bobl ato i ofyn iddo godi’r baich roedd ei dad, Solomon, wedi ei roi arnyn nhw. A chwarae teg iddo, aeth Rehoboam at ddynion hŷn Israel a gofyn beth i wneud. Dywedon nhw y byddai’r bobl wastad yn ei gefnogi petai’n gwrando arnyn nhw. (1 Bren. 12:3-7) Yn amlwg, doedd Rehoboam ddim yn cytuno â’r cyngor hwnnw. Felly, trodd at ei gyfoedion. Mae’n debyg roedden nhw yn eu 40au, felly doedden nhw ddim yn gwbl ddibrofiad. (2 Cron. 12:13) Ond fel mae’n digwydd, gwnaethon nhw roi cyngor drwg i Rehoboam y tro hwn, a dweud wrtho i ychwanegu at faich y bobl. (1 Bren. 12:8-11) Roedd gan Rehoboam benderfyniad i’w wneud. A wnaeth ef droi at Jehofa mewn gweddi i ofyn beth oedd y peth gorau i’w wneud? Naddo. Yn hytrach, wnaeth ef benderfynu gwrando ar gyngor y dynion ifanc, am mai eu cyngor nhw oedd yn apelio ato. Oherwydd hynny, daeth canlyniadau difrifol, nid yn unig i Rehoboam, ond hefyd i bobl Israel. Yn yr un ffordd, efallai cawn ni gyngor sy’n anodd inni ei gymryd. Ond, os yw’n seiliedig ar Air Duw, dylen ni ei dderbyn.

7. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o esiampl y Brenin Wseia?

7 Gwnaeth y Brenin Wseia hefyd wrthod cyngor. Ar ôl iddo fynd i ran o’r deml lle doedd ef ddim i fod a thrio llosgi arogldarth, dywedodd yr offeiriaid wrtho: “Nid dy le di, Wseia, ydy llosgi arogldarth i’r ARGLWYDD. Cyfrifoldeb yr offeiriaid . . . ydy gwneud hynny.” Sut gwnaeth Wseia ymateb i hynny? “Roedd Wseia wedi gwylltio.” Ond, mae’n bosib byddai Jehofa wedi maddau iddo petasai wedi derbyn y cyngor yn ostyngedig a gadael y deml yn syth. Felly pam wnaeth ef wrthod y cyngor? Yn amlwg roedd ef yn teimlo bod ganddo’r hawl i wneud beth bynnag oedd ef eisiau am ei fod yn frenin. Ond nid fel ’na roedd Jehofa yn ei weld. Am ei fod wedi camu y tu hwnt i’w awdurdod, cafodd Wseia ei daro â’r gwahanglwyf, a bu’n “dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw.” (2 Cron. 26:16-21) Felly, fel mae esiampl Wseia yn ei ddangos, ni waeth pwy ydyn ni, byddwn ni’n colli ffafr Jehofa os ydyn ni’n gwrthod cyngor o’r Beibl.

GWNAETHON NHW DDERBYN CYNGOR

8. Sut gwnaeth Job ymateb i gyngor?

8 Mae’r Beibl hefyd yn cynnwys esiamplau da o rai gafodd eu bendithio am eu bod nhw wedi derbyn cyngor. Meddylia am Job. Er ei fod yn caru Duw, doedd ef ddim yn berffaith. O dan bwysau mawr, mynegodd deimladau cryf doedd ddim cweit yn iawn. Felly, cafodd cyngor uniongyrchol gan Elihw, a gan Jehofa. Sut gwnaeth Job ymateb? Dywedodd: “Dw i wedi siarad am bethau doeddwn i ddim yn eu deall . . . dw i’n tynnu’r cwbl yn ôl, ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.” Gwnaeth Job dderbyn y cyngor yn ostyngedig, a gwnaeth Jehofa ei fendithio am hynny.—Job 42:3-6, 12-17.

9. Sut gwnaeth Moses osod esiampl dda o ran derbyn cyngor?

9 Mae Moses hefyd yn esiampl dda o rywun wnaeth dderbyn cyngor ar ôl gwneud camgymeriad difrifol. Meddylia am yr adeg pan wnaeth Moses, yn ei dymer, ddim rhoi’r clod i Jehofa. Oherwydd hynny, collodd allan ar y fraint o gael mynd i Wlad yr Addewid. (Num. 20:1-13) Pan ofynnodd Moses i Jehofa ailystyried ei benderfyniad, atebodd Jehofa: “Dw i eisiau clywed dim mwy am y peth.” (Deut. 3:23-27) Yn hytrach na throi’n chwerw, derbyniodd Moses benderfyniad Jehofa, a gwnaeth Jehofa barhau i’w ddefnyddio i arwain Israel. (Deut. 4:1) Mae Job a Moses yn esiamplau da inni eu hefelychu o ran derbyn cyngor. Gwnaeth Job newid ei agwedd heb wneud esgusodion. Dangosodd Moses ei fod wedi derbyn cyngor Jehofa drwy aros yn ffyddlon hyd yn oed ar ôl colli braint oedd yn agos at ei galon.

10. (a) Beth mae Diarhebion 4:10-13 yn ei ddysgu am y buddion o dderbyn cyngor? (b) Sut mae rhai wedi ymateb yn bositif i gyngor?

10 Mi fyddwn ni’n elwa o efelychu esiamplau dynion ffyddlon fel Job a Moses, a dyna’n union mae llawer o frodyr a chwiorydd wedi ei wneud. (Darllen Diarhebion 4:10-13.) Mae Emmanuel yn byw yn Congo, a dyma ddywedodd am un rhybudd a gafodd: “Gwnaeth brodyr aeddfed yn fy nghynulleidfa sylweddoli fy mod i ar fin niweidio fy mherthynas â Jehofa, a thrio fy helpu. Am fy mod i wedi rhoi eu cyngor ar waith, wnes i osgoi lot o broblemau.” * Dyma ddywedodd Megan, arloeswraig yng Nghanada, am gyngor: “Dw i ddim wastad eisiau ei glywed, ond weithiau dyna dw i angen ei glywed.” A dywedodd brawd o Croatia o’r enw Marko: “Wnes i golli braint. Ond, o edrych yn ôl, dw i’n sylweddoli mai dim ond ar ôl cael cyngor wnes i ddechrau cryfhau fy mherthynas â Jehofa eto.”

11. Beth ddywedodd y Brawd Karl Klein am dderbyn cyngor?

11 Mae’r Brawd Karl Klein yn esiampl dda arall o rywun wnaeth dderbyn cyngor. Roedd yn gwasanaethu ar y Corff Llywodraethol, ond yn ei hanes bywyd, wnaeth ef sôn am adeg pan gafodd gyngor cryf gan Joseph F. Rutherford, un o’i ffrindiau agos. Gwnaeth y Brawd Karl gyfaddef yn agored ei fod wedi ymateb yn wael i’r cyngor. Dywedodd: “Y tro nesaf wnaeth y Brawd Joseph fy ngweld i, dywedodd yn llon, ‘Helo Karl!’ Ond am fy mod i dal yn ypsét, wnes i jest ei hanner cyfarch o dan fy ngwynt. A dyma fo’n dweud, ‘Gwylia Karl! Mae’r Diafol ar dy ôl di!’ Wnaeth hynny godi ychydig o gywilydd arna i, a wnes i ateb, ‘O, does gen i ddim byd yn dy erbyn di, Brawd Joseph.’ Ond oedd o’n gwybod yn well, felly wnaeth ef ailadrodd ei rybudd. ‘Dw i’n deall. Jest gwylia di, mae’r Diafol ar dy ôl di.’ Oedd o’n llygad ei le. Pan ydyn ni’n dal dig yn erbyn brawd, yn enwedig am ddweud rhywbeth mae ganddyn nhw’r hawl i’w ddweud, . . . bydd yn hawdd i’r Diafol ein dal ni.” * (Eff. 4:25-27) Gwnaeth y Brawd Karl dderbyn cyngor y Brawd Joseph, a gwnaethon nhw aros yn ffrindiau da.

BETH ALL EIN HELPU NI I DDERBYN CYNGOR?

12. Sut gall bod yn ostyngedig ein helpu ni i dderbyn cyngor? (Salm 141:5)

12 Beth all ein helpu ni i dderbyn cyngor? Rydyn ni angen bod yn ostyngedig er mwyn derbyn cyngor, yn enwedig o gofio pa mor amherffaith, a hyd yn oed gwirion, ydyn ni ar adegau. Fel rydyn ni wedi trafod, cafodd Job ei fendithio gan Jehofa am newid ei agwedd anghywir. Pam? Am ei fod yn ostyngedig. Gwnaeth ef brofi hynny drwy dderbyn cyngor gan Elihw, er roedd Elihw yn llawer iau nag ef. (Job 32:6, 7) Bydd gostyngeiddrwydd hefyd yn ein helpu ninnau i roi cyngor ar waith, hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo ein bod ni ddim yn ei haeddu, neu pan mae’n dod oddi wrth rywun sy’n iau na ni. Fel dywedodd henuriad yng Nghanada: “Am ein bod ni ddim yn gweld ein hunain fel mae eraill yn ein gweld ni, sut allwn ni wneud cynnydd heb gyngor gan eraill?” Wedi’r cwbl, rydyn ni i gyd angen meithrin ffrwyth yr ysbryd a gwella yn ein gweinidogaeth.—Darllen Salm 141:5.

13. Sut dylen ni deimlo am y cyngor rydyn ni’n ei gael?

13 Cofia fod cyngor yn dangos cariad Duw. Mae Jehofa eisiau beth sydd orau inni. (Diar. 4:20-22) Mae ei gyngor yn ei Air a’n cyhoeddiadau, a thrwy ein brodyr a chwiorydd, yn dangos ei fod yn ein caru ni. Yn ôl Hebreaid 12:9, 10, mae’r cyngor hwnnw “yn siŵr o wneud lles i ni bob amser.”

14. Beth dylen ni ganolbwyntio arno pan ydyn ni’n cael cyngor?

14 Canolbwyntia ar y neges, nid y negeswr. Os ydyn ni am roi cyngor, dylen ni wneud hynny mewn ffordd garedig. Ond weithiau, efallai bydd yr un sy’n cael y cyngor yn teimlo ein bod ni ddim wedi llwyddo yn hynny o beth. * (Gal. 6:1) Ar y llaw arall, os mai ni sy’n cael y cyngor, byddai’n beth da inni ganolbwyntio ar y neges, yn hytrach na’r ffordd mae’n cael ei roi. Er mwyn gwneud hynny, gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘Hyd yn oed os ydw i’n anghytuno â’r ffordd ges i’r cyngor, oes ’na rywfaint o wirionedd ynddo? Alla i edrych y tu hwnt i amherffeithion y negeswr, a dysgu rhywbeth o’r neges ei hun?’ Y peth doeth fyddai ffeindio ffordd o elwa o unrhyw gyngor rydyn ni’n ei gael.—Diar. 15:31.

BYDDI DI AR DY ENNILL O OFYN AM GYNGOR

15. Pam dylen ni ofyn am gyngor?

15 Mae Diarhebion 13:10, NWT, yn dweud: “Mae pobl ddoeth yn chwilio am gyngor.” Mae hynny’n ddigon gwir! Mae’r rhai sy’n cymryd y cam cyntaf ac yn mynd i chwilio am gyngor, yn aml yn gwneud mwy o gynnydd ysbrydol na’r rhai sydd ddim. Beth am drio hynny dy hun?

Pam mae’r chwaer ifanc yn gofyn i chwaer aeddfed am gyngor? (Gweler paragraff 16)

16. Pryd gallwn ni ofyn am gyngor?

16 Pryd gallwn ni ofyn am gyngor gan ein brodyr a chwiorydd? Ystyria rhai sefyllfaoedd. (1) Mae chwaer yn gofyn i gyhoeddwr profiadol i fynd gyda hi ar astudiaeth, ac yna’n gofyn am gyngor ar sut i wella ei sgiliau dysgu. (2) Mae chwaer sengl yn gofyn i chwaer aeddfed am ei barn onest am y dillad roedd hi eisiau eu prynu. (3) Mae brawd yn cael ei aseinio i roi ei anerchiad cyhoeddus cyntaf. Felly, mae’n gofyn i siaradwr profiadol dalu sylw arbennig i’w anerchiad er mwyn rhoi cyngor ar sut i wella. Bydd hyd yn oed brawd sydd wedi rhoi llawer o anerchiadau dros y blynyddoedd ar ei ennill o ofyn am gyngor ac awgrymiadau gan siaradwyr profiadol eraill.

17. Sut gallwn ni elwa o gyngor?

17 Yn yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod, bydd pob un ohonon ni yn cael cyngor—un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Pan fydd hynny’n digwydd, cofia’r pethau rydyn ni newydd eu trafod. Arhosa’n ostyngedig. Canolbwyntia ar y neges, nid y negeswr. Rho unrhyw gyngor gei di ar waith. Dydy’r un ohonon ni wedi cael ein geni’n ddoeth, ond pan fyddwn ni’n ‘gwrando ar gyngor, ac yn derbyn cerydd,’ mae Gair Duw yn addo y byddwn ni’n “ddoeth yn y diwedd.”—Diar. 19:20.

CÂN 124 Bythol Ffyddlon

^ Par. 5 Mae pobl Jehofa yn gwybod bod hi’n bwysig gwrando ar gyngor o’r Beibl, er dydy hynny ddim wastad yn hawdd. Pam mae hi’n gallu bod yn anodd derbyn cyngor weithiau? A beth all ein helpu ni i wneud y gorau o’r cyngor hwnnw?

^ Par. 10 Newidiwyd rhai enwau.

^ Par. 14 Yn yr erthygl nesaf, byddwn ni’n trafod sut gall rhywun sy’n rhoi cyngor gwneud hynny mewn ffordd garedig.