Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 9

Efelycha Iesu Drwy Wasanaethu Eraill

Efelycha Iesu Drwy Wasanaethu Eraill

“Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”—ACT. 20:35.

CÂN 17 ‘Dwi Eisiau Dy Helpu’

CIPOLWG *

1. Pa agwedd hyfryd mae pobl Jehofa yn ei dangos?

 AMSER maith yn ôl, gwnaeth y Beibl ragfynegi y byddai pobl Dduw “yn barod” i wasanaethu Jehofa o dan arweiniad ei Fab. (Salm 110:3) Rydyn ni’n gweld tystiolaeth glir o hynny’n cael ei gyflawni heddiw. Er enghraifft, bob blwyddyn, mae gweision Jehofa yn treulio cannoedd o filoedd o oriau yn pregethu’n selog, a hynny’n wirfoddol a heb dâl. Maen nhw hefyd yn rhoi eu hamser i helpu eu brodyr a chwiorydd yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol. Ar ben hynny, mae henuriaid a gweision gweinidogaethol yn treulio oriau yn paratoi anerchiadau ac yn bugeilio. Pam maen nhw’n gwneud y holl waith yma? Cariad sy’n eu cymell—cariad tuag at Jehofa, a’u cymydog.—Math. 22:37-39.

2. Yn ôl Rhufeiniaid 15:1-3, pa esiampl osododd Iesu?

2 Gosododd Iesu esiampl wych o ran rhoi anghenion eraill o flaen ei rai ei hun, ac rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i’w efelychu. (Darllen Rhufeiniaid 15:1-3.) Os gwnawn ni hynny, byddwn ni’n cael ein bendithio. Wedi’r cwbl, dywedodd Iesu: “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.”—Act. 20:35.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried rhai o’r aberthau wnaeth Iesu er mwyn helpu eraill, yn ogystal â sut gallwn ni efelychu ei esiampl. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni fod yn fwy parod i wasanaethu eraill.

EFELYCHA ESIAMPL IESU

Er ei fod wedi blino, sut gwnaeth Iesu ymateb pan ddaeth torf ato? (Gweler paragraff 4)

4. Sut gwnaeth Iesu roi anghenion eraill o flaen ei rai ei hun?

4 Gwnaeth Iesu helpu eraill hyd yn oed pan oedd ef wedi blino. Ystyria un achlysur. Roedd Iesu wedi bod yn gweddïo drwy’r nos, ac oherwydd hynny, roedd wedi blino’n lân. Felly, pan ddaeth tyrfa o bobl ato ar ochr mynydd, mae’n debyg wrth ymyl Capernaum, sut gwnaeth ef ymateb? Roedd yn teimlo dros y rhai tlawd a sâl yn eu mysg, a gwnaeth ef eu hiacháu nhw. Ond, gwnaeth ef fwy na hynny. Rhoddodd un o’r anerchiadau mwyaf calonogol erioed—y Bregeth ar y Mynydd.—Luc 6:12-20.

Sut gallwn ni efelychu agwedd hunanaberthol Iesu yn ein bywydau? (Gweler paragraff 5)

5. Sut mae pennau teuluoedd yn efelychu agwedd hunanaberthol Iesu pan maen nhw wedi blino?

5 Sut mae pennau teuluoedd yn efelychu Iesu. Dychmyga hyn: Mae penteulu yn cyrraedd adref ar ôl diwrnod hir o waith. Am ei fod wedi blino’n lân, mae canslo Astudiaeth Deuluol y noson honno yn croesi ei feddwl. Ond, mae’n erfyn ar Jehofa am y nerth i gynnal yr astudiaeth, mae Jehofa yn ateb ei weddi, ac mae’r astudiaeth yn mynd yn ei blaen fel yr arfer. Drwy wneud hynny, mae’r plant yn dysgu gwers bwysig—addoli Jehofa ydy’r peth pwysicaf i’w rhieni.

6. Rho enghraifft o sut gwnaeth Iesu aberthu amser ar ei ben ei hun i helpu eraill.

6 Roedd Iesu’n rhoi amser i eraill, hyd yn oed pan oedd angen amser iddo’i hun. Elli di ddychmygu sut roedd Iesu’n teimlo pan wnaeth ef ddysgu bod ei ffrind Ioan Fedyddiwr wedi cael ei ladd? Mae’n rhaid fod hynny wedi torri ei galon. Mae’r Beibl yn dweud: “Pan glywodd Iesu [am farwolaeth Ioan], aeth i ffwrdd mewn cwch i le tawel i fod ar ei ben ei hun.” (Math. 14:10-13) Mae llawer ohonon ni eisiau llonydd pan fyddwn ni’n galaru, felly gallwn ni ddeall yn iawn pam roedd Iesu eisiau bod ar ei ben ei hun. Ond, chafodd Iesu ddim y cyfle i wneud hynny, achos roedd tyrfa fawr wedi cyrraedd y lle tawel hwnnw o’i flaen. Sut gwnaeth Iesu ymateb? Meddyliodd am anghenion y dyrfa. Roedd yn “teimlo i’r byw drostyn nhw,” ac yn gallu gweld eu bod nhw wir angen help a chysur gan Dduw. Felly aeth Iesu ati’n syth i’w helpu. A dweud y gwir, “treuliodd amser yn dysgu [nid ychydig, ond] llawer o bethau iddyn nhw.”—Marc 6:31-34; Luc 9:10, 11.

7-8. Rho enghraifft sy’n dangos sut mae’r henuriaid cariadus yn efelychu Iesu pan fydd rhywun yn y gynulleidfa angen help.

7 Sut mae henuriaid cariadus yn efelychu Iesu. Mae’r henuriaid yn hunanaberthol ac yn gweithio’n galed iawn i’n helpu ni. Er ein bod ni ddim yn gweld y rhan fwyaf o’u gwaith, rydyn ni’n gwerthfawrogi popeth maen nhw’n ei wneud droston ni yn fawr iawn! Er enghraifft, pan mae ’na argyfwng meddygol, mae aelodau o’r Pwyllgor Cyswllt Ysbytai yn rhuthro i helpu eu brodyr a chwiorydd, er bod hyn yn aml yn digwydd yng nghanol y nos! Ond am fod yr henuriaid annwyl hyn yn tosturio dros eu brawd neu chwaer mewn angen, maen nhw, a’u teuluoedd, yn rhoi anghenion eu cyd-gredinwyr o flaen eu rhai eu hunain.

8 Mae’r henuriaid hefyd yn helpu i adeiladu Neuaddau’r Deyrnas ac adeiladau eraill, yn ogystal â rhoi cymorth ar ôl trychineb. Ar ben hynny, maen nhw’n treulio oriau maith yn ein dysgu, ein calonogi, a’n cefnogi. Mae pob un o’r brodyr hyn a’u teuluoedd yn haeddu canmoliaeth. Boed i Jehofa fendithio’r agwedd maen nhw’n ei dangos! Ond, ddylen nhw ddim treulio gymaint o amser yn gwneud pethau ar gyfer y gynulleidfa nes bod eu teuluoedd yn ddioddef. Mae henuriaid—fel pawb arall—angen bod yn gytbwys.

SUT I FEITHRIN AGWEDD HUNANABERTHOL

9. Yn ôl Philipiaid 2:4, 5, pa agwedd dylai pob Cristion ei meithrin?

9 Darllen Philipiaid 2:4, 5. Gall pob un ohonon ni—nid jest yr henuriaid—efelychu agwedd hunanaberthol Iesu. Mae’r Beibl yn dweud ei fod wedi “gwneud ei hun yn gaethwas.” (Phil. 2:7) Meddylia am gymaint gallwn ni ei ddysgu o hynny. Byddai gwas neu gaethwas da yn chwilio am gyfleoedd i blesio ei feistr. Rwyt ti’n was i Jehofa ac i dy frodyr a chwiorydd, felly mae’n siŵr dy fod ti’n teimlo’n debyg, ac eisiau bod yn fwy defnyddiol iddyn nhw. Ond sut gelli di wneud hynny? Drwy ddilyn yr awgrymiadau canlynol.

10. Pa gwestiynau gallwn ni eu gofyn i ni’n hunain?

10 Meddylia’n ofalus am dy agwedd. Gofynna i ti dy hun: ‘Pa mor fodlon ydw i i roi fy amser ac egni i helpu eraill? Sut byddwn i’n ymateb petai rhywun yn gofyn imi fynd i weld brawd hŷn mewn cartref nyrsio, neu i fynd â chwaer hŷn i’r cyfarfodydd? Ydw i’n barod i helpu i lanhau safle’r gynhadledd, neu i wneud gwaith i gynnal Neuadd y Deyrnas?’ Pan wnaethon ni gysegru ein hunain i Jehofa, gwnaethon ni addo defnyddio popeth sydd gynnon ni i’w wasanaethu. Felly, mae wrth ei fodd pan fyddwn ni’n anhunanol ac yn defnyddio ein hamser, egni, a phethau materol i helpu eraill. Ond beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n gweld bod gynnon ni le i wella?

11. Sut gall gweddi ein helpu i feithrin agwedd hunanaberthol?

11 Gweddïa’n daer ar Jehofa. Beth os wyt ti’n gweld dy fod ti angen bod yn fwy hunanaberthol, ond dwyt ti ddim yn teimlo fel gwneud hynny? Os felly, gweddïa ar Jehofa. Bydda’n onest, a dyweda wrtho sut rwyt ti’n teimlo. Hefyd, gofynna iddo greu’r awydd ynot ti, a dy ‘alluogi di i wneud beth sy’n ei blesio fe.’—Phil. 2:13.

12. Sut gall brodyr ifanc sydd wedi eu bedyddio helpu eu cynulleidfa?

12 Mae cyfundrefn Jehofa yn parhau i dyfu, ac mae hynny’n golygu bod angen mwy o frodyr ifanc i helpu i ofalu am bobl Jehofa. Mewn rhai gwledydd, mae ’na fwy o henuriaid na gweision gweinidogaethol, ac mae llawer o’r gweision hynny yn hŷn. Felly, os wyt ti’n frawd ifanc sydd wedi dy fedyddio, gofynna i Jehofa dy helpu i feithrin yr awydd i wneud mwy yn y gynulleidfa. Os gwnei di hynny, a dangos dy fod ti’n fodlon gwasanaethu lle bynnag mae angen, byddi di’n hapus. Pam? Oherwydd byddi di’n plesio Jehofa, yn ennill enw da, a byddi di’n cael y llawenydd sy’n dod o helpu eraill.

Gwnaeth Cristnogion o Jwdea ddianc dros yr Iorddonen i ddinas Pela. Mae’r rhai oedd eisoes wedi cyrraedd yn dosbarthu bwyd i’w brodyr a chwiorydd sydd newydd gyrraedd (Gweler paragraff 13)

13-14. Pa bethau ymarferol gallwn ni eu gwneud i helpu ein brodyr a chwiorydd? (Gweler y llun ar y clawr.)

13 Bydda’n effro i anghenion pobl eraill. Rhoddodd yr apostol Paul gyngor hynod o ymarferol i’r Hebreaid: ‘Peidiwch anghofio gwneud daioni a rhannu’ch cyfoeth gyda phawb sydd mewn angen. Mae’r math yna o aberth yn plesio Duw go iawn.’ (Heb. 13:16) Yn eithaf buan ar ôl derbyn y llythyr hwn, roedd rhaid i’r Cristnogion hynny adael eu tai, eu busnesau, a’u teulu doedd ddim yn Gristnogion, gan “ddianc i’r mynyddoedd.” (Math. 24:16) Dyna iti adeg pan oedden nhw wir angen helpu ei gilydd! Byddai’r rhai oedd eisoes yn dilyn cyngor Paul, i rannu’r hyn oedd ganddyn nhw ag eraill, wedi ei chael hi’n haws addasu i’w ffordd newydd o fyw.

14 Efallai bydd ein brodyr a chwiorydd ddim wastad yn dweud wrthon ni eu bod nhw angen help. Er enghraifft, efallai bydd brawd sydd newydd golli ei wraig angen help i goginio, i wneud gwaith tŷ, neu angen lifft i lefydd. Ddylen ni ddim meddwl y bydd rhywun arall yn ei helpu, a ddylen ni ddim tybio y bydd yn gofyn am help, oherwydd efallai bydd yn ofni creu trafferth inni. Os gwnawn ni ei helpu heb iddo orfod gofyn, mae’n debyg y bydd yn ddiolchgar iawn. Felly, pan fyddi di’n gweld rhywun mewn angen, gofynna i ti dy hun: ‘Petaswn i yn ei sefyllfa nhw, pa help byddwn i’n ei werthfawrogi?’

15. Beth sy’n rhaid inni ei wneud os ydyn ni eisiau helpu eraill?

15 Gwna hi’n hawdd i eraill ofyn iti am help. Mae’n siŵr dy fod ti’n adnabod brodyr a chwiorydd yn dy gynulleidfa sydd wastad yn barod i helpu eraill, ac sydd byth yn gwneud inni deimlo ein bod ni’n creu trafferth iddyn nhw. Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw am help, ac rydyn ni wir eisiau eu hefelychu nhw. Dyna’n union mae Alan, sy’n henuriad yn ei 40au, eisiau ei wneud. Dywedodd am esiampl Iesu: “Roedd pobl yn hoff iawn o Iesu, ac roedden nhw’n ei weld fel dyn oedd wir yn gofalu amdanyn nhw. Er ei fod yn brysur, roedd pobl o bob oedran yn teimlo’n gyffyrddus yn gofyn iddo am help. Dw i wir eisiau efelychu agwedd Iesu, a chael fy adnabod fel rhywun caredig sy’n gofalu am bobl ac sy’n fodlon iawn i’w helpu.”

16. Sut gall rhoi Salm 119:59, 60 ar waith ein helpu ni i ddilyn esiampl Iesu yn agos?

16 Ddylen ni ddim digalonni os dydyn ni ddim yn llwyddo i efelychu Iesu’n berffaith. (Iago 3:2) Dydy rhywun sy’n dysgu bod yn arlunydd ddim yn gallu efelychu gwaith arlunydd enwog yn berffaith. Ond, os bydd ef yn dysgu o’i gamgymeriadau, ac yn dal ati i geisio ei efelychu, bydd yn dod yn well ac yn well. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni’n rhoi beth rydyn ni’n ddysgu o’r Beibl ar waith, ac yn gwneud ein gorau i wella, gallwn ni ddilyn esiampl Iesu yn agosach.—Darllen Salm 119:59, 60.

BUDDION BOD YN HUNANABERTHOL

Drwy efelychu agwedd hunanaberthol Iesu, mae henuriaid yn gosod esiampl i’r rhai ifanc ei dilyn (Gweler paragraff 17) *

17-18. Pa fuddion fydd yn dod o efelychu agwedd hunanaberthol Iesu?

17 Dywedodd un henuriad o’r enw Tim: “Mae rhai brodyr ifanc iawn wedi cael eu penodi yn weision gweinidogaethol. Un o’r rhesymau dros hynny ydy oherwydd eu bod nhw wedi sylwi ar agwedd hunanaberthol eraill, ac yn ceisio eu hefelychu. Mae’r brodyr ifanc yma yn helpu ein cynulleidfa ac yn cefnogi’r henuriaid.” Y wers? Pan ydyn ni’n fodlon helpu, bydd eraill eisiau gwneud yr un fath.

18 Rydyn ni’n byw mewn byd lle mae agwedd hunanol yn rhemp. Ond mae pobl Jehofa yn sefyll allan yn wahanol. Pam? Am fod agwedd hunanaberthol Iesu wedi dylanwadu arnon ni, ac rydyn ni’n benderfynol o ddilyn ei esiampl. Er na allwn ni ddilyn ei gamau yn berffaith, gallwn ni eu dilyn yn agos. (1 Pedr 2:21) Wrth inni wneud ein gorau glas i efelychu Iesu, byddwn ni’n hapus am ein bod ni’n plesio Jehofa.

CÂN 13 Crist, Ein Hesiampl

^ Par. 5 Roedd Iesu wastad yn rhoi anghenion pobl eraill o flaen ei rai ei hun. Felly, yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni efelychu ei esiampl. Byddwn ni hefyd yn trafod sut gallwn ni elwa o efelychu ei agwedd hunanaberthol.

^ Par. 57 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd ifanc o’r enw Dan yn sylwi ar y cariad ddangosodd dau henuriad tra oedd ei dad yn yr ysbyty. Mae hyn yn ei ysgogi i edrych am ffyrdd i helpu eraill yn y gynulleidfa. Mae esiampl Dan wedyn yn cael dylanwad da ar frawd ifanc arall o’r enw Ben, ac yn ei gymell i lanhau’r Neuadd.