Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Wnes i Ffeindio Rhywbeth Gwell na Meddygaeth

Wnes i Ffeindio Rhywbeth Gwell na Meddygaeth

“DW I wedi bod yn breuddwydio am hynny ers o’n i’n blentyn!” Dyna ddywedais i wrth un cwpl yn ôl ym 1971. O’n i newydd agor fy nghlinig cyntaf fel doctor ifanc. Ond pwy oedd y bobl hynny, a beth oedd y freuddwyd? Gadewch imi ddweud wrthoch chi sut gwnaeth y sgwrs honno wneud imi ailystyried fy mlaenoriaethau a gwneud imi gredu y byddai fy mreuddwyd yn dod yn wir yn fuan.

Ces i fy ngeni ym 1941 ym Mharis, Ffrainc, i deulu gweddol dlawd. O’n i wrth fy modd yn dysgu pethau newydd. Ond pan o’n i’n 10, es i’n sâl efo twbercwlosis, ac o’n i’n gorfod stopio mynd i’r ysgol. Dw i’n siŵr gallwch chi ddychmygu fy siom! Dywedodd y doctoriaid fy mod i’n gorfod aros yn fy ngwely am fod fy ysgyfaint yn rhy wan. Felly dyna lle oeddwn i am fisoedd, yn darllen y geiriadur ac yn gwrando ar raglenni Radio Sorbonne, oedd yn cael eu darlledu gan Brifysgol Paris. O’r diwedd, dyma fy noctor yn dweud fy mod i wedi gwella, ac o’n i’n cael mynd yn ôl i’r ysgol. O’n i wedi gwirioni, a dywedais wrtho i fy hun, ‘Mae doctoriaid yn gwneud gwaith rhyfeddol!’ O hynny ymlaen, o’n i’n breuddwydio am helpu pobl i wella, a phryd bynnag oedd Dad yn gofyn imi beth o’n i eisiau ei wneud pan o’n i’n hŷn, o’n i wastad yn dweud, “Dw i eisiau bod yn ddoctor.” Dyna sut des i i garu meddygaeth.

GWYDDONIAETH YN FY HELPU I GLOSIO AT DDUW

Catholigion oedden ni fel teulu, ond roedd y syniad o Dduw braidd yn niwlog yn fy meddwl, ac oedd gen i lawer o gwestiynau heb atebion. Dim ond ar ôl imi ddechrau astudio meddygaeth yn y brifysgol des i’n hollol sicr fod bywyd wedi cael ei greu.

Dw i’n cofio’r tro cyntaf wnes i weld celloedd tiwlip o dan y meicrosgop. O’n i’n rhyfeddu ar sut mae rhannau’r gell yn ymateb i wres ac oerni. Wnes i hefyd sylwi ar sut mae cytoplasm (sef sylwedd y tu mewn i’r gell) yn cywasgu o dan amgylchiadau hallt, ac yn ehangu mewn dŵr pur. A dim ond crafu’r wyneb ydy hynny o sut mae organebau yn gallu addasu i’w hamgylchiadau. Unwaith imi sylwi ar y cymhlethdod rhyfeddol ym mhob cell, o’n i’n gallu gweld mai nid damwain oedd bywyd.

Yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, roedden ni’n astudio’r corff, a sut mae’r fraich yn ein galluogi ni i blygu a sythu ein bysedd. I mi, roedd hynny ond yn ychwanegu at y dystiolaeth bod Duw yn bodoli, am fod dyluniad mor glyfar y tu ôl i leoliad pob cyhyr, gewyn, a thendon. Er enghraifft, mae ’na dendon sy’n mynd o’r fraich i ail asgwrn y bys, ac mae hwnnw’n rhannu’n ddau, gan ffurfio pont. Yna, mae tendonau sydd wedi eu cysylltu â blaenau’r bysedd yn gallu symud yn ôl ac ymlaen o dan y bont honno. Hefyd, mae ’na feinweoedd cryf sy’n dal y tendonau’n agos at esgyrn y bysedd. Heb hyn i gyd, byddai tendonau’r dwylo yn aros yn syth ac yn dynn, ac yn ein rhwystro rhag symud ein bysedd yn iawn. Felly, roedd hi’n amlwg imi fod Dyluniwr clyfar iawn wedi creu’r corff.

O’n i’n fwy sicr byth bod ’na Greawdwr pan wnes i ddysgu sut mae babi yn dechrau anadlu ar ôl cael ei eni. Tra mae’r babi yn y groth, does dim angen iddo anadlu am ei fod yn cael ocsigen gan ei fam. Felly dydy’r alfeoli, sef sachau bach tu mewn i’r ysgyfaint, ddim wedi eu llenwi ag aer eto. Ond yn yr wythnosau cyn i’r babi gael ei eni, mae waliau’r alfeoli yn cael eu gorchuddio â rhywbeth o’r enw syrffactydd. Yn syth ar ôl iddo gael ei eni, mae cyfres o bethau rhyfeddol yn digwydd wrth iddo gymryd ei anadl cyntaf. Mae twll yng nghalon y babi yn cau, gan gyfeirio gwaed at yr ysgyfaint. Yn y foment hollbwysig honno, mae’r syrffactydd yn rhwystro ochrau’r alfeoli rhag glynu at ei gilydd wrth iddyn nhw lenwi ag aer, ac yn fwyaf sydyn, mae’r babi yn gallu anadlu ar ei ben ei hun.

Roeddwn i eisiau dod i nabod y Dyluniwr oedd y tu ôl i’r pethau yma i gyd, felly wnes i ddechrau darllen y Beibl o ddifri. Roedd gen i ddiddordeb mawr yn enwedig yn y rheolau hylendid roedd Duw wedi eu rhoi i Israel dros 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Roedd Duw wedi dweud wrth yr Israeliaid i gladdu carthion, i olchi eu hunain yn aml gyda dŵr, ac i roi unrhyw un oedd yn dangos symptomau o glefyd heintus mewn cwarantîn. (Lef. 13:50; 15:11; Deut. 23:13) O’n i hefyd yn gweld bod y rheolau am ryw yn Lefiticus hefyd yn helpu i gadw’r genedl gyfan yn iach. (Lef. 12:1-6; 15:16-24) Beth wnaeth fy synnu i fwyaf oedd y ffaith fod y Beibl yn sôn am bethau mae gwyddonwyr ond wedi eu darganfod yn y canrifoedd diwethaf. A dyna wnaeth hoelio’r peth imi mai Gair Duw ydy’r Beibl, er fy mod i ddim yn gwybod ei enw ar y pryd. Ond, des i i’r casgliad fod y Creawdwr wedi rhoi rheolau o’r fath i’r Israeliaid er eu lles nhw, a’i fod yn bendithio’r rhai sy’n ufudd i’w orchmynion.

CYFARFOD FY NGWRAIG A FFEINDIO JEHOFA

Fi a Lydie ar ein diwrnod priodas, Ebrill 3, 1965

Wnes i gyfarfod Lydie a syrthio mewn cariad pan o’n i yn y brifysgol yn astudio meddygaeth. Gwnaethon ni briodi ym 1965 pan o’n i hanner ffordd drwy fy nghwrs, ac erbyn imi glywed am y gwir ym 1971, oedd Lydie a minnau eisoes wedi cael tri o blant. Mae Lydie wedi bod yn gefn imi yn fy ngwaith fel doctor, ac yn y teulu.

Es i ymlaen i weithio mewn ysbyty am dair blynedd cyn agor fy nghlinig fy hun. Dyna lle wnes i gyfarfod y cwpl o’n i’n sôn amdanyn nhw gynt. Daethon nhw i mewn am driniaeth, ac wrth imi ysgrifennu presgripsiwn i’r gŵr, dyma’r wraig yn gofyn: “Gawn ni feddyginiaeth heb waed os gwelwch yn dda?” Wedi synnu, wnes i ofyn: “Pam?” Dyma hi’n dweud: “’Dyn ni’n Dystion Jehofa.” Wel, o’n i erioed wedi clywed am Dystion Jehofa, na’u safiad ar waed. Felly, gwnaeth hi ddangos imi yn ei Beibl beth oedd sail eu penderfyniad i wrthod gwaed. (Act. 15:28, 29) Yna, aeth hi a’i gŵr ymlaen i ddangos y gobaith am y dyfodol imi, pan fydd Teyrnas Dduw yn cael gwared ar ddioddefaint, salwch, a marwolaeth. (Dat. 21:3, 4) “Dw i wedi bod yn breuddwydio am hynny ers o’n i’n blentyn!” medda fi. “Y rheswm des i’n ddoctor oedd i helpu pobl sy’n dioddef.” O’n i wedi gwirioni gymaint, gwnaethon ni siarad am awr a hanner. Erbyn i’r cwpl adael, doeddwn i ddim bellach yn Gatholig yn fy nghalon, ac o’n i hefyd wedi dysgu bod gan y Creawdwr o’n i’n ei edmygu gymaint enw—Jehofa!

Wnes i gyfarfod y cwpl hwnnw dair gwaith yn fy nghlinig, a bob tro, gwnaethon ni siarad am dros awr. Felly, wnes i eu gwahodd nhw draw i’n tŷ ni, lle oedden ni’n gallu trafod y Beibl ymhellach. Er oedd Lydie yn fodlon ymuno â’r astudiaeth, doedd hi ddim yn fodlon derbyn bod rhai o ddysgeidiaethau’r Catholigion yn anghywir. Felly, wnes i wahodd gweinidog draw a gwnaethon ni drafod dysgeidiaethau’r eglwys am oriau, gan ddefnyddio dim ond y Beibl. Ar ôl y sgwrs honno, roedd Lydie yn hollol sicr mai Tystion Jehofa oedd yn dysgu’r gwir. Ers hynny, mae ein cariad tuag at Jehofa Dduw ond wedi tyfu, a chawson ni’n dau ein bedyddio ym 1974.

RHOI JEHOFA’N GYNTAF

Unwaith imi ddysgu am bwrpas Duw ar gyfer y ddynoliaeth, roedd Lydie a minnau yn benderfynol o roi Jehofa yn gyntaf yn ein bywydau, ac i fagu ein plant yn ôl safonau’r Beibl. Gwnaethon ni eu dysgu nhw i garu Duw a chymydog, a gwnaeth hynny wneud inni glosio fel teulu.—Math. 22:37-39.

Roedd ein chwech o blant yn gweld ein bod ni’n cefnogi ein gilydd wrth roi egwyddorion y Beibl ar waith. Un o reolau’r tŷ oedd, “Dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’,” fel dywedodd Iesu. (Math. 5:37) Wrth edrych yn ôl, dw i a Lydie yn aml yn chwerthin am sut roedd ein plant yn ymateb i hynny. Er enghraifft, pan oedd y ferch hynaf yn 17, wnaeth Lydie ddim gadael iddi fynd allan efo criw o rai ifanc. Ond dywedodd un o’r criw wrth y ferch, “Os nad ydy dy fam yn gadael iti fynd, gofynna i dy dad!” Ond beth ddywedodd y ferch? “Does ’na ddim pwynt. Maen nhw wastad yn cytuno.” Rydyn ni’n diolch i Jehofa bod gynnon ni deulu mawr yn gwasanaethu Jehofa hyd heddiw.

Er doedd meddygaeth ddim yn flaenoriaeth imi bellach, o’n i dal eisiau ei defnyddio i helpu pobl Dduw. Felly, wnes i wirfoddoli i wasanaethu’n rhan amser fel doctor yn y Bethel. Wnes i hynny yn gyntaf yn y Bethel ym Mharis, ac yna yn y Bethel newydd yn Louviers. Yn ystod y 50 mlynedd dw i wedi bod yn gwneud hynny, dw i wedi gwneud ffrindiau annwyl iawn ymysg y teulu Bethel, a rhai ohonyn nhw bellach yn eu 90au. Un diwrnod, wnes i hyd yn oed gyfarfod brawd oedd yn newydd i’r Bethel, ac fel mae’n digwydd, y fi oedd y doctor wnaeth helpu ei fam i’w eni tua 20 mlynedd ynghynt!

DW I WEDI GWELD GYMAINT MAE JEHOFA YN GOFALU AM EI BOBL

Dros y blynyddoedd, mae fy nghariad tuag at Jehofa wedi tyfu yn fwy ac yn fwy wrth imi weld sut mae’n defnyddio ei gyfundrefn i arwain ac amddiffyn ei bobl. Er enghraifft, yn yr 80au cynnar, gwnaeth y Corff Llywodraethol sefydlu rhaglen yn yr Unol Daleithiau i helpu’r maes meddygol i ddeall anghenion Tystion Jehofa yn well.

Yna, ym 1988, gwaeth y Corff Llywodraethol sefydlu adran newydd yn y Bethel o’r enw Gwasanaethau Gwybodaeth i Ysbytai. I gychwyn, roedd yr adran hon yn arolygu’r Pwyllgorau Cyswllt Ysbytai (HLC). Cafodd yr HLC ei greu yn yr Unol Daleithiau i helpu Tystion i gael hyd i ddoctoriaid oedd yn parchu eu safiad ar waed. Pan gafodd y trefniant hwn ei ehangu’n fyd-eang, cafodd y pwyllgorau hyn hefyd eu sefydlu yn Ffrainc. Dw i wrth fy modd yn gweld sut mae cyfundrefn Jehofa yn cefnogi brodyr a chwiorydd sâl pan maen nhw mewn angen, a hynny mewn ffordd mor gariadus!

BREUDDWYD YN DOD YN WIR

Rydyn ni’n dal yn mwynhau pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw

Er fy mod i’n caru meddygaeth ac yn helpu pobl i wella’n gorfforol, wnes i sylweddoli ei bod hi’n llawer pwysicach i’w helpu nhw i wella’n ysbrydol. O’n i eisiau i bobl eraill ddod i nabod Jehofa Dduw, ffynhonnell bywyd, hefyd. Felly, ar ôl imi ymddeol, wnes i a Lydie ddechrau arloesi’n llawn amser er mwyn rhannu’r newyddion da am Deyrnas Dduw, ac rydyn ni’n dal i wneud cymaint ag y medrwn ni yn y gwaith hwnnw.

Gyda Lydie, 2021

Dw i’n sylweddoli bod hyd yn oed y doctoriaid gorau ddim yn gallu gwella pob salwch, na rhwystro marwolaeth. Felly er fy mod i’n dal yn helpu rhai sâl, dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y dyfodol pan fydd poen, salwch, a marwolaeth wedi diflannu. Dw i’n hollol sicr fod y gorau eto i ddod. Yn y byd newydd hwnnw sydd ar y gorwel, bydda i’n gallu dysgu am greadigaeth Duw am byth, gan gynnwys y ffordd ryfeddol mae wedi dylunio ein cyrff. Bydd breuddwydion fy mhlentyndod wedi dod yn wir!