Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Oeddet Ti’n Gwybod?

Oeddet Ti’n Gwybod?

Pam rhoddodd Jehofa ddewis o ddau fath o aderyn i’r Israeliaid ei offrymu?

ROEDD Jehofa yn derbyn turturod a cholomennod fel offrymau. Mae hynny’n amlwg o’r gyfraith a roddodd i’r Israeliaid, sydd wastad yn sôn am y ddau gyda’i gilydd. (Lef. 1:14; 12:8; 14:30) Pam gwnaeth Jehofa ganiatáu hynny? Un rheswm oedd am fod turturod ddim wastad ar gael. Pam ddim?

Turtur

Bob hydref, mae turturod yn mudo o Israel i wledydd cynhesach ac yn dychwelyd yn y gwanwyn. (Caniad Sol. 2:11, 12; Jer. 8:7) Mae hynny’n golygu, am ran o’r flwyddyn, roedd ’na hen ddigon o durturod o gwmpas i’r Israeliaid eu hoffrymu. Ond erbyn y gaeaf, byddai hi wedi bod yn anodd cael gafael ar un.

Colomen

Yn wahanol i durturod, dydy colomennod ddim fel arfer yn mudo, felly roedden nhw yno yn Israel drwy gydol y flwyddyn. Ar ben hynny, roedd hi’n gyffredin ar y pryd i bobl gadw colomennod. (Cymhara Ioan 2:14, 16.) Yn ôl y llyfr Bible Plants and Animals, “roedd gan bob tŷ ym Mhalesteina golomendy, neu dwll yn y wal, lle gallai’r adar fyw.”—Cymhara Eseia 60:8, NWT.

Colomen mewn colomendy

Drwy ganiatáu i’r Israeliaid offrymu adar oedd ar gael drwy gydol y flwyddyn, dangosodd Jehofa ei fod yn gariadus ac yn rhesymol.