Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 11

Parha i ‘Wisgo’r Bywyd Newydd’ ar ôl Bedydd

Parha i ‘Wisgo’r Bywyd Newydd’ ar ôl Bedydd

“Gwisgo’r bywyd newydd.”—COL. 3:10.

CÂN 49 Llawenhau Calon Jehofa

CIPOLWG *

1. Beth yw’r prif beth sy’n dylanwadu ar ein personoliaeth?

 MAE ein meddyliau’n dylanwadu’n fawr ar ein personoliaeth. Os ydyn ni wastad yn meddwl am bethau sy’n apelio at ein chwantau drwg, byddwn ni’n gwneud ac yn dweud pethau drwg. (Eff. 4:17-19) Ond, os ydyn ni’n meddwl am bethau da, byddwn ni’n fwy tebygol o ddweud a gwneud pethau sy’n plesio ein Tad Jehofa. (Gal. 5:16) Ac rydyn ni i gyd eisiau plesio Jehofa, p’un a chawson ni ein bedyddio yn ddiweddar neu flynyddoedd yn ôl. Dyna pam mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n rheoli ein ffordd o feddwl.

2. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?

2 Y cam cyntaf a’r pwysicaf i gael gwared ar ein hen fywyd a’i ffyrdd ydy stopio siarad ac ymddwyn mewn ffordd mae Jehofa’n ei chasáu. Mae’n rhaid inni wneud hynny cyn inni gael ein bedyddio. Fel gwnaethon ni drafod yn yr erthygl gynt, er nad ydyn ni’n gallu stopio meddyliau drwg rhag codi, gallwn ni blesio Jehofa drwy beidio â gweithredu arnyn nhw. Ond mae’n rhaid inni wneud mwy. Mae’n rhaid inni ‘wisgo’r bywyd newydd’ er mwyn plesio Jehofa’n llawn. (Col. 3:10) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried beth ydy’r “bywyd newydd” a sut gallwn ni ei wisgo a pheidio â’i dynnu.

BETH YDY’R “BYWYD NEWYDD”?

3. Ar sail Galatiaid 5:22, 23, beth ydy’r “bywyd newydd,” a sut mae rhywun yn ei wisgo?

3 Mae’r “bywyd newydd” yn golygu byw a meddwl mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. Mae’n golygu personoliaeth newydd. Mae rhywun sy’n gwisgo’r bersonoliaeth newydd yn dangos ffrwyth yr ysbryd glân yn y ffordd mae’n meddwl, yn teimlo, ac yn ymddwyn. (Darllen Galatiaid 5:22, 23.) Er enghraifft, mae’n caru Jehofa a’i bobl. (Math. 22:36-39) Mae’n aros yn llawen hyd yn oed yn wyneb treialon. (Iago 1:2-4) Mae’n hyrwyddo heddwch. (Math. 5:9) Mae’n amyneddgar ac yn garedig ag eraill. (Col. 3:13) Mae’n caru beth sy’n dda ac yn gwneud beth sy’n dda. (Luc 6:35) Mae ganddo ffydd gref yn ei Dad nefol, ac mae’n profi hynny drwy ei weithredoedd. (Iago 2:18) Mae’n cadw ei ben pan fydd eraill yn ei bryfocio, ac mae’n dangos hunanreolaeth yn wyneb temtasiwn.—1 Cor. 9:25, BCND, 27; Titus 3:2.

4. Er mwyn gwisgo’r bersonoliaeth newydd, a allwn ni feithrin y rhinweddau yn Galatiaid 5:22, 23 fesul un? Esbonia.

4 Rydyn ni i gyd yn awyddus i wisgo’r bersonoliaeth newydd, ac efallai byddwn ni’n edrych ar adnodau fel Galatiaid 5:22, 23 er mwyn gwneud hynny. * Ac mae’n ddigon rhesymol inni feddwl y gallwn ni weithio ar y rhinweddau fesul un. Ond yn aml iawn, mae gwahanol rinweddau yn gweu gyda’i gilydd. Er enghraifft, os ydyn ni wir yn caru ein cymydog, mi fyddwn ni’n amyneddgar ac yn garedig tuag ato. Ac os ydyn ni eisiau bod yn berson da, mae’n rhaid inni fod yn addfwyn a dangos hunanreolaeth. Felly, dydy’r rhinweddau hyn ddim fel darnau o wisg gallwn ni eu gwisgo fesul un.

SUT GALLWN NI WISGO’R BERSONOLIAETH NEWYDD?

Y mwyaf rydyn ni’n dysgu i feddwl fel Iesu, y mwyaf llwyddiannus byddwn ni wrth efelychu ei bersonoliaeth (Gweler paragraffau 5, 8, 10, 12, 14)

5. Beth mae’n ei olygu i “weld pethau o safbwynt y Meseia,” a pham dylen ni astudio bywyd Iesu? (1 Corinthiaid 2:16)

5 Darllen 1 Corinthiaid 2:16. Er mwyn gwisgo’r bersonoliaeth newydd, mae’n rhaid inni “weld pethau o safbwynt y Meseia,” hynny ydy, dylen ni ddysgu sut mae Iesu yn meddwl ac yna ei efelychu. Pam? Oherwydd y mwyaf rydyn ni’n meddwl fel Iesu, y mwyaf byddwn ni’n ymddwyn fel Iesu. (Phil. 2:5) Wedi’r cwbl, pwy well i’w efelychu na’r un sy’n adlewyrchu rhinweddau Jehofa yn berffaith?—Heb. 1:3.

6. Pa ffeithiau dylen ni eu cofio wrth inni wisgo’r bersonoliaeth newydd?

6 Wyt ti’n hyderus y gelli di ddilyn esiampl Iesu, neu wyt ti’n poeni na fyddi di’n gallu ei efelychu am fod ei esiampl mor berffaith? Os felly, cofia’r tair ffaith hyn. Yn gyntaf, cest ti dy ddylunio i efelychu Jehofa ac Iesu, felly mae’n bosib iti eu hefelychu i ryw raddau, er dy fod ti’n amherffaith. (Gen. 1:26) Yn ail, mae gen ti rym ysbryd glân Jehofa ar dy ochr, felly does dim rhaid iti frwydro ar dy ben dy hun. Gall grym mwyaf pwerus y bydysawd dy helpu di. Yn drydydd, meddylia am beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gen ti nawr. Mae’n gofyn iti wneud dy orau a dibynnu arno am help, yn hytrach na dangos ffrwyth yr ysbryd yn berffaith. Mae Jehofa yn gwybod beth sydd o fewn ein cyrraedd ar hyn o bryd, dyna pam mae wedi neilltuo mil o flynyddoedd i’r rhai ohonon ni â’r gobaith daearol i gyrraedd perffeithrwydd.—Dat. 20:1-3.

7. Beth byddwn ni’n ei drafod nawr?

7 Mae ’na gymaint o bethau gallwn ni ddysgu o’r ffordd gwnaeth Iesu ddangos ffrwyth yr ysbryd. Wrth ystyried hynny, mae’n beth da i ofyn cwestiynau personol i ni’n hunain i weld lle rydyn ni arni a sut gallwn ni wella. Felly beth am inni wneud hynny nawr, wrth inni drafod pedair rhinwedd sy’n rhan o ffrwyth yr ysbryd.

8. Sut dangosodd Iesu gariad?

8 Roedd Iesu yn caru Jehofa a phobl yn fawr, a dangosodd y cariad hwnnw yn y ffordd aeth o gwmpas ei weinidogaeth ar y ddaear. Wrth iddo rannu newyddion da y Deyrnas, roedd yn garedig ac yn dosturiol, hyd yn oed at y rhai oedd yn ei wrthwynebu. (Luc 4:43, 44) Ond, gwnaeth ei gariad tuag at Dduw a phobl hefyd ei gymell i wneud y peth mwyaf hunanaberthol erioed: Dioddef a marw er mwyn talu’r pris uchaf inni allu byw am byth.—Ioan 14:31; 15:13.

9. Sut gallwn ni ddangos cariad fel gwnaeth Iesu?

9 Dylen ni ddangos ein bod ni’n caru Jehofa yn y ffordd rydyn ni’n trin pobl. Mae’n amlwg ein bod ni’n caru Jehofa am ein bod ni wedi cysegru ein hunain iddo a chael ein bedyddio. Ond a ydyn ni’n caru ein brodyr a chwiorydd? Ysgrifennodd yr apostol Ioan: “Os ydy rhywun ddim yn gallu caru Cristion arall mae’n ei weld, sut mae e’n gallu caru’r Duw dydy e erioed wedi ei weld?” (1 Ioan 4:20) I wybod sut rydyn ni’n gwneud yn hynny o beth, gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘Ydw i’n dangos cariad go iawn tuag at bobl? Ydw i’n garedig hyd yn oed pan fydd eraill yn anghwrtais? Ydw i’n caru pobl ddigon i ddefnyddio fy amser ac adnoddau i’w helpu nhw i ddysgu am Jehofa, hyd yn oed os dydy’r rhan fwyaf ddim yn gwrando, neu yn fy ngwrthwynebu? A alla i wneud mwy yn y gwaith pregethu?’—Eff. 5:15, 16.

10. Sut roedd Iesu yn hyrwyddo heddwch?

10 Roedd Iesu yn ddyn heddychlon. Doedd ef ddim yn gwylltio’n hawdd, nac yn talu’r pwyth yn ôl. Roedd ef yn gwybod pa mor bwysig oedd heddwch i’w berthynas â Jehofa, ac roedd yn dysgu eraill fod rhaid iddyn nhwthau gadw heddwch â’u brodyr os oedd eu haddoliad am fod yn dderbyniol i Jehofa. (Math. 5:9, 23, 24) Gwnaeth ef fwy na jest gosod esiampl. Gwnaeth ef hefyd roi cyngor pan oedd angen. Er enghraifft, pan wnaeth ef annog ei ddisgyblion i beidio â dadlau dros bwy oedd y gorau.—Luc 9:46-48; 22:24-27.

11. Sut gallwn ni hyrwyddo heddwch?

11 Mae hyrwyddo heddwch yn golygu mwy na dim ond osgoi dadleuon. Mae’n golygu ein bod ni’n cymryd y cam cyntaf i adfer heddwch ag eraill, a’n bod ni’n annog ein brodyr a chwiorydd i wneud yr un fath. (Phil. 4:2, 3; Iago. 3:17, 18) I wybod os ydyn ni’n hyrwyddo heddwch, gallwn ni ofyn cwestiynau fel hyn i ni’n hunain: ‘Faint ydw i’n fodlon aberthu er mwyn hyrwyddo heddwch ag eraill? Ydw i’n dal dig pan mae rhywun yn fy ypsetio? Ydw i’n dal fy nhir nes i’r person arall ddod ata i i adfer heddwch, neu ydw i’n cymryd y cam cyntaf, hyd yn oed os ydw i’n teimlo mai nhw sydd ar fai? Os ydw i’n sylwi bod eraill wedi ffraeo, ydw i’n eu hannog nhw i adfer heddwch pan mae’n briodol imi wneud hynny?’

12. Sut dangosodd Iesu garedigrwydd?

12 Roedd Iesu yn hynod o garedig. (Math. 11:28-30) Ond sut gwnaeth ef ddangos hynny? Ar un llaw, roedd yn addfwyn ac yn rhesymol, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd emosiynol. Er enghraifft, gwnaeth un ddynes o Phoenicia erfyn arno i iacháu ei phlentyn. Er bod Iesu wedi gwrthod i ddechrau, newidiodd ei feddwl am ei bod hi wedi dangos ffydd gref. (Math. 15:22-28) Ar y llaw arall, roedd Iesu yn gadarn ac yn barod i roi cyngor pan oedd angen. Er enghraifft, gwnaeth Iesu ddwrdio Pedr o flaen y disgyblion eraill, am fod Pedr wedi trio ei berswadio i beidio â gwneud ewyllys Duw. (Marc 8:32, 33) Efallai fod hynny ddim yn swnio’n garedig iawn, ond cariad oedd yn ei gymell. Roedd yn hyfforddi Pedr ac yn rhybuddio’r disgyblion eraill i beidio â chymryd eu bod nhw’n gwybod yn well. Felly, hyd yn oed os gwnaeth Pedr deimlo mymryn o gywilydd, yn bendant gwnaeth ef elwa o’r cyngor a theimlo bod Iesu yn ei garu.

13. Sut gallwn ni fod yn wirioneddol garedig?

13 Weithiau, mae’n garedigrwydd inni roi cyngor i rywun rydyn ni’n ei garu. Ond mae’r ffordd rydyn ni’n mynd o’i chwmpas hi yn hynod o bwysig. Mae hi wastad yn beth da i efelychu Iesu a seilio ein cyngor ar Air Duw. Dylen ni fod yn gadarn ond yn addfwyn. Dylen ni hefyd feddwl y gorau ohonyn nhw, gan drystio y byddan nhw’n ymateb yn dda i dy gyngor cariadus, am eu bod nhw’n caru Jehofa a tithau. Gallwn ni ofyn cwestiynau fel hyn i ni’n hunain, i weld os ydyn ni’n wirioneddol garedig: ‘Ydw i’n ddigon dewr i gywiro rhywun dw i’n ei garu pan mae angen? Os oes angen rhoi cyngor, ydw i’n dod drosodd yn garedig neu’n gas? Pam ydw i’n rhoi’r cyngor? Ai oherwydd ei fod wedi mynd ar fy nerfau, neu am fy mod i eisiau beth sydd orau iddo?’

14. Sut gwnaeth Iesu ddangos daioni?

14 Mae daioni yn rhinwedd sydd ond yn dod yn amlwg o’r effaith mae’n ei chael ar eraill. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid inni wneud y peth iawn yn hytrach na dim ond bod yn ymwybodol ohono. Er enghraifft, mae Iesu’n gwybod beth sy’n dda, ond am ei fod yn caru ei Dad, mae wastad yn gwneud y peth iawn gyda’r cymhelliad iawn. Gallwn ni ddangos daioni drwy helpu eraill, ond ydy hynny’n ddigon da? Meddylia am y rhai yn nyddiau Iesu oedd yn gwneud sioe o roi anrhegion i’r tlodion dim ond er mwyn cael y clod. Roedden nhw’n gwneud y peth iawn â’r cymhellion anghywir, a doedd hynny ddim yn golygu llawer i Jehofa.—Math. 6:1-4.

15. Sut gallwn ni ddangos daioni go iawn?

15 Er mwyn dangos daioni, mae’n rhaid inni wneud y peth iawn â’r cymhellion iawn. Beth am ofyn i ti dy hun: ‘Pan dw i’n gwybod beth ydy’r peth iawn i’w wneud, ydw i’n gweithredu arno? A beth sy’n fy nghymell i wneud daioni?’

SUT GALLWN NI GADW EIN PERSONOLIAETH NEWYDD MEWN CYFLWR DA?

16. Beth dylen ni ei wneud bob dydd, a pham?

16 Mae gwisgo’r bersonoliaeth newydd yn gofyn am ymdrech, hyd yn oed ar ôl bedydd. Er mwyn ei chadw mewn cyflwr da, mae’n rhaid inni barhau i feithrin a dangos ffrwyth yr ysbryd bob dydd. Pam? Oherwydd mae ysbryd Duw yn rym gweithredol, felly y mwyaf o ymdrech rydyn ni’n ei wneud i ddangos y rhinweddau hyn, y mwyaf bydd Jehofa’n ein helpu ni. (Gen. 1:2, NWT) A chofia beth ddywedodd Iago: “Mae ffydd heb weithredoedd yn farw,” a gallwn ni ddweud hynny am bob rhinwedd sy’n rhan o ffrwyth yr ysbryd. (Iago 2:26, BCND) Felly yn amlwg, mae gweithredu yn hynod o bwysig.

17. Sut dylen ni ymateb os ydyn ni’n baglu weithiau wrth ddangos ffrwyth yr ysbryd?

17 Dydy’r un ohonon ni yn dangos ffrwyth yr ysbryd yn berffaith, ni waeth pryd cawson ni ein bedyddio. Felly, paid â digalonni os wyt ti’n gwneud camgymeriad. Y peth pwysig ydy dy fod ti’n dal ati i drio gwella. Er enghraifft, meddylia am dy hoff ddilledyn. Petaset ti’n ei rwygo, fyddet ti ddim yn ei daflu’n syth. Mae’n debyg byddet ti’n trio ei drwsio a bod yn fwy gofalus o hynny ymlaen. Mewn ffordd debyg, os wyt ti wedi pechu rhywun, gall ymddiheuro drwsio’r rhwyg sydd rhyngoch chi. Ac yna bydda’n benderfynol o wneud yn well yn y dyfodol.

18. Beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

18 Felly beth rydyn ni wedi ei ddysgu? Bydd hi’n haws gwisgo’r bersonoliaeth newydd os ydyn ni’n ymddwyn fel Iesu, a bydd hi’n haws ymddwyn fel Iesu os ydyn ni’n efelychu ei ffordd o feddwl. Rydyn ni mor ddiolchgar am esiampl Iesu, sy’n ein helpu ni i ddangos ffrwyth yr ysbryd. Rydyn ni ond wedi edrych ar bedair rhinwedd sy’n rhan o ffrwyth ysbryd Duw yn yr erthygl hon. Beth am wneud astudiaeth debyg ar rinweddau eraill, i weld pa mor dda wyt ti am eu dangos? Mae ’na erthyglau ar hyn yn Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Dos i “Bywyd Cristnogol” ac yna “Ffrwyth yr Ysbryd.” Gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa yn dy helpu di i wisgo’r bersonoliaeth newydd a’i chadw ymlaen os wyt ti’n gwneud dy ran di.

CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod

^ Par. 5 Ni waeth beth yw ein cefndir, mae hi’n bosib inni wisgo’r bywyd newydd os ydyn ni’n efelychu Iesu. Ond mae’n rhaid inni ddal ati i wneud hynny a newid ein ffordd o feddwl. Felly, yn yr erthygl hon, byddwn ni’n edrych ar ffordd Iesu o feddwl ac ymddwyn, a sut medrwn ni ei efelychu hyd yn oed ar ôl inni gael ein bedyddio.

^ Par. 4 Dydy Galatiaid 5:22, 23 ddim yn rhestru pob un o’r rhinweddau gall ysbryd Duw ein helpu ni i’w meithrin. Am drafodaeth bellach, gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Mehefin 2020 y Tŵr Gwylio.