Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 14

Henuriaid—Daliwch Ati i Efelychu’r Apostol Paul

Henuriaid—Daliwch Ati i Efelychu’r Apostol Paul

“Dilynwch fy esiampl i.”—1 COR. 11:1.

CÂN 99 Miloedd ar Filoedd o Frodyr

CIPOLWG *

1-2. Sut gall esiampl yr apostol Paul helpu henuriaid heddiw?

 PAN glywodd yr henuriaid yn Effesus nad oedd yr apostol Paul am ddod yn ôl, dyma nhw’n “dechrau crio.” (Act. 20:37) Pam? Roedd Paul yn eu caru nhw’n fawr iawn ac wedi gweithio’n galed drostyn nhw. Felly roedden nhw’n mynd i’w fethu. (Act. 20:31) Mae henuriaid heddiw hefyd yn mynd allan o’u ffordd i edrych ar ein holau am eu bod nhw’n ein caru ni. (Phil. 2:16, 17) Ond, mae ’na rai heriau sy’n gyffredin iawn i’r henuriaid. Sut gallan nhw eu trechu?

2 Roedd Paul yn henuriad da, ond doedd ef ddim yn berffaith. Wynebodd lawer o heriau, gan gynnwys brwydro’n erbyn ei amherffeithion ei hun. (Rhuf. 7:18-20) Ond wnaeth ef ddim colli ei lawenydd, na rhoi’r ffidil yn y to. Gad inni weld sut gall henuriaid efelychu Paul a dal ati yn llawen yng ngwasanaeth Jehofa er gwaethaf heriau.—1 Cor. 11:1.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedair her sy’n gyffredin i henuriaid: (1) cael cydbwysedd rhwng eu gwaith pregethu a’u cyfrifoldebau eraill, (2) bod yn fugeiliaid cariadus, (3) ymdopi â’u hamherffeithion eu hunain, a (4) ymdopi ag amherffeithion pobl eraill. Byddwn ni’n trafod sut gwnaeth Paul drechu’r heriau hyn, a sut gall henuriaid ddilyn ei esiampl.

CAEL CYDBWYSEDD RHWNG Y GWAITH PREGETHU A CHYFRIFOLDEBAU ERAILL

4. Pam gallai hi fod yn her i’r henuriaid gymryd y blaen yn y gwaith pregethu?

4 Pam mae’n gallu bod yn her? Mae gan henuriaid lawer iawn o gyfrifoldebau. Meddylia am rai o’r pethau maen nhw’n eu gwneud. Maen nhw’n rhoi anerchiadau, yn cymryd eu tro yn cadeirio’r cyfarfod canol wythnos, neu’n arwain Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa. Maen nhw’n hyfforddi’r gweision gweinidogaethol, ac yn annog ac yn calonogi’r brodyr a chwiorydd. (1 Pedr 5:2) Mae rhai henuriaid hefyd yn helpu i adeiladu a chynnal adeiladau theocrataidd. Ond ar ddiwedd y dydd, fel pob cyhoeddwr arall, y gwaith pregethu ydy’r aseiniad pwysicaf iddyn nhw, ac mae’r henuriaid yn cymryd y blaen yn hynny o beth.—Math. 28:19, 20.

5. Sut fath o esiampl gwnaeth Paul ei gosod yn y gwaith pregethu?

5 Beth wnaeth Paul? Gwnaeth Paul ddilyn ei gyngor ei hun drwy “ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.” (Phil. 1:10) Gwnaeth ef flaenoriaethu ei aseiniad i bregethu. Sylweddolodd mai dyna oedd y gwaith pwysicaf, ac roedd hynny’n allweddol i’w lwyddiant. Felly, am ddegawdau, gwnaeth ef bregethu’n gyhoeddus, ac “o un tŷ i’r llall.” (Act. 20:20) Hyd yn oed tra oedd ef yn disgwyl am ei ffrindiau yn Athen, gwelodd gyfle i bregethu i bobl bwysig, a daeth canlyniadau da o hynny. (Act. 17:16, 17, 34) Wnaeth hyd yn oed ei amser “yn y carchar” ddim ei stopio rhag pregethu i’r bobl o’i gwmpas. (Phil. 1:13, 14; Act. 28:16-24) Yn amlwg, roedd gan Paul rwtîn da yn ei weinidogaeth, ond roedd yn hyblyg. Wnaeth ef ddim glynu at yr un dyddiau nac oriau i bregethu. Cymerodd bob cyfle.

6. Beth wnaeth Paul hyfforddi eraill i’w wneud?

6 Gwnaeth Paul ddefnydd doeth o’i amser yn y weinidogaeth drwy hyfforddi eraill ar yr un pryd. Er enghraifft, gwnaeth ef hyfforddi Ioan Marc ar ei daith genhadol gyntaf, a Timotheus ar ei ail. (Act. 12:25; 16:1-4) Mae’n debyg gwnaeth Paul ddysgu iddyn nhw sut i drefnu a bugeilio cynulleidfa, a sut i fod yn athrawon gwell.—1 Cor. 4:17.

Efelycha Paul drwy fod yn barod i dystiolaethu (Gweler paragraff 7) *

7. Sut gall henuriaid ddilyn cyngor Paul yn Effesiaid 6:14, 15?

7 Beth ydy’r wers? Gall henuriaid efelychu Paul drwy fod yn barod i fanteisio ar bob cyfle i bregethu. (Darllen Effesiaid 6:14, 15.) Mae hynny’n golygu gwneud mwy na mynd o ddrws i ddrws yn unig. Gallan nhw hefyd bregethu yn eu gweithle, neu wrth siopa. Hyd yn oed tra maen nhw’n gweithio ar brosiectau adeiladu theocrataidd, gallan nhw rannu’r newyddion da â chymdogion a chontractwyr. Gall henuriaid hefyd efelychu Paul drwy ddefnyddio eu hamser yn y weinidogaeth i hyfforddi eraill, gan gynnwys gweision gweinidogaethol.

8. Beth bydd rhaid i henuriad ei wneud weithiau?

8 Mae henuriaid mor brysur, mae’n ddigon hawdd iddyn nhw ymgolli yn eu gwaith ar gyfer y gynulleidfa neu’r gylchdaith. Os nad ydyn nhw’n ofalus, gall y pethau pwysicach, fel addoliad teuluol, y weinidogaeth, a dysgu eu plant i bregethu gael eu gwthio i’r neilltu. Beth all eu helpu nhw i gadw cydbwysedd? Bydd gweddi yn eu helpu nhw i bwyso a mesur a fyddan nhw’n gallu rhoi’r sylw iawn i bopeth. Weithiau bydd rhaid dweud na wrth rai aseiniadau newydd. Os wyt ti fel henuriad yn ei chael hi’n anodd gwneud hynny weithiau, cofia fod Jehofa yn deall dy angen i gadw cydbwysedd er mwyn gofalu am dy gyfrifoldebau’n dda.

BOD YN FUGAIL CARIADUS

9. Pa her mae henuriaid prysur yn ei hwynebu?

9 Pam mae’n gallu bod yn her? Rydyn ni’n byw yn y dyddiau diwethaf, felly rydyn ni i gyd yn wynebu problemau a chyfnodau anodd, yn ogystal â brwydro yn erbyn amherffeithrwydd. Mae Jehofa wedi rhoi’r cyfrifoldeb i’r henuriaid i wneud beth allan nhw i’n hannog, cefnogi, cysuro, a hyd yn oed ein cywiro ni. (1 Thes. 5:14) Er nad ydyn nhw’n gallu cael gwared ar ein treialon i gyd, mae’r henuriaid yn gweithio’n galed i ofalu am y gynulleidfa a’i hamddiffyn. Felly sut gallan nhw ffeindio’r amser i’n helpu ni, a nhwthau eisoes mor brysur?

Anoga eraill a’u canmol (Gweler paragraffau 10, 12) *

10. Sut gwnaeth Paul ofalu am bobl Jehofa? (1 Thesaloniaid 2:7b)

10 Beth wnaeth Paul? Roedd Paul yn ffrind i’r rhai yn ei gynulleidfa. Roedd yn eu canmol a’u hannog nhw wrth dreulio amser gyda nhw, a dangosodd ei fod yn eu trystio nhw drwy siarad yn agored am ei bryderon a’i wendidau ei hun. (2 Cor. 7:5; 1 Tim. 1:15) Ond llwyddodd Paul i wneud hynny heb dynnu sylw ato’i hun. Ei brif nod oedd helpu ei frodyr a’i chwiorydd. Yn bendant, roedd y gynulleidfa yn teimlo bod Paul yn eu caru nhw, a bod Jehofa’n eu caru nhw hefyd. (2 Cor. 2:4; Eph. 2:4, 5) Yn syml, gall henuriaid heddiw efelychu Paul drwy fod yn garedig a dangos eu bod nhw’n caru’r rhai yn y gynulleidfa.—Darllen 1 Thesaloniaid 2:7b.

11. Beth oedd yn cymell Paul i roi cyngor i’w frodyr a chwiorydd?

11 O bryd i’w gilydd, roedd Paul angen rhoi cyngor i’w frodyr a chwiorydd. Ond doedd ef byth yn gwneud hynny am eu bod nhw’n mynd ar ei nerfau. Felly beth oedd yn ei gymell? Cariad, a’r awydd i’w hamddiffyn nhw. Daeth hynny drosodd yn y ffordd roedd yn rhoi cyngor. Roedd ef wastad yn trio gwneud ei gyngor yn hawdd ei ddeall, ac yn poeni am sut effaith byddai yn ei chael ar y gynulleidfa. Er enghraifft, meddylia am yr adeg gwnaeth Paul anfon Titus at y Corinthiaid i weld sut roedden nhw wedi ymateb i’w lythyr. Roedd wrth ei fodd o glywed eu bod nhw wedi derbyn y cyngor cryf ynddo ac wedi ei roi ar waith! (2 Cor. 7:6, 7) Onid ydy hynny’n dweud cyfrolau?

12. Sut gall henuriaid atgyfnerthu eu brodyr a’u chwiorydd?

12 Beth ydy’r wers? Fel Paul, gall henuriaid heddiw wneud yr amser i atgyfnerthu’r gynulleidfa. Yn aml, bydd sgwrs sydd ond yn para ychydig o funudau yn ddigon i godi calon. Beth am fanteisio ar yr amser cyn ac ar ôl y cyfarfod i wneud hynny? Gall cyrraedd yn fuan helpu yn hyn o beth. (Rhuf. 1:12; Eff. 5:16) Roedd brodyr a chwiorydd Paul yn gwybod ei fod yn eu caru nhw, a bod Jehofa’n eu caru nhw hefyd. Gall henuriaid heddiw gael yr un effaith ar eu brodyr a chwiorydd drwy dreulio amser gyda nhw a defnyddio Gair Duw i’w cryfhau nhw. Mae’r henuriaid hefyd yn cymryd pob cyfle i ganmol eu brodyr a chwiorydd. Ond pan fydd rhaid rhoi cyngor, bydd yr henuriaid yn gwneud hynny ar sail Gair Duw, ac mewn ffordd garedig a phenodol, er mwyn i’r cyngor fod yn hawdd i’w dderbyn.—Gal. 6:1.

YMDOPI Â’U HAMHERFFEITHION EU HUNAIN

13. Pa effaith gall gwendidau personol ei chael ar henuriaid?

13 Pam mae’n gallu bod yn her? Fel pawb arall, mae’r henuriaid yn amherffaith ac yn gwneud camgymeriadau. (Rhuf. 3:23) Ond yr her ydy cadw agwedd gytbwys tuag at eu gwendidau. Mae rhai yn rhy galed ar eu hunain ac felly’n digalonni’n llwyr. Ar y llaw arall, mae rhai yn cydnabod eu gwendidau, ond yn gwneud esgusodion yn hytrach nag ymdrech i wella.

14. Yn ôl Philipiaid 4:13, sut gwnaeth gostyngeiddrwydd helpu Paul i ymdopi â’i wendidau?

14 Beth wnaeth Paul? Yn gyntaf, meddylia am ei gefndir. Roedd ef yn bengaled, ac yn arfer erlid y Cristnogion yn ddidrugaredd. Ymhen amser, gwnaeth ef sylweddoli ei fod angen newid ei agwedd a’i bersonoliaeth. (1 Tim. 1:12-16) Ond gwnaeth ef hefyd gydnabod yn ostyngedig na fyddai’n gallu gwneud hynny ar ei ben ei hun. Byddai ond yn gallu newid gyda nerth Duw. Er ei fod yn teimlo’n ofnadwy am ei amherffeithion a’i gamgymeriadau, gwnaeth ef ddewis trystio bod Jehofa wedi maddau iddo yn hytrach na chanolbwyntio ar ei wendidau. (Rhuf. 7:21-25) Doedd ef ddim yn rhoi pwysau arno’i hun i fod yn berffaith. Gwnaeth ef ddibynnu yn ostyngedig ar Jehofa am help i newid ei bersonoliaeth ac i wneud ei waith. Drwy wneud hynny, daeth yn fugail cariadus.—1 Cor. 9:27; darllen Philipiaid 4:13, BCND.

Gweithia’n galed i drechu dy wendidau (Gweler paragraffau 14-15) *

15. Sut gall henuriaid gael agwedd gytbwys tuag at eu hamherffeithion eu hunain?

15 Beth ydy’r wers? Dydy henuriaid ddim yn berffaith. Ond mae Jehofa’n disgwyl eu bod nhw’n cyfaddef eu camgymeriadau a thrio eu gorau i feithrin rhinweddau Cristnogol. (Eff. 4:23, 24) Felly, dylai pob henuriad astudio’r Beibl yn bersonol i weld lle mae ef angen gwella. Drwy wneud hynny, bydd Jehofa yn ei helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn llwyddo fel henuriad a bod yn hapus.—Iago 1:25.

YMDOPI AG AMHERFFEITHION POBL ERAILL

16. Beth allai ddigwydd petai henuriaid yn canolbwyntio ar amherffeithion pobl eraill?

16 Pam mae’n gallu bod yn her? Am fod yr henuriaid yn gweithio mor agos gyda’r gynulleidfa, yn aml iawn mae gwendidau eu brodyr a chwiorydd yn dod yn amlwg. Byddai’n hawdd iawn gadael i’r pethau hynny fynd o dan eu croen, a’u troi nhw’n flin ac yn feirniadol. Ond fel dywedodd Paul, dyna’n union mae Satan eisiau.—2 Cor. 2:10, 11.

17. Pa agwedd oedd gan Paul tuag at ei frodyr a chwiorydd?

17 Beth wnaeth Paul? Roedd ef wastad yn gweld y da yn ei frodyr a chwiorydd. Doedd ef ddim yn ddall i’w camgymeriadau—cafodd ei effeithio’n bersonol gan rai ohonyn nhw. Ond roedd ef yn deall y gwahaniaeth rhwng ymddygiad drwg a phobl ddrwg. Os oedd ef yn gweld bod ei frodyr a chwiorydd yn cael trafferth gwneud y peth iawn, roedd yn dewis meddwl bod yr awydd i wneud y peth iawn yn dal yno, a’u bod nhw jest angen help. Gwnaeth Paul hyn i gyd allan o gariad tuag at ei frodyr a chwiorydd.

18. Beth rwyt ti wedi ei ddysgu o’r ffordd gwnaeth Paul helpu Euodia a Syntyche? (Philipiaid 4:1-3)

18 Meddylia am sut gwnaeth Paul helpu dwy chwaer yng nghynulleidfa Philipi. (Darllen Philipiaid 4:1-3.) Roedd pethau wedi mynd yn ddrwg rhwng Euodia a Syntyche, ond wnaeth Paul ddim canolbwyntio ar y ddadl. Gwelodd y da yn y ddwy chwaer; cofiodd eu bod nhw wedi gwasanaethu’n ffyddlon a bod Jehofa’n eu caru nhw. A dyna yn y pen draw wnaeth gymell Paul i helpu’r chwiorydd i ddatrys y broblem, a hynny mewn ffordd garedig a heb eu beirniadu nhw. Oherwydd ei agwedd bositif, llwyddodd i gadw ei lawenydd yn ogystal â’i berthynas agos â’r rhai yn y gynulleidfa.

Paid â bod yn feirniadol o eraill (Gweler paragraff 19) *

19. (a) Sut gall henuriaid gadw agwedd bositif tuag at eu brodyr a chwiorydd? (b) Beth gelli di ei ddysgu o’r llun o’r henuriad yn glanhau Neuadd y Deyrnas?

19 Beth ydy’r wers? Rydyn ni i gyd yn amherffaith, ond mae ’na rywbeth i’w edmygu ym mhob un ohonon ni. Felly os wyt ti’n henuriad, edrycha ar ochr dda dy frodyr a chwiorydd. (Phil. 2:3, Beibl Cysegr-lân) Mae’n wir bydd rhaid rhoi cyngor i dy frodyr a chwiorydd o bryd i’w gilydd, ond paid â gadael i’w ffaeleddau fynd o dan dy groen. Edrycha y tu hwnt i hynny, a chanolbwyntio ar gymaint mae’r person hwnnw yn caru Jehofa ac yn dal ati yn ei wasanaeth. A phaid ag anghofio eu potensial i wneud pethau da. Mae henuriaid sy’n dangos agwedd bositif tuag at eu brodyr a chwiorydd yn cyfrannu at awyrgylch cynnes a braf yn y gynulleidfa.

DALIWCH ATI I EFELYCHU PAUL

20. Sut gall henuriaid barhau i elwa o esiampl Paul?

20 Byddwch chi henuriaid ar eich ennill o ddysgu mwy am esiampl Paul. Er enghraifft, yn y Watch Tower Publications Index Saesneg, edrychwch o dan y pennawd Paul,” ac yna’r isbennawd, “example for elders.” Wrth ichi ddarllen y deunydd, gofynnwch i chi’ch hunain, ‘Sut gall esiampl Paul fy helpu i i gadw fy llawenydd yn fy aseiniad fel henuriad?’

21. Beth gall henuriaid fod yn sicr ohono?

21 Henuriaid, cofiwch fod Jehofa ddim yn gofyn ichi fod yn berffaith; mae’n gofyn ichi fod yn ffyddlon. (1 Cor. 4:2) Yn union fel gwnaeth Jehofa werthfawrogi gwaith caled Paul a’i ffyddlondeb, gallwch chi fod yn sicr fod Jehofa hefyd yn gwerthfawrogi gwaith caled a ffyddlondeb pob un ohonoch chi. Fel mae Hebreaid 6:10 yn ei ddweud, fydd Jehofa byth yn “anghofio beth dych chi wedi’i wneud. Dych chi wedi dangos eich cariad ato drwy helpu Cristnogion eraill. A dych chi’n dal i wneud hynny!”

CÂN 87 Dere! Cei Di Dy Adfywio!

^ Par. 5 Mae’r henuriaid yn gweithio’n galed iawn droston ni, ac rydyn ni’n hynod o ddiolchgar iddyn nhw am wneud hynny. Ond, maen nhw’n wynebu heriau. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedair ohonyn nhw, a sut gall esiampl yr apostol Paul helpu’r henuriaid i’w trechu. Bydd yr erthygl hon hefyd yn helpu’r gweddill ohonon ni i ddangos empathi a chariad tuag at ein henuriaid a’u cefnogi.

^ Par. 61 DISGRIFIAD O’R LLUN: Wrth i frawd adael ei waith, mae’n rhannu’r newyddion da â chyd-weithiwr.

^ Par. 63 DISGRIFIAD O’R LLUN: Henuriad caredig yn helpu brawd sy’n dueddol o ynysu ei hun.

^ Par. 65 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn rhoi cyngor ymarferol i rywun sydd wedi ypsetio am rywbeth.

^ Par. 67 DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae henuriad yn gweld bod rhywun ddim yn talu sylw i dasg roedd ef wedi gwirfoddoli i’w gwneud, ond dydy ef ddim yn ei feirniadu.