Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Ymdopi â Phryder

Sut i Ymdopi â Phryder

MAE pryder yn gallu llethu rhywun yn llwyr. (Diar. 12:25) Wyt ti erioed wedi teimlo hynny yn dy fywyd di? Wyt ti hyd yn oed wedi meddwl, ‘Alla i ddim dioddef mwy o hyn’? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Mae llawer ohonon ni wedi teimlo ein bod ni wedi blino’n lân, yn llawn pryder, neu’n isel ein hysbryd oherwydd gwahanol sefyllfaoedd. Er enghraifft, mae rhai yn gofalu am rywun sâl yn y teulu, neu wedi colli anwylyn, ac mae eraill wedi dioddef oherwydd trychineb naturiol. Beth all ein helpu ni i ymdopi â phryder? a

Gwnaeth y Brenin Dafydd wynebu llawer o sefyllfaoedd anodd. Gwnaeth ef hyd yn oed ofni am ei fywyd ar adegau. Felly, mae ’na lawer gallwn ni ei ddysgu o esiampl Dafydd am sut i ddelio â phryder. (1 Sam. 17:34, 35; 18:10, 11) Beth wnaeth ei helpu i ymdopi â phryder, a sut gallwn ni ddilyn ei esiampl?

BETH HELPODD DAFYDD I DDELIO Â PHRYDER?

Wynebodd Dafydd lawer o heriau ar yr un pryd. Er enghraifft, ystyria beth ddigwyddodd pan oedd Dafydd yn dal i ffoi oddi wrth y Brenin Saul. Pan ddaeth Dafydd a’i ddynion yn ôl i Ziklag ar ôl brwydr, cawson nhw sioc—roedd rhai o’u gelynion wedi dwyn oddi arnyn nhw, wedi llosgi eu tai, ac wedi cipio eu teuluoedd. Sut gwnaeth Dafydd ymateb? “Dyma Dafydd a’i ddynion yn dechrau crio’n uchel nes eu bod nhw’n rhy wan i grio ddim mwy.” Ar ben hynny, roedd rhai o’i ddynion yn “bygwth taflu cerrig ato i’w ladd.” (1 Sam. 30:1-6) Felly, roedd gan Dafydd dair problem ddifrifol ar yr un pryd: Roedd ei deulu mewn peryg, roedd ei ddynion yn bygwth ei ladd, ac roedd ef yn dal i ffoi oddi wrth y Brenin Saul. Dychmyga’r pryder roedd Dafydd yn ei deimlo!

Beth ddigwyddodd nesaf? “Cafodd Dafydd nerth gan yr ARGLWYDD ei Dduw.” Beth efallai a wnaeth Dafydd er mwyn cael y nerth hwnnw? Mae’n debyg gwnaeth ef beth roedd wedi arfer ei wneud, sef gweddïo ar Jehofa ar unwaith am help, a myfyrio ar sut roedd Ef wedi ei helpu yn y gorffennol. (1 Sam. 17:37; Salm 18:2, 6) Gwelodd Dafydd ei fod angen arweiniad Jehofa, felly holodd Jehofa ynglŷn â beth i’w wneud. Ar ôl cael ateb ganddo, gwnaeth ef weithredu’n syth, a chafodd ef a’i ddynion eu bendithio. Hefyd, gwnaethon nhw lwyddo i achub eu teuluoedd a chael eu heiddo yn ôl. (1 Sam. 30:7-9, 18, 19) A wnest ti sylwi ar y tri pheth wnaeth Dafydd? Gweddïodd ar Jehofa am help, myfyriodd ar sut roedd Jehofa wedi ei helpu yn y gorffennol, a gweithredodd ar arweiniad Jehofa. Gad inni ystyried tair ffordd gallwn ni efelychu Dafydd.

EFELYCHA DAFYDD PAN FYDDI DI’N PRYDERU

1. Gweddïa. Gallwn ni weddïo ar Jehofa am help a doethineb bryd bynnag rydyn ni’n teimlo’n bryderus. Os ydyn ni’n tywallt ein calon iddo, ac yn dweud wrtho bopeth sy’n ein poeni ni, gall hynny ein helpu ni i deimlo’n well. Neu, gallwn ni ofyn gweddi fer a distaw, os mai dyna ydy’r gorau gallwn ni ei wneud yn ein hamgylchiadau ar y pryd. Bob tro rydyn ni’n gofyn i Jehofa am help, rydyn ni’n dangos bod gynnon ni gymaint o hyder ynddo ag oedd gan Dafydd, a dywedodd: “Mae’r ARGLWYDD fel craig i mi, yn gastell ac yn achubwr. Mae fy Nuw yn graig i mi lechu dani.” (Salm 18:2) Ond ydy gweddi yn gweithio? Meddylia am beth ddywedodd arloeswraig o’r enw Kahlia: “Ar ôl gweddïo, dw i’n teimlo ton o heddwch yn dod drosto i. Mae gweddi’n fy helpu i i efelychu ffordd Jehofa o feddwl ac i’w drystio yn fwy byth.” Mae gweddi yn rymus ac yn gallu ein helpu ni i ymdopi â phryder. Onid ydy hynny’n rhodd hyfryd oddi wrth Jehofa?

2. Myfyria. Wrth iti edrych yn ôl ar dy fywyd, a elli di feddwl am dreialon fyddet ti byth wedi gallu eu trechu heb help Jehofa? Os wyt ti’n myfyrio ar hynny, ac ar sut mae Jehofa wedi helpu ei weision yn y gorffennol, byddi di’n ennill heddwch mewnol ac yn dod i drystio Jehofa yn fwy byth. (Salm 18:17-19) Ystyria un ffordd gelli di wneud hynny. Dywedodd un henuriad, o’r enw Joshua, “Dw i wedi creu rhestr o weddïau mae Jehofa wedi eu hateb. Mae hynny’n fy atgoffa i o’r adegau wnes i ofyn i Jehofa am bethau penodol a chael union yr ateb o’n i ei angen.” Felly, pan ydyn ni’n myfyrio ar yr holl adegau mae Jehofa wedi ein helpu ni yn y gorffennol, cawn y nerth rydyn ni ei angen i frwydro yn erbyn pryder.

3. Gweithreda. Mae’r cyngor gorau yn dod o’r Beibl, felly mae’n beth doeth inni droi at Air Duw am arweiniad cyn inni benderfynu sut i ddatrys problem. (Salm 19:7, 11) Ond er mwyn deall sut i roi cyngor ar waith yn ein bywydau, yn aml bydd rhaid inni wneud ymchwil. Mae geiriau henuriad o’r enw Jarrod yn ategu hynny. Dywedodd: “Pan dw i’n gwneud ymchwil, dw i’n dysgu mwy am yr adnod ac yn gallu deall beth mae Jehofa yn ei ddweud wrtho i. Wedyn mae’n cyrraedd fy nghalon a dw i’n gallu gweithredu ar ei arweiniad.” Felly, os ydyn ni’n chwilio am arweiniad Jehofa yn y Beibl, ac yn ei roi ar waith, bydd hi’n haws inni gael heddwch a llawenydd pan fyddwn ni’n pryderu.

BYDD JEHOFA YN DY HELPU DI I LWYDDO

Roedd Dafydd yn gwybod yn iawn ei fod angen help Jehofa er mwyn ymdopi â’i bryderon, ac roedd yn gwerthfawrogi hynny’n fawr iawn. Felly, dywedodd: “Gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw! . . . Fe ydy’r Duw sy’n rhoi nerth i mi.” (Salm 18:29, 32) Efallai weithiau rydyn ni’n teimlo bod ein heriau yn debyg i wal sy’n rhy uchel i’w dringo. Ond gyda help Jehofa, gallwn ni drechu unrhyw her! Pan ydyn ni’n gweddïo ar Jehofa am help, yn myfyrio ar beth mae ef wedi ei wneud droston ni, ac yn gweithredu ar ei arweiniad, gallwn ni fod yn hyderus y bydd ef yn rhoi’r nerth a’r doethineb rydyn ni ei angen er mwyn ymdopi â’n pryderon!

a Efallai bydd rhywun sy’n dioddef o bryder difrifol angen help meddygol.