Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 17

Famau—Dysgwch Oddi Wrth Esiampl Eunice

Famau—Dysgwch Oddi Wrth Esiampl Eunice

“Paid anghofio beth ddysgodd dy fam i ti. Bydd . . . fel torch hyfryd ar dy ben, neu gadwyni hardd am dy wddf.”—DIAR. 1:8, 9.

CÂN 137 Gwragedd Ffyddlon, Chwiorydd Cristnogol

CIPOLWG a

Eunice, mam Timotheus, a Lois, ei nain, wedi gwirioni wrth wylio Timotheus yn cael ei fedyddio (Gweler paragraff 1)

1-2. (a) Pwy oedd Eunice, a pha her gwnaeth hi ei hwynebu fel mam? (b) Rho sylwad ar y llun ar y clawr.

 ER NAD ydy’r Beibl yn disgrifio bedydd Timotheus, mae’n hawdd dychmygu pa mor hapus oedd Eunice, ei fam, ar y diwrnod hwnnw. (Diar. 23:25) Dychmyga ei llygaid yn disgleirio â balchder wrth iddi weld Timotheus yn sefyll yn y dŵr, a’i gwên wrth i Lois, nain Timotheus, roi cwtsh bach iddi. Pan mae Timotheus yn mynd o dan y dŵr, mae Eunice yn dal ei gwynt hefyd. Ac wrth iddo godi o’r dŵr yn wên i gyd, mae ei dagrau’n dechrau llifo. Roedd Eunice wedi llwyddo i ddysgu ei mab i garu Jehofa ac Iesu Grist. Ond pa heriau oedd rhaid iddi eu trechu ar hyd y ffordd?

2 Doedd pawb yn nheulu Timotheus ddim yn rhannu yr un grefydd. Roedd ei dad yn Roegwr, a’i fam a’i nain yn Iddewon. (Act. 16:1) Mae’n debyg roedd Timotheus yn ei arddegau pan ddaeth Eunice a Lois yn Gristnogion. Ond wnaeth hynny ddim newid y ffaith bod ’na ddwy grefydd yn y tŷ. Beth byddai Timotheus yn ei wneud? Mae’n debyg roedd ef yn ddigon hen i benderfynu drosto’i hun pa grefydd byddai’n ei dilyn. A fyddai’n ochri â chrefydd ei dad, yn glynu wrth draddodiadau Iddewig ei blentyndod, neu a fyddai’n dilyn Iesu Grist?

3. Yn ôl Diarhebion 1:8, 9, sut mae Jehofa yn teimlo am y gwaith mae mamau yn ei wneud i helpu eu plant i ddod yn ffrindiau iddo?

3 Mae mamau Cristnogol heddiw hefyd yn caru eu teuluoedd ac eisiau helpu eu plant i feithrin perthynas agos â Jehofa. Mae Jehofa yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr iawn. (Darllen Diarhebion 1:8, 9.) Ac mae wedi helpu llawer o famau i ddysgu eu plant i’w garu a’i wasanaethu.

4. Pa heriau mae mamau yn eu hwynebu heddiw?

4 Mae rhieni yn ymwybodol iawn bod system Satan yn rhoi pwysau mawr ar eu plant, felly mae’n naturiol i famau boeni a fydd eu plant yn dewis gwasanaethu Jehofa—fel gwnaeth Timotheus—neu ddim. (1 Pedr 5:8) Mae gan lawer o famau yr her ychwanegol o fagu eu plant fel rhiant sengl, neu gyda gŵr sydd ddim yn addoli Jehofa. Er enghraifft, dywedodd chwaer o’r enw Christine: b “Roedd fy ngŵr yn ddyn da, ac yn caru’r plant. Ond doedd e bendant ddim eisiau imi eu magu nhw fel Tystion Jehofa. Dw i wedi llefain llawer o weithiau dros y blynyddoedd, yn meddwl sut yn y byd byddai fy mhlant yn dod i nabod Jehofa yn iawn.”

5. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

5 Os wyt ti’n fam Gristnogol, gelli di lwyddo fel gwnaeth Eunice. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gelli di efelychu ei hesiampl, gan ddysgu dy blant drwy beth rwyt ti’n ei ddweud ac yn ei wneud. Byddwn ni hefyd yn gweld sut bydd Jehofa yn dy helpu di.

DYSGA DY BLANT DRWY BETH RWYT TI’N EI DDWEUD

6. Yn ôl 2 Timotheus 3:14, 15, sut daeth Timotheus yn Gristion?

6 Ers oedd Timotheus yn fachgen, gwnaeth ei fam ei gorau i ddysgu’r “ysgrifau sanctaidd” iddo. Wrth gwrs, roedd hi’n Iddewes ar y pryd, felly doedd hi ddim yn gwybod am Iesu. Ond roedd yr hyn roedd hi wedi dysgu iddo wedi gosod sylfaen Ysgrythurol iddo allu derbyn Cristnogaeth yn y dyfodol. Ond a fyddai Timotheus yn gwneud hynny? Ac yntau bellach yn ddyn ifanc, roedd ganddo’r hawl i ddewis a fyddai’n dod yn Gristion neu ddim. Yn y pen draw, roedd Timotheus yn “gwybod yn iawn” mai’r hyn roedd ef wedi dysgu am Iesu oedd y gwir. Mae’n debyg fod ymdrechion ei fam wedi cyfrannu at hynny. (Darllen 2 Timotheus 3:14, 15.) Mae’n rhaid roedd Eunice mor falch ei bod hi wedi dysgu ei mab am Jehofa, er gwaethaf yr heriau! Fel mae’n digwydd, mae enw Eunice yn golygu “trechu,” a dyna’n union beth wnaeth hi—gwnaeth hi drechu’r heriau.

7. Sut gallai Eunice helpu ei mab i wneud cynnydd ar ôl bedydd?

7 Wnaeth pryderon Eunice ddim dod i ben unwaith i Timotheus gael ei fedyddio. Mae’n debyg roedd hi’n dal yn poeni beth byddai ei mab yn ei wneud gyda gweddill ei fywyd. A fyddai’n cadw cwmni drwg? A fyddai’n mynd i ysgol yn Athen a dechrau credu dysgeidiaethau paganaidd yr athronwyr yno? A fyddai’n gwastraffu ei amser, ei egni, a’i ieuenctid drwy chwilio am gyfoeth? Allai Eunice ddim gwneud penderfyniadau dros Timotheus. Felly, sut gallai hi ei helpu? Roedd hi’n dal yn gallu dysgu ei mab i garu Jehofa, ac i werthfawrogi popeth roedd Jehofa ac Iesu wedi ei wneud drostyn nhw fel teulu. Ond does dim angen bod mewn tŷ rhanedig i wynebu heriau o’r fath. Hyd yn oed os ydy’r ddau riant yn y gwir, gall fod yn anodd dysgu’r plant i garu Jehofa. Beth gall rhieni ei ddysgu o esiampl Eunice?

8. Sut gall mam sydd â gŵr sydd yn y gwir ei helpu i ofalu am anghenion ysbrydol eu plant?

8 Astudia’r Beibl gyda dy blant. Os oes gen ti ŵr sydd yn y gwir, mae Jehofa eisiau iti ei helpu i ofalu am anghenion ysbrydol dy blant. Mae addoliad teuluol yn gyfle da i wneud hynny. Cefnoga’r trefniant yn rheolaidd, a siarada’n bositif amdano. Meddylia am sut gelli di greu awyrgylch cynnes a braf. A beth am helpu dy ŵr i baratoi prosiect neu weithgaredd arbennig fydd yn apelio at eich plant? Hefyd, os ydy eich plant yn ddigon hen i elwa o gael astudiaeth Feiblaidd bersonol yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! gallet ti a dy ŵr rannu’r cyfrifoldeb honno.

9. Lle gall mamau sydd â gŵr sydd ddim yn y gwir gael help?

9 Mae rhai mamau angen cymryd y blaen yn astudio’r Beibl gyda’u plant, un ai am eu bod nhw’n rhieni sengl, neu am fod eu gwŷr ddim yn y gwir. Os ydy hynny’n wir yn dy achos di, paid â phoeni gormod. Bydd Jehofa yn dy helpu di. Mae ef wedi rhoi adnoddau bendigedig drwy ei gyfundrefn i dy helpu di i astudio gyda dy blant. Beth am ofyn i rieni profiadol am syniadau newydd ar sut i ddefnyddio’r adnoddau hynny yn eich addoliad teuluol? c (Diar. 11:14) Gelli di hefyd weddïo ar Jehofa am help i gyfathrebu’n dda gyda dy blant er mwyn ffeindio allan beth maen nhw wir yn ei feddwl, a sut maen nhw’n teimlo. (Diar. 20:5) Gall cwestiwn syml fel, ‘Beth ydy’r her fwyaf iti yn yr ysgol?’ arwain at sgwrs agored.

10. Beth arall gelli di ei wneud i helpu dy blant i ddysgu am Jehofa?

10 Chwilia am wahanol ffyrdd i ddysgu dy blant am Jehofa. Siarada am Jehofa, a’r holl bethau da mae ef wedi eu gwneud drostot ti. (Deut. 6:6, 7; Esei. 63:7) Mae hyn yn arbennig o bwysig os na elli di astudio’n rheolaidd gyda dy blant yn y tŷ, fel oedd yn wir yn achos Christine, gwnaethon ni ddyfynnu ynghynt. Dywedodd hi: “Doeddwn i ddim yn cael llawer o gyfle i siarad am bethau ysbrydol gyda fy mhlant yn y tŷ. Felly, roedden ni’n mynd mas am dro, neu ar y llyn, er mwyn siarad am greadigaeth Jehofa a phethau ysbrydol eraill. Ac unwaith oedden nhw’n ddigon hen, wnes i annog fy mhlant i astudio’r Beibl ar eu pennau eu hunain.” A elli di greu’r amser i siarad yn rhydd gyda dy blant am bethau ysbrydol? Cofia hefyd i siarad yn bositif am gyfundrefn Jehofa a dy frodyr a chwiorydd, yn enwedig yr henuriaid. Mae’r ffordd rwyt ti’n siarad am yr henuriaid yn dylanwadu ar dy blant. Bydd dy blant un ai’n troi at yr henuriaid am help, neu’n eu hosgoi nhw’n llwyr, ar sail y barn maen nhw wedi ei ffurfio.

11. Yn ôl Iago 3:18, pam mae hi’n bwysig i hyrwyddo heddwch yn y cartref?

11 Hyrwydda heddwch yn y cartref. Dyweda’n aml wrth dy ŵr a dy blant gymaint rwyt ti’n eu caru nhw. Siarada am dy ŵr mewn ffordd garedig a pharchus, a dysga dy blant i wneud yr un fath. Drwy wneud hynny, byddi di’n creu awyrgylch heddychlon yn y cartref fydd yn ei gwneud hi’n haws i dy blant ddysgu am Jehofa. (Darllen Iago 3:18.) Ystyria esiampl Jozsef, sydd bellach yn arloeswr arbennig yn Rwmania. Pan oedd ef yn blentyn, roedd ei dad yn ei gwneud hi’n anodd iawn iddo ef, ei fam, a’i frodyr a chwiorydd, wasanaethu Jehofa. Dywedodd Jozsef: “Gwnaeth Mam drio’n galed i greu awyrgylch heddychlon inni yn y tŷ. Pan oedd Dad yn mynd yn fwy cas, oedd Mam ond yn mynd yn fwy caredig. Pan oedd hi’n sylwi ein bod ni’n ei chael hi’n anodd parchu a gwrando ar Dad, roedd hi’n siarad am ei rinweddau da ac yn trafod Effesiaid 6:1-3 gyda ni. Roedd hynny wedyn yn ein helpu ni i ddeall pam dylen ni ei werthfawrogi. Gwnaeth hi adfer heddwch yn ein tŷ ni dro ar ôl tro drwy wneud hynny.”

DYSGA DY BLANT DRWY BETH RWYT TI’N EI WNEUD

12. Yn ôl 2 Timotheus 1:5, pa effaith gafodd esiampl Eunice ar Timotheus?

12 Darllen 2 Timotheus 1:5. Gosododd Eunice esiampl wych i Timotheus. Mae’n rhaid ei bod hi wedi dweud wrtho fod angen gweithredu er mwyn dangos ffydd go iawn. (Iago 2:26) Ond roedd Timotheus hefyd yn gallu gweld mai cariad tuag at Jehofa oedd y tu ôl i bopeth roedd ei fam yn ei wneud, ac roedd wedi sylwi ar ba mor hapus oedd hi o wasanaethu Jehofa. Beth oedd y canlyniad? Dywedodd yr apostol Paul fod gan Timotheus ffydd gref fel ei fam. Ond wnaeth hynny ddim digwydd drwy hap a damwain. Roedd Eunice wedi gosod yr esiampl, ac roedd Timotheus eisiau ei hefelychu. Mewn ffordd debyg, mae llawer o famau heddiw wedi helpu eu teuluoedd i wasanaethu Jehofa ‘heb orfod dweud gair.’ (1 Pedr 3:1, 2) Gelli di wneud yr un fath. Sut?

13. Pam dylai mamau roi eu perthynas â Jehofa yn gyntaf?

13 Rho dy berthynas â Jehofa yn gyntaf. (Deut. 6:5, 6) Fel arfer, mae mamau yn aberthu llawer o bethau i ofalu am anghenion corfforol eu plant—amser, arian, a chwsg, i enwi ond ychydig. Ond un peth ddylet ti byth aberthu ydy dy berthynas â Jehofa. Hyd yn oed os wyt ti’n brysur iawn, gwna’n siŵr dy fod ti’n neilltuo amser yn rheolaidd i weddïo ac astudio’r Beibl ar dy ben dy hun, ac i fynd i’r cyfarfodydd. Drwy wneud hynny, byddi di’n agosach at Jehofa, ac yn gosod esiampl dda i dy deulu ac i eraill.

14-15. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiadau Leanne, Maria, a João?

14 Ystyria brofiadau Leanne, Maria, a João, rhai ifanc wnaeth ddysgu i garu Jehofa a’i drystio o weld esiampl eu mamau. Merch Christine ydy Leanne, a dywedodd hi: “Doedden ni ddim yn gallu siarad am bethau ysbrydol pan oedd Dad yn y tŷ. Ond roedd Mam yn dweud cyfrolau drwy’r pethau roedd hi’n eu gwneud. Er enghraifft, doedd hi byth yn methu cyfarfod. Felly, er doedden ni ddim yn gwybod llawer am y Beibl, gwnaeth ei hesiampl hi helpu ni i feithrin ffydd, a rywsut roedden ni’n gwybod mai dyma oedd y gwir hyd yn oed cyn inni fynd i gyfarfod ein hunain.”

15 Roedd tad Maria weithiau’n cosbi’r teulu am fynd i’r cyfarfodydd. Dywedodd hi: “Mam ydy un o’r chwiorydd mwyaf dewr dw i’n ei nabod. Pan o’n i’n blentyn, o’n i weithiau’n gwrthod gwneud pethau oherwydd o’n i’n poeni beth byddai eraill yn ei ddweud. Ond roedd hi wastad yn rhoi Jehofa’n gyntaf yn ei bywyd, felly, yn y pen draw, ei hesiampl ddewr hi wnaeth fy helpu i drechu ofn dyn.” Gwnaeth tad João wahardd y teulu rhag siarad am Jehofa yn y tŷ. Dywedodd: “Dw i’n meddwl beth gafodd yr argraff fwyaf arna i oedd y ffaith bod Mam yn barod i aberthu popeth i blesio fy nhad—popeth heblaw ei pherthynas â Jehofa.”

16. Pa effaith gall esiampl mamau ei chael ar eraill?

16 Cofia fod dy esiampl di fel mam yn effeithio ar eraill. Meddylia am yr effaith gafodd esiampl Eunice ar yr apostol Paul. Sylwodd yr apostol Paul bod Eunice yn “credu go iawn,” a gwnaeth ef gydnabod mai dyna oedd wedi sbarduno Timotheus i gredu hefyd. (2 Tim. 1:5) Mae’n debyg gwnaeth Paul gyfarfod Lois ac Eunice yn Lystra ar ei daith genhadol gyntaf, ac efallai gwnaeth ef eu helpu nhw i ddod yn Gristnogion. (Act. 14:4-18) Meddylia: Pan ysgrifennodd Paul at Timotheus 15 mlynedd wedyn, roedd ef yn dal i gofio ffydd Eunice, a gwnaeth ef hyd yn oed annog eraill i efelychu ei hesiampl! Yn amlwg, roedd hi wedi creu argraff fawr ar Paul a llawer o Gristnogion eraill. Os wyt ti’n magu plant fel rhiant sengl, neu ar dy ben dy hun yn y gwir, gelli di fod yn sicr bod dy esiampl ffyddlon yn cryfhau ac yn calonogi’r rhai o dy gwmpas di.

Mae’n cymryd amser i helpu plentyn i dyfu’n ysbrydol. Felly, Dalia ati! (Gweler paragraff 17)

17. Beth dylet ti ei wneud os yw’n ymddangos nad ydy dy blentyn eisiau gwasanaethu Jehofa er gwaethaf dy ymdrechion?

17 Beth os yw’n ymddangos nad ydy dy blentyn eisiau gwasanaethu Jehofa, er gwaethaf dy ymdrechion? Cofia, mae’n cymryd amser i hyfforddi plentyn. Fel mae’r llun yn dangos, pan fyddi di’n plannu hedyn, does dim ffordd o wybod os bydd y planhigyn yn dwyn ffrwyth. Elli di ddim chwaith reoli beth sy’n digwydd nesaf. Ond rwyt ti’n dal yn ei ddyfrio er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddo dyfu. (Marc 4:26-29) Mewn ffordd debyg, efallai dy fod ti fel mam yn ei chael hi’n anodd gwybod a wyt ti’n cyrraedd calon dy blentyn. Elli di ddim rheoli beth mae dy blentyn yn dewis ei wneud yn y pen draw. Ond, os wyt ti’n dal ati i’w hyfforddi nhw, rwyt ti’n rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw dyfu’n ysbrydol.—Diar. 22:6.

DIBYNNA AR HELP JEHOFA

18. Sut gall Jehofa helpu dy blant i dyfu’n ysbrydol?

18 Mae Jehofa wedi bod yn helpu plant i dyfu’n ysbrydol ers adeg y Beibl, ac mae’n gallu helpu dy blant di i fod yn ffrind iddo hefyd os mai dyna maen nhw eisiau. (Salm 22:9, 10; 1 Cor. 3:6, 7) Hyd yn oed os dydy dy blant ddim yn dangos llawer o ddiddordeb yn y gwir ar hyn o bryd, bydd Jehofa yn dal yn eu caru nhw. (Salm 11:4) A’r munud maen nhw’n teimlo eu bod nhw eisiau bod yn ffrind i Jehofa, bydd ef yna yn barod i’w helpu nhw i feithrin yr “agwedd gywir.” (Act. 13:48, NWT; 2 Cron. 16:9) Ac efallai bydd yn dy helpu di i ddweud y peth iawn ar yr adeg iawn. (Diar. 15:23) Neu efallai bydd ef yn cymell brawd neu chwaer yn y gynulleidfa i gymryd diddordeb ynddyn nhw. Hyd yn oed ar ôl i dy blant dyfu i fyny, efallai bydd Jehofa yn eu hatgoffa nhw o rywbeth gwnest ti ei ddysgu iddyn nhw yn y gorffennol. (Ioan 14:26) Os byddi di’n dal ati i hyfforddi dy blant drwy’r hyn rwyt ti’n ei ddweud ac yn ei wneud, byddi di’n rhoi rhywbeth i Jehofa ei fendithio.

19. Pam gelli di fod yn sicr dy fod ti’n plesio Jehofa?

19 Dydy penderfyniadau dy blant ddim yn newid y ffordd mae Jehofa’n teimlo amdanat ti. Mae’n dy garu di am dy fod ti yn ei garu ef. Os wyt ti’n rhiant sengl, mae Jehofa’n addo dy amddiffyn di, a bod yn Dad i dy blant. (Salm 68:5) Elli di ddim penderfynu dros dy blant p’un a fyddan nhw’n gwasanaethu Jehofa neu ddim. Ond, gelli di ddibynnu ar Jehofa am help a dal ati i wneud dy orau. Os gwnei di hynny, byddi di’n plesio Jehofa yn fawr iawn.

CÂN 134 Ymddiriedolaeth gan Jehofa Yw Plant

a Mae’r erthygl hon yn trafod sut gall mamau Cristnogol elwa o esiampl Eunice, mam Timotheus, a helpu eu plant eu hunain i ddod i adnabod a charu Jehofa.

b Newidiwyd rhai enwau.

c Er enghraifft, gweler gwers 50 yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a’r erthygl “Ideas for Family Worship and Personal Study,” yn rhifyn Awst 15, 2011, y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 6-7.