Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 15

Wyt Ti’n “Esiampl Dda . . . yn y Ffordd Rwyt Ti’n Siarad”?

Wyt Ti’n “Esiampl Dda . . . yn y Ffordd Rwyt Ti’n Siarad”?

“Bydd yn esiampl dda i’r credinwyr yn y ffordd rwyt ti’n siarad.”—1 TIM. 4:12.

CÂN 90 Annog Ein Gilydd

CIPOLWG a

1. O le ddaeth ein gallu i siarad?

 MAE ein gallu i siarad yn rhodd gan ein Tad cariadus, Jehofa. O’r munud cafodd Adda ei greu, roedd yn gallu defnyddio geiriau i siarad â’i Dad nefol. Roedd ef hyd yn oed yn gallu ffurfio geiriau newydd, a dyna’n union wnaeth ef wrth enwi’r holl anifeiliaid. (Gen. 2:19) A dychmyga pa mor hapus oedd ef i siarad â rhywun arall—ei wraig Efa—am y tro cyntaf!—Gen. 2:22, 23.

2. Sut mae’r gallu i siarad wedi cael ei gamddefnyddio yn y gorffennol, a beth am heddiw?

2 Doedd hi ddim yn hir nes i’r gallu i siarad gael ei gamddefnyddio. Er enghraifft, gwnaeth Satan y Diafol dwyllo Efa, a gwnaeth hynny arwain at bechod ac amherffeithrwydd. (Gen. 3:1-4) Wedyn gwnaeth Adda gamddefnyddio ei allu i siarad drwy roi’r bai ar Efa, a hyd yn oed Jehofa, am ei gamgymeriadau ei hun. (Gen. 3:12) Gwnaeth Cain ddweud celwydd wrth Jehofa ar ôl lladd ei frawd Abel. (Gen. 4:9) Ac yn hwyrach ymlaen, gwnaeth Lamech adrodd cerdd gwnaeth ef ei chyfansoddi am yr holl drais yn y byd o’i gwmpas. (Gen. 4:23, 24) Ond beth am heddiw? Mae rhai gwleidyddion yn rhegi yn gyhoeddus ac mae’n anodd ffeindio ffilm sydd heb iaith ddrwg ynddi. Mae rhegi yn rhemp yn yr ysgol ac yn y gweithle. Yn anffodus, mae’r ffaith fod iaith anweddus mor gyffredin heddiw yn dangos pa mor isel ydy safonau’r byd.

3. Pa beryg sy’n rhaid inni ei osgoi, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Os nad ydyn ni’n ofalus, gall iaith anweddus ddod mor gyffredin yn ein bywydau bob dydd nes ein bod yn dechrau ei defnyddio ein hunain. Ond wrth gwrs, rydyn ni eisiau plesio Jehofa, felly rydyn ni’n osgoi defnyddio iaith anweddus. Er hynny, mae angen gwneud mwy. Dylen ni hefyd ddefnyddio ein gallu i siarad mewn ffordd adeiladol—i foli ein Duw. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut gallwn ni wneud hynny (1) yn y weinidogaeth, (2) yn y cyfarfodydd, a (3) yn ein sgyrsiau bob dydd. Ond yn gyntaf, byddwn ni’n trafod pam mae’r ffordd rydyn ni’n defnyddio ein gallu i siarad yn bwysig i Jehofa.

MAE BETH RYDYN NI’N EI DDWEUD YN BWYSIG I JEHOFA

Beth mae dy eiriau yn ei ddangos am beth sydd yn dy galon? (Gweler paragraffau 4-5) d

4. Yn ôl Malachi 3:16, pam mae beth rydyn ni’n ei ddweud yn bwysig i Jehofa?

4 Darllen Malachi 3:16. Mae’r adnod hon yn dangos bod Jehofa yn sylwi pwy sy’n defnyddio eu geiriau i ddangos eu bod yn ei ofni ac yn myfyrio ar ei enw. Mae’n addo cadw cofnod o’u henwau. Pam wyt ti’n meddwl mae Jehofa yn addo hynny? Dywedodd Iesu fod yr “hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy’n eu calonnau nhw.” (Math. 12:34) Felly, mae beth rydyn ni’n dewis siarad amdano yn dangos faint rydyn ni’n caru Jehofa. Ac mae Jehofa eisiau i’r rhai sy’n ei garu fyw am byth yn ei fyd newydd.

5. (a) Sut mae beth rydyn ni’n ei ddweud yn effeithio ar ein haddoliad? (b) Fel mae’r llun yn ei ddangos, beth sy’n rhaid inni ei gofio am ein geiriau?

5 Fydd Jehofa ddim yn derbyn ein haddoliad os nad ydy’r ffordd rydyn ni’n siarad yn ei blesio. (Iago 1:26) Yn sicr dydyn ni ddim eisiau bod fel y rhai sydd ddim yn caru Duw, ac sy’n siarad mewn ffordd gas, ddirmygus, a balch. (2 Tim. 3:1-5) Rydyn ni eisiau bod yn wahanol; rydyn ni eisiau plesio Jehofa drwy’r ffordd rydyn ni’n siarad. Ond dydy hi ddim yn ddigon i siarad yn garedig yn y cyfarfodydd ac ar y weinidogaeth yn unig. A wyt ti’n meddwl y byddai Jehofa’n hapus petasen ni’n gwneud hynny, ond yn siarad mewn ffordd angharedig â’n teulu pan does neb arall o gwmpas?—1 Pedr 3:7.

6. Beth ddigwyddodd am fod Kimberly wedi defnyddio ei gallu i siarad yn ddoeth?

6 Pan fyddwn ni’n gwneud defnydd da o’n gallu i siarad, bydd hi’n amlwg i eraill ein bod ni’n addoli Jehofa. A byddan nhw’n gweld yn glir y gwahaniaeth “rhwng y sawl sy’n gwasanaethu Duw a’r rhai sydd ddim.” (Mal. 3:18) Mae profiad chwaer o’r enw Kimberly, b yn dangos pa mor wir ydy hyn. Yn yr ysgol uwchradd, cafodd hi aseiniad i weithio gydag un o’i chyd-ddisgyblion. Ar ôl gweithio gyda Kimberly am ychydig, gwnaeth ei chyd-ddisgybl sylweddoli ei bod hi’n wahanol i’r disgyblion eraill. Doedd hi ddim yn rhegi, nac yn lladd ar bobl tu ôl i’w cefnau nhw. Yn hytrach, roedd hi’n siarad mewn ffordd garedig. Creodd hyn argraff dda ar gyd-ddisgybl Kimberly, felly yn y pen draw gwnaeth hi gytuno i astudiaeth Feiblaidd. Mae Jehofa wir wrth ei fodd pan ydyn ni’n siarad mewn ffordd sy’n denu pobl at y gwir!

7. Beth rwyt ti eisiau ei wneud â dy allu i siarad?

7 Rydyn ni i gyd eisiau siarad mewn ffordd sy’n dod â chlod i Jehofa, ac sy’n ein helpu ni i glosio at ein brodyr a chwiorydd. Felly gad inni ystyried rhai ffyrdd ymarferol gallwn ni barhau i fod yn “esiampl dda” yn y ffordd rydyn ni’n siarad.

GOSOD ESIAMPL DDA YN Y WEINIDOGAETH

Mae siarad yn garedig â phobl yn y weinidogaeth yn plesio Jehofa (Gweler paragraffau 8-9)

8. Pa esiampl osododd Iesu inni yn y ffordd roedd yn siarad yn y weinidogaeth?

8 Siarada mewn ffordd garedig a pharchus pan gei di dy bryfocio. Yn ystod ei weinidogaeth ar y ddaear, cafodd Iesu ei gyhuddo o bob math o bethau. Roedd hynny’n cynnwys yfed gormod o win, bwyta gormod, torri’r Saboth, gweithio i’r Diafol, a hyd yn oed cablu. (Math. 11:19; 26:65; Luc 11:15; Ioan 9:16) Er gwaethaf hynny i gyd, wnaeth Iesu ddim ymateb yn gas. Dylen ni ei efelychu pan fydd eraill yn gas tuag aton ni. (1 Pedr 2:21-23) Ond dydy hynny ddim yn hawdd, felly beth all helpu?—Iago 3:2.

9. Beth all ein helpu ni i reoli beth rydyn ni’n ei ddweud pan ydyn ni ar y weinidogaeth?

9 Tria beidio ag ypsetio pan fydd rhywun yn siarad yn angharedig â ti ar y weinidogaeth. Weithiau mae’r deiliad ond yn angharedig am ein bod ni wedi galw ar adeg anghyfleus. Dywedodd brawd o’r enw Sam, “Dw i’n trio canolbwyntio ar gymaint mae’r deiliad angen clywed y gwir, ac ar ei botensial i newid.” Ac ystyria beth mae chwaer o’r enw Lucia yn ei wneud pan mae hi’n dod ar draws rhywun blin. Mae hi’n gofyn gweddi fer i ofyn i Jehofa am ei help i beidio â digio na dweud unrhyw beth angharedig neu amharchus. Gallwn ni efelychu ei hesiampl.

10. Pa nod dylen ni ei osod yn ôl 1 Timotheus 4:13?

10 Ceisia fod yn athro gwell. Er roedd Timotheus yn brofiadol iawn yn y gwaith pregethu, roedd ef yn dal yn gwneud cynnydd yn ei ffordd o ddysgu. (Darllen 1 Timotheus 4:13.) Mae’n rhaid i ninnau baratoi’n dda os ydyn ni eisiau gwella ein ffordd o ddysgu. Er mwyn gwneud hynny, gallwn ni astudio’r llyfryn Ymroi i Ddarllen a Dysgu, a’r adran “Rhoi Ein Sylw i’r Weinidogaeth,” yn Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd. Wyt ti’n manteisio’n llawn ar yr adnoddau hyn ac eraill i dy helpu i fod yn athro gwell? Bydd paratoi’n dda yn ein helpu i dawelu ein nerfau a siarad yn fwy hyderus.

11. Sut mae rhai Cristnogion wedi dod yn athrawon gwell?

11 Ffordd arall gallwn ni ddod yn athrawon gwell ydy drwy ddysgu oddi wrth eraill yn y gynulleidfa. Mae Sam, a ddyfynnwyd ynghynt, yn gwneud hynny drwy ofyn iddo’i hyn beth sy’n gwneud rhai brodyr a chwiorydd yn athrawon mor dda? Wedyn mae’n gwrando’n astud ar sut maen nhw’n dysgu, ac yn ceisio eu hefelychu. Mae chwaer o’r enw Talia hefyd yn talu sylw manwl i sut mae rhai brodyr yn rhoi eu hanerchiadau cyhoeddus. Drwy wneud hynny, mae hi wedi dysgu sut i resymu ar bynciau sy’n codi’n aml yn y weinidogaeth.

GOSOD ESIAMPL DDA YN Y CYFARFODYDD

Drwy ganu’n frwdfrydig yn y cyfarfodydd, rydyn ni’n moli Jehofa (Gweler paragraffau 12-13)

12. Beth sy’n anodd i rai ei wneud?

12 Gallwn ni i gyd gyfrannu at ein cyfarfodydd drwy ganu’n uchel gyda’n gilydd a pharatoi’n dda fel ein bod ni’n gallu rhoi atebion. (Salm 22:22) Wyt ti’n ei chael hi’n anodd canu neu godi dy law i roi ateb yn y cyfarfodydd? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Bydd dysgu beth sydd wedi helpu eraill i ddod dros eu hofnau yn dy helpu dithau hefyd.

13. Beth all dy helpu di i ganu’n frwdfrydig yn y cyfarfodydd?

13 Cana’n llawn brwdfrydedd. Y prif reswm rydyn ni’n canu yn ein cyfarfodydd ydy er mwyn moli Jehofa. Ystyria brofiad chwaer o’r enw Sara. Mae hi eisiau moli Jehofa drwy ganu, ond dydy hi ddim yn teimlo bod ganddi lais canu da. Felly pan mae hi’n paratoi ar gyfer y cyfarfodydd, mae hi hefyd yn ymarfer y caneuon, ac yn trio gweld y cysylltiad rhwng y geiriau a’r pwnc fydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod. Dywedodd hi: “Drwy wneud hyn dw i’n gallu canolbwyntio mwy ar y geiriau a llai ar safon fy llais.”

14. Beth all dy helpu di i ateb yn y cyfarfodydd os wyt ti’n swil?

14 Ateba’n aml. Mae hyn yn gallu bod yn her go iawn i rai. Gwnaeth Talia, a ddyfynnwyd ynghynt, esbonio pam mae hynny’n wir yn ei hachos hi. “Dw i’n mynd yn ofnadwy o nerfus pan dw i’n gorfod siarad o flaen eraill. Dydy hynny ddim fel arfer yn dod drosodd yn fy llais, felly dydy hi ddim o hyd yn amlwg i eraill. Ond mae ateb yn anodd iawn imi.” Er gwaethaf hynny, dydy hi ddim yn dal yn ôl rhag ateb. Wrth baratoi ar gyfer y cyfarfod, mae hi’n ceisio cofio bod yr ateb cyntaf i gwestiwn i fod yn fyr ac yn uniongyrchol. Dywedodd hi: “Mae hynny’n golygu, does dim ots os ydy fy ateb yn fyr, yn syml, ac yn cadw at y prif bwynt, oherwydd dyna’r math o ateb mae’r arweinydd eisiau beth bynnag.”

15. Beth dylen ni ei gofio am ein hatebion?

15 Weithiau, mae hyd yn oed Cristnogion sydd ddim yn swil yn dal yn ôl rhag ateb. Pam? Esboniodd chwaer o’r enw Juliet: “Weithiau dw i’n poeni bod fy atebion yn rhy syml, neu ddim yn ddigon da. Felly dw i ddim yn rhoi fy llaw i fyny.” Wyt ti erioed wedi teimlo felly? Os wyt ti, cofia fod Jehofa ond yn disgwyl iti wneud dy orau wrth roi atebion. c Os ydyn ni’n benderfynol o roi atebion er gwaethaf ein pryderon, bydd Jehofa wrth ei fodd.

GOSOD ESIAMPL DDA YN DY SGYRSIAU BOB DYDD

16. Pa fath o bethau dylen ni osgoi eu dweud?

16 Paid â siarad “yn faleisus.” (Eff. 4:31) Fel rydyn ni wedi trafod, ddylai Cristion byth regi. Ond mae ’na fathau llai amlwg o siarad yn faleisus, ac mae’n rhaid inni osgoi’r rheini hefyd. Er enghraifft, mae’n rhaid inni osgoi dweud pethau angharedig am bobl o wlad, neu gefndir gwahanol. Hefyd, fydden ni byth eisiau brifo rhywun drwy ddweud pethau pigog a chas. Mae un brawd yn cyfaddef: “Weithiau dw i wedi dweud pethau sarcastig o’n i’n meddwl oedd yn ddoniol ac yn ddiniwed ar y pryd, ond mewn gwirionedd, doedden nhw ddim yn bethau neis i’w dweud, a chafodd eraill eu brifo. Dros y blynyddoedd, dw i wedi cael ambell i air i gall gan fy ngwraig pan o’n i wedi dweud rhywbeth oedd wedi ei brifo hi neu rywun arall. Mae hynny wedi bod yn help mawr.”

17. Sut gallwn ni roi Effesiaid 4:29 ar waith yn y ffordd rydyn ni’n siarad?

17 Siarada mewn ffordd sy’n calonogi eraill ac sy’n eu helpu nhw. Bydda’n gyflym i ganmol, yn hytrach na chwyno. (Darllen Effesiaid 4:29.) Roedd yr Israeliaid yn esiampl ddrwg o hyn. Roedden nhw’n cwyno’n aml er bod ganddyn nhw lawer i ddiolch amdano. Er enghraifft, “dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a throi yn erbyn Moses ac Aaron” ar ôl i’r deg ysbïwr roi adroddiad gwael. (Num. 13:31–14:4) Mae hyn yn dangos bod cwyno yn gallu cael effaith ddrwg ar eraill, a hyd yn oed achosi iddyn nhwthau ddechrau cwyno. Ar y llaw arall, mae canmoliaeth yn cael effaith dda. Er enghraifft, mae’n rhaid oedd y ganmoliaeth cafodd merch Jefftha gan ei ffrindiau yn help mawr iddi ddal ati yn ei haseiniad. (Barn. 11:40, NWT) Ac ystyria esiampl fodern o hyn. Dywedodd Sara, a ddyfynnwyd ynghynt: “Drwy ganmol eraill, ’dyn ni’n eu helpu nhw i deimlo cariad Jehofa a chariad eraill yn y gynulleidfa.” Felly bydda’n effro i gyfleoedd i ganmol dy frodyr a chwiorydd.

18. Yn ôl Salm 15:1, 2, pam mae angen inni ddweud y gwir, a beth mae hynny’n ei gynnwys?

18 Dyweda’r gwir bob amser. Mae Jehofa yn casáu pob math o gelwydd, felly allwn ni ddim ei blesio os ydyn ni’n gelwyddog. (Diar. 6:16, 17) Mae llawer o bobl heddiw yn meddwl bod dweud celwydd yn rhan normal o fywyd. Ond rydyn ni’n ufuddhau i Jehofa ac yn ei osgoi. (Darllen Salm 15:1, 2.) Wrth gwrs fyddwn ni ddim yn dweud celwydd noeth, a fyddwn ni ddim chwaith yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol er mwyn gwneud i rywun arall ddod i’r casgliad anghywir.

Mae Jehofa wrth ei fodd pan fyddwn ni’n troi sgwrs negyddol yn un bositif (Gweler paragraff 19)

19. Beth arall sy’n rhaid inni ei osgoi?

19 Paid â hel clecs. (Diar. 25:23; 2 Thes. 3:11) Ystyria beth ddywedodd Juliet, gwnaethon ni ddyfynnu gynnau, am sut mae clecs maleisus yn effeithio arni. Dywedodd: “Dydy gwrando ar rywun yn hel clecs ddim yn adeiladol, ac mae’n ei gwneud hi’n anoddach imi ei drystio. Wedi’r cwbl, sut ydw i’n gwybod fydd ef neu hi ddim wedyn yn hel clecs amdana i tu ôl i nghefn?” Felly os ydy rhywun yn dechrau hel clecs ynghanol sgwrs, tria siarad am rywbeth adeiladol yn lle.—Col. 4:6, BCND.

20. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud â dy allu i siarad?

20 Yn y byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw, mae cymaint o bobl o’n cwmpas yn camddefnyddio eu gallu i siarad. Felly, mae’n rhaid inni weithio’n galed i sicrhau bod ein geiriau yn plesio Jehofa. Cofia, mae’r gallu i siarad yn rhodd gan Jehofa, ac mae’r ffordd rydyn ni’n ei ddefnyddio yn bwysig iddo. Mae Jehofa yn siŵr o fendithio pob ymdrech rydyn ni’n ei wneud i siarad mewn ffordd sy’n dod â chlod iddo. Gallwn ni wneud hynny yn y weinidogaeth, yn y cyfarfodydd, ac yn ein sgyrsiau bob dydd. Pan fydd y byd drygionus hwn a’i ddylanwad wedi mynd, bydd hi’n llawer haws i siarad mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. (Jwd. 15) Yn y cyfamser, bydda’n benderfynol o wneud hynny drwy’r “cwbl [rwyt ti’n] ei ddweud.”—Salm 19:14.

CÂN 121 Rhaid Cael Hunanreolaeth

a Mae Jehofa wedi rhoi anrheg hyfryd inni—y gallu i siarad. Ond yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o bobl yn camddefnyddio’r rhodd hon. Beth all ein helpu ni i gadw ein hiaith yn lân, a siarad mewn ffordd adeiladol mewn byd lle mae safonau yn mynd o ddrwg i waeth? Sut gallwn ni ddefnyddio ein gallu i siarad i blesio Jehofa yn y weinidogaeth, yn y cyfarfodydd, ac wrth sgwrsio ag eraill? Bydd yr erthygl hon yn trafod yr atebion i’r cwestiynau hynny.

b Newidiwyd rhai enwau.

c Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhoi atebion, gweler yr erthygl “Mola Jehofa yn y Gynulleidfa,” yn rhifyn Ionawr 2019 y Tŵr Gwylio.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn ateb yn ôl yn gas i ddeiliad sydd wedi gwylltio. Mae brawd yn dal yn ôl rhag canu yn y cyfarfod. Ac mae chwaer yn hel clecs.