Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 26

Mae Cariad yn Ein Helpu Ni i Drechu Ofn

Mae Cariad yn Ein Helpu Ni i Drechu Ofn

“Mae’r ARGLWYDD ar fy ochr, felly fydd gen i ddim ofn.”—SALM 118:6.

CÂN 105 “Cariad Ydy Duw”

CIPOLWG *

1. Pa fath o ofnau sy’n gyffredin?

 MAE ’na rai ofnau sy’n gyffredin i bobl Jehofa heddiw. Er enghraifft, roedd Nestor a’i wraig, María, eisiau symud i le roedd yr angen yn fwy. * Ond roedden nhw’n ofni na fydden nhw mor hapus yn byw ar lai o arian. Pan ddaeth Biniam yn un o Dystion Jehofa mewn gwlad lle roedd y gwaith wedi ei wahardd, roedd y posibilrwydd y byddai’n cael ei erlid yn ddigon i’w boeni ynddo’i hun. Ond beth oedd yn codi mwy o ofn arno oedd meddwl am sut byddai ei deulu’n ymateb i’w grefydd newydd. Pan gafodd Valérie ei diagnosio â chanser difrifol, cafodd hi drafferth cael hyd i lawfeddyg a fyddai’n ei thrin heb waed. Felly mae’n hawdd deall ei bod hi’n ofni y byddai hi’n marw.

2. Pam mae angen inni wneud ein gorau i drechu ein hofnau?

2 Mae’n debyg bod llawer ohonon ni wedi wynebu ofnau tebyg. Ond os nad ydyn ni’n ofalus, gall yr ofnau hynny wneud inni ddisgyn i’r fagl o wneud penderfyniadau gwael a fydd yn niweidio ein perthynas â Jehofa. A dyna’n union mae Satan eisiau. Mae’n trio manteisio ar ein hofnau er mwyn ein stopio ni rhag gwneud beth mae Jehofa eisiau, gan gynnwys pregethu’r newyddion da. (Dat. 12:17) Er bod Satan yn ffiaidd, yn greulon, ac yn bwerus, gelli di amddiffyn dy hun. Sut?

3. Beth fydd yn ein helpu i drechu ein hofnau?

3 Os ydyn ni’n hollol sicr bod Jehofa yn ein caru ni, ac yn ein cefnogi ni, fydd Satan ddim yn llwyddo i’n dychryn. (Salm 118:6) Meddylia am ysgrifennwr Salm 118. Roedd yn wynebu pethau heriol iawn. Er enghraifft, roedd ganddo lawer o elynion, gan gynnwys rhai pwerus (adnodau 9, 10). Ar adegau roedd o dan bwysau enfawr (adnod 13). Ac roedd wedi cael cyngor cryf gan Jehofa (adnod 18). Ond er gwaethaf hyn i gyd, canodd y salmydd hwnnw: “Fydd gen i ddim ofn.” Pam roedd yn teimlo mor ddiogel? Roedd yn gwybod heb os fod ei Dad nefol yn ei garu’n fawr iawn, er ei fod wedi ei ddisgyblu. Roedd y salmydd yn hollol sicr y byddai ei Dduw wastad yno i’w helpu, ni waeth pa sefyllfa roedd rhaid iddo ei hwynebu.—Salm 118:29.

4. Pa ofnau gallwn ni eu trechu os ydyn ni’n sicr bod Duw yn ein caru?

4 Mae’n rhaid inni gredu bod Jehofa yn ein caru ni’n bersonol. Bydd hynny yn ein helpu ni i drechu tri ofn cyffredin, sef, (1) ofn peidio â gallu gofalu am ein teulu, (2) ofn dyn, a (3) ofn marwolaeth. Llwyddodd yr unigolion yn y paragraff cyntaf i drechu eu hofnau am eu bod nhw’n sicr bod Duw yn eu caru.

OFN PEIDIO Â GALLU GOFALU AM EIN TEULU

Mae brawd yn gweithio fel pysgotwr er mwyn gofalu am ei deulu. Mae ei fab yno hefyd (Gweler paragraff 5)

5. Beth all wneud i benteulu ofni’n fawr? (Gweler y llun ar y clawr.)

5 Mae gofalu’n faterol am y teulu yn gyfrifoldeb mawr. (1 Tim. 5:8) Os wyt ti’n benteulu, efallai bod y pandemig diweddar wedi gwneud iti ofni y byddet ti’n colli dy swydd, neu boeni sut byddet ti’n rhoi bwyd ar y bwrdd neu’n talu’r biliau. Ac efallai bod prinder swyddi yn gyffredinol ond wedi ychwanegu at dy bryderon. Neu, fel Nestor a María, efallai dy fod ti wedi dal yn ôl rhag symleiddio dy fywyd, am dy fod ti’n poeni na fyddet ti’n gallu byw ar lai o arian. Mae Satan wedi cael llawer o lwyddiant drwy fanteisio ar ofnau o’r fath.

6. Beth mae Satan yn ceisio gwneud inni ei gredu?

6 Mae Satan yn ceisio gwneud inni gredu nad yw Jehofa yn ein caru ni’n bersonol, ac nad yw’n barod i’n helpu ni i ofalu am ein teuluoedd. Os bydd Satan yn llwyddo i wneud hynny, gallen ni ddechrau meddwl bod rhaid inni wneud popeth allwn ni i gadw ein swydd, hyd yn oes os ydy hynny’n golygu anwybyddu safonau’r Beibl.

7. Pa hyder mae geiriau Iesu’n ei roi inni?

7 Meddylia am beth ddywedodd Iesu am ei Dad. Mae’n ‘gwybod yn union beth sydd ei angen arnon ni cyn i ni ddweud gair.’ (Math. 6:8) Mae Iesu’n adnabod Jehofa yn well na neb, ac mae’n hollol sicr bod ein Tad yn barod i ofalu am ein hanghenion. Fel Cristnogion, rydyn ni’n rhan o deulu Jehofa, ac fel penteulu, bydd Jehofa yn sicr o ddilyn yr egwyddor a roddodd i bob penteulu yn 1 Timotheus 5:8.

Bydd Jehofa yn sicrhau bod gynnon ni beth rydyn ni ei angen. Efallai bydd yn defnyddio ein brodyr i’n helpu (Gweler paragraff 8) *

8. (a) Beth fydd yn ein helpu i drechu’r ofn o beidio â gallu gofalu am ein teulu? (Mathew 6:31-33) (b) Sut gallwn ni efelychu’r cwpl yn y llun sy’n rhannu pryd o fwyd â chwaer?

8 Pan ydyn ni’n hollol sicr bod Jehofa yn ein caru ni a’n teulu, byddwn ni’n hollol sicr y bydd gynnon ni bopeth sydd ei angen arnon ni. (Darllen Mathew 6:31-33.) Mae Jehofa eisiau gofalu amdanon ni. Profodd hynny yn y ffordd gwnaeth ef greu’r ddaear. Rhoddodd lawer iawn mwy na dim ond y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnon ni i fyw. Llenwodd y ddaear â phethau sy’n dod â phleser mawr inni. (Gen. 2:9) Hyd yn oed os oes gynnon ni jyst digon i fyw arno, dylen ni ganolbwyntio ar y ffaith bod gynnon ni ddigon, a hynny am fod Jehofa wedi ei roi inni. (Math. 6:11) Mae’n rhaid inni gofio bod unrhyw aberth rydyn ni’n ei wneud nawr yn ddim byd o’i gymharu â’r bendithion y bydd Jehofa yn eu rhoi inni, heddiw ac yn y dyfodol. Dyna beth sylweddolodd Nestor a María yn y pen draw.—Esei. 65:21, 22.

9. Beth gelli di ei ddysgu o esiampl Nestor a María?

9 Roedd gan Nestor a María fywyd cyffyrddus yn Ngholombia. Er hynny, dywedon nhw: “Roedden ni eisiau symleiddio ein bywydau a gwneud mwy yn y weinidogaeth, ond roedden ni’n poeni na fydden ni mor hapus yn byw ar lai o arian.” Beth wnaeth eu helpu i drechu eu hofn? Roedden nhw’n meddwl yn ôl i sut roedd Jehofa wedi eu helpu nhw yn y gorffennol, ac wedi dangos ei fod yn eu caru. Dyna roddodd hyder iddyn nhw adael eu gwaith, gwerthu eu cartref, a symud i le roedd yr angen yn fwy. Sut maen nhw’n teimlo bellach am eu penderfyniad? Dywedodd Nestor: “Rydyn ni wedi gweld pa mor wir ydy Mathew 6:33. Dydyn ni erioed wedi bod yn brin o unrhyw beth. Ac rydyn ni’n hapusach nag erioed.”

OFN DYN

10. Pam mae ofn dyn mor gyffredin?

10 Mae hanes dyn wedi bod yn un creulon. (Preg. 8:9) Mae pobl wedi camddefnyddio eu hawdurdod, ac wedi bod yn dreisgar tuag at ei gilydd. Mae plant ysgol yn bwlio ac yn bygwth, ac mae rhai pobl hyd yn oed yn gas tuag at eu teuluoedd eu hunain. Does dim syndod bod ofn dyn mor gyffredin! Ond sut mae Satan yn ceisio manteisio ar hynny?

11-12. Sut mae Satan yn defnyddio ofn dyn yn ein herbyn?

11 Mae Satan yn hoff iawn o ddefnyddio ofn dyn i geisio gwneud inni gyfaddawdu ein ffydd a stopio pregethu. Satan sydd wedi dylanwadu ar lywodraethau’r byd fel eu bod yn gwahardd ein gwaith ac yn ein herlid. (Luc 21:12; Dat. 2:10) Satan hefyd sy’n gyfrifol am yr holl gelwyddau sy’n mynd o gwmpas am Dystion Jehofa, sy’n gwneud i bobl wneud hwyl am ein pennau, neu hyd yn oed ymosod arnon ni. (Math. 10:36) Ond dydy hynny ddim yn ein synnu ni. Wedi’r cwbl, mae wedi bod yn defnyddio’r un tactegau ers y ganrif gyntaf.—Act. 5:27, 28, 40.

Gallwn ni fod yn sicr o gariad Jehofa, hyd yn oed os ydy ein teulu ein hunain yn ein gwrthwynebu (Gweler paragraffau 12-14) *

12 Mae ofn gwrthwynebiad gan lywodraethau yn un peth, ond weithiau mae Satan yn mynd gam ymhellach. Weithiau, mae meddwl am sut bydd ein teulu’n ymateb i’r gwir yn achosi mwy o bryder na’r syniad o gael ein brifo’n gorfforol. Rydyn ni’n caru ein teulu’n fawr iawn ac eisiau iddyn nhw ddod i adnabod Jehofa. Felly mae’n hawdd digalonni os ydyn nhw’n dweud rhywbeth amharchus am Dduw, neu ei bobl. Mewn rhai achosion, mae’r aelodau teulu hyn wedi dod i garu Jehofa a derbyn y gwir. Ond beth os ydyn nhw’n cefnu arnon ni’n llwyr? Beth byddwn ni’n ei wneud?

13. Sut gall bod yn sicr o gariad Duw ein helpu ni os bydd ein teulu yn ein gwrthwynebu? (Salm 27:10)

13 Gallwn ni gael cysur mawr o’r geiriau hyfryd yn Salm 27:10. (Darllen.) Os ydyn ni’n cofio cymaint mae Jehofa yn ein caru ni, ac yn credu’n gryf y bydd yn ein gwobrwyo ni am ddal ati, byddwn ni’n teimlo’n ddiogel, hyd yn oed os bydd ein teulu yn ein gwrthwynebu. Does neb gwell na Jehofa am ofalu amdanon ni yn gorfforol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol. Dyna’n union sut mae Biniam yn teimlo. Beth am inni glywed ei hanes.

14. Beth gelli di ei ddysgu o brofiad Biniam?

14 Daeth Biniam yn un o Dystion Jehofa, er ei fod yn gwybod ei fod yn debygol o gael ei erlid. Ond roedd hefyd yn gwybod bod Jehofa yn ei garu, a dyna wnaeth ei helpu i drechu ofn dyn. “Roedd yr erledigaeth yn waeth nag o’n i wedi disgwyl,” meddai, “ond, roeddwn i’n poeni mwy am sut byddai fy nheulu’n ymateb i’r ffaith fy mod i wedi dod yn un o Dystion Jehofa. Roedd gen i ofn y byddai’r teulu cyfan yn meddwl fy mod i’n fethiant llwyr, a doeddwn i ddim eisiau siomi fy nhad.” Ond wnaeth Biniam erioed amau na fyddai Jehofa’n gofalu am y rhai mae’n eu caru. Aeth ymlaen i ddweud: “Roeddwn i’n meddwl am sut roedd Jehofa wedi helpu eraill yn y gorffennol wnaeth wynebu cyfnodau anodd, rhagfarn, neu drais. Roeddwn i’n gwybod y byddai Jehofa yn fy mendithio, dim ond imi aros yn ffyddlon. Ac roeddwn i’n gweld hynny drosto i fy hun bob tro ces i fy arestio, a hyd yn oed fy arteithio. Roedd hi’n amlwg bod Jehofa wastad yno imi.” Yn sicr, roedd Jehofa yn profi ei hun yn Dad i Biniam, ac roedd ei deulu ysbrydol yn gefn iddo.

OFN MARWOLAETH

15. Pam mae ofn marwolaeth yn gyffredin?

15 Mae’r Beibl yn cydnabod bod marwolaeth yn elyn. (1 Cor. 15:25, 26) Mae’n ddigon cyffredin inni boeni am farwolaeth, yn enwedig os ydyn ni, neu anwylyn, yn mynd yn sâl iawn. Pam? Am fod Jehofa wedi rhoi’r awydd inni fyw am byth. (Preg. 3:11) Ar y llaw arall, gall ofn marwolaeth ein hatgoffa ni o werth bywyd, ac felly gwneud inni edrych ar ôl ein hunain drwy fwyta’n iach, ymarfer corff, mynd at y doctor, ac osgoi unrhyw sefyllfa a fyddai’n peryglu ein bywydau’n ddiangen.

16. Sut mae Satan yn ceisio manteisio ar y ffaith ein bod ni’n ofni marwolaeth?

16 Mae Satan yn gwybod yn iawn ein bod ni’n trysori bywyd. Felly mae’n honni y bydden ni hyd yn oed yn cefnu ar ein perthynas â Jehofa er mwyn aros yn fyw. (Job 2:4, 5) Ond er ein bod ni’n gwybod fel arall, Satan ydy’r “un sy’n dal grym marwolaeth.” Felly mae’n trio manteisio ar y ffaith ein bod ni’n ofni marwolaeth er mwyn gwneud inni gefnu ar ein perthynas â Jehofa. (Heb. 2:14, 15) Sut? O dan ddylanwad Satan, mae pobl weithiau yn rhoi pwysau arnon ni i gyfaddawdu ein ffydd o dan fygythiad marwolaeth. Mewn achosion eraill, bydd Satan yn ceisio ein dal ni allan mewn argyfwng meddygol. Gall meddygon ac aelodau teulu sydd ddim yn Dystion roi pwysau arnon ni i dderbyn trallwysiadau gwaed neu ryw driniaeth arall sy’n mynd yn erbyn egwyddorion y Beibl.

17. O ddarllen Rhufeiniaid 8:37-39, pam does dim angen inni ofni marwolaeth?

17 Yn amlwg, dydyn ni ddim eisiau marw. Ond rydyn ni’n gwybod y bydd Jehofa yn dal i’n caru ni, hyd yn oed os bydd hynny yn digwydd. (Darllen Rhufeiniaid 8:37-39.) Rydyn ni hefyd yn gwybod sut mae Jehofa yn teimlo am ei ffrindiau sydd wedi marw’n barod. Maen nhw’n fyw yn ei gof. (Luc 20:37, 38) Mae’n awyddus i ddod â nhw’n ôl yn fyw, ac yn edrych ymlaen at wneud hynny. (Job 14:15) Meddylia hefyd am y pris uchel mae Jehofa wedi ei dalu er mwyn inni allu “cael bywyd tragwyddol.” (Ioan 3:16) Rydyn ni’n gwybod heb os bod Jehofa yn ein caru ni ac yn gofalu amdanon ni. Felly pan rydyn ni’n sâl neu’n wynebu marwolaeth, dydyn ni ddim yn cefnu ar Jehofa. Yn hytrach, rydyn ni’n closio ato er mwyn cael cysur, doethineb, a nerth. Dyna’n union wnaeth Valérie a’i gŵr.—Salm 41:3.

18. Beth gelli di ei ddysgu o esiampl Valérie?

18 Cafodd Valérie ei diagnosio â chanser prin, difrifol, pan oedd hi’n 35 oed. Dewch inni weld sut mae cariad wedi ei helpu hi i drechu ofn marwolaeth. “Wnaeth y diagnosis newid ein bywydau dros nos,” meddai. “Roedd angen llawdriniaeth fawr arna i, ond doedd yr un llawfeddyg a welais yn fodlon ei gwneud heb waed. Ond doeddwn i ddim am ildio ar unrhyw gyfrif, er bod gen i ofn. Roeddwn i wedi teimlo cariad a chefnogaeth Jehofa drwy gydol fy mywyd. Felly roedd hyn yn gyfle imi ddangos faint oeddwn i’n ei garu. Bob tro roeddwn i’n cael newyddion drwg, roeddwn i’n fwy penderfynol byth o beidio â gadael i Satan ennill, ond i wneud Jehofa yn prowd ohono i. Yn y pen draw, ces i lawdriniaeth lwyddiannus heb waed. Mae gen i broblemau iechyd o hyd, ond mae Jehofa wastad yn gofalu amdanon ni. Er enghraifft, y penwythnos cyn y diagnosis, gwnaethon ni drafod yr erthygl ‘Meeting Today’s Adversities With Courage’ yn y cyfarfod. * Roedden ni’n gwerthfawrogi’r erthygl gymaint, gwnaethon ni ei darllen drosodd a throsodd. Drwy ddarllen erthyglau fel hyn a chadw rwtîn ysbrydol da, rydw i a ngŵr wedi cael heddwch mewnol ac wedi llwyddo i wneud penderfyniadau da.”

TRECHU EIN HOFNAU

19. Beth fydd yn digwydd yn fuan?

19 Gyda help Jehofa, mae Cristnogion ledled y byd wedi llwyddo i drechu eu hofnau, er gwaethaf ymdrechion Satan i’w dychryn. (1 Pedr 5:8, 9) Gelli dithau wneud yr un fath. Yn fuan iawn bydd Jehofa yn dweud wrth Iesu a’i gyd-reolwyr am “ddinistrio gwaith y diafol.” (1 Ioan 3:8) Ar ôl hynny, “fydd dim rhaid i ti fod ag ofn, a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti.” (Esei. 54:14; Mich. 4:4) Ond yn y cyfamser, dalia ati a gwna dy orau i drechu dy ofnau.

20. Beth fydd yn ein helpu i drechu ein hofnau?

20 Yn syml, mae’n rhaid inni fod yn hollol sicr bod Jehofa yn ein caru ni ac yn ein hamddiffyn. Myfyria ar sut mae Jehofa wedi helpu ei weision yn y gorffennol, ac wedi edrych ar dy ôl di dros y blynyddoedd. Siarada am y pethau hyn, a chofia y bydd Jehofa wastad yno iti hyd yn oed yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol. Gyda help Jehofa, gallwn ni drechu ein hofnau!—Salm 34:4.

CÂN 129 Dyfalbarhawn

^ Ar un llaw, gall ofn ein cadw ni rhag peryg. Ond ar y llaw arall, mae gormod o ofn yn gallu ein rhoi ni mewn peryg. Sut? Oherwydd gall Satan ei ddefnyddio yn ein herbyn ni. Felly, yn amlwg, rydyn ni eisiau osgoi ofni’n ormodol. Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i weld y gallwn ni drechu unrhyw ofn os ydyn ni’n hollol sicr bod Jehofa yn ein caru ni ac yn ein cefnogi.

^ Newidiwyd rhai enwau.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae cwpl yn dod â bwyd i chwaer weithgar yn eu cynulleidfa a’i theulu.

^ DISGRIFIAD O’R LLUN: Dydy rhieni brawd ifanc ddim eisiau iddo wasanaethu Jehofa, ond mae’n gwybod bod ganddo gefnogaeth ei Dduw.