Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 38

Profa Dy Fod Ti’n Ddibynadwy

Profa Dy Fod Ti’n Ddibynadwy

“Mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach.”—DIAR. 11:13.

CÂN 101 Cydweithio Mewn Undod

CIPOLWG a

1. Sut rydyn ni’n gwybod bod rhywun yn ddibynadwy?

 MAE person dibynadwy wastad yn cadw ei addewidion ac yn dweud y gwir bob tro. (Salm 15:4) Mae eraill yn gwybod y gallan nhw ddibynnu’n llwyr arno. Dyna’n union sut rydyn ni eisiau i’n brodyr a chwiorydd deimlo amdanon ni. Beth all ein helpu ni i sicrhau hynny?

2. Sut gallwn ni brofi ein bod ni’n ddibynadwy?

2 Allwn ni ddim gorfodi pobl i’n trystio. Mae’n rhaid inni brofi ein bod ni’n ei haeddu. Mae rhai wedi cymharu tryst ag arian—mae’n anodd iawn ei ennill ac yn hawdd iawn ei golli. Dydy Jehofa erioed wedi rhoi rheswm inni beidio â’i drystio. “Mae’r cwbl mae’n ei wneud yn gywir.” (Salm 33:4) Ac mae’n disgwyl inni ei efelychu. (Eff. 5:1) Gad inni edrych ar esiamplau rhai a wnaeth efelychu Jehofa a phrofi eu bod nhw’n ddibynadwy. Byddwn ni hefyd yn edrych ar bum rhinwedd a fydd yn ein helpu ni i fod yn ddibynadwy.

DYSGA ODDI WRTH WEISION DIBYNADWY JEHOFA

3-4. Sut gwnaeth y proffwyd Daniel brofi ei fod yn ddibynadwy, a beth dylen ni ei ofyn i ni’n hunain?

3 Meddylia am y proffwyd Daniel. Yn fuan ar ôl cyrraedd Babilon fel caethwas, enillodd enw da am fod yn ddibynadwy. Ac ar ôl iddo ddehongli breuddwydion y Brenin Nebwchadnesar, roedd pobl yn ei drystio’n fwy byth. Ar un achlysur, roedd rhaid iddo fynd at y brenin i ddweud wrtho fod Jehofa yn ddig gydag ef. Byddai hynny wedi gofyn am ddewrder, oherwydd roedd Nebwchadnesar yn gwylltio ar ddim. (Dan. 2:12; 4:20-22, 25) Flynyddoedd wedyn, profodd Daniel eto ei fod yn ddibynadwy, drwy ddehongli neges a ymddangosodd ar wal y palas ym Mabilon. (Dan. 5:5, 25-29) Yn nes ymlaen, gwnaeth Dareius y Mediad a’i swyddogion hefyd sylwi bod ’na rywbeth arbennig am Daniel. “Roedden nhw’n methu dod o hyd i unrhyw sgandal na llygredd. Roedd Daniel yn gwbl ddibynadwy.” (Dan. 6:3, 4) Mae’n dweud cyfrolau bod hyd yn oed pobl doedd ddim yn addoli Jehofa yn trystio Daniel yn llwyr.

4 Wrth inni fyfyrio ar esiampl Daniel, byddai’n dda inni ofyn i ni’n hunain: ‘Sut enw sydd gen i y tu allan i’r gynulleidfa? Ydy pobl yn fy adnabod i fel rhywun sy’n cadw at ei air?’ Mae’n bwysig inni feddwl am y pethau hyn oherwydd rydyn ni’n dod â chlod i Jehofa drwy fod yn ddibynadwy.

Dewisodd Nehemeia ddynion dibynadwy ar gyfer aseiniadau pwysig (Gweler paragraff 5)

5. Pam roedd gan Hananeia enw da am fod yn ddibynadwy?

5 Ym 455 COG, roedd y Llywodraethwr Nehemeia wedi gorffen adeiladu waliau Jerwsalem. Ond, roedd ef angen dynion dibynadwy i ofalu am y ddinas. Hananeia, pennaeth y gaer, oedd un o’r dynion hynny. Mae’r Beibl yn dweud roedd yn bosib ei drystio, ac roedd yn “fwy duwiol na’r rhan fwya o bobl.” (Neh. 7:2) Roedd Hananeia yn cymryd pob aseiniad o ddifri am ei fod yn caru Jehofa ac yn ei ofni. Bydd agwedd felly yn ein helpu ninnau i fod yn ddibynadwy wrth wasanaethu Duw.

6. Sut gwnaeth Tychicus brofi ei fod yn ffrind dibynadwy i’r apostol Paul?

6 Meddylia hefyd am Tychicus, ffrind da Paul. Dywedodd Paul fod Tychicus “yn weithiwr ffyddlon i’r Arglwydd.” (Eff. 6:21, 22) Tra oedd Paul wedi ei garcharu yn ei dŷ ei hun, roedd yn dibynnu ar Tychicus i fynd â’i lythyrau i’r brodyr yn Effesus a Colosae, ac i’w calonogi nhw hefyd. Mae’r dynion ysbrydol a dibynadwy sy’n gofalu am ein hanghenion heddiw yn efelychu esiampl Tychicus.—Col. 4:7-9.

7. Beth gelli di ei ddysgu oddi wrth yr henuriaid a’r gweision gweinidogaethol yn dy gynulleidfa di ynglŷn â bod yn ddibynadwy?

7 Onid ydyn ni’n falch bod ein henuriaid a’n gweision gweinidogaethol mor ddibynadwy? Fel Daniel, Hananeia, a Tychicus, maen nhw’n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri. Meddylia am y cyfarfod canol wythnos er enghraifft. Rydyn ni’n mynd yno yn hollol sicr bod rhywun wedi trefnu i bob rhan gael ei chyflwyno. Ar y llaw arall, mae’r henuriaid yn falch o allu dibynnu ar frodyr a chwiorydd i baratoi a chyflwyno’r rhannau hynny. Yn y weinidogaeth, dydyn ni ddim yn dal yn ôl rhag gwahodd pobl i wrando ar yr anerchiad cyhoeddus rhag ofn fydd neb yno i’w roi. Ac rydyn ni’n sicr y bydd digon o gyhoeddiadau inni eu defnyddio yn y weinidogaeth. Yn sicr, mae’r brodyr yn edrych ar ein holau, ac rydyn ni’n diolch i Jehofa amdanyn nhw! Ond sut gallwn ninnau brofi ein bod ni’n ddibynadwy?

BYDDA’N DDIBYNADWY DRWY GADW CYFRINACH

8. Sut gallwn ni fod yn gytbwys wrth ddangos diddordeb personol? (Diarhebion 11:13)

8 Wrth gwrs rydyn ni’n caru ein brodyr a chwiorydd ac eisiau gwybod sut maen nhw. Ond rydyn ni hefyd eisiau sicrhau ein bod ni’n parchu eu preifatrwydd. Roedd rhai Cristnogion yn y ganrif gyntaf “yn siaradus a busneslyd, yn dweud pethau na ddylid.” (1 Tim. 5:13, BCND) Yn bendant, dydyn ni ddim eisiau bod fel ’na. Ond beth os ydy rhywun yn sôn wrthot ti am rywbeth personol—problem iechyd, neu ryw dreial arall mae’n ei wynebu, er enghraifft, ac yn gofyn iti beidio â’i ailadrodd? Mae gen ti gyfrifoldeb i wneud fel mae ef wedi gofyn. b (Darllen Diarhebion 11:13.) Ond mae ’na lawer o sefyllfaoedd sy’n gofyn inni gadw cyfrinachedd. Gad inni drafod rhai ohonyn nhw.

9. Sut gall aelodau teulu brofi eu bod nhw’n ddibynadwy?

9 Yn y teulu. Mae gan bob aelod o’r teulu gyfrifoldeb i gadw materion sensitif y teulu yn breifat. Dyweda fod gŵr yn meddwl bod rhywbeth mae ei wraig yn ei wneud yn ddoniol. Ond a fyddai’n sôn am y peth wrth eraill a chodi cywilydd arni? Na fyddai! Mae’n caru ei wraig, a fyddai ef byth eisiau gwneud rhywbeth i’w brifo. (Eff. 5:33) Mae plant yn eu harddegau hefyd eisiau teimlo eu bod nhw’n cael eu parchu. Felly, fyddai rhieni ddim eisiau eu siomi drwy sôn wrth eraill am eu camgymeriadau. (Col. 3:21) Mae’n rhaid i blant hefyd ddysgu pryd i gadw’n ddistaw am fusnes y teulu. (Deut. 5:16) Pan fydd pob aelod o’r teulu yn gwneud ei orau i gadw materion y teulu’n breifat, bydd y teulu’n agosach byth.

10. Beth mae’n ei olygu i fod yn ffrind go iawn? (Diarhebion 17:17)

10 Rhwng ffrindiau. Rydyn ni i gyd angen siarad â ffrind o bryd i’w gilydd. Ond gall hynny fod yn anodd, yn enwedig pan fyddwn ni’n sôn am ein teimladau personol. Petasai’r ffrind hwnnw’n rhannu’r wybodaeth honno â rhywun arall, byddai hynny’n ein brifo i’r byw. Ond ar y llaw arall, mae’n deimlad mor braf i allu siarad â rhywun yn gwbl agored gan wybod fydd y wybodaeth yn mynd dim pellach. Dyna iti ffrind go iawn!—Darllen Diarhebion 17:17.

Dydy henuriaid ddim yn sôn wrth eu teuluoedd am faterion cyfrinachol (Gweler paragraff 11) c

11. (a) Sut mae henuriaid a’u gwragedd yn dangos eu bod nhw’n ddibynadwy? (b) Pa wers gallwn ni ei dysgu o esiampl henuriad a aeth adref at ei deulu ar ôl delio â mater cyfrinachol yn y gynulleidfa? (Gweler y llun.)

11 Yn y gynulleidfa. Mae henuriaid sy’n gallu cadw cyfrinach “fel cysgod rhag y gwynt, a lloches rhag y storm.” (Esei. 32:2) Ar un llaw, gallwn ni siarad yn gwbl agored â nhw, gan wybod y byddan nhw’n cadw’r wybodaeth iddyn nhw eu hunain. Ar y llaw arall, ni fyddai’n deg inni roi pwysau arnyn nhw i rannu materion cyfrinachol pobl eraill. Rydyn ni hefyd yn falch bod eu gwragedd yn parchu’r cyfrinachedd hwnnw. Dyma a ddywedodd gwraig un henuriad: “Dw i’n falch dydw i ddim yn cael gwybod pwy sydd angen help ysbrydol, neu bwy sy’n cael galwad fugeiliol, heb sôn am beth sy’n cael ei drafod. Am un peth, mae’n golygu dydw i ddim yn gorfod poeni am bethau alla i ddim gwneud dim amdanyn nhw. Ac yn ail, dw i’n gallu teimlo’n gyffyrddus yn siarad â phawb yn y gynulleidfa. Ar ben hynny, dw i’n trystio fy ngŵr yn fwy byth i beidio â rhannu fy nheimladau a fy mhroblemau innau ag eraill chwaith.” Ond rydyn ni i gyd eisiau cael enw da am fod yn ddibynadwy. Felly gad inni drafod pum rhinwedd a fydd yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw.

DATBLYGA RINWEDDAU A FYDD YN DY HELPU DI I FOD YN DDIBYNADWY

12. Pam mae cariad yn allweddol os ydyn ni am fod yn ddibynadwy? Rho enghraifft.

12 Cariad ydy sail tryst. Dywedodd Iesu mai’r ddau orchymyn pwysicaf ydy caru Jehofa a charu cymydog. (Math. 22:37-39) Am ein bod ni’n caru Jehofa, rydyn ni’n dilyn ei esiampl berffaith o fod yn ddibynadwy. Ac am ein bod ni’n caru ein brodyr a chwiorydd, dydyn ni ddim yn rhannu eu materion personol ag eraill. Ddylen ni byth ddatgelu rhywbeth a fyddai’n eu rhoi mewn peryg, yn brifo eu teimladau, neu’n codi cywilydd arnyn nhw.—Ioan 15:12.

13. Sut mae gostyngeiddrwydd yn ein helpu ni i fod yn ddibynadwy?

13 Bydd gostyngeiddrwydd yn ein helpu ni i fod yn ddibynadwy. Dydy dangos ein hunain drwy geisio bod y cyntaf i ddatgelu cyfrinach ddim yn beth gostyngedig i’w wneud. (Phil. 2:3) Dydy hi ddim chwaith yn beth gostyngedig i drio gwneud i’n hunain edrych yn fwy pwysig nag ydyn ni drwy awgrymu ein bod ni’n gwybod rhywbeth cyfrinachol. Bydd gostyngeiddrwydd hefyd yn ein helpu ni i beidio â lledaenu ein barn bersonol am bethau sydd ddim yn cael eu trafod yn y Beibl na’n cyhoeddiadau.

14. Sut mae doethineb yn ein helpu ni i fod yn ddibynadwy?

14 Bydd doethineb yn helpu Cristion i wybod pryd mae’n “amser i gadw’n dawel,” a phryd mae’n “amser i siarad.” (Preg. 3:7) Mae’r ymadrodd, “os mai arian yw siarad, aur yw distawrwydd” yn gyffredin iawn mewn rhai gwledydd. Mewn geiriau eraill, weithiau mae’n well peidio â dweud dim. Dyna pam mae Diarhebion 11:12 yn dweud: “Mae’r person call yn cadw’n dawel.” Meddylia am esiampl un henuriad sy’n aml yn helpu cynulleidfaoedd eraill gyda phroblemau anodd. Dyma ddywedodd henuriad arall amdano: “Mae’n ofalus iawn i beidio byth â rhannu gwybodaeth gyfrinachol am gynulleidfaoedd eraill.” Am fod yr henuriad hwn wedi rhoi doethineb ar waith, mae’r henuriaid eraill yn ei gynulleidfa yn ei barchu. Maen nhw’n hollol sicr fydd ef ddim yn datgelu materion cyfrinachol i eraill.

15. Pam bydd eraill yn dy drystio di os wyt ti’n onest. Rho enghraifft.

15 Mae bod yn onest hefyd yn rhan fawr o fod yn ddibynadwy. Os ydy rhywun yn onest, gallwn ni ei drystio am ein bod ni’n gwybod y bydd wastad yn dweud y gwir. (Eff. 4:25; Heb. 13:18) Dyweda dy fod ti’n gofyn i rywun wrando ar dy anerchiad am dy fod ti eisiau gwella dy sgiliau dysgu. Pwy gelli di ddibynnu arno i roi cyngor gonest? Ai rhywun a fydd yn dweud wrthot ti beth rwyt ti eisiau ei glywed, neu rywun fydd yn ddigon caredig i ddweud y gwir wrthot ti? Mae’r ateb yn amlwg. Fel mae’r Beibl yn dweud: “Mae cerydd gonest yn well na pheidio dangos cariad. Mae’n well cael eich brifo gan ffrind.” (Diar. 27:5, 6) Yn sicr, mae cyngor gonest, hyd yn oed gan ffrind, yn gallu brifo. Ond mi fydd o les inni yn y pen draw.

16. Sut mae Diarhebion 10:19 yn pwysleisio’r angen i gael hunanreolaeth?

16 Mae hunanreolaeth yn hollbwysig os ydy eraill am ein trystio ni. Mae’r rhinwedd honno yn ein helpu ni i frathu ein tafod pan fyddwn ni’n ysu i rannu rhywbeth ddylen ni ddim. (Darllen Diarhebion 10:19.) Gall hynny fod yn anodd wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Os nad ydyn ni’n ofalus, gallwn ni ddatgelu rhywbeth cyfrinachol yn anfwriadol i lawer iawn o bobl. Ac unwaith i’r wybodaeth fynd ar led, allwn ni ddim rheoli sut bydd yn cael ei defnyddio, na faint o broblemau y bydd yn eu hachosi. A beth os ydy gwrthwynebwyr yn ceisio ein twyllo ni i ddatgelu gwybodaeth am ein brodyr a chwiorydd, fel sy’n digwydd mewn gwledydd lle mae ein gwaith wedi ei wahardd? Bydd hunanreolaeth yn ein helpu ni i amddiffyn ein brodyr a chwiorydd drwy gadw’n ddistaw. Yn sicr, mae geiriau’r salmydd, “Dw i’n mynd i gau fy ngheg,” yn berthnasol i lawer o sefyllfaoedd. (Salm 39:1) Dylai pawb allu dibynnu arnon ni, p’un a ydyn nhw’n deulu, yn ffrindiau, yn frodyr a chwiorydd, neu unrhyw un arall o ran hynny. Ac er mwyn bod yn ddibynadwy, mae angen hunanreolaeth.

17. Sut gallwn ni drystio ein gilydd yn fwy byth?

17 Onid ydyn ni’n falch bod Jehofa wedi ein denu ni at frawdoliaeth sy’n llawn pobl gariadus a dibynadwy? Ond mae’n rhaid i bob un ohonon ni brofi i’n brodyr a chwiorydd eu bod nhw’n gallu ein trystio ni. Ac wrth inni feithrin rhinweddau fel cariad, gostyngeiddrwydd, doethineb, gonestrwydd, a hunanreolaeth, byddwn ni’n trystio ein gilydd yn fwy byth. Mae bod yn ddibynadwy yn gofyn am ymdrech barhaol. Felly, gad inni efelychu ein Duw, Jehofa, a dal ati i brofi ein bod ni’n ddibynadwy.

CÂN 123 Ymostwng yn Ffyddlon i’r Drefn Theocrataidd

a Os ydyn ni eisiau i eraill ein trystio, yn gyntaf mae’n rhaid inni brofi ein bod ninnau’n ddibynadwy. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pam mae hi mor bwysig inni drystio ein gilydd. Byddwn ni hefyd yn gweld pa rinweddau fydd yn ein helpu ni i fod yn rhywun gall eraill ddibynnu arno.

b Os ydy rhywun yn y gynulleidfa yn dweud wrthon ni ei fod wedi pechu’n ddifrifol, dylen ni ei annog i gael help gan yr henuriaid. Os dydy ef ddim yn gwneud hynny, yna mae gynnon ni gyfrifoldeb i fynd at yr henuriaid yn ei le, am ein bod ni’n ffyddlon i Jehofa, ac i’r gynulleidfa.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Ar ôl delio â mater cyfrinachol yn y gynulleidfa, dydy henuriad ddim yn sôn amdano wrth ei deulu.