Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

HANES BYWYD

Dw i Wedi Mwynhau Dod i Adnabod Jehofa a Dysgu Eraill Amdano

Dw i Wedi Mwynhau Dod i Adnabod Jehofa a Dysgu Eraill Amdano

Fel dyn ifanc yn tyfu i fyny yn Easton, Pensylfania, UDA, o’n i’n benderfynol o wneud rhywbeth ohono i fy hun a mynd i’r brifysgol. O’n i wrth fy modd yn dysgu, felly wnes i’n reit dda mewn mathemateg a gwyddoniaeth. Ym 1956, ces i 25 doler gan gyfundrefn hawliau sifil am gael y marciau uchaf ymysg y disgyblion du. Ond gad imi ddweud pam gwnes i newid fy amcanion.

DOD I ADNABOD JEHOFA

Dechreuodd fy rhieni astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa yn y 1940au. Wnaeth hynny ddim para, ond roedd Mam yn dal yn hoffi darllen y Tŵr Gwylio a Deffrwch!. Ym 1950, gwnaethon ni dderbyn gwahoddiad i fynd i gynhadledd ryngwladol yn Efrog Newydd.

Yn fuan ar ôl hynny, gwnaeth y Brawd Lawrence Jeffries ddechrau galw arnon ni, ac yn y pen draw, ef wnaeth fy helpu i ddod i adnabod Jehofa. Doeddwn i ddim yn cytuno â safiad niwtral y Tystion i ddechrau. O’n i’n dadlau petasai pawb yn America yn gwrthod mynd i ryfel, bydden ni’n darged hawdd i’r gelyn. Ond yn llawn amynedd, rhesymodd y Brawd Lawrence â fi a dweud: “Meddylia petasai pawb yn America yn gwasanaethu Jehofa. Beth rwyt ti’n meddwl y byddai’n ei wneud petasai gelyn yn ymosod arnyn nhw?” Roedd ganddo ffordd o resymu a wnaeth, nid yn unig helpu fi i weld lle o’n i’n anghywir, ond hefyd gwneud imi eisiau gwybod mwy.

Fy medydd

Roedd Mam wedi cadw hen gopïau o’r Tŵr Gwylio a Deffrwch! yn y seler a gwnes i benderfynu eu darllen. O’n i’n methu rhoi nhw i lawr! Y mwyaf o’n i’n darllen, y mwyaf o’n i’n gweld mai dyma oedd y gwir. Felly gwnes i gytuno i astudio’r Beibl gyda’r Brawd Lawrence, a dechrau mynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd. O’n i’n teimlo bod y gwir yn cyrraedd fy nghalon, felly gwnes i ddechrau pregethu a dod yn gyhoeddwr. A phan wnes i ddeall bod “dydd barn yr ARGLWYDD yn agos,” dyna pryd dechreuodd pethau newid imi. (Seff. 1:14) Yn lle rhoi fy mryd ar fynd i’r brifysgol, o’n i eisiau helpu eraill i ddysgu am gwirioneddau’r Beibl.

Ar Fehefin 13, 1956, fe wnes i raddio o’r ysgol uwchradd. Dridiau wedyn, ces i fy medyddio mewn cynulliad cylchdaith. Doedd gen i ddim syniad faint o fendithion byddwn i’n eu cael o ddod i adnabod Jehofa a defnyddio fy mywyd i ddysgu eraill amdano.

DYSGU MWY WRTH ARLOESI

Chwe mis ar ôl imi gael fy medyddio, gwnes i ddechrau arloesi’n llawn amser. Yna, yn rhifyn Rhagfyr 1956 Ein Gweinidogaeth, roedd ’na erthygl yn gofyn “Can You Serve Where the Need Is Great?”. O’n i’n teimlo fy mod i mewn sefyllfa i wneud hynny, ac yn hoffi’r syniad o helpu lle roedd yr angen yn fwy.—Math. 24:14.

Gwnes i symud i gynulleidfa Edgefield yn Ne Carolina, lle roedd ’na ond pedwar cyhoeddwr. Fi oedd y pumed. Oedden ni’n cynnal y cyfarfodydd yn lolfa un o’r brodyr. Roedd ’na ddigon i’w wneud. O’n i’n treulio tua chant o oriau yn y weinidogaeth bob mis, yn cymryd y grwpiau ar gyfer y weinidogaeth, ac yn rhoi anerchiadau yn y cyfarfodydd. Ond wyddoch chi beth, y mwyaf o’n i’n ei wneud, y mwyaf o’n i’n dod i adnabod Jehofa.

O’n i’n astudio’r Beibl gydag un ddynes oedd piau’r parlwr angladdau mewn tref gyfagos o’r enw Johnston. Chwarae teg iddi, gwnaeth hi roi gwaith rhan amser imi a gadael inni ddefnyddio adeilad bach fel Neuadd y Deyrnas.

Gwnaeth Jolly Jeffries, mab y brawd oedd wedi astudio gyda mi, symud yma o Brooklyn, Efrog Newydd. Gwnaethon ni ddechrau arloesi gyda’n gilydd, a rhoddodd brawd fenthyg carafán fach inni gael byw ynddi.

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn y De yn ennill cyflog pitw—tua dwy neu dair doler y dydd. Dw i’n cofio un diwrnod, o’n i wedi gwario fy ngheiniog olaf ar fwyd. Daeth dyn ata i a dweud: “Ti moyn gwaith? Wna i dalu doler yr awr iti.” Ces i dridiau o waith ganddo yn glanhau safle adeiladu. Roedd hi’n amlwg i mi fod Jehofa yn fy helpu i aros yn Edgefield. Felly er gwaethaf fy nghyflog pitw, oedd hi’n bosib imi fynd i’r gynhadledd ryngwladol yn Efrog Newydd ym 1958.

Ar ddiwrnod ein priodas

Ar ail ddiwrnod y gynhadledd, digwyddodd rhywbeth arbennig. Wnes i gyfarfod chwaer o’r enw Ruby Wadlington, o Gallatin, yn Tennessee. Roedd hithau hefyd yn arloesi’n llawn amser, ac roedden ni’n dau eisiau bod yn genhadon. Felly aethon ni i’r cyfarfod Gilead yn y gynhadledd honno. Ar ôl hynny, gwnaethon ni ysgrifennu yn ôl ac ymlaen at ein gilydd. Ymhen amser, ces i wahoddiad i roi anerchiad cyhoeddus yn Gallatin. Felly tra o’n i yno, gwnes i fachu ar y cyfle i ofyn iddi fy mhriodi. Yn fuan wedyn, symudais i gynulleidfa Ruby, a gwnaethon ni briodi ym 1959.

DYSGU MWY YN Y GYNULLEIDFA

Yn 23 oed, ces i fy mhenodi’n was y gynulleidfa (cydlynydd y corff henuriaid heddiw) yn Gallatin. Roedd Charles Thompson newydd ddechrau ar y gwaith cylch pan ddaeth aton ni am ymweliad. Er ei fod yn frawd profiadol, gofynnodd imi beth o’n i’n meddwl roedd y brodyr ei angen, a sut roedd arolygwyr cylchdaith eraill wedi gofalu am y gynulleidfa. Roedd hyn yn wers bwysig i mi—mae angen gofyn cwestiynau a chael y ffeithiau i gyd cyn gwneud penderfyniadau.

Ym mis Mai 1964, ces i’r fraint o fynd i Ysgol Gweinidogaeth y Deyrnas am fis, yn South Lansing, Efrog Newydd. Gwnaeth y brodyr oedd yn cymryd y blaen yn yr ysgol honno greu awydd cryf yno i i ddod i adnabod Jehofa yn well a chlosio ato’n fwy byth.

DYSGU MWY YN Y GWAITH CYLCH A’R GWAITH RHANBARTH

Ym mis Ionawr 1965, dyma’r gangen yn gofyn imi fod yn arolygwr cylchdaith. Ces i a Ruby ein haseinio i gylchdaith enfawr oedd yn ymestyn o Knoxville, Tennessee, ac yn cyrraedd Richmond, Virginia, mwy neu lai. Roedd hefyd yn cynnwys cynulleidfaoedd yng Ngogledd Carolina, Kentucky, a Gorllewin Virginia. Ar y pryd, doedd y gyfraith ddim yn caniatáu i bobl ddu a phobl wyn gymysgu yn Ne’r Unol Daleithiau, felly roedden ni ond yn ymweld â’r cynulleidfaoedd du. Roedd y brodyr yn dlawd, felly dysgon ni rannu beth oedd gynnon ni gyda’r rhai mewn angen. Wna i byth anghofio beth ddywedodd un arolygwr cylchdaith profiadol wrtho i. “Bydda’n frawd i’r brodyr a chwiorydd. Paid ag ymddwyn fel bòs pan ei di i gynulleidfa; elli di ond eu helpu nhw os ydyn nhw’n dy ystyried di fel eu brawd.”

Ar un ymweliad, gwnaeth Ruby ddechrau astudiaeth gyda dynes ifanc oedd â merch fach flwydd oed. Doedd neb yn y gynulleidfa yn gallu astudio gyda hi, felly dyma Ruby yn gwneud drwy’r post. Y tro nesaf inni ymweld â’r gynulleidfa, daeth hi i bob cyfarfod. Wedyn cafodd dwy chwaer, a oedd yn arloeswyr arbennig, eu hanfon i’r gynulleidfa a gwnaethon nhw gymryd drosodd yr astudiaeth. Cyn bo hir cafodd y ddynes ei bedyddio. Pan oedden ni ym Methel Patterson ryw 30 mlynedd wedyn, ym 1995, daeth chwaer ifanc at Ruby i ddweud helo. Pwy oedd hi? Merch y ddynes ifanc roedd Ruby wedi astudio gyda hi. Roedd hi a’i gŵr yn nosbarth 100 Ysgol Gilead.

Ein hail gylchdaith oedd canolbarth Fflorida. Tua’r un adeg, prynon ni gar am bris ardderchog. Ond gwnaeth y pwmp dŵr falu o fewn wythnos. Doedd gynnon ni ddim arian ar ôl i’w drwsio, felly gwnes i ffonio brawd o’n i’n meddwl byddai’n gallu ein helpu. Gofynnodd i un o’i weithwyr drwsio’r car, a doedd ef ddim eisiau ceiniog gynnon ni am y gwaith. Gwnaeth ef jest dweud, “Peidiwch â phoeni amdani.” Roedd ef mor ffeind, gwnaeth ef roi ychydig bach o arian inni hefyd! Nid yn unig oedd hynny’n esiampl hyfryd o sut mae Jehofa yn gofalu am ei weision, ond roedd hefyd yn ein hatgoffa ni i fod yn hael â phobl eraill.

Oedden ni’n aros gyda’r brodyr wrth inni fynd o un gynulleidfa i’r llall. Gwnaethon ni wneud ffrindiau oes ar hyd y ffordd. Un bore, gwnes i ddechrau teipio adroddiad am y gynulleidfa a’i adael ar ei hanner. Pan ddes i’n ôl y noson honno, gwnes i sylwi bod mab tair blwydd oed y teulu roedden ni’n aros gyda nhw wedi fy “helpu” i’w orffen. Gwnes i dynnu ei goes am y peth am flynyddoedd!

Cawson ni sioc pan ges i fy aseinio i Efrog Newydd fel arolygwr rhanbarth. Roedd hi’n 1971, ac o’n i ond yn 34 mlwydd oed. Y fi oedd y brawd du cyntaf i fod yn arolygwr rhanbarth yno, a ches i groeso cynnes iawn gan y brodyr.

Fel arolygwr rhanbarth, o’n i wrth fy modd yn dysgu eraill am Jehofa bob penwythnos yn y cynulliadau cylchdaith. Roedd llawer o’r arolygwyr cylchdaith yn fwy profiadol na fi. Roedd un hyd yn oed wedi rhoi fy anerchiad bedydd. Yn nes ymlaen, daeth brawd arall, o’r enw Theodore Jaracz, yn aelod o’r Corff Llywodraethol. Roedd ’na lawer o frodyr profiadol ym Methel Brooklyn hefyd. Dw i mor ddiolchgar i bob un ohonyn nhw am wneud imi deimlo mor gyffyrddus. Roedd hi’n amlwg bod y brodyr hyn yn fugeiliaid cariadus oedd yn dibynnu ar Air Duw ac yn cefnogi’r gyfundrefn yn ffyddlon. Eu gostyngeiddrwydd nhw wnaeth wneud fy aseiniad i yn gymaint haws.

YN ÔL I’R GWAITH CYLCH

Ym 1974, gwnaeth y Corff Llywodraethol aseinio grŵp arall o arolygwyr cylchdaith i’r gwaith rhanbarth. Ces i’r cyfle i wasanaethu fel arolygwr cylchdaith unwaith eto—y tro hwn, yn Ne Carolina. Wrth gwrs, erbyn hynny roedd pawb yn cael cyfarfod gyda’i gilydd mewn un gynulleidfa, ni waeth beth oedd lliw eu croen, ac roedd y brodyr wedi gwirioni.

Erbyn diwedd 1976, ces i fy aseinio i gylchdaith yn Georgia, rhwng Atlanta a Columbus. Wna i byth anghofio rhoi anerchiad angladd ar gyfer pump o blant bach du a fu farw pan gafodd eu tŷ ei osod ar dân. Roedd rhaid i’r fam fynd i’r ysbyty oherwydd ei hanafiadau, a daeth Tystion du a gwyn yno, un ar ôl y llall, i’w chysuro hi a’i gŵr. Yn sicr, roedd cariad y brodyr heb ei ail. Heb os, mae cydymdeimlad o’r fath yn helpu pobl Dduw i ddelio â sefyllfaoedd a fyddai’n amhosib fel arall.

DYSGU MWY YM METHEL

Ym 1977, cawson ni wahoddiad i fynd i Bethel Brooklyn am ychydig o fisoedd i helpu gyda phrosiect. Tra oedden ni yno, ces i gyfarfod gyda dau aelod o’r Corff Llywodraethol. Gwnaethon nhw ofyn i mi a Ruby aros yno’n barhaol, ac wrth gwrs roedden ni eisiau aros!

Gwnes i weithio yn yr Adran Wasanaeth am 24 mlynedd. Yno roedden ni’n delio â chwestiynau sensitif a chymhleth. Dros y blynyddoedd, mae’r Corff Llywodraethol wedi rhoi digon o arweiniad o’r Beibl inni i’n helpu ni i ateb y cwestiynau hynny. Mae’r arweiniad hwnnw nid yn unig wedi ein helpu ni i hyfforddi arolygwyr cylchdaith, henuriaid, ac arloeswyr, ond hefyd wedi helpu llawer mwy i dyfu’n ysbrydol. O ganlyniad, mae cyfundrefn Jehofa wedi cael ei chryfhau.

Rhwng 1995 a 2018, o’n i’n ymweld â changhennau ledled y byd fel un o gynrychiolwyr y gangen, neu arolygwr parth fel roedden ni’n arfer ei alw. Fel rhan o fy aseiniad, o’n i’n cael cyfarfodydd gyda Phwyllgorau Cangen, gweithwyr Bethel, a chenhadon. Roedd hynny’n gyfle i’w calonogi a’u helpu gydag unrhyw beth oedd yn eu poeni. Ond ar yr un pryd, roedd eu profiadau nhw wastad yn fy nghalonogi i a Ruby. Mae ein hymweliad i Rwanda yn 2000 yn sefyll allan. Cawson ni glywed am sut gwnaeth y brodyr a’r teulu Bethel oroesi’r hil-laddiad yno ym 1994. Gwnaeth hynny ein cyffwrdd ni i’r byw. Roedd cymaint ohonyn nhw wedi colli anwyliaid, ond er gwaethaf popeth gwnaethon nhw ei wynebu, chafodd eu ffydd, eu gobaith, na’u llawenydd eu siglo.

Ar ein pen-blwydd priodas aur

Dw i wedi bod yn gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Cangen yr Unol Daleithiau am yr ugain mlynedd diwethaf, a bellach mi ydw i a Ruby yn ein 80au. Er na ches i addysg uwch, dw i wedi cael yr addysg orau gan Jehofa a’i gyfundrefn. Yn wir, dyna sydd wedi fy helpu i ddysgu eraill am Jehofa a’i Air. (2 Cor. 3:5; 2 Tim. 2:2) Dw i wedi gweld o fy mhrofiad fy hun sut mae neges y Beibl wedi helpu eraill i gael bywyd gwell a dod i adnabod y Creawdwr. (Iago 4:8) Bob cyfle gawn ni, mi ydw i a Ruby yn dal i annog eraill i drysori’r fraint o ddod i adnabod Jehofa a dysgu eraill amdano. Wedi’r cwbl, dyma’r fraint fwyaf gall un o weision Jehofa ei chael!