Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Cwestiynau Ein Darllenwyr

Beth roedd yr apostol Paul yn ei olygu pan gyfeiriodd ato’i hun fel “un gafodd ei eni’n gynnar”? (1 Corinthiaid 15:8, NWT)

Dywedodd Paul yn 1 Corinthiaid 15:8, NWT: “Yn olaf, ymddangosodd i minnau hefyd fel un gafodd ei eni’n gynnar.” Roedden ni’n arfer meddwl ei fod yn cyfeirio at ei brofiad ei hun pan gafodd weledigaeth o Iesu yn y nef—fel petai Paul wedi cael ei eni neu ei atgyfodi i fywyd yn y nef cyn roedd atgyfodiad o’r fath i fod i ddigwydd. Ond bellach, rydyn ni’n gweld bod angen addasu ein dealltwriaeth o’r adnod hon.

Mae’n wir bod Paul yn cyfeirio at beth ddigwyddodd pan gafodd ei weledigaeth. Ond beth roedd yn ei olygu wrth ddweud ei fod wedi ei “eni’n gynnar”? Mae ’na sawl esboniad posib.

Roedd ei dröedigaeth yn sydyn ac yn ddigon i’w ysgwyd. Mae genedigaeth gynnar fel arfer yn digwydd yn annisgwyl. Wrth i Paul (neu Saul fel roedd yn cael ei adnabod ar y pryd) deithio i Damascus i erlid y Cristnogion yno, doedd ef ddim yn disgwyl cael gweledigaeth o Iesu yn y nef. Roedd Paul ei hun wedi synnu digon am ei dröedigaeth, heb sôn am y Cristnogion roedd ef yn bwriadu eu herlid. Ar ben hynny, roedd y profiad yn gymaint o ysgytwad iddo nes iddo golli ei olwg.—Act. 9:1-9, 17-19.

Cafodd ei dröedigaeth ar “yr adeg anghywir.” Yn yr iaith Roeg wreiddiol, gall y term “un gafodd ei eni’n gynnar” hefyd olygu “un a gafodd ei eni ar yr adeg anghywir.” Mae’r Jerusalem Bible wedi ei gyfieithu fel hyn: “Roedd fel petaswn i wedi cael fy ngeni pan doedd neb yn ei ddisgwyl.” Roedd y rhai roedd Paul wedi cyfeirio atyn nhw yn yr adnodau cynt wedi cael treulio amser gyda Iesu tra oedd ef ar y ddaear. Ond erbyn i Paul gael ei dröedigaeth, roedd Iesu eisoes wedi dychwelyd i’r nef. Felly chafodd Paul ddim y cyfle hwnnw, nes i Iesu ymddangos o’i flaen yn annisgwyl. (1 Cor. 15:4-8) Yn y pen draw, cafodd Paul y cyfle i weld Iesu, er bod hynny “ar yr adeg anghywir” fel petai.

Roedd Paul yn dangos agwedd wylaidd. Mae rhai ysgolheigion yn dweud bod y geiriau a ddefnyddiodd Paul yn awgrymu ei fod yn bychanu ei hun. Os mai dyna oedd ei fwriad, roedd yn cydnabod nad oedd yn haeddu’r fraint o fod yn apostol. Gwnaeth ef hyd yn oed ddweud: “Fi ydy’r un lleia pwysig o’r holl rai ddewisodd y Meseia i’w gynrychioli. Dw i ddim hyd yn oed yn haeddu’r enw ‘apostol’, am fy mod i wedi erlid eglwys Dduw. Ond Duw sydd wedi ngwneud i beth ydw i.”—1 Cor. 15:9, 10.

Felly mae’n bosib roedd Paul yn cyfeirio at y ffordd sydyn gwnaeth Iesu ymddangos iddo, at ba mor annisgwyl roedd ei dröedigaeth, neu at y ffaith doedd ef ddim yn haeddu cael gweledigaeth mor rhyfeddol. Beth bynnag yw’r achos, mae’n amlwg roedd hyn yn digwyddiad pwysig iawn ym mywyd Paul. Roedd yn profi iddo, heb os, fod Iesu wedi cael ei atgyfodi. Does dim syndod ei fod wedi sôn yn aml am ei brofiad annisgwyl wrth bregethu i eraill am atgyfodiad Iesu.—Act. 22:6-11; 26:13-18.