Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 40

Dysgu Llawer i Fod yn Gyfiawn

Dysgu Llawer i Fod yn Gyfiawn

“Bydd y rhai sy’n arwain y werin bobl i fyw mewn perthynas iawn â Duw yn disgleirio fel sêr am byth bythoedd.”—DAN. 12:3.

CÂN 151 Geilw Ef

CIPOLWG a

1. Pa ddigwyddiadau cyffrous sydd o’n blaenau ni yn ystod y Mil Blynyddoedd?

 DYCHMYGA dy hun yn ystod y Mil Blynyddoedd. Mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd a’r atgyfodiad wedi dechrau! Mae pobl ledled y byd yn croesawu eu hanwyliaid yn ôl â breichiau agored. Rydyn ni i gyd, gan gynnwys Jehofa, yn dyheu am y diwrnod hwnnw. (Job 14:15) Fel gwnaethon ni drafod yn yr erthygl ddiwethaf, bydd y “cyfiawn” sydd yn llyfr y bywyd yn “codi i fywyd.” (Act. 24:15, BCND; Ioan 5:29) Efallai bydd rhai o’n hanwyliaid ni ymysg y rhai cyntaf i gael eu hatgyfodi ar ôl Armagedon. b Ar ben hynny, bydd yr “anghyfiawn” yn “codi i gael eu barnu.” Maen nhw’n cynnwys y rhai doedd ddim yn adnabod Jehofa nac yn ei wasanaethu cyn iddyn nhw farw.

2-3. (a) Yn ôl Eseia 11:9, 10, beth fydd y gwaith dysgu mwyaf erioed? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

2 Ar ôl i gymaint o bobl gael eu hatgyfodi, bydd cryn dipyn o waith i’w dysgu nhw i gyd. (Esei. 26:9; 61:11) A dweud y gwir, dyna fydd y gwaith dysgu mwyaf erioed. (Darllen Eseia 11:9, 10.) Bydd rhaid i’r anghyfiawn ddysgu am Iesu Grist, y Deyrnas, pwysigrwydd enw Jehofa, a pham mae Ef yn unig sydd â’r hawl i reoli. Bydd hyd yn oed y cyfiawn yn dysgu’r diweddaraf am bwrpas Jehofa ar gyfer y ddaear. Meddylia am y peth, bu farw rhai pobl ffyddlon ymhell cyn i’r Beibl gael ei gwblhau. Felly yn sicr, bydd gan bawb sy’n cael eu hatgyfodi, yn gyfiawn neu’n anghyfiawn, lawer i’w ddysgu.

3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud, a pha gysylltiad sydd ’na rhwng ymateb pobl i’r hyn maen nhw’n ei ddysgu, a ph’un a fydd eu henwau’n cael eu hysgrifennu yn barhaol yn llyfr y bywyd ai peidio. Mae’r atebion i’r cwestiynau hynny o ddiddordeb i ni heddiw. Byddwn ni’n edrych ar broffwydoliaethau diddorol iawn yn llyfrau Daniel a Datguddiad i’n helpu ni i ddeall beth fydd yn digwydd ar ôl i’r meirw gael eu hatgyfodi. Felly yn gyntaf, gad inni edrych ar y broffwydoliaeth gyffrous yn Daniel 12:1, 2.

“BYDD LLAWER . . . SY’N CYSGU YN LLWCH Y DDAEAR YN DEFFRO”

4-5. Beth mae Daniel 12:1 yn ei ddatgelu am amser y diwedd?

4 Darllen Daniel 12:1. Yn llyfr Daniel, rydyn ni’n gweld ym mha drefn bydd digwyddiadau cyffrous y dyddiau diwethaf yn digwydd. Er enghraifft, mae Daniel 12:1 yn dweud y bydd Michael, sef Iesu Grist, yn ‘gofalu am bobl Dduw.’ Mae’r rhan honno o’r broffwydoliaeth wedi cael ei chyflawni ers 1914, pan ddaeth Iesu’n Frenin ar Deyrnas Dduw yn y nef.

5 Ond dywedodd Daniel hefyd y byddai Iesu “yn codi” yn ystod “amser caled—gwaeth na dim mae’r wlad wedi’i brofi erioed o’r blaen.” Mae’r “amser caled” hwn a’r “gorthrymder mawr” yn Mathew 24:21 yn cyfeirio at yr un adeg. Felly ar ddiwedd yr amser caled, hynny ydy, yn ystod Armagedon, bydd Iesu yn codi i amddiffyn pobl Dduw. Mae llyfr Datguddiad yn cyfeirio at y rhai hynny fel tyrfa fawr “sy’n dod allan o’r gorthrymder mawr.”—Dat. 7:9, 14.

6. Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r dyrfa fawr oroesi’r gorthrymder mawr? Esbonia. (Gweler hefyd “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn y rhifyn hwn, sy’n trafod yr atgyfodiad i fywyd ar y ddaear.)

6 Darllen Daniel 12:2, BCND. Dydy’r broffwydoliaeth hon ddim yn cyfeirio at atgyfodiad symbolaidd, na rhyw adfywiad ysbrydol ymhlith pobl Dduw yn ystod y dyddiau diwethaf. Dyna oedden ni’n arfer meddwl. c Bellach, rydyn ni’n gweld ei bod yn cyfeirio at atgyfodiad y meirw yn y byd newydd sydd i ddod. Pam rydyn ni’n dweud hynny? Yn yr iaith wreiddiol, mae Job 17:16 yn defnyddio’r gair “llwch” i olygu “y bedd”. Mae hynny’n ein helpu ni i ddeall defnydd Daniel o’r gair “llwch,” am ei fod wedi defnyddio’r un gair. Felly gallwn ni ddweud bod Daniel 12:2 yn cyfeirio at yr atgyfodiad llythrennol a fydd yn digwydd ar ôl y dyddiau diwethaf, ac ar ôl Armagedon.

7. (a) Ym mha ystyr bydd rhai yn cael eu hatgyfodi i “fywyd tragwyddol”? (b) Sut mae hwn yn “atgyfodiad gwell”?

7 Mae Daniel 12:2 yn sôn am atgyfodiad i “fywyd tragwyddol.” Beth mae hynny’n ei olygu? Bydd y rhai fydd yn cael eu hatgyfodi yn cael bywyd tragwyddol yn y pen draw os ydyn nhw’n dod i adnabod, neu’n parhau i adnabod, Jehofa ac Iesu yn ystod y Mil Blynyddoedd. (Ioan 17:3) Bydd hwn yn “atgyfodiad gwell” na’r gorffennol. (Heb. 11:35, BCND) Pam? Oherwydd buodd yr unigolion gafodd eu hatgyfodi yn y gorffennol farw eto, am eu bod nhw’n amherffaith.

8. Ym mha ystyr bydd rhai’n cael eu hatgyfodi i “waradwydd a dirmyg tragwyddol”?

8 Fydd pawb sy’n cael eu hatgyfodi ddim eisiau gwrando ar Jehofa. Mae Daniel yn dweud y bydd rhai’n cael eu hatgyfodi i “waradwydd a dirmyg tragwyddol.” Oherwydd agwedd y rhai hynny sy’n gwrthryfela, fydd eu henwau ddim yn cael eu hysgrifennu yn llyfr y bywyd, a fyddan nhw ddim yn cael byw am byth. Byddan nhw’n cael “dirmyg tragwyddol,” hynny ydy, byddan nhw’n cael eu dinistrio yn y pen draw. Yn syml, mae Daniel 12:2 yn dweud y bydd rhai yn cael bywyd tragwyddol ac eraill ddim, ar sail yr hyn a wnân nhw ar ôl iddyn nhw gael eu hatgyfodi. dDat. 20:12.

DYSGU LLAWER I FOD YN GYFIAWN

9-10. Beth arall fydd yn digwydd ar ôl y gorthrymder mawr, a phwy fydd “yn disgleirio fel golau dydd”?

9 Darllen Daniel 12:3. Mae’r adnod hon, fel adnod 2, hefyd yn sôn am rywbeth a fydd yn digwydd ar ôl y “gorthrymder mawr.” Gad inni weld beth ydy hwnnw.

10 Yn gyntaf, mae angen deall pwy fydd “yn disgleirio fel golau dydd.” Dywedodd Iesu rywbeth tebyg sy’n ein helpu: “Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad.” (Math. 13:43, BCND) Mae’r cyd-destun yn dangos ei fod yn sôn am “bobl sy’n perthyn i’r Deyrnas,” sef ei frodyr eneiniog a fydd yn rheoli gydag ef yn y nef. (Math. 13:38) Wrth reswm felly, mae Daniel 12:3 yn sôn am yr eneiniog a’r gwaith byddan nhw’n ei wneud yn ystod y Mil Blynyddoedd.

Bydd y 144,000 yn gweithio’n agos gyda Iesu Grist i arwain y gwaith dysgu a fydd yn digwydd ar y ddaear yn ystod y Mil Blynyddoedd (Gweler paragraff 11)

11-12. Pa waith bydd y 144,000 yn ei wneud yn ystod y Mil Blynyddoedd?

11 Bydd yr eneiniog yn gweithio’n agos gyda Iesu Grist i ddysgu pobl i fod yn gyfiawn. Sut? Yn ystod y Mil Blynyddoedd, byddan nhw’n cyfarwyddo’r gwaith dysgu a fydd yn digwydd yma ar y ddaear. Bydd y 144,000 nid yn unig yn frenhinoedd, ond hefyd yn offeiriaid. (Dat. 1:6; 5:10; 20:6) Felly byddan nhw hefyd yn cael rhan yn y gwaith o “iacháu y cenhedloedd.” Mewn geiriau eraill, byddan nhw’n helpu pobl i gyrraedd perffeithrwydd. (Dat. 22:1, 2; Esec. 47:12) Am fraint fydd hynny i’r eneiniog!

12 Ymysg y bobl fydd yn cael eu dysgu, bydd y rhai sy’n cael eu hatgyfodi, a’r rhai fydd yn goroesi Armagedon. Bydd unrhyw blant fydd yn cael eu geni yn y byd newydd hefyd yn cael eu dysgu. Erbyn diwedd y Mil Blynyddoedd, bydd pawb ar y ddaear yn berffaith. Ond pryd bydd eu henwau’n cael eu hysgrifennu yn llyfr y bywyd mewn inc yn hytrach na phensil?

Y PRAWF OLAF

13-14. Beth fydd rhaid i bob person perffaith ar y ddaear ei ddangos er mwyn cael byw am byth?

13 Dydy bod yn berffaith ddim o reidrwydd yn golygu bod rhywun yn mynd i fyw am byth. Mae’n bwysig inni gofio hynny. Wedi’r cwbl, roedd Adda ac Efa yn berffaith. Ond er mwyn cael byw am byth, roedd rhaid iddyn nhw brofi eu bod nhw’n ffyddlon i Jehofa. Ond yn anffodus, nid dyna wnaethon nhw.—Rhuf. 5:12.

14 Erbyn diwedd y Mil Blynyddoedd, bydd pawb ar y ddaear yn berffaith. Ond a fyddan nhw i gyd yn aros yn ffyddlon i Jehofa am byth? Neu a fydd rhai yn cefnu arno, fel gwnaeth Adda ac Efa? Mae’r rhain yn gwestiynau pwysig iawn, ond sut byddan nhw’n cael eu hateb?

15-16. (a) Pryd bydd pawb ar y ddaear yn cael cyfle i brofi eu bod nhw’n ffyddlon i Jehofa? (b) Beth fydd canlyniad y prawf hwnnw?

15 Yn ystod y Mil Blynyddoedd, bydd Satan wedi ei rwymo, a fydd ef ddim yn gallu camarwain neb. Ar ôl hynny, bydd yn cael ei ryddhau, ac yn mynd yn syth ati i geisio camarwain pawb ar y ddaear. Bydd y prawf hwnnw yn rhoi cyfle i bobl berffaith ddangos yn glir eu bod nhw’n parchu Jehofa ac yn cefnogi ei hawl i reoli. (Dat. 20:7-10) Bydd cael eu henwau yn llyfr y bywyd yn barhaol yn dibynnu ar sut maen nhw’n ymateb i ymdrechion Satan.

16 Bydd rhai pobl yn anffyddlon, fel roedd Adda ac Efa. Allwn ni ddim gwybod faint yn union fydd hynny, ond beth fydd yn digwydd iddyn nhw? Mae Datguddiad 20:15 yn dweud: “Cafodd pob un doedd eu henwau nhw ddim wedi eu hysgrifennu yn Llyfr y Bywyd eu taflu i’r llyn tân.” Felly bydd pawb sy’n cefnu ar Jehofa yn cael eu dinistrio am byth. Er hynny, bydd y rhan fwyaf o bobl berffaith yn pasio’r prawf olaf a bydd eu henwau yn cael eu hysgrifennu’n barhaol yn llyfr y bywyd.

YN YSTOD “AMSER Y DIWEDD”

17. Beth ddywedodd yr angel wrth Daniel am y pethau a fyddai’n digwydd yn ein hamser ni? (Daniel 12:4, 8-10)

17 Mae gynnon ni gymaint i edrych ymlaen ato yn y dyfodol! Ond bydd pethau diddorol yn digwydd yn ein hamser ni hefyd. (Darllen Daniel 12:4 BCND tdn, 8-10; 2 Tim. 3:1-5) Fel dywedodd yr angel wrth Daniel: “Bydd gwybodaeth yn cynyddu.” Mae hynny’n golygu y bydd pobl Dduw yn deall proffwydoliaeth Daniel yn well yn “amser y diwedd.” Aeth yr angel ymlaen i ddweud: “Bydd pobl ddrwg yn dal ati i wneud drwg. Fyddan nhw ddim yn deall.”

18. Beth fydd yn digwydd i’r rhai drwg yn fuan?

18 Mae’n hawdd meddwl bod pobl ddrwg heddiw yn cael gwneud fel y mynnan nhw. (Mal. 3:14, 15) Ond bydd Iesu yn gweithredu’n fuan i wahanu’r geifr oddi wrth y defaid. (Math. 25:31-33) Fydd y rhai drwg hynny ddim yn goroesi’r gorthrymder mawr, nac yn cael eu hatgyfodi i fyw yn y byd newydd. A fydd eu henwau nhw ddim yn “llyfr y bywyd” chwaith.—Mal. 3:16.

19. Beth sydd angen inni ei wneud nawr, a pham? (Malachi 3:16-18)

19 Nawr yw’r amser i brofi nad wyt ti’n un o’r rhai drwg. (Darllen Malachi 3:16-18.) Mae Jehofa wrthi’n casglu’r rhai mae’n eu hystyried yn ‘drysor sbesial.’ A fyddi di yn eu mysg?

Bydd hi mor hyfryd i weld Daniel, ein hanwyliaid, a llawer mwy yn codi i dderbyn eu gwobr yn y byd newydd! (Gweler paragraff 20)

20. Beth gwnaeth Jehofa ei addo i Daniel, a pham rwyt ti’n edrych ymlaen at yr adeg pan fydd hynny’n cael ei gyflawni?

20 Bydd pethau ond yn mynd yn fwy cyffrous o hyn ymlaen. Yn fuan, bydd pob math o ddrygioni wedi diflannu. Wedyn bydd yr adeg rydyn ni wedi bod yn dyheu amdani yn cyrraedd. Bydd ein hanwyliaid yn codi unwaith eto, yn union fel gwnaeth Jehofa ei addo i Daniel drwy ddweud: “Pan ddaw’r diwedd, byddi di’n codi i dderbyn dy wobr.” (Dan. 12:13) Felly dalia ati i fod yn ffyddlon, a bydd dy enw yn sicr o aros yn llyfr y bywyd!

CÂN 80 Profwch Flas a Gwelwch mai Da Ydy Duw

a Mae’r erthygl hon yn esbonio dealltwriaeth newydd o’r gwaith dysgu enfawr sy’n cael ei ddisgrifio yn Daniel 12:2, 3. Byddwn ni’n gweld pryd bydd hyn yn digwydd, a phwy fydd yn cael rhan. Rydyn ni hefyd yn gweld sut bydd y gwaith hwn yn paratoi pawb ar y ddaear ar gyfer y prawf olaf ar ddiwedd y Mil Blynyddoedd.

b Efallai bydd yr atgyfodiad yn cychwyn gyda’r rhai ffyddlon a fu farw yn ystod y dyddiau diwethaf, gan weithio yn ôl o hynny fesul cenhedlaeth. Os felly, bydd pob cenhedlaeth yn gallu croesawu’r rhai roedden nhw yn eu hadnabod yn bersonol. Wrth sôn am yr atgyfodiad i’r nef, mae’r Beibl yn dweud bod ’na “drefn” benodol. Felly mae’n rhesymol inni ddisgwyl y bydd yr atgyfodiad i’r ddaear hefyd yn digwydd mewn ffordd drefnus.—1 Cor. 14:33; 15:23.

c Mae hyn yn addasiad i’r ddealltwriaeth sydd ym mhennod 17 y llyfr Pay Attention to Daniel’s Prophecy! ac yn rhifyn Gorffennaf 1, 1987 y Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 21-25.

d Ar y llaw arall, mae’r termau “cyfiawn” ac “anghyfiawn” yn Actau 24:15, a’r “rhai a wnaeth ddaioni” a’r “rhai a wnaeth ddrygioni” yn Ioan 5:29 yn sôn am sut gwnaeth y rhai a fydd yn cael eu hatgyfodi ymddwyn cyn iddyn nhw farw.