Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae Duw yn Gofalu Amdanoch Chi

Mae Duw yn Gofalu Amdanoch Chi

Y BEIBL sy’n rhoi’r cyngor gorau gan ei fod yn dod oddi wrth Dduw. Dydy’r Beibl ddim yn llyfr meddygol, ond mae’n gallu ein helpu ni i ddelio ag amgylchiadau anodd, meddyliau negyddol, emosiynau poenus, a phroblemau iechyd meddyliol a chorfforol.

Yn bwysicaf oll, mae’r Beibl yn rhoi hyder inni fod ein Creawdwr, Jehofa Dduw, a yn deall ein meddyliau a’n teimladau yn well nag unrhyw un arall. Mae’n awyddus i’n helpu ni i ddelio ag unrhyw broblem rydyn ni’n ei hwynebu. Er enghraifft, ystyriwch y ddwy adnod hyn:

“Mae’r ARGLWYDD yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.”—SALM 34:18.

“Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: ‘Paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.’”—ESEIA 41:13.

Ond, sut mae Jehofa yn ein helpu ni i ddelio â phroblemau iechyd meddwl? Mae’r erthyglau canlynol yn dangos bod Jehofa yn wir yn gofalu amdanon ni mewn llawer o ffyrdd ymarferol.

a Jehofa yw enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.