Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 1

Mae Gair Duw yn “Gwbl Ddibynadwy”

Mae Gair Duw yn “Gwbl Ddibynadwy”

TESTUN Y FLWYDDYN AR GYFER 2023: “Mae popeth rwyt ti’n ddweud yn gwbl ddibynadwy.”—SALM 119:160.

CÂN 96 Llyfr Duw—Trysor Yw

CIPOLWG a

1. Pam mae cymaint o bobl wedi colli hyder yn y Beibl?

 MAE llawer o bobl heddiw wedi drysu’n llwyr a dydyn nhw ddim yn gwybod pwy gallan nhw ei drystio. Allan nhw ddim bod yn hollol sicr bod y bobl maen nhw’n eu parchu—gwleidyddion, gwyddonwyr, a phobl fusnes—wastad yn gwneud beth sydd orau iddyn nhw. Ar ben hynny, does ganddyn nhw ddim llawer o hyder mewn arweinwyr crefyddol sy’n honni eu bod nhw’n Gristnogion ac yn dilyn y Beibl. Felly does dim syndod nad ydyn nhw’n trystio’r llyfr hwnnw.

2. Yn ôl Salm 119:160, beth mae’n rhaid inni fod yn sicr ohono?

2 Mae pobl Jehofa yn gwybod heb os mai ef ydy ‘Duw y gwirionedd’ a’i fod eisiau’r gorau inni bob tro. (Salm 31:5, Beibl Cysegr-lân; Esei. 48:17) Rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu trystio beth rydyn ni’n ei ddarllen yn y Beibl i’r dim oherwydd “mae popeth [mae Duw yn ei ddweud] yn gwbl ddibynadwy.” (Darllen Salm 119:160.) Dywedodd un ysgolhaig Beiblaidd: “Mae pob gair mae Duw wedi ei ddweud yn gywir ac mae popeth mae wedi ei ddweud wedi dod yn wir. Felly am fod pobl Dduw yn ei drystio, maen nhw’n gallu dibynnu ar bob gair mae’n ei ddweud.”

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Gad inni drafod tri pheth fydd yn helpu eraill i gael yr un hyder yng Ngair Duw ag sydd gynnon ni. Yn gyntaf, byddwn ni’n trafod cywirdeb y Beibl, yna sut mae proffwydoliaethau’r Beibl wedi cael eu cyflawni, ac yn olaf, sut mae’r Beibl wedi helpu rhai i newid eu bywydau.

DOES NEB WEDI NEWID NEGES Y BEIBL

4. Pam mae rhai pobl yn amau cywirdeb y Beibl?

4 Er bod Jehofa wedi defnyddio tua 40 o ddynion ffyddlon i ysgrifennu llyfrau’r Beibl, dydy’r llawysgrifau gwreiddiol ddim yn bodoli bellach. b Yr oll sydd ar gael ydy copïau. Mae hynny’n gwneud i rai ofyn a ydy neges y Beibl yn cyd-fynd â beth roedd wedi ei ysgrifennu yno’n wreiddiol. Felly sut gallwn ni fod yn sicr bod y Beibl yn dal yn gywir?

Aeth copïwyr yr Ysgrythurau Hebraeg i ymdrech fawr i wneud yn siŵr eu bod nhw’n copïo Gair Duw yn gywir (Gweler paragraff 5)

5. Sut cafodd yr Ysgrythurau Hebraeg eu copïo? (Gweler y llun ar y clawr.)

5 Er mwyn amddiffyn neges y Beibl, gwnaeth Jehofa ofyn i bobl ei gopïo. Dywedodd wrth frenhinoedd Israel am gopïo’r Gyfraith, ac roedd y Lefiaid i fod i ddysgu’r Gyfraith i’w bobl. (Deut. 17:18; 31:24-26; Neh. 8:7) Ar ôl i’r Iddewon gael eu halltudio i Fabilon, gwnaeth grŵp o gopïwyr proffesiynol ddechrau gwneud nifer o gopïau o’r Ysgrythurau Hebraeg. (Esra 7:6) Roedd y dynion hyn yn mynd o gwmpas eu gwaith yn ofalus. Yn y pen draw, gwnaethon nhw ddechrau cyfrif nid yn unig geiriau, ond hefyd llythrennau er mwyn bod yn hollol sicr bod popeth wedi cael ei gopïo’n gywir. Ond, roedden nhw’n ddynion amherffaith, felly roedd ambell i gamgymeriad yn sleifio i mewn. Ond am fod cymaint o gopïau wedi cael eu gwneud, roedd hi’n bosib gweld y camgymeriadau hynny yn nes ymlaen. Sut?

6. Sut mae’n bosib cael hyd i gamgymeriadau mewn copïau o’r Beibl?

6 Mae gan ysgolheigion heddiw ffordd dda o gael hyd i gamgymeriadau mae copïwyr wedi eu gwneud. Dyweda fod cant o ddynion yn gorfod copïo testun oddi ar un dudalen. Mae un o’r dynion yn gwneud camgymeriad bach. Bydden ni’n gallu dod o hyd i’r camgymeriad hwnnw drwy gymharu ei gopi ef gyda chopi pawb arall. Mewn ffordd debyg, drwy gymharu llawer o lawysgrifau Beiblaidd, mae ysgolheigion yn gallu darganfod camgymeriadau a phethau sydd wedi cael eu gadael allan.

7. Pa mor ofalus oedd copïwyr y Beibl?

7 Aeth copïwyr y Beibl i ymdrech fawr i wneud eu gwaith yn gywir. Mae Codecs Leningrad yn profi hynny. Dyna ydy llawysgrif gyfan hynaf yr Ysgrythurau Hebraeg. Cafodd ei chreu ym 1008 neu 1009 OG. Ond yn eithaf diweddar, mae sawl llawysgrif o’r Beibl, a darnau o lawysgrifau, wedi cael eu darganfod sydd tua mil o flynyddoedd yn hŷn na’r Codecs Leningrad. Byddai’n hawdd meddwl bod Codecs Leningrad yn wahanol iawn i’r llawysgrifau hŷn am fod y rheini wedi cael eu copïo a’u hailgopïo gymaint o weithiau dros fil o flynyddoedd. Ond dydy hynny ddim yn wir. O gymharu llawysgrifau cynnar â rhai hŷn, mae ysgolheigion wedi darganfod, er bod yna wahaniaethau bychan, dydy neges y Beibl ddim wedi newid o gwbl.

8. Beth ydy’r gwahaniaeth rhwng copïau o’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol a chopïau o lyfrau hynafol eraill?

8 Mewn ffordd debyg, aeth y Cristnogion cynnar ati i gopïo 27 llyfr yr Ysgrythurau Groeg yn ofalus. Roedden nhw’n defnyddio’r copïau hynny yn eu cyfarfodydd ac yn eu gweinidogaeth. Fe wnaeth un ysgolhaig gymharu llawysgrifau’r Ysgrythurau Groeg â llawysgrifau eraill o’r un cyfnod. Dywedodd: “Ar y cyfan, mae mwy [o gopïau o’r Ysgrythurau Groeg] yn bodoli heddiw na’r llawysgrifau eraill ac maen nhw’n dueddol o fod yn fwy cyflawn.” Mae’r llyfr Anatomy of the New Testament yn dweud: “Os ydyn ni’n darllen cyfieithiad dibynadwy [o’r Ysgrythurau Groeg] heddiw, gallwn ni fod yn hollol hyderus ei fod yn cyfleu’r un neges a oedd yno’n wreiddiol.”

9. Yn ôl Eseia 40:8, beth sy’n wir am neges y Beibl?

9 Dros y canrifoedd, mae llawer o gopïwyr wedi gweithio’n galed iawn i gopïo’r Beibl yn ofalus. Dyna pam mae’r Beibl rydyn ni’n ei ddarllen a’i astudio heddiw mor gywir. c Does dim dwywaith amdani, Jehofa sydd wedi sicrhau bod ei Air ar gael inni heddiw a’i fod yn gywir. (Darllen Eseia 40:8.) Er bod neges y Beibl heb newid, mae rhai yn dal i ddadlau nad ydy hynny’n profi ei fod wedi ei ysbrydoli gan Dduw. Felly gad inni weld pa dystiolaeth sy’n dangos bod y Beibl wedi dod oddi wrth Dduw.

MAE PROFFWYDOLIAETHAU’R BEIBL YN DDIBYNADWY

Left: C. Sappa/​DeAgostini/​Getty Images; right: Image © Homo Cosmicos/​Shutterstock

Mae proffwydoliaethau’r Beibl wedi cael eu cyflawni yn y gorffennol ac maen nhw’n dal i gael eu cyflawni heddiw (Gweler paragraffau 10-11) e

10. Rho enghraifft o broffwydoliaeth sydd wedi cael ei chyflawni ac sy’n profi bod 2 Pedr 1:21 yn wir. (Gweler y lluniau.)

10 Mae’r Beibl yn llawn proffwydoliaethau. Mae hanes yn dangos bod rhai ohonyn nhw wedi cael eu cyflawni gannoedd o flynyddoedd ar ôl iddyn nhw gael eu cofnodi. Ond dydy hynny ddim yn ein synnu ni, oherwydd rydyn ni’n gwybod bod y proffwydoliaethau hyn i gyd wedi dod oddi wrth Jehofa. (Darllen 2 Pedr 1:21.) Er enghraifft, meddylia am y proffwydoliaethau ynglŷn â dinistr Babilon. Yn yr wythfed ganrif COG, cafodd y proffwyd Eseia ei ysbrydoli i ysgrifennu y byddai dinas bwerus Babilon yn cael ei chipio. Ac yn fwy na hynny, dywedodd pwy yn union fyddai’n cipio’r ddinas—Cyrus—ac esboniodd yn union sut byddai’n gwneud hynny. (Esei. 44:27–45:2) Gwnaeth Eseia hefyd broffwydo y byddai Babilon yn cael ei dinistrio’n llwyr yn y pen draw a’i gadael yn hollol wag. (Esei. 13:19, 20) A dyna’n union a ddigwyddodd. Fe wnaeth y Mediaid a’r Persiaid gipio Babilon ym 539 COG, ac mae’r safle hwnnw wedi aros yn wag hyd heddiw. Gweler y fideo Rhagfynegodd y Beibl Ddinistr Babilon yn y fersiwn electronig o’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth!, gwers 03 pwynt 5.

11. Disgrifia sut mae Daniel 2:41-43 yn cael ei chyflawni heddiw.

11 Mae proffwydoliaethau hyd yn oed yn cael eu cyflawni heddiw. Meddylia, er enghraifft, am broffwydoliaeth ryfeddol Daniel ynglŷn â’r Grym Byd Eingl-Americanaidd. (Darllen Daniel 2:41-43.) Fe wnaeth y broffwydoliaeth honno ragfynegi’n gywir y byddai’r grym byd hwnnw yn ‘gymysgedd o gryfder haearn a breuder crochenwaith.’ Ac yn amlwg, mae hynny wedi dod yn wir heddiw. Mae Prydain ac America wedi dangos eu bod nhw’n gryf fel haearn am eu bod nhw wedi cael rhan fawr yn ennill y ddau Ryfel Byd ac maen nhw’n dal yn gryf yn filwrol. Ond mae pobl wedi tanseilio eu pŵer drwy brotestio yn aml yn erbyn busnesau a’r llywodraeth. Dywedodd un arbenigwr ar wleidyddiaeth y byd: “O holl wledydd democrataidd y byd, yr Unol Daleithiau ydy’r un fwyaf rhanedig o ran gwleidyddiaeth.” Ac mae Prydain wedi bod yn arbennig o ranedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, oherwydd dydy pobl ddim yn cytuno ar ba berthynas y dylen nhw ei chael gyda gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Oherwydd y rhaniadau hyn, prin mae’r Grym Byd Eingl-Americanaidd wedi gallu gweithredu’n bendant.

12. Beth mae proffwydoliaethau’r Beibl yn ein gwneud ni’n sicr ohono?

12 Mae’r holl broffwydoliaethau sydd wedi cael eu cyflawni yn ein gwneud ni’n fwy sicr byth y bydd addewidion Duw ar gyfer y dyfodol yn cael eu cyflawni hefyd. Wrth weddïo ar Jehofa, dywedodd un salmydd: “Dw i’n dyheu i ti fy achub i! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi!” (Salm 119:81) Onid ydyn ni’n teimlo’r un fath? Yn y Beibl, mae Jehofa wedi rhoi “dyfodol llawn gobaith” inni. (Jer. 29:11) Ac mae’r gobaith hwnnw yn dibynnu ar addewidion Jehofa, nid ar ymdrechion unrhyw ddyn. Beth am gryfhau dy hyder yng Ngair Duw drwy astudio proffwydoliaethau’r Beibl?

MAE CYNGOR Y BEIBL YN HELPU MILIYNAU

13. Yn ôl Salm 119:66, 138, pa reswm arall sydd gynnon ni i drystio’r Beibl?

13 Rheswm arall y gallwn ni drystio’r Beibl ydy oherwydd ei fod yn helpu pobl sy’n dilyn ei gyngor. (Darllen Salm 119:66, 138.) Er enghraifft, mae cyplau priod oedd ar fin ysgaru bellach yn hapus am eu bod nhw wedi dilyn cyngor y Beibl. Ac mae eu plant yn mwynhau cael eu magu mewn cartref saff llawn cariad.—Eff. 5:22-29.

14. Rho enghraifft sy’n dangos sut mae rhoi cyngor y Beibl ar waith yn gallu helpu pobl i newid eu bywydau er gwell.

14 Mae cyngor doeth y Beibl wedi helpu hyd yn oed y bobl fwyaf treisgar i wneud newidiadau mawr yn eu bywydau. Roedd un carcharor o’r enw Jack yn ddyn treisgar ofnadwy. d A dweud y gwir, ef oedd un o’r carcharorion mwyaf peryglus oedd wedi ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond un diwrnod, dyma Jack yn ymuno ag astudiaeth Feiblaidd. Cafodd caredigrwydd y brodyr effaith fawr arno, ac felly dechreuodd yntau astudio hefyd. Wrth iddo roi cyngor y Beibl ar waith yn ei fywyd, dechreuodd ei ymddygiad, a hyd yn oed ei bersonoliaeth, newid er gwell. Ymhen amser, daeth Jack yn gyhoeddwr difedydd ac yn hwyrach ymlaen, cafodd ei fedyddio. Roedd yn pregethu’n selog am Deyrnas Dduw yn y carchar a helpodd o leiaf bedwar o’r carcharorion eraill i ddysgu’r gwir hefyd. Ar y diwrnod y cafodd Jack ei roi i farwolaeth, roedd ef wedi newid gymaint nes bod un o’i dwrneiod wedi dweud: “Dydy e ddim yr un Jack oeddwn i’n ei ’nabod ugain mlynedd yn ôl. Mae dysgeidiaethau Tystion Jehofa wedi newid ei fywyd yn llwyr.” Er bod rhaid i Jack dalu’r pris eithaf am ei drosedd, mae ei esiampl yn sicr yn dangos bod Gair Duw yn bwerus. Nid yn unig gallwn ni ei drystio, ond mae ganddo’r grym i newid pobl er gwell.—Esei. 11:6-9.

Mae cyngor y Beibl wedi newid bywydau pob math o bobl o bedwar ban byd er gwell (Gweler paragraff 15) f

15. Sut mae rhoi gwirioneddau’r Beibl ar waith yn gwneud pobl Jehofa yn wahanol heddiw? (Gweler y llun.)

15 Mae pobl Jehofa yn unedig am eu bod nhw’n rhoi gwirioneddau’r Beibl ar waith. (Ioan 13:35; 1 Cor. 1:10) Mewn byd sy’n dadlau dros wleidyddiaeth, hil, neu statws cymdeithasol, mae’r heddwch a’r undod sydd rhyngddyn nhw yn fwy amlwg byth. Creodd hynny argraff fawr ar un dyn ifanc o’r enw Jean. Cafodd ei fagu yn un o wledydd Affrica a phan ddechreuodd rhyfel cartref yn ei wlad, ymunodd â’r fyddin. Yn hwyrach ymlaen, fe wnaeth ffoi i un o’r gwledydd cyfagos a chyfarfod Tystion Jehofa am y tro cyntaf. Dywedodd Jean: “Dw i wedi dysgu bod pobl sy’n dilyn y gwir grefydd yn unedig, ac yn cadw’n glir o wleidyddiaeth. Maen nhw’n wahanol—maen nhw’n caru ei gilydd.” Aeth ymlaen i ddweud: “O’n i’n arfer treulio fy mywyd yn amddiffyn gwlad. Ond pan wnes i ddysgu gwirioneddau’r Beibl, o’n i eisiau treulio fy mywyd yn gwasanaethu Jehofa.” Mae Jean wedi newid yn llwyr. Yn hytrach nag ymladd yn erbyn pobl o gefndir gwahanol, bellach mae’n rhannu neges heddychlon y Beibl gyda phawb mae’n eu cyfarfod. Mae’r ffaith bod cyngor y Beibl yn helpu pob math o bobl o bedwar ban byd yn dystiolaeth bwerus ein bod ni’n gallu trystio Gair Duw.

DALIA ATI I DRYSTIO GAIR DUW

16. Pam mae hi mor bwysig inni gryfhau ein hyder yng Ngair Duw?

16 Wrth i’r byd fynd o ddrwg i waeth, bydd ein hyder yng Ngair Duw yn cael ei brofi. Efallai bydd pobl yn trio gwneud inni amau a ydy’r Beibl yn wir, neu a ydy’r gwas ffyddlon a chall wedi ei benodi gan Jehofa i’n harwain ni. Ond os ydyn ni’n hollol sicr bod Gair Duw yn ddibynadwy, byddwn ni’n gallu dal ein tir pan fydd pobl yn ymosod ar ein ffydd. Byddwn ni’n ‘benderfynol o ddilyn deddfau’ Jehofa. (Salm 119:112) Fydd gynnon ni “ddim cywilydd” sôn wrth eraill am y gwir a’u hannog nhw i fyw yn ôl cyngor y Beibl. (Salm 119:46) Byddwn ni’n gallu wynebu unrhyw sefyllfa, gan gynnwys erledigaeth “gydag amynedd a llawenydd.”—Col. 1:11; Salm 119:143, 157.

17. Beth bydd testun y flwyddyn eleni yn ein hatgoffa ni ohono?

17 Rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa wedi datgelu’r gwir inni. Mae’r byd heddiw yn llawn dryswch ac anhrefn, ond mae’r gwir yng Ngair Duw yn rhoi hyder a phwrpas inni ac yn ein helpu ni i beidio â chynhyrfu. Mae hynny’n rhoi gobaith inni am ddyfodol gwell o dan Deyrnas Dduw. Bydd testun y flwyddyn ar gyfer 2023 yn helpu pob un ohonon ni i fod yn fwy sicr byth bod Gair Duw yn gwbl ddibynadwy.—Salm 119:160.

CÂN 94 Gwerthfawrogi Gair Duw

a Mae Salm 119:160 wedi cael ei dewis fel testun y flwyddyn ar gyfer 2023: “Mae popeth rwyt ti’n ddweud yn gwbl ddibynadwy.” Mae’n debyg dy fod ti’n cytuno â hynny ac mae’n cryfhau dy ffydd. Ond dydy rhai pobl ddim yn credu bod y Beibl yn wir, na’i fod yn gallu ein helpu ni. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod tri rheswm gallwn ni eu defnyddio i berswadio eraill eu bod nhw’n gallu trystio’r Beibl a’i gyngor.

b Mae’r gair “llawysgrifau” yn cyfeirio at ddogfennau hynafol oedd yn cael eu hysgrifennu â llaw.

c Am fwy o wybodaeth am sut mae neges y Beibl wedi goroesi, dos i jw.org a theipio “Hanes a’r Beibl” yn y blwch chwilio.

d Newidiwyd rhai enwau.

e DISGRIFIAD O’R LLUN: Fe wnaeth Duw ragfynegi y byddai dinas Babilon yn cael ei dinistrio.

f DISGRIFIAD O’R LLUN: Yn hytrach nag ymladd yn erbyn pobl, mae dyn ifanc yn dysgu o’r Beibl sut i fyw mewn heddwch a sut i helpu eraill i wneud yr un fath.