Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 3

Mae Jehofa yn Dy Helpu Di i Lwyddo

Mae Jehofa yn Dy Helpu Di i Lwyddo

“Roedd Jehofa gyda Joseff . . . , ac yn sicrhau bod popeth roedd yn ei wneud yn llwyddo.”—GEN. 39:2, 3, NWT.

CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind

CIPOLWG a

1-2. (a) Pam nad ydyn ni’n synnu pan fydd treial yn codi? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

 A NINNAU’N bobl Jehofa, rydyn ni’n gwybod yn iawn y byddwn ni’n wynebu treialon, oherwydd mae’r Beibl yn dweud: “Rhaid inni fynd i mewn i Deyrnas Dduw drwy lawer o dreialon.” (Act. 14:22) Rydyn ni hefyd yn gwybod na fydd ein problemau i gyd yn cael eu datrys yn y system hon. Bydd rhaid inni ddisgwyl tan y byd newydd, lle na “fydd marwolaeth mwyach, ac ni fydd galar na llefain na phoen mwyach.”—Dat. 21:4.

2 Er nad ydy Jehofa yn ein hamddiffyn ni rhag treialon, mae’n ein helpu ni i’w hwynebu. Yn ei lythyr at Gristnogion yn Rhufain, fe wnaeth yr apostol Paul restru sawl her roedd ef a’i frodyr yn eu hwynebu, cyn mynd ymlaen i ddweud: “Rydyn ni’n hollol fuddugol oherwydd yr un a wnaeth ein caru ni.” (Rhuf. 8:35-37) Felly mae Jehofa yn gallu gwneud iti lwyddo hyd yn oed yng nghanol treial. Gad inni weld sut gwnaeth Jehofa helpu Joseff i lwyddo, a sut gall dy helpu dithau hefyd.

PAN FYDD PETHAU’N NEWID YN SYDYN

3. Sut gwnaeth pethau newid yn annisgwyl i Joseff?

3 Roedd hi’n amlwg bod Jacob yn caru ei fab Joseff yn fawr iawn. (Gen. 37:3, 4) O ganlyniad, roedd brodyr Joseff yn genfigennus ohono. Felly pan ddaethon nhw ar draws grŵp o fasnachwyr o Midian, dyma nhw’n bachu ar y cyfle i werthu Joseff yn gaethwas. Aeth y masnachwyr â Joseff ymhell i ffwrdd i’r Aifft, ac yno cafodd ei werthu eto i Potiffar, pennaeth gwarchodlu Pharo. Dros nos, roedd Joseff wedi mynd o fod yn fab annwyl ei dad i fod yn gaethwas di-nod yn yr Aifft!—Gen. 39:1.

4. Fel Joseff, pa fath o dreialon gallwn ni eu hwynebu?

4 Mae’r Beibl yn dweud bod pethau drwg yn digwydd i bawb. (Preg. 9:11) Weithiau rydyn ni’n wynebu treialon sy’n “gyffredin i ddynion”—hynny ydy i bawb yn y byd. (1 Cor. 10:13) Ar adegau eraill, efallai bydd pobl yn gwneud hwyl am ein pennau, yn ein gwrthwynebu, neu hyd yn oed yn ein herlid am ein bod ni’n ddisgyblion i Iesu. (2 Tim. 3:12) Ond beth bynnag rwyt ti’n ei wynebu, gall Jehofa dy wneud di’n llwyddiannus. Sut gwnaeth Jehofa brofi hynny yn achos Joseff?

Helpodd Jehofa i Joseff lwyddo hyd yn oed pan gafodd ei werthu yn gaethwas i Potiffar yn yr Aifft (Gweler paragraff 5)

5. Pa gasgliad daeth Potiffar iddo am lwyddiant Joseff? (Genesis 39:2-6)

5 Darllen Genesis 39:2-6. Nid yn unig roedd Potiffar wedi sylwi bod Joseff yn ddyn galluog a gweithgar, roedd hefyd yn gwybod pam. Sylwodd fod Jehofa yn sicrhau bod “popeth roedd [Joseff] yn ei wneud yn llwyddo.” b Felly ymhen hir a hwyr, penododd Joseff yn was personol iddo a rhoi’r cyfrifoldeb iddo o redeg ei dŷ. Aeth pethau’n dda i Potiffar oherwydd hynny.

6. Sut gallai Joseff fod wedi teimlo am ei sefyllfa?

6 Dychmyga sut roedd Joseff yn teimlo. Beth roedd ef eisiau yn fwy na dim? A oedd ef eisiau i Potiffar sylwi arno a’i wobrwyo? Yn fwy na thebyg, yr unig beth roedd Joseff eisiau oedd cael bod yn rhydd i fynd adref at ei dad. Er bod gan Joseff lawer o freintiau yn nhŷ Potiffar, roedd yn dal yn gaethwas o dan feistr nad oedd yn addoli Jehofa. Ond wnaeth Jehofa ddim gwneud i Potiffar ryddhau Joseff. A heb yn wybod i Joseff, roedd pethau ar fin mynd yn llawer gwaeth.

OS YDY’R SEFYLLFA YN GWAETHYGU

7. Sut aeth sefyllfa Joseff o ddrwg i waeth? (Genesis 39:14, 15)

7 Fel rydyn ni’n gweld yn Genesis pennod 39, roedd Joseff wedi dal llygad gwraig Potiffar, a wnaeth drio ei hudo sawl gwaith. Am fod Joseff wedi ei gwrthod bob tro, fe wnaeth hi wylltio a’i gyhuddo o drio ei threisio hi. (Darllen Genesis 39:14, 15.) Pan glywodd Potiffar am hyn, taflodd Joseff i’r carchar, a dyna lle roedd am flynyddoedd. (Gen. 39:19, 20) Yn ôl Joseff, roedd y carchar yn dwll o le, yn dywyll, ac yn gwneud iddo anobeithio. (Gen. 40:15) Ac yn ôl y Beibl, roedd traed Joseff mewn cyffion, ac roedd coler haearn am ei wddf am gyfnod. (Salm 105:17, 18) Roedd Joseff wedi mynd o fod yn gaethwas dibynadwy i fod yn garcharor, felly yn sicr, roedd pethau wedi mynd o ddrwg i waeth.

8. Hyd yn oed os bydd treial yn gwaethygu, beth gallwn ni fod yn sicr ohono?

8 Wyt ti erioed wedi sylwi bod pethau wedi mynd o ddrwg i waeth er gwaethaf dy holl weddïau? Mae hynny yn gallu digwydd, oherwydd dydy Jehofa ddim yn ein hamddiffyn ni rhag y treialon rydyn ni’n eu hwynebu ym myd Satan. (1 Ioan 5:19) Ond eto, mae Jehofa yn gwybod yn union beth rwyt ti’n mynd drwyddo, ac mae’n dy garu di. Paid byth ag anghofio hynny. (Math. 10:29-31; 1 Pedr 5:6, 7) Dyma mae wedi ei addo: “Ni wna i byth dy adael di, ac ni wna i byth gefnu arnat ti.” (Heb. 13:5) Felly yn sicr, mae Jehofa yn gallu dy helpu di i wynebu unrhyw sefyllfa, hyd yn oed un sy’n ymddangos yn anobeithiol. Gad inni weld sut gwnaeth ef hynny yn achos Joseff.

Roedd Jehofa gyda Joseff hyd yn oed pan oedd yn y carchar ac yn gyfrifol am y carcharorion eraill (Gweler paragraff 9)

9. Beth sy’n dangos bod Jehofa gyda Joseff tra ei fod yn y carchar? (Genesis 39:21-23)

9 Darllen Genesis 39:21-23. Roedd y rhain yn ddyddiau du i Joseff. Ond gwnaeth Jehofa wneud iddo lwyddo. Sut? Ymhen amser, fel Potiffar, sylwodd y prif swyddog fod Joseff yn ddibynadwy. Roedd yn ei barchu cymaint nes iddo wneud Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Yn wir, “doedd y warden yn gorfod poeni am ddim byd oedd dan ofal Joseff.” Bellach roedd gan Joseff waith i gadw ei feddwl yn brysur. Dyna i chi newid annisgwyl! Roedd Joseff wedi cael ei gyhuddo o geisio treisio gwraig un o swyddogion y Pharo, ond eto roedden nhw wedi rhoi cyfrifoldeb mawr iddo. Does ’na ond un esboniad am hyn: “Roedd Jehofa gyda Joseff . . . , ac yn sicrhau bod popeth roedd yn ei wneud yn llwyddo.”—Gen. 39:23, NWT.

10. Esbonia pam na fyddai Joseff wedi teimlo ei fod yn llwyddo ym mhob peth.

10 Rho dy hun yn esgidiau Joseff unwaith eto. Wyt ti’n meddwl ei fod yn teimlo’n llwyddiannus ym mhob peth ac yntau yn y carchar ar ôl cael bai ar gam? Ai plesio prif swyddog y carchar oedd ar flaen ei feddwl? Nage, eisiau bod yn rhydd oedd Joseff. Pan oedd carcharor arall ar fin cael ei ryddhau, fe wnaeth Joseff fachu ar y cyfle i ofyn iddo siarad â Pharo drosto er mwyn cael gadael y carchar llwm roedd ynddo. (Gen. 40:14) Ond wnaeth y dyn hwnnw ddim siarad â’r Pharo am ddwy flynedd arall! Felly dyna lle roedd Joseff yn gorfod disgwyl. (Gen. 40:23; 41:1, 14) Ond roedd Jehofa yn dal i wneud iddo lwyddo. Sut?

11. Pa allu arbennig a roddodd Jehofa i Joseff, a sut gwnaeth hynny helpu i gyflawni ei ewyllys?

11 Tra oedd Joseff yn y carchar, fe wnaeth Jehofa achosi i frenin yr Aifft gael dwy freuddwyd ryfedd. Roedden nhw’n poeni’r Pharo gymaint nes ei fod ar dân eisiau gwybod beth roedden nhw’n ei olygu. Ond fe glywodd fod Joseff yn gallu dehongli breuddwydion. A dyna a wnaeth Joseff, gyda help Jehofa. Roedd y Pharo ar ben ei ddigon pan glywodd gyngor doeth Joseff. Roedd yn amlwg bod Jehofa gyda’r dyn ifanc hwn, ac felly fe wnaeth y Pharo benodi Joseff yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. (Gen. 41:38, 41-44) Yn hwyrach ymlaen, roedd newyn ofnadwy nid yn unig yn yr Aifft, ond hefyd yn Canaan lle roedd teulu Joseff yn byw. Bellach roedd Joseff mewn sefyllfa i achub ei deulu ac i amddiffyn y llinach y Meseia hefyd.

12. Sut gwnaeth Jehofa wneud i Joseff lwyddo?

12 Meddylia am yr holl bethau annisgwyl a ddigwyddodd ym mywyd Joseff. Pwy wnaeth achosi i Potiffar gymryd sylw o Joseff, oedd yn gaethwas di-nod? Pwy wnaeth achosi i brif swyddog y carchar roi cyfrifoldebau mawr i Joseff, ac yntau’n garcharor? Pwy roddodd freuddwydion rhyfedd i’r Pharo a’r gallu i Joseff eu dehongli? Pwy oedd y tu ôl i’r penderfyniad i benodi Joseff yn bennaeth ar wlad yr Aifft? (Gen. 45:5) Yn amlwg, Jehofa oedd yn gwneud i Joseff lwyddo. Roedd brodyr Joseff wedi bwriadu ei ladd, ond roedd gan Jehofa fwriadau gwahanol. Defnyddiodd sefyllfa Joseff i wneud ei ewyllys.

SUT MAE JEHOFA YN GWNEUD I TI LWYDDO

13. Ydy Jehofa yn camu i mewn i bob sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu? Esbonia.

13 Beth rydyn ni’n ei ddysgu o hanes Joseff? Dydy Jehofa ddim yn camu i mewn bob tro, nac yn sicrhau bod canlyniadau da yn dod o bopeth drwg sy’n digwydd yn ein bywydau. (Preg. 8:9; 9:11) Ond gallwn ni fod yn sicr o hyn: Mae Jehofa yn gwybod yn iawn pan ydyn ni’n wynebu treialon, ac mae’n ein clywed ni pan ydyn ni’n erfyn am help. (Salm 34:15; 55:22; Esei. 59:1) Ac yn fwy na hynny, mae Jehofa yn ein helpu ni i lwyddo yn ystod ein treialon. Gad inni weld sut.

14. Sut mae Jehofa yn ein helpu ni yn ystod cyfnodau anodd?

14 Un ffordd mae Jehofa yn ein helpu ni ydy drwy ein cysuro a’n calonogi. Yn aml, mae hyn yn digwydd ar yr union adeg rydyn ni ei angen fwyaf. (2 Cor. 1:3, 4) Dyna ddigwyddodd yn achos Eziz, brawd o Tyrcmenistan a gafodd ei garcharu am ddwy flynedd dros ei ffydd. Dywedodd: “Y bore es i o flaen y llys, dangosodd un brawd Eseia 30:15 imi, lle mae’n dweud ‘Eich cryfder fydd peidio â chynhyrfu a bod yn llawn hyder.’ Ac yn siŵr ichi, roedd yr adnod honno yn fy helpu i beidio â chynhyrfu ac i ddibynnu ar Jehofa am bob dim. A dweud y gwir, roedd myfyrio arni yn fy helpu i drwy gydol fy adeg yn y carchar.” Elli di gofio cyfnod pan wnaeth Jehofa dy gysuro di a dy gefnogi di pan oeddet ti ei angen fwyaf?

15-16. Beth rwyt ti’n ei ddysgu o brofiad Tori?

15 Yn aml, dim ond o edrych yn ôl ar dreial byddwn ni’n gweld sut gwnaeth Jehofa ein helpu ni drwyddo, fel oedd yn wir yn achos chwaer yn enw Tori. Bu farw ei mab ifanc, Mason, ar ôl brwydro canser am 6 mlynedd. Fel gelli di ddychmygu, roedd ei chalon hi wedi torri. “Fel mam, dydw i ddim yn meddwl byddai unrhyw sefyllfa yn gallu bod yn fwy poenus na hyn,” meddai. “Dw i’n siŵr byddai pob rhiant yn cytuno bod gweld dy blentyn yn dioddef yn waeth na dioddef y boen dy hun.”

16 Dyma ddywedodd Tori wrth edrych yn ôl ar ei threial torcalonnus: “Dw i’n gweld nawr sut gwnaeth Jehofa ein helpu ni tra oedd Mason yn sâl. Er enghraifft, roedd brodyr a chwiorydd yn teithio dwy awr i’r ysbyty hyd yn oed os oedd Mason yn rhy sâl i’w gweld nhw. Roedd ’na wastad rhywun yn yr ystafell ddisgwyl yn barod ac yn fodlon ein cefnogi. Roedden nhw hefyd yn gofalu am ein hanghenion materol. Roedd gynnon ni bopeth oedd ei angen hyd yn oed yn y cyfnodau gwaethaf.” Yn sicr, roedd Jehofa yn gofalu am Tori ac am Mason.—Gweler y blwch “ Rhoddodd Jehofa yn Union Beth Oedden Ni ei Angen.”

CYFRA DY FENDITHION

17-18. Beth fydd yn ein helpu ni i weld llaw Jehofa yn ystod ein treialon ac i werthfawrogi hynny? (Salm 40:5)

17 Darllen Salm 40:5. Fel arfer, rydyn ni’n cerdded mynydd gyda’r nod o gyrraedd y copa, ond byddwn ni’n aml yn stopio ar hyd y ffordd i fwynhau’r olygfa. Gallwn ni wneud rhywbeth tebyg mewn bywyd. Drwy gymryd yr amser i stopio a meddwl am sut mae Jehofa wedi gwneud inni lwyddo hyd yn oed ynghanol treial. Tria hyn: Ar ddiwedd bob dydd, meddylia am o leiaf un peth mae Jehofa wedi ei wneud i dy helpu di i lwyddo. Beth am ofyn i ti dy hun: ‘Sut mae Jehofa wedi fy mendithio i heddiw? Sut mae’n fy helpu i ddal ati er bod y treial yn parhau?’

18 Efallai dy fod ti’n gweddïo am i dy dreial ddod i ben. Does dim byd o’i le â hynny. (Phil. 4:6) Ond bydda’n effro i’r bendithion rwyt ti’n eu cael heddiw. Wedi’r cwbl, mae Jehofa wedi addo dy gryfhau di a dy helpu di i ddal ati. Paid â cholli golwg ar hynny. Yna byddi di’n gweld sut mae’n dy helpu di i lwyddo yn ystod treialon, yn union fel y gwnaeth yn achos Joseff.—Gen. 41:51, 52.

CÂN 32 Saf o Blaid Jehofa!

a Pan ydyn ni’n mynd drwy dreialon anodd, efallai na fyddwn ni’n teimlo ein bod ni’n “llwyddiannus.” Efallai ein bod ni’n meddwl bod y gair hwnnw ond yn berthnasol unwaith i’r treial ddod i ben. Ond mae hanes Joseff yn dangos bod Jehofa yn gallu ein helpu ni i lwyddo hyd yn oed pan fyddwn ni yng nghanol ein treialon. Bydd yr erthygl hon yn esbonio sut.

b Yn y Beibl, mae’r newidiadau hyn yn digwydd mewn ychydig o adnodau, ond gallen nhw fod wedi digwydd dros sawl blwyddyn mewn gwirionedd.