Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

ERTHYGL ASTUDIO 9

Trysora Fywyd Fel Rhodd gan Dduw

Trysora Fywyd Fel Rhodd gan Dduw

“Drwyddo ef mae gynnon ni fywyd ac rydyn ni’n symud ac yn bodoli.”—ACT. 17:28.

CÂN 141 Gwyrth Bywyd

CIPOLWG a

1. Pa mor werthfawr ydy ein bywydau i Jehofa?

 DYCHMYGA dy fod ti’n derbyn darn arbennig o gelf gan ffrind. Mae’n hen iawn ond yn hynod o werthfawr. Mae wedi marcio ac yn dechrau colli ei liw a chracio. Ond er nad yw’n berffaith, mae’n werth miliynau o bunnoedd. Yn bendant, byddet ti’n gwerthfawrogi’r anrheg ac yn ei chadw’n saff. Mewn ffordd debyg, mae Jehofa wedi rhoi anrheg werthfawr iawn inni, sef bywyd. A dweud y gwir, mae Jehofa wedi dangos pa mor werthfawr ydy ein bywydau iddo drwy roi ei Fab fel pridwerth droston ni.—Ioan 3:16.

2. Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gynnon ni? (2 Corinthiaid 7:1)

2 Pam gallwn ni ddweud bod bywyd yn anrheg gan Dduw? Oherwydd Jehofa ydy Ffynhonnell bywyd. (Salm 36:9) Mae’n amlwg bod yr apostol Paul yn credu hynny hefyd, pan ddywedodd: “Drwyddo ef mae gynnon ni fywyd ac rydyn ni’n symud ac yn bodoli.” (Act. 17:25, 28) Ar ben hynny, mae’n rhoi popeth sydd ei angen arnon ni i aros yn fyw. (Act. 14:15-17) Er hynny, dydy Jehofa ddim yn gwneud gwyrthiau i’n cadw ni’n fyw. Ond mae’n disgwyl inni wneud ein gorau i ofalu am ein hiechyd corfforol ac ysbrydol. (Darllen 2 Corinthiaid 7:1.) Pam dylen ni wneud hynny, a sut?

TRYSORA FYWYD

3. Beth ydy un rheswm inni geisio aros yn iach?

3 Er mwyn gwneud ein gorau yng ngwasanaeth Jehofa, dylen ni geisio cadw’n iach. (Marc 12:30) Rydyn ni eisiau cynnig ein “cyrff yn aberth byw, un sy’n sanctaidd ac yn dderbyniol i Dduw.” Felly rydyn ni’n osgoi unrhyw beth rydyn ni’n gwybod sy’n ddrwg i’n hiechyd. (Rhuf. 12:1) Wrth gwrs, allwn ni ddim osgoi salwch yn gyfan gwbl. Ond rydyn ni’n eisiau gwneud ein gorau i aros yn iach, er mwyn dangos i’n Tad nefol ein bod ni’n gwerthfawrogi’r bywyd mae wedi ei roi inni.

4. Beth roedd y Brenin Dafydd eisiau ei wneud?

4 Efallai tua diwedd ei fywyd, gwnaeth y Brenin Dafydd esbonio pam roedd yn trysori bywyd fel anrheg gan Dduw, pan ysgrifennodd: “Beth ydy’r pwynt os gwna i farw, a disgyn i’r bedd? Fydd fy llwch i’n gallu dy foli di? Fydd e’n gallu sôn am dy ffyddlondeb?” (Salm 30:9) Yn amlwg, roedd Dafydd yn benderfynol o aros yn fyw ac yn iach mor hir â phosib er mwyn moli Jehofa. Heb os, rydyn ni i gyd yn teimlo’r un fath.

5. Beth gallwn ni ei wneud, ni waeth pa mor hen neu sâl ydyn ni?

5 Os ydyn ni’n heneiddio neu wedi mynd yn sâl, efallai byddwn ni’n teimlo’n drist oherwydd dydyn ni ddim yn gallu gwneud cymaint ag o’r blaen. Ond ddylen ni byth rhoi’r gorau i ofalu am ein hiechyd. Pam ddim? Oherwydd, fel y Brenin Dafydd, gallwn ni ddal i addoli Jehofa ni waeth pa mor hen neu sâl ydyn ni. Mae’n gysur gwybod bod ein Duw yn dal i’n trysori er ein bod ni mor amherffaith! (Math. 10:29-31) Ac wrth gwrs, hyd yn oed os ydyn ni’n marw, bydd Duw yn dyheu am ein hatgyfodi ni. (Job 14:14, 15) Felly mae gynnon ni resymau da i amddiffyn ein bywydau a’n hiechyd.

CADWA DRAW ODDI WRTH ARFERION DRWG

6. Beth mae Jehofa yn disgwyl inni ei wneud ynglŷn â’n harferion bwyta ac yfed?

6 Er nad yw’r Beibl yn llyfr am sut i ofalu am ein hiechyd nac am beth i’w fwyta, mae’n dweud wrthon ni sut mae Jehofa yn teimlo am y pethau hyn. Er enghraifft, mae’n dweud wrthon ni am osgoi pethau allai niweidio ein cyrff, fel ein bod ni’n gallu ‘cadw ein hunain yn iach.’ (Preg. 11:10) Mae’r Beibl yn dweud y dylen ni osgoi meddwi a gorfwyta, sydd yn gallu gwneud niwed i’n cyrff a hyd yn oed ein lladd. (Diar. 23:20) Felly mae Jehofa yn disgwyl inni ddangos hunanreolaeth wrth benderfynu beth i’w fwyta a’i yfed, a faint.—1 Cor. 6:12; 9:25.

7. Sut mae’r cyngor yn Diarhebion 2:11 yn ein helpu i wneud penderfyniadau da ynglŷn â’n hiechyd?

7 Gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r bywyd mae Duw wedi ei roi inni drwy ddefnyddio ein gallu i feddwl i wneud penderfyniadau doeth. (Salm 119:99, 100; darllen Diarhebion 2:11.) Er enghraifft, rydyn ni’n defnyddio ein synnwyr cyffredin wrth ddewis beth i’w fwyta. Os ydyn ni’n hoffi rhywbeth penodol ond yn gwybod ei fod yn ein gwneud ni’n sâl, byddwn ni’n ei osgoi. Rydyn ni hefyd yn dangos ein bod ni’n ddoeth drwy sicrhau ein bod ni’n cael digon o gwsg, yn ymarfer corff yn rheolaidd, ac yn cadw ein hunain a’n cartrefi yn lân.

CEISIA OSGOI DAMWEINIAU

8. Beth mae’r Beibl yn ei ddangos am sut mae Duw yn teimlo am ein diogelwch?

8 Rhoddodd Jehofa gyfreithiau i’r Israeliaid a oedd yn cynnwys cyngor ar sut i osgoi damweiniau difrifol yn eu cartrefi a’u gwaith. (Ex. 21:28, 29; Deut. 22:8) Roedd ’na ganlyniadau difrifol i rywun oedd yn lladd rhywun arall, hyd yn oed os oedd hynny’n ddamweiniol. (Deut. 19:4, 5) Ac yn ôl y Gyfraith, roedd rhywun oedd yn niweidio plentyn heb ei eni yn gorfod cael ei gosbi, hyd yn oed os oedd hynny’n ddamweiniol. (Ex. 21:22, 23NWT) Felly mae’r Beibl yn dangos yn glir pa mor bwysig ydy hi i Jehofa ein bod ni’n gwneud ein gorau i osgoi damweiniau.

Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n parchu bywyd yn y sefyllfaoedd hyn? (Gweler paragraff 9)

9. Beth allwn ni ei wneud i geisio osgoi damweiniau? (Gweler hefyd y lluniau.)

9 Os byddwn ni’n ceisio bod yn saff yn y cartref ac yn y gwaith, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n gwerthfawrogi’r bywyd mae Duw wedi ei roi inni. Pa fath o bethau mae hynny’n eu cynnwys? Os ydyn ni angen cael gwared ar bethau siarp, cemegion gwenwynig, neu feddyginiaeth, rydyn ni’n gwneud hynny mewn ffordd ddiogel. Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr dydy plant bach ddim yn gallu cael hyd iddyn nhw. Rydyn ni’n ofalus o gwmpas tanau, dŵr poeth, a thŵls trydan, ac yn gwneud yn siŵr dydyn ni ddim yn eu gadael nhw heb neb i’w gwylio. Fydden ni ddim yn gyrru car os ydy meddyginiaeth, alcohol, neu ddiffyg cwsg yn amharu ar ein gallu i wneud hynny. Hefyd, fydden ni byth yn defnyddio ein ffôn wrth yrru.

PAN FYDD TRYCHINEB YN TARO

10. Beth gallwn ni ei wneud cyn ac yn ystod trychineb sy’n beryg bywyd?

10 Allwn ni ddim osgoi pob peth sy’n rhoi’n bywydau yn y fantol, fel trychinebau naturiol, afiechydon, a rhyfeloedd. Ond mae ’na rai pethau gallwn ni eu gwneud er mwyn ceisio aros mor ddiogel â phosib. Er enghraifft, dilyn cyfarwyddiadau i ffoi, neu gyfarwyddiadau eraill gan y llywodraeth. (Rhuf. 13:1, 5-7) Ond mae hi’n bosib rhagweld rhai trychinebau, felly dylen ni wrando ar unrhyw awgrymiadau gan y llywodraeth sy’n ein helpu ni i baratoi. Er enghraifft, efallai byddai’n syniad da cadw digon o ddŵr, bwyd fydd yn para’n hir, a phecyn cymorth cyntaf.

11. Os oes ’na glefyd heintus yn ein hardal ni, beth dylen ni fod yn fodlon ei wneud?

11 Beth dylen ni ei wneud os ydy clefyd heintus ar led yn ein hardal ni? Dylen ni ddilyn cyfarwyddiadau’r llywodraeth, er enghraifft golchi ein dwylo, cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd, a hunan-ynysu. Drwy wneud y pethau hyn, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n wir gwerthfawrogi rhodd bywyd.

12. Sut mae’r egwyddor yn Diarhebion 14:15 yn ein helpu ni i ddewis pa wybodaeth i’w chredu yn ystod trychineb?

12 Yn ystod argyfwng, efallai byddwn ni’n clywed pethau gan ein ffrindiau, ein cymdogion, neu yn y newyddion sydd ddim yn wir. Yn hytrach na chredu “unrhyw beth” rydyn ni’n ei glywed, dylen ni wrando ar y wybodaeth fwyaf cywir gan y llywodraeth a doctoriaid. (Darllen Diarhebion 14:15.) Mae’r Corff Llywodraethol a swyddfeydd cangen yn gwneud popeth allan nhw i gael gwybodaeth gywir cyn rhoi cyfarwyddyd am ein cyfarfodydd a’r gwaith pregethu. (Heb. 13:17) Beth bydd y canlyniad os ydyn ni’n dilyn eu cyfarwyddyd? Byddwn ni’n amddiffyn ein hunain ac eraill, ac efallai hyd yn oed yn rhoi enw da i’r gynulleidfa yn y gymuned.—1 Pedr 2:12.

BYDDA’N BAROD I WRTHOD GWAED

13. Sut mae dilyn cyfraith Jehofa ynglŷn â gwaed yn dangos ein bod ni’n trysori bywyd?

13 Mae llawer o bobl yn gwybod ein bod ni fel Tystion yn parchu sancteiddrwydd gwaed. Rydyn ni’n dilyn cyfreithiau Jehofa ynglŷn â gwaed, felly fydden ni byth yn derbyn trallwysiad, hyd yn oed mewn argyfwng. (Act. 15:28, 29) Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni eisiau marw—rydyn ni’n trysori bywyd. Felly, rydyn ni’n chwilio am y gofal gorau posib sydd ddim yn cynnwys trallwysiadau gwaed.

14. Sut gallwn ni leihau’r risg o fod angen triniaeth feddygol?

14 Os byddwn ni’n dilyn yr awgrymiadau gwnaethon ni eu trafod gynnau ynglŷn â iechyd, byddwn ni’n llai tebygol o fod angen llawdriniaeth, ac yn gwella’n gynt ar ôl unrhyw lawdriniaeth. Hefyd, os byddwn ni’n cadw ein cartref a’n gweithle yn ddiogel, ac yn glynu’n agos at reolau traffig, byddwn ni’n llai tebygol o fod angen triniaeth frys.

Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n trysori rhodd bywyd drwy lenwi dogfen Advance Decision a’i chario bob amser (Gweler paragraff 15) c

15. (a) Pam mae hi’n bwysig inni gario dogfen Advance Decision gyfredol? (Gweler hefyd y llun.) (b) Fel mae’r fideo yn dangos, sut gallwn ni wneud penderfyniad doeth ynglŷn â gwaed?

15 Gan ein bod ni’n gwerthfawrogi rhodd bywyd, rydyn ni’n llenwi dogfen Advance Decision (sy’n aml yn cael ei galw’n gerdyn gwaed) ac yn gwneud yn siŵr i’w chario drwy’r amser. Ar y ddogfen hon, rydyn ni’n mynegi ein dewisiadau ynglŷn â thrallwysiadau gwaed, a rhai triniaethau meddygol eraill. Ydy dy ddogfen di yn gyfredol? Os wyt ti angen llenwi neu ddiweddaru dy un di, gwna hynny ar unwaith. Drwy sicrhau bod ein dewisiadau wedi eu hysgrifennu’n glir, byddwn ni’n osgoi gwastraffu amser pan ydyn ni angen triniaeth. Byddwn ni hefyd yn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth allai arwain at driniaeth niweidiol. b

16. Beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni’n ansicr am sut i lenwi dogfen Advance Decision?

16 Dim ots pa mor ifanc neu iach ydyn ni, gall unrhyw un gael damwain neu fynd yn sâl. (Preg. 9:11) Felly, byddai’n beth doeth inni gyd lenwi dogfen Advance Decision. Ond beth os wyt ti’n ansicr am sut i wneud hynny? Gofynna i’r henuriaid yn dy gynulleidfa am help, achos maen nhw’n ceisio bod yn gyfarwydd â sut i lenwi’r ddogfen. Felly, byddan nhw’n gallu dy helpu i ddeall dy opsiynau, ac i fynegi dy ddewisiadau ar y ddogfen. Ond fyddan nhw ddim yn gwneud penderfyniadau drostot ti. Dyna dy gyfrifoldeb di.—Gal. 6:4, 5.

BYDDA’N RHESYMOL

17. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n rhesymol ynglŷn ag iechyd?

17 Mae cydwybod sydd wedi ei hyfforddi gan y Beibl yn ein helpu ni gyda llawer o benderfyniadau ynglŷn â iechyd a thriniaethau meddygol. (Act. 24:16; 1 Tim. 3:9) Rydyn ni hefyd yn cadw’r egwyddor yn Philipiaid 4:5 mewn cof wrth inni wneud penderfyniadau a’u trafod nhw ag eraill. Yno, mae’n dweud: “Gadewch i bawb weld eich bod chi’n rhesymol.” Pan ydyn ni’n rhesymol, dydyn ni ddim yn poeni’n ormodol am iechyd corfforol, nac yn rhoi pwysau ar eraill i feddwl yr un fath â ni. Rydyn ni’n caru ac yn parchu ein brodyr a’n chwiorydd, hyd yn oed os ydy eu penderfyniadau yn wahanol i’n rhai ni.—Rhuf. 14:10-12.

18. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi rhodd bywyd?

18 Os ydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i aros yn fyw, ac yn rhoi ein gorau i Jehofa, byddwn ni’n dangos iddo gymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi’r bywyd mae ef wedi ei roi inni. (Dat. 4:11) Ar hyn o bryd, dydy bywyd ddim fel gwnaeth ein Creawdwr ei fwriadu, am ein bod ni’n gorfod delio â salwch a thrychinebau. Ond bydd hynny’n newid yn fuan pan fydd Jehofa’n cael gwared ar boen a marwolaeth, a byddwn ni’n gallu byw am byth. (Dat. 21:4) Yn y cyfamser, mae’n beth hyfryd i fod yn fyw ac i wasanaethu ein Tad cariadus, Jehofa!

CÂN 140 “Nawr fe Gawn Fyw am Byth!”

a Bydd yr erthygl hon yn ein helpu ni i drysori bywyd yn fwy byth. Rydyn ni am ystyried beth gallwn ni ei wneud i warchod ein hiechyd a’n bywydau pan fydd trychineb yn taro, a hefyd sut i leihau’r risg o gael damweiniau niweidiol. Ar ben hynny, byddwn ni’n gweld beth sy’n rhaid inni ei wneud i baratoi ar gyfer argyfwng meddygol.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd ifanc yn llenwi dogfen Advance Decision ac yn gwneud yn siŵr i’w chario bob amser.